1 / 49

Cofrestr o etholwyr - sesiwn briffio canfaswyr

Cofrestr o etholwyr - sesiwn briffio canfaswyr. Cyflwyniad. Ychwanegwch enwau'r hyfforddwyr. Amcanion y sesiwn hyfforddi. Amlinellu eich dyletswyddau fel canfasiwr Sicrhau eich bod chi'n hyderus o ran pob agwedd o'ch rôl. Newid i'r system gofrestru - Cofrestru Etholiadol Unigol (IER) .

moshe
Download Presentation

Cofrestr o etholwyr - sesiwn briffio canfaswyr

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Cofrestr o etholwyr - sesiwn briffio canfaswyr

  2. Cyflwyniad Ychwanegwch enwau'r hyfforddwyr

  3. Amcanion y sesiwnhyfforddi • Amlinellu eich dyletswyddau fel canfasiwr • Sicrhau eich bod chi'n hyderus o ran pob agwedd o'ch rôl

  4. Newid i'r system gofrestru - Cofrestru Etholiadol Unigol (IER) • Mae'r ffordd yr ydych yn cofrestru i bleidleisio wedi newid ar 10 Mehefin [19 Medi yn yr Alban] • Mae etholwyr bellach yn gyfrifol am gofrestru eu hunain. O dan yr hen system gallai 'pennaeth y cartref' gofrestru pawb oedd yn byw yn eu cyfeiriad. • Mae'n rhaid i etholwyr nawr ddarparu eu Rhif Yswiriant Gwladol a dyddiad geni wrth wneud cais i gofrestru • Cafodd y mwyafrif o etholwyr presennol eu hailgofrestru yn awtomatig o dan y system newydd

  5. Sut i gofrestru • Gall etholwyr posibl nawr gofrestru mewn nifer o wahanol ffyrdd: • drwy wneud cais ar-lein www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio • drwy ddychwelyd ffurflen gais IER • dros y ffôn [os yw'n cael ei gynnig] / yn bersonol [os yw'n cael ei gynnig]

  6. Rôl y canfasiwr

  7. Pa ffurflenni fydd trigolion yn eu derbyn? HEFs • Bydd cartrefi'n cael eu harolygu yn ystod cyfnod y canfas i gadarnhau pwy sy'n byw mewn cyfeiriad, fel ein bod ni'n gallu gwybod pwy sydd a phwy sydd ddim wedi'u cofrestru. • Byddant hefyd yn derbyn ffurflen ymholiad cartref - 'HEF'. • Tu allan i'r cyfnod canfasio, byddwn hefyd yn anfon HEFs i eiddo lle'r ydym yn credu y gallwn nodi etholwyr newydd.

  8. Pa ffurflenni fydd trigolion yn eu derbyn? Gwahoddiadau i Gofrestru • Bydd unrhyw un sy'n cael eu nodi ar HEF sy'n gymwys, ond heb gofrestru eto yn cael gwahoddiad i gofrestru i bleidleisio - byddant yn derbyn 'Gwahoddiad i Gofrestru' a chais i gofrestru. • Gallwn hefyd nodi etholwyr drwy ffyrdd eraill a byddant hefyd yn derbyn Gwahoddiad i Gofrestru a chais i gofrestru. • Bydd categori arall - etholwyr heb eu cadarnhau - hefyd yn derbyn Gwahoddiad i Gofrestru a chais i gofrestru.

  9. Gweithgareddau allweddol • [Danfon ffurflen ymholiad y cartref (HEF) / Gwahoddiadau i gofrestru a nodiadau atgoffa]. • Ymweld â chartrefi / etholwyr sydd heb ymateb i HEF neu Wahoddiad i Gofrestru i annog dychwelyd: • cael ffurflen wedi'i chwblhau'n gywir • os nad oes ateb - dychwelyd yn hwyrach/ar ddiwrnod arall • os nad oes ateb o hyn - gadael ffurflen ac amlen yn yr eiddo, ynghyd â'n llythyr safonol a marcio eich rhestr canfasio yn unol â hyn • cofnodi dyddiad ac amser ymweliadau

  10. Ffurflen Ymholiad y Cartref (HEF)

  11. Yr HEF • Diben y ffurflen yw cael y wybodaeth ddiweddaraf, er mwyn i ni allu nodi pwy sy'n byw yn y cyfeiriad yma, ac os nad ydynt wedi'u cofrestru eisoes, eu gwahodd i gofrestru. • [os ydych chi'n caniatáu ymatebion dros y ffôn/ar-lein, nodwch hyn yma]

  12. Esiampl o HEF - wedi'i ragargraffu

  13. Esiampl o HEF - gwag

  14. Dychwelyd HEF ar-lein • [rhowch sgrinlun os yw ar gael]

  15. Defnyddio llechen / ffonau clyfar i gasglu gwybodaeth a chyflwyno HEF • [I'w gynnwys os ydych yn rhoi cyfarpar electronig i ganfaswyr i gwblhau a chyflwyno HEF yn uniongyrchol - i gynnwys, er enghraifft: Sut dylid defnyddio'r offer? Sut i fewngofnodi a chadw cyfrineiriau yn ddiogel? Beth yw eich polisïau o ran canfaswyr yn defnyddio’r offer at ddibenion eraill?]

  16. Gwybodaeth ofynnol Cyfeiriad • Wedi rhagargraffu gyda manylion cyfeiriad yn y rhan fwyaf o achosion • Gwnewch gywiriadau i'r cyfeiriad os cynghorir chi i wneud gan aelod o'r cartref • Os oes gennych ffurflen hollol wag (e.e. os ydych wedi nodi eiddo newydd) llenwch y cyfeiriad, gan gynnwys y cod ar gyfer y dosbarth pleidleisio hwnw.

  17. Gwybodaeth ofynnol • Enwau • Gwnewch yn siŵr bod unrhyw enwau wedi'u rhagargraffu'n gywir, a chroeswch rai allan nad ydynt yn gywir, neu newidiwch nhw • Ychwanegwch unrhyw enwau bo'n briodol • Cenedligrwydd • Os yw wedi'i ragargraffu, gwnewch yn siŵr bod y cenedligrwydd yn gywir. • Os yw'r maes cenedligrwydd yn wag, gofynnwch 'beth yw eich cenedligrwydd?'

  18. Gwybodaeth ofynnol • Gwybodaeth arall • Gwasanaeth rheithgor (dros 70 yn unig) • Pleidlais bost / drwy ddirprwy • y gofrestr agored - gweler cyfarwyddiadau ar newid dewis eithrio allan • Manylion cyswllt (e-bost/ffôn) • Casglwch y rhain os oes modd - byddant yn ein helpu i gysylltu gydag etholwyr yn gyflym os oes mwy o gwestiynau.

  19. Gwybodaeth ofynnol pobl 16 ac 17 mlwydd oed • Gofynnwch bob tro os oes unrhyw bobl 16 ac 17 mlwydd oed yn byw yn yr eiddo, a sicrhewch eu bod yn cael eu cynnwys ar y ffurflen

  20. Gwybodaeth ofynnol • Neb yn gymwys i bleidleisio? • Adran ar gyfer cofnodi'r rheswm • Esiamplau: • eiddo yn amlwg yn wag • eiddo busnes • ail gartref • cenedligrwydd anghymwys (h.y. gwladolion tramor heblaw o'r Undeb Ewropeaidd neu ddinasyddion cymwys y Gymanwlad) - rhowch genedligrwydd

  21. Gwybodaeth ofynnol • Datganiad a llofnod • Mae'n rhaid i'r ffurflen gael ei llofnodi gan y person sy'n rhoi'r wybodaeth • PEIDIWCH â llofnodi ar ran y deiliad; • dim ond os yw eiddo yn amlwg yn wag neu ddim yn bodoli y gallwch lofnodi ffurflen

  22. Mae'n bwysig bod y ffurflen hon yn cael ei chwblhau a'i dychwelyd Mae'r ffurflen hon yn cadarnhau pwy sy'n byw yn y cyfeiriad hwn fel bod staff cofrestru etholiadol yn gwybod pwy sydd wedi ac heb gofrestru. Bydd unrhyw un sy'n gymwys a heb gofrestru eisoes yn cael gwahoddiad i gofrestru i bleidleisio. Negeswuon allweddol wrth ddilyn i fyny gyda rhai na ydynt yn ymateb i HEF

  23. Negeswuon allweddol wrth ddilyn i fyny gyda rhai na ydynt yn ymateb i HEF Mae dychwelyd y wybodaeth y gofynnir amdani yn syml. Mae ffruflen gyda fi, a galla i eich helpu i'w lenwi nawr, neu galla i ddod yn ôl yn hwyrach i'w gasglu.

