1 / 27

CYFLWYNIAD I HAWLIAU PLANT

CYFLWYNIAD I HAWLIAU PLANT. GWAITH GRŴP. AGENDA. Beth yw hawliau plant? Pam hawliau plant? Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn Hawliau plant yng Nghymru Hawliau plant ar gyfer Swyddogion Cynllunio a Pholisi Cyfiawnder Ieuenctid Myfyrio a gwerthuso.

kamin
Download Presentation

CYFLWYNIAD I HAWLIAU PLANT

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. CYFLWYNIAD I HAWLIAU PLANT

  2. GWAITH GRŴP

  3. AGENDA • Beth yw hawliau plant? • Pam hawliau plant? • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn • Hawliau plant yng Nghymru • Hawliau plant ar gyfer Swyddogion Cynllunio a Pholisi Cyfiawnder Ieuenctid • Myfyrio a gwerthuso

  4. HAWLIAU DYNOL – EGWYDDORION CRAIDD • Cyffredinol • Diymwad • Annatod • Atebol

  5. EGWYDDORION FREDA • Tegwch a rhyddid (Fairness and freedom) • Parch (Respect) • Cydraddoldeb (Equality) • Urddas (Dignity) • Ymreolaeth (Autonomy)

  6. Deddfau v hawliau • Mae rhai deddfau’n cyfateb i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn • e.e. Hawl i fyw / Deddfau llofruddiaeth • Mae rhai deddfau’n gwrthdaro â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn • e.e. Hawl i gyfiawnder / cadw am 28 diwrnod heb achos llys

  7. PAM MAE ANGEN HAWLIAU YCHWANEGOL AR BLANT? • Aeddfedrwydd • Heb lais ac yn anweledig • Eiddo

  8. DYMUNIADAU, ANGHENION A HAWLIAU • Dymuno – awydd i gael rhywbeth • Angen – y cyflwr o fod angen cymorth, neu â phrinder hanfodion sylfaenol fel bwyd • Hawl – hawl foesol neu gyfreithiol i gael neu wneud rhywbeth

  9. 4 ELFEN HAWL • Y sawl sydd â’r hawl (yr unigolyn) • Y gwrthrych (yr hyn y mae ganddynt hawl i’w gael) • Y rhai â dyletswydd (pobl neu sefydliad) • Y cyfiawnhad (mwy o urddas i’r unigolyn, datblygiad cymdeithasol, cymdeithas heddychlon)

  10. YNYS AIL-GREU

  11. CONFENSIWN Y CENHEDLOEDD UNEDIG AR HAWLIAU’R PLENTYN • 54 erthygl • 41 prif erthygl • 3 pharth

  12. 4 HAWL SYLFAENOL Erthygl 2 – Dim gwahaniaethu Erthygl 3 – Lles y plentyn Erthygl 6 – Hawl i fywyd Erthygl 12 – Hawl i gael eich clywed

  13. Y SAFONAU CENEDLAETHOL AR GYFER CYFRANOGIAD PLANT A PHOBL IFANC 1. Gwybodaeth – sy’n hawdd i blant a phobl ifanc ei deall 2. Eich dewis chi – digon o wybodaeth ac amser i wneud dewis gwybodus 3. Dim gwahaniaethu – mae gan bob person ifanc yr un cyfle i gymryd rhan 4. Parch – byddwn yn parchu’ch barn chi 5. Byddwch chi ar eich ennill hefyd – byddwch chi’n mwynhau’r profiad 6. Adborth - byddwch chi’n gwybod pa wahaniaeth mae’ch barn chi wedi’i wneud 7. Gwella ein ffordd o weithio – bydd oedolion yn gofyn i chi sut gallan nhw wella eu ffordd o weithio gyda chi yn y dyfodol

  14. GWEITHREDU’R HAWL I ADDYSG- ENGHRAIFFT

  15. Y BROSES ADRODD • Bob 5 mlynedd • Adroddiadau i’r Cenhedloedd Unedig: • Llywodraeth y DU (gan gynnwys adran gan Lywodraeth Cymru) • Adroddiadau Cyrff Anllywodraethol • Adroddiad pobl ifanc • Adroddiadau’r Comisiynwyr Plant (4 gwlad) • Sylwadau i gloi • Cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru • Grŵp monitro

  16. Amser paned

  17. Pwerau datganoledig • Addysg • Gwaith ieuenctid • Chwarae • Datblygu cymunedol • Gwasanaethau Cymdeithasol • Pwerau annatganoledig • Heddlu • Gwasanaeth Erlyn y Goron • Llysoedd • Y ddalfa PWERAU DATGANOLEDIG AC ANNATGANOLEDIG Timau/Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid

  18. SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I SWYDDOGION CYNLLUNIO A PHOLISI CYFIAWNDER IEUENCTID1 Rhaid i Lywodraeth Cymru/y DU wneud y canlynol • Sicrhau bod oedolion a phlant yn deall hawliau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn • Darparu hyfforddiant ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i bob oedolyn sy’n gweithio gyda phlant, yn cynnwys yr heddlu, gweithwyr iechyd proffesiynol, gweithwyr cymdeithasol • Gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth am wahaniaethu yn erbyn plant a’i atal • Sicrhau bod lles gorau’r plentyn yn rhan o bob deddf neu bolisi sy’n effeithio ar blant, yn cynnwys cyfiawnder troseddol • Cyflwyno ymchwiliadau awtomatig, annibynnol i unrhyw farwolaeth neu anaf difrifol annisgwyl i blentyn • Trin gynnau taser a dyfeisiau tebyg fel arfau, gan ddilyn yr un rheolau ag unrhyw arfau eraill • Rhoi’r gorau i ddefnyddio pob dyfais niweidiol ar blant

