1 / 5

Ysgrifennu llythyr ffurfiol

Ysgrifennu llythyr ffurfiol. Beth yw prif nodweddion llythyr ffurfiol?. Llys-y-Wennol, Cwmafan, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3CM 24ain o Awst Cwmni Gwyliau Da, Y Stryd Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, Sy23 3EE

fergus
Download Presentation

Ysgrifennu llythyr ffurfiol

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Ysgrifennullythyr ffurfiol

  2. Beth yw prif nodweddion llythyr ffurfiol?

  3. Llys-y-Wennol, Cwmafan, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3CM 24ain o Awst Cwmni Gwyliau Da, Y Stryd Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, Sy23 3EE Annwyl Syr / Fadam, Ysgrifennaf atoch ynglŷn â’n gwyliau i Barc Coed Pren. Roedd y gwyliau’n cael eu hysbysebu fel “gwyliau addas i deulu”, ond yn anffodus roedden ni fel teulu wedi ein siomi’n fawr. Roedd y caban pren lle roedden ni’n aros yn frwnt ofnadwy ac yn oer. Doedd dim un o’r gwresogyddion yn gweithio ac ar ôl cwyno ddwywaith ni ddaeth neb i’n gweld. Ar un adeg bu’n rhaid i ni roi bwced ar lawr i ddal y dŵr a oedd yn gollwng drwy’r to. Nid dyma’r math o le roedden ni wedi disgwyl ymlaen at gael aros ynddo. Penderfynon ni fynd i’r pwll nofio a oedd wedi cael ei hysbysebu fel “lle llawn hwyl i’r teulu cyfan”. Nid dyna’r achos o gwbl. Roedd dŵr y pwll cyn oered â dŵr y môr. Roedd y llithren ddŵr ar gau ac roedd y plant wedi cael siom ofnadwy. Gyda’r nos fe benderfynon ni fynd i’r bwyty oedd ar y campws. Dyna siom arall pan ddaeth y bwyd allan yn oer a di-flas i’r bwrdd. A dweud y gwir, gymaint oedd ein siom fel i ni fynd yn ôl i’r caban a phacio ein bagiau a gyrru’r daith o ddwy awr a hanner adref i’n gwelyau clyd a chynnes. Rwy’n gobeithio na fyddwch yn annog unrhyw deulu arall i dreulio eu gwyliau yn y Parc. Carwn gael ad-daliad am y gwyliau gan na wnaethon ni dreulio amser yno am fod y lle yn hollol anaddas i’n teulu ni. Yr eiddoch yn gywir, M WJones Meinir Wyn Jones (mam i ddau o blant siomedig iawn)

  4. cyfeiriad a chôd post derbynnydd y llythyr ar ochr chwith y dudalen paragraff newydd ar gyfer pob pwynt eich cyfeiriad chi a’r côd post ar yr ochr dde brawddeg gadarn ond cwrtais i gloi’r llythyr dyddiad ar yr ochr dde cloi drwy lofnodi a dweud eich enw yn llawn mewn cromfachau paragraff cyntaf yn esbonio’r rheswm dros ddanfon y llythyr dechrau gydag: Annwyl Syr/Fadam neu ei enw os gwyddoch ef

  5. Ydych chi’n barod i ysgrifennu llythyr ffurfiol?Rhowch gynnig arni!

More Related