1 / 15

Yr amgylchedd a chynaliadwyedd

Yr amgylchedd a chynaliadwyedd. Amcanion dysgu. Nodi’r modd mae ffermio llaeth yn effeithio ar yr amgylchedd. Bod yn ymwybodol o’r wahanol fentrau mae ffermwyr llaeth yn eu defnyddio i ddiogelu a gwella’r amgylchedd. Allyriadau methan. Pan mae gwartheg yn cnoi eu cil

claude
Download Presentation

Yr amgylchedd a chynaliadwyedd

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Yr amgylchedd a chynaliadwyedd

  2. Amcanion dysgu • Nodi’r modd mae ffermio llaeth yn effeithio ar yr amgylchedd. • Bod yn ymwybodol o’r wahanol fentrau mae ffermwyr llaeth yn eu defnyddio i ddiogelu a gwella’r amgylchedd.

  3. Allyriadau methan Pan mae gwartheg yn cnoi eu cil ac yn treulio bwyd maent yn torri gwynt gan ryddhau nwy methan (CH4). Mae’r nwy hwn hefyd yn bodoli’n naturiol yn yr awyrgylch ac yn helpu rheoli tymheredd yDdaear. Gall ffermio llaeth gael effaith ar yr amgylchedd oherwydd bod cynhyrchu methan yn cyfrannu at gynhesu byd-eang. Mae ystod o gamau ar waith gan ffermwyr llaeth i leihau’r effaith ar yr amgylchedd, ynghyd â gwella’r amgylchedd .

  4. Lleihau allyriadau methan Mae ffermwyr llaeth wedi gweithio’n galed i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd. O ganlyniad, mae allyriadau nwyon tŷ gwydr ffermydd llaeth y DU wedi gostwng yn sydyn dros yr 20 mlynedd diwethaf. Gan edrych ar gyfanswm allyriadau'r DU, mae allyriadau nwy cludiant y DU yn gyfrifol am 25% o hyn, ond mae ffermio llaeth Prydain yn cynrychioli dim ond 2%.

  5. Meillion Mae llawer o ffyrdd mae ffermwyr llaeth yn gweithio i gynnal yr amgylchedd. Mae gan meillion nodweddion sefydlogi nitrogen. Mae rhai ffermwyr yn plannu hwn yn eu caeau er mwyn hyrwyddo nitrogen yn y pridd. Mae’r broses naturiol hon yn galluogi defnyddio’r nitrogen o’r atmosffer o amgylch y planhigyn yn hytrach na gwrteithiau artiffisial.

  6. Rheoli gwrtaith Mae rheoli gwrtaith yn agwedd bwysig ar ffermio llaeth. Ar y mwyafrif o ffermydd llaeth Prydain mae’r gwrtaith a gynhyrchwyd yn cael ei ddefnyddio ar y tir fel gwrtaith naturiol, gan ddarparu maetholion gwerthfawr ar gyfer cnydau, gan gynnwys porfa. Mae biswail gwartheg godro, sef cyfuniad o wrtaith gwartheg a’r dŵr ar ôl golchi’r parlwr golchi, fel rheol yn cael ei storio mewn tanc neu lagŵn biswail. Mae’r biswail yn cael eu ledaenu dros y caeau ar adegau penodol o’r flwyddyn.

  7. Rheoli gwrtaith Mae ffermwyr llaeth yn defnyddio dulliau lledaenu biswail sy’n lleihau aroglau a’r perygl o lygru dŵr.

  8. Rheoli gwrtaith Gall gwrtaith gwartheg fod yn sgil gynnyrch defnyddiol. Mae rhai ffermwyr llaeth, yn enwedig y rhai hynny â ffermydd mawr, yn defnyddio treuliwr anaerobig i droi gwrtaith gwartheg yn ynni. Mae’r treuliwr yn gallu torri’r gwrtaith i lawr, gan gynhyrchu bionwy sy’n bwydo generadur, sydd yn ei dro yn cynhyrchu trydan y gellir ei fwydo i’r Grid Cenedlaethol.

  9. Cloddiau Mae cloddiau Prydain, gyda’u bywyd gwyllt llwyddiannus, yn cael eu cynnal a’u cadw’n rheolaidd gan ffermwyr. Ynghyd â darparu ffin naturiol rhwng porfeydd, mae’r cloddiau’n cael eu tocio y tu allan i’r tymor nythu, er mwyn darparu lle ar gyfer adar a bywyd gwyllt arall i fagu.

  10. Bywyd gwyllt Mae llawer o ffermwyr llaeth yn cynhyrchu ‘coridorau bywyd gwyllt’ hefyd drwy adael llain o laswellt o amgylch ymylon y porfeydd, yn plannu coed ac ardaloedd coediog ac yn sefydlu pyllau dŵr i ddenu bywyd gwyllt. Bydd rhai o’r ffermwyr yn gadael sofl india-corn yn y caeau dros y gaeaf, ar gyfer adar sy’n nythu, fel eu bod yn gallu nythu rhwng y sofl.

  11. Defnyddio dŵr ar ffermydd Mae dŵr yn hanfodol ar gyfer ffermydd llaeth, er mwyn: 1) Darparu dŵr glân i’r gwartheg godro ei yfed. 2) Golchi’r parlwr llaeth a’r offer ar ôl godro.

  12. Water use on the farms Er enghraifft, mae adroddiad Map Ffordd Llaeth* wedi gosod targed o leihau’r defnydd o ddŵr rhwng 5 a 15% erbyn 2020. Yn aml, mae dŵr yn cael ei ailgylchu ar ffermydd. Mae rhai ffermwyr , er enghraifft, yn casglu glaw drwy systemau ar y to. Wedyn, gellir defnyddio’r dŵr hyn i olchi’r parlwr, cychwyn oeri plât a dŵr yfed ar gyfer y gwartheg pan maent yn y siedau gwartheg. * Un o gyfres o adroddiadau a gynhyrchwyd yn wreiddiol gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) i leihau’r effaith amgylcheddol ar gylch bywyd ystod o brif gynhyrchion.

  13. Anelu at wella Mae’r diwydiant llaeth yn dal i weithio tuag at ostwng effaith amgylcheddol negyddol y diwydiant drwy’r cynllun Map Ffordd Llaeth. Mae ffermwyr llaeth yn mynd i’r afael â phryderon ynglŷn â newid yn yr hinsawdd ar raddfa fyd-eang hefyd, a hynny drwy Agenda Llaeth Byd-eang am Weithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd Map ffordd llaeth: http://www.defra.gov.uk/environment/business/products/roadmaps/milk.htm Agenda Llaeth Byd-eang: http://www.dairy-sustainability-initiative.org

  14. Crynodeb Fel rhan o system fyw naturiol, gall ffermio gwartheg godro gael effaith ar yr amgylchedd drwy gynhyrchu methan. Mae hyn, fodd bynnag, yn gostwng. Mae ystod o fesuriadau sy’n cael eu defnyddio gan ffermwyr llaeth ar gyfer lleihau'r effaith ar yr amgylchedd, ynghyd â gwella’r amgylchedd.

  15. Am fwy o wybodaeth ewch i: www.foodafactoflife.org.uk

More Related