1 / 7

Yr Undeb Ewropeaidd

Yr Undeb Ewropeaidd. Canllaw i Ddechreuwyr. Addaswyd y testun o Europa – a History of the EU. Crynodeb o hanes yr UE. Yr 1950au

gail-brooks
Download Presentation

Yr Undeb Ewropeaidd

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Yr Undeb Ewropeaidd Canllaw i Ddechreuwyr Addaswyd y testun o Europa – a History of the EU

  2. Crynodeb o hanes yr UE • Yr 1950au Sefydlwyd yr Undeb Ewropeaidd gyda'r nod o roi terfyn ar ryfeloedd mynych a gwaedlyd rhwng cymdogion. O 1950 ymlaen, mae Cymuned Glo a Dur Ewrop yn dechrau uno gwledydd Ewrop yn economaidd ac yn wleidyddol er mwyn sicrhau heddwch parhaol. • Y chwe sylfaenydd yw Gwlad Belg, Ffrainc, Yr Almaen, Yr Eidal, Luxembourg a'r Iseldiroedd. • Yn 1957, mae Cytundeb Rhufain yn creu'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd (CEE) neu'r ‘Farchnad Gyffredin’

  3. Yr 1960au • Cyfnod o Dwf Economaidd • Mae'n gyfnod da i'r economi, a gynorthwyir gan y ffaith bod gwledydd yr UE yn rhoi terfyn ar godi tollau pan fyddant yn masnachu â'i gilydd. Maent hefyd yn cytuno i gael rheolaeth ar y cyd ar gynhyrchu bwyd, fel bod pawb nawr yn cael digon i'w fwyta –a chyn hir ceir cynnyrch amaethyddol gormodol hyd yn oed. • Mae Prydain yn ceisio ymuno â'r Farchnad Gyffredin ynrhangyntaf yr 1960au • Ond mae Ffrainc yn dweud 'non' • Y Cadfridog De Gaulle oedd yr un a ddywedodd na i fynediad Prydain i'r Farchnad Gyffredin

  4. Yr 1970au – Cymuned sy’n tyfu – yr Ehangu Cyntaf • Yr Ehangu Cyntaf • Mae Denmarc, Iwerddon a'r Deyrnas Unedig yn ymuno â'r Undeb Ewropeaidd ar 1 Ionawr 1973, gan gynyddu nifer yr aelod-wladwriaethau i naw. Daeth yr unbenaethau adain-dde olaf yn Ewrop i ben pan ddymchwelwyd cyfundrefn Salazar ym Mhortiwgal yn 1974 a bu farw'r Cadfridog Franco yn Sbaen yn 1975. • Mae polisi rhanbarthol yr UE yn dechrau trosglwyddo symiau anferth er mwyn creu swyddi ac isadeiledd yn yr ardaloeddtlotaf. • Mae Senedd Ewrop yn cynyddu ei dylanwadarfaterion yr UE ac yn 1979 mae’rhollddinasyddionyngallu ethol eu haelodau'n uniongyrchol am y tro cyntaf

  5. Yr 1980au –Wyneb newidiol Ewrop – cwymp Wal Berlin. • Yn 1981, daw Groeg yn 10fed aelod yr UE ac mae Sbaen a Phortiwgal yn dilyn bum mlynedd yn ddiweddarach. Yn 1987 caiff y Ddeddf Ewropeaidd Sengl ei harwyddo. Cytundeb yw hwn sy'n darparu'r sail ar gyfer rhaglen anferth chwe blynedd â’r nod o ddatrys y problemau gyda’r llif rhydd o fasnach ar draws ffiniau'r UE ac felly creu'r ‘Farchnad Sengl’. • Ar 9 Tachwedd 1989, caiff Wal Berlin ei dymchwel a chaiff y ffin rhwng Dwyrain a Gorllewin yr Almaen ei hagor am y tro cyntaf ers 28 mlynedd. Mae hyn yn arwain at ailuno'r Almaen pan gaiff Dwyrain a Gorllewin yr Almaen eu huno ym mis Hydref 1990 • Mae'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd (CEE) yn newid ei henw i’r Undeb Ewropeaidd – yr UE

  6. Yr 1990au Ewrop heb ffiniau • Yn 1993 caiff y Farchnad Sengl ei chwblhau gyda'r 'pedwar rhyddid', sef: symudiad nwyddau, gwasanaethau, pobl ac arian. • Mae’r 1990au yn ddegawd âdau gytuniad, sef Cytundeb 'Maastricht' ar Undeb Ewropeaidd yn 1993 a Chytundeb Amsterdam yn 1999. • Yn 1995 mae tri aelod newydd arall yn ymuno â'r UE, sef Awstria, Y Ffindir a Sweden. • Mae miliynau o bobl ifanc yn astudio mewn gwledydd eraill gyda chymorth yr UE. • Mae Prydain yn denu buddsoddi enfawr o’r tu allan gan gwmnïau amlwladol sy'n awyddus i werthu i'r UE cyfan.

  7. 2000-10 Yr arian sengl ac ehangu • Yr ewro yw'r arian cyfred newydd i lawer o Ewropeaid. • O'r diwedd datgenir bod y rhaniadau gwleidyddol rhwng dwyrain a gorllewin Ewrop wedi'u datrys wrth i 10 gwlad newydd ymuno â'r UE. • Mae llawer o bobl yn meddwl ei bod yn bryd i Ewrop gael cyfansoddiad ond nid yw'n hawdd cytuno ar y math o gyfansoddiad, felly mae'r ddadl am ddyfodol Ewrop yn parhau. • Mae Prydain yn derbyn hyd at 500,000 o weithwyr o aelod-wledydd newydd yr UE.

More Related