1 / 9

Plannu eich bylbiau

Plannu eich bylbiau. Llythyr oddi wrth Athro’r Ardd. Helo Gyfeillion! Llongyfarchiadau ar basio tasg yr wythnos ddiwethaf a mabwysiadu eich bylbiau newydd! Nawr rydych yn barod ar gyfer y dasg nesaf – Plannu eich bylbiau! Plannwch eich bylbiau ar 20 Hydref – os y medrwch !

meli
Download Presentation

Plannu eich bylbiau

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Plannu eich bylbiau

  2. Llythyr oddi wrth Athro’r Ardd Helo Gyfeillion! • Llongyfarchiadau ar basio tasg yr wythnos ddiwethaf a mabwysiadu eich bylbiau newydd! • Nawr rydych yn barod ar gyfer y dasg nesaf – Plannu eich bylbiau! Plannwch eich bylbiau ar 20 Hydref – os y medrwch ! • Cofiwch ofalu am eich bylