1 / 13

Graffiau Cyflwyniad

Graffiau Cyflwyniad. Beth yw graff?. Cynrychioliad gweledol o berthynas rhwng dau newidyn, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny, yw graff.

Download Presentation

Graffiau Cyflwyniad

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. GraffiauCyflwyniad

  2. Beth yw graff? Cynrychioliad gweledol o berthynas rhwng dau newidyn, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny, yw graff. Fel arfer, bydd graff yn ffigur un- neu ddau-ddimensiwn. Er bod graffiau tri-dimensiwn ar gael, ystyrir bod y rhain fel arfer yn rhy gymhleth i’w deall yn rhwydd. Mae graff, fel rheol, yn cynnwys dwy echelin a elwir yn echelin-x (llorweddol) ac echelin-y (fertigol). Gall graff ddangos mathau o ddata Arwahanol neu Ddi-dor. Y mathau o ddata sy’n pennu pa graff i’w ddefnyddio.

  3. Arwahanol neu Ddi-dor Arwahanol: Data y gellir ei wahanu gan gyfnod o ryw fath, er enghraifft: Cofnodi maint esgidiau disgyblion dosbarth – graff Bar Di-dor: Pan fydd y data a gasglwyd yn ddi-dor, er enghraifft: Cofnodi tymheredd – graff Llinell

  4. Graff yw hwn 25 Echelin-Y Graddfa neu Gynyddiadau 20 Mae elfennau cyffredinol yn perthyn i bob graff (heblaw Siart Cylch): • Echelin x ac y (hefyd z mewn graffiau 3D) • Labeli echelin • Teitl • Graddfeydd neu Gynyddiad • Gall gynrychioli gwerthoedd negatif 15 Label echelin -Y 10 5 Tarddbwynt – does dim rhaid iddo ddechrau ar 0,0 bob tro Echelin -X 10 20 30 40 50 -20 -10 Label echelin -X -5 Graddfa neu Gynyddiadau -10

  5. Os tynnwn ni linell fertigol o unrhyw bwynt ar echelin-x Cyfesurynnau 25 echelin-Y a llinell lorweddol o’r echelin-y 20 mae’r pwynt lle mae’r ddwy linell yn cyfarfod yn rhoi i ni’r cyfesuryn A (3,15) 15 B (-4,10) 10 5 1 2 3 4 5 -5 -4 -3 -2 -1 -5 Echelin-X -10 -15 C (-5,-15) Nôl

  6. Mathau o Graffiau Pedwar math sylfaenol o graff neu siart Llinell Cylch Bar Gwasgariad

  7. Gweler cyflwyniad creu graff llinell Graffiau Llinell Ffordd dda o ddangos y berthynas rhwng dau newidyn Ymarfer a Chyfradd Curiad y Galon Pwls – Curiadau bob munud Alan – cyn athletwr 28 oed Janet – ysgrifenyddes athletwr 28 oed Amser mewn Munudau Nôl

  8. Siart / Graff Bar Yn cael ei ddefnyddio i gymharu gwerthoedd mewn categori neu rhwng categorïau Braster mewn Cawsiau Braster / 100 g cyfanswm Mae’r graff a welir yma yn rhoi cymhariaeth weledol o gyfanswm y braster sydd mewn gwahanol fathau o gaws Cawsiau

  9. Siart / Graff Bar Gall fod yn ddefnyddiol i astudio tueddiadau dros gyfnod o amser Amrywiad mewn tymheredd o ddydd i ddydd Amser (24 awr) Tymheredd (ºC)

  10. Gweler cyflwyniad creu graff bar Siart / Graff Bar Mae graffiau bar cyfansawdd (neu grŵp) yn cymharu’r berthynas rhwng setiau sydd â pherthynas agos rhyngddynt Iechyd Deintyddol Dannedd parhaol plant yn well nag erioed Plant 12 oed Plant 6 oed Plant 15 oed Nôl Ffigur 1:Cyfran y plant sydd â phrofiad amlwg o bydredd erbyn yr oedran (Y Deyrnas Unedig, 1983, 1993, 2003) Ffynhonnell: Gwefan Ystadegau Cenedlaethol (2004)

  11. Gweler cyflwyniad creu siart cylch Siartiau Cylch Defnyddir siart cylch i ddangos sut mae rhan o rywbeth yn berthnasol i’r cyfan. Mae’r math hwn o graff yn arbennig o addas ar gyfer dangos canrannau. Arolwg o liw gwallt merched Coch Amryliw 7% Golau Brwnét Nôl

  12. Pwysau (kg) Uchder (cm) Graff Gwasgariad Mae tynnu graff gwasgariad yn debyg i dynnu graff llinell gan fod cyfesurynnau yn cael eu defnyddio i blotio’r pwyntiau. Mae mwy o bwyntiau i’w plotio mewn graff gwasgariad fel arfer a gall y pwyntiau fod mewn grwpiau, felly nid yw’n bosib tynnu llinell drwy bob un o’r pwyntiau. Mae graff gwasgariad yn dangos faint o gydberthynas sydd rhwng dau newidyn rydych yn eu trafod e.e. taldra a phwysau fel sydd i’w weld yma: Mae’n ddefnyddiol weithiau tynnu “llinell ffit orau” i ddangos y tuedd Llinell ffit orau Nôl

  13. Crynodeb Mae graff da yn: Dangos y data yn fanwl gywir Tynnu sylw’r darllenydd Cynnwys teitl a labeli Syml a thaclus Dangos yn glir unrhyw dueddiadau neu wahaniaethau yn y data Fanwl gywir yn weledol (h.y., os yw gwerth un ffigwr yn 25 ac un arall yn 50, yna dylai 50 ymddangos ddwywaith yn fwy o faint na 25).

More Related