  24. Eiddo newydd • Gallwch chwarae rôl bwysig yn nosi eiddo 'newydd' • Os nodir eiddo (neu drawsnewidiad) ac nad yw ar eich rhestr, bydd angen i chi gael HEF wedi'i gwblhau gan yr eiddo yna a diweddaru eich rhestr gyda gwybodaeth yr ieddo 'newydd'

  25. Gwahoddiadau i gofrestru a'r ffurflen gais IER

  26. Gwahoddiadau i gofrestru a ffurflenni cais IER • Pwrpas: cofrestru etholwyr yn unol â'r system newydd o gofrestru etholiadol unigol

  27. Pwy fydd yn derbyn gwahoddiad i gofrestru? • Etholwyr newydd posib - nodir drwy, er enghraiff, yr HEF, eich ymweliad personol neu ddata lleol • Etholwyr presennol nad oedd modd eu trosglwyddo'n awtomatig i'r cofrestrau IER newydd - etholwyr heb eu cadarnhau

  28. Bydd etholwyr presennol heb eu cadarnhau • yn gallu pleidleisio yn Etholiad Cyffredinol Senedd y DU [ac etholiadau lleol Mai 2015], ond os nad ydynt wedi ailgofrestru o dan y system newydd, byddant yn colli unrhyw bleidlais post neu ddirprwy oedd ganddynt ar [rhowch ddyddiad cyhoeddi'r gofrestru].

  29. Mae cofrestru i bleidleisio yn syml - mae modd i chi nawr gofrestru ar-lein, ond os oes well gennych, gallwch gwblhau a phostio'r cais yn ôl [ychwanegwch gofrestru dros y ffôn/yn bersonol os yw ar gael]. Negeseuon allweddol wrth ddarparu'r ITR cyntaf Mae'n bwysig eich bod yn cwblhau'r cais i gofrestru yn unol â'r system newydd, fel nad ydych yn colli allan

  30. Mae cofrestru i bleidleisio yn syml - cymryd ychydig funudau yn unig, ond bydd angen eich Rhif Yswiriant Gwladol. Prif negeseuon wrth ddanfon Gwahoddiadau i Gofrestru yn ystod y cam atgoffa, siarad gyda rhai nad ydynt yn ymateb Mae ffurflen gyda fi, a galla i'ch helpu i'w lenwi nawr, neu galla i ddod yn ôl yn hwyrach i'w gasglu.

  31. Esiampl o ffurflen gais

  32. Gwybodaeth ofynnol • Enw • Gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad gyda'r unigolyn a enwir ar y ffurflen (os yw wedi rhagargraffu) a bod unrhyw enw wedi'i ragargraffu'n gywir; ymgeisydd i wneud newidiadau lle bo angen • Cyfeiriad • Ymgeisydd i wirio bod y cyfeiriad wedi'i ragargraffu'n gywir a gwneud cywiriadau lle bo gofyn • Dylai'r ymgeisydd hefyd nodi p'un a eu bod yn byw mewn cyfeiriad arall

  33. Gwybodaeth ofynnol • Newid enw / symud yn ddiweddar • I'w gwblhau os ydynt wedi newid eu henw neu gyfeiriad yn y 12 mis diwethaf • Gwybodaeth bersonol arall • Dyddiad geni • Cenedligrwydd • Rhif Yswiriant Gwladol • Etholwr posibl i roi rhesymau os nad ydynt yn gwybod un neu fwy o'r rhain • Manylion cyswllt • Ddim yn ofynnol, ond yn ddefnyddiol iawn rhag ofn bod angen cysylltu ag unigol ynghylch eu cofrestriad

  34. Gwybodaeth ofynnol • Gwybodaeth arall • P'un a eu bod am eu cynnwys ar y gofrestr agored • P'un a eu bod am wneud cais am bleidlais bost neu drwy ddirprwy • Declaration • Mae'n rhaid i'r ffurflen gynnwys datganiad o wirionedd a wneir gan yr ymgeisydd.

  35. Defnyddio llechen / ffonau clyfar i gasglu dynodyddion a chyflwyno cais • [I'w gynnwys os ydych yn darparu offer electronig i ganfaswyr i gwblhau a chyflwyno ceisiadau yn uniongyrchol drwy https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio - i gynnwys, er enghraifft: Sut dylid defnyddio'r offer? Sut i fewngofnodi a chadw cyfrineiriau yn ddiogel? Beth yw eich polisïau o ran canfaswyr yn defnyddio’r offer at ddibenion eraill?]