  19. SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I SWYDDOGION CYNLLUNIO A PHOLISI CYFIAWNDER IEUENCTID 2 Rhaid i Lywodraeth Cymru/y DU wneud y canlynol • Sicrhau parch i farn plant yn y teulu, yr ysgol, cymunedau a sefydliadau • Hyrwyddo’r egwyddor o barch i farn y plentyn mewn achosion llys ac achosion eraill • Meddwl eto am y defnydd o ASBOs • Meddwl eto am y defnydd o ddyfeisiau mosgito a mesurau eraill sy’n atal Erthygl 15 (hawl i gyfarfod eraill) • Gwneud mwy i barchu preifatrwydd plant yn y cyfryngau ac osgoi codi cywilydd ar blant yn gyhoeddus • Sicrhau bod ataliad yn cael ei ddefnyddio fel y dewis olaf, i atal niwed i’r plentyn • Gwahardd pob math o atal plant yn gorfforol er mwyn ‘disgyblu’

  20. SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I SWYDDOGION CYNLLUNIO A PHOLISI CYFIAWNDER IEUENCTID 3 Rhaid i Lywodraeth Cymru/y DU wneud y canlynol • Darparu addysg a hyfforddiant ar sut i fagu plant yn gadarnhaol i rieni ac oedolion sy’n gweithio gyda phlant • Sefydlu ffyrdd o wirio faint o achosion o drais, cam-drin, esgeulustod neu ecsbloetio sy’n digwydd mewn sefydliadau • Gwario mwy o arian ar Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) ac ehangu gwasanaethau. Dylai gwasanaethau ganolbwyntio ar rai grwpiau yn cynnwys plant yn y system cyfiawnder troseddol • Ymchwilio i pam mae pobl ifanc yn eu harddegau yn defnyddio cyffuriau ac alcohol • Gwella gwasanaethau iechyd meddwl a chwnsela i bobl ifanc yn eu harddegau • Darparu gwybodaeth glir a chywir am gyffuriau ac alcohol i blant. Gwneud mwy i helpu plant i roi’r gorau i ddefnyddio cyffuriau ac alcohol

  21. SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I SWYDDOGION CYNLLUNIO A PHOLISI CYFIAWNDER IEUENCTID 4 Rhaid i Lywodraeth Cymru/y DU wneud y canlynol • Codi oedran cyfrifoldeb troseddol • Canfod atebion eraill yn lle rhoi plant sydd mewn trafferth gyda’r heddlu yn y ddalfa 21. Sicrhau mai’r dewis olaf fydd rhoi plant yn y ddalfa a bod hynny’n cael ei wneud am y cyfnod byrraf posibl 22. Sicrhau na fydd plant yn gorfod sefyll eu prawf mewn llys fel oedolyn, waeth pa mor ddifrifol yw’r drosedd 23. Sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael ei gadw mewn carchar gydag oedolion 24. Sicrhau bod gan bob plentyn sy’n cael ei gadw yn y ddalfa hawl gyfreithiol i addysg

  22. DEDDFWRIAETH A PHOLISÏAU HAWLIAU PLANT YNG NGHYMRU • Deddf Plant 2004 – mabwysiadodd Llywodraeth Cymru Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fel sail i bob polisi plant • Saith nod craidd – yn seiliedig ar y Confensiwn • Cynllun Gweithredu Cenedlaethol – Gwneud Pethau’n Iawn 2009 – yn mynd i’r afael ag 16 blaenoriaeth ar gyfer Cymru • Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) – pasiwyd yn 2010 • Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) – bydd Gweinidogion yn gorfod ystyried y Confensiwn wrth wneud eu holl benderfyniadau

  23. YR ERTHYGLAU MWYAF PERTHNASOL I SWYDDOGION CYNLLUNIO A PHOLISI CYFIAWNDER IEUENCTID 1 • Erthygl 3 – lles gorau’r plentyn • Erthygl 12 – hawl i gael dy glywed • Erthygl 13 – rhyddid mynegiant • Erthygl 14 – dylai llywodraethau barchu hawliau plant i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd • Erthygl 15 – hawl i gyfarfod ag eraill • Erthygl 16 – hawl i breifatrwydd • Erthygl 17 – mynediad i wybodaeth briodol • Erthygl 18 – mae’r ddau riant yn rhannu cyfrifoldeb am fagu eu plant • Erthygl 19 – amddiffyn rhag cam-drin ac esgeulustod

  24. YR ERTHYGLAU MWYAF PERTHNASOL I SWYDDOGION CYNLLUNIO A PHOLISI CYFIAWNDER IEUENCTID 2 • Erthygl 23 – mae gan blant anabl yr hawl i ofal, addysg a hyfforddiant arbennig i fwynhau bywyd llawn • Erthygl 27 – hawl i safon byw sy’n ddigonol i’w datblygiad corfforol, meddyliol, ysbrydol, moesol a chymdeithasol • Erthygl 31 – hawl i ymlacio, chwarae a gweithgareddau diwylliannol • Erthygl 33 – amddiffyn rhag cyffuriau anghyfreithlon • Erthygl 37 – hawliau/amddiffyniad wrth golli rhyddid • Erthygl 40 – gweinyddu cyfiawnder ieuenctid

  25. MEDDYLIWCH AM BLENTYN…

  26. RHOI’R HYN A DDYSGWYD AR WAITH

  27. UNRHYW GWESTIYNAU I GLOI?

More Related