1 / 15

DAMEG YR HEUWR

DAMEG YR HEUWR. Aeth heuwr allan i hau;. Wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr. Daeth adar a'i fwyta.

cira
Download Presentation

DAMEG YR HEUWR

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. DAMEG YR HEUWR

  2. Aeth heuwr allan i hau;

  3. Wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr. Daeth adar a'i fwyta.

  4. Syrthiodd peth ar fannau caregog, lle nad oedd llawer o bridd. Tyfodd yn syth, am nad oedd dyfnder daear yno. Wedi i'r haul godi, fe'i llosgwyd; ac am nad oedd gwreiddiau iddo, fe wywodd.

  5. Syrthiodd hadau eraill ymhlith y drain; A thyfodd y drain, a'u tagu.

  6. Ond syrthiodd eraill ar dir da, a ffrwytho. Peth ganwaith cymaint, a pheth chwe deg gwaith cymaint, a pheth tri deg gwaith cymaint.

  7. Mae'r hedyn a syrthiodd ar y llwybr caled fel gair Duw ar galonnau caled a chlustiau sy'n gwrthod gwrando. Mae gelyn Duw, fel yr adar, yn cipio'r hedyn ymaith.

  8. Mae'r pridd bas ar y graig fel pobl sy'n derbyn y newyddion da am Iesu, ond nid yw'n gwneud gwahaniaeth i'w bywydau. Mae problemau yn eu rhwystro, a phan ddaw problemau yn eu bywydau, maent yn ildio. Does dim nerth ganddynt i ddyfalbarhau.

  9. Mae'r tir dreiniog fel pobl sy'n clywed ac yn derbyn y newyddion da, ond sy'n meddwl gymaint am broblemau bywyd, a cheisio cyfoeth, fel bod meddyliau am Dduw yn cael eu mygu. Nid ydynt yn byw bywydau ffrwythlon iawn yn y diwedd.

  10. Ond mae'r tir da fel calonnau pobl sy'n clywed neges Duw am gariad Iesu. Mae gair Duw yn gwreiddio yn eu bywydau fel eu bod yn gallu deall a dilyn ffordd Duw, ac yn dwyn ffrwyth yn nheyrnas Duw.

More Related