  36. Os ydych yn nodi etholwr posibl newydd sydd ddim ar eich rhestr • Rhowch ffurflen wag ac annog y person i wneud cais, gan esbonio'r gwahanol ffyrdd o gofrestru sydd ar gael. • Os nad ydych yn casglu'r cais wedi'i gwblhau ar stepen y drws, nodwch ddyddiad y nodwyd yr etholwr newydd posibl fel bod modd rhoi'r wybodaeth hon i'r swyddfa.

  37. Iechyd a diogelwch

  38. Gweithio ar ben eich hun • Mae gennym gyfrifoldeb dros eich diogelwch • Asesu risgiau wrth ymweld â lleoliadau • Rhowch wybod i rywun lle'r ydych yn mynd a pha amser i'ch disgwyl adref • Ewch â ffôn symudol

  39. Lleihau risg • Peidiwch BYTH â mynd i mewn i gartref unrhyw un - gwnewch nodyn os oes angen cymorth ar unrhyw un a gadewch i ni wybod • Cymrwch ofal wrth gario a chodi nifer fawr o ffurflenni • Cerddwch i ffwrdd wrth gamdriniaeth eiriol neu ymddygiad ymosodol • Byddwch yn ymwybodol o gŵn ac anifeiliaid eraill • Cadwch iPads a phethau gwerthfawr eraill yn ddiogel • Rhowch wybod am unrhyw ddigwyddiadau i'ch goruchwyliwr Ward / y swyddfa

  40. Diogelu data

  41. Diogelwch gwybodaeth bersonol • Cyfrifoldeb dros ffurflenni a gwybodaeth bersonol yn eich gofal • Mae'n rhaid cadw data personol yn ddiogel rhag mynediad heb ei awdurdodi, colled neu ddinistrio damweiniol • Mae'n rhaid adrodd am achosion o fynediad heb ei awdurdodi, colled neu ddinistrio yn syth i'ch goruchwyliwr.

  42. Diogelwch gwybodaeth bersonol • [cynhwyswch fesurau diogelwch lleol e.e. defnyddio cesys/ysgrepanau (satchels) sy'n cael eu cloi i gario ffurflenni - peidiwch â chario mwy o ffurflenni nag y gallwch ffitio i'r cês/ysgrepan ddiogel]. • [Mae'n rhaid danfon y ffurflenni wedi'u cwblhau i'r swyddfa erbyn X o fewn X awr/diwrnod]. • [os ydych chi'n rhoi ffôn clyfar neu lechen i ganfaswyr i fynd i https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio: mae'n rhaid i'r cais gael ei gyflwyno'n syth a ddim ei storio ar y ddyfais]

  43. Casglu data personol ar garreg y drws • Gwisgwch a dangoswch eich bathodyn adnabod i'r etholwr • Byddwch yn ymwybodol o bobl eraill o'ch cwmpas a byddwch yn ofalus nad oes neb arall yn gallu clywed unrhyw wybodaeth bersonol yr ydych yn ei chasglu

  44. Casglu data personol ar garreg y drws • Wrth gasglu gwybodaeth ar HEF, gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad gydag aelod o'r cartref (neu'r landlord) • Wrth gasglu gwybodaeth ar Wahoddiad i Gofrestru, gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad gyda'r unigolyn perthnasol • Ddim yna? Peidiwch â rhannu gwybodaeth bersonol, hyd yn oed gyda phriod neu aelod o'r teulu

  45. Rhoi'r cyfan ar waith

  46. Cyswllt

  47. Cyswllt tu allan i oriau • Rhwng xam a xpm yn ystod yr wythnos a xam a xpm ddydd Sadwrn/Sul bydd rhif cyswllt ar gyfer ymholiadau. [01234 567890] • Mae'r rhif yn cael ei staffio gan staff y swyddfa; rydym yn cynghori eich bod yn cyfyngu eich oriau gweithio i gyd-fynd â'r rhain • Gall aelodau o'r cyhoedd hefyd ffonio'r rhif hwn i wirio eich bod yn gweithio ar ran y Swyddog Cofrestru Etholiadol

  48. Goruchwylwyr ardal • Nodwch eich goruchwyliwr ardal • Ardal canfas 1-4 • Cyswllt John Smith 01234 567891 • Ardal canfas 5-8 • Cyswllt Jack Brown 01234 567892 • Ardal canfas 9-13 • Cyswllt Jane Black 01234 567893 • Y bobl hyn yw eich cyswllt cyntaf yn achos ymholiad a byddant yn cysylltu â chi yn ystod eich cyfnod canfasio i wirio eich cynydd

  49. Cwestiynau?

More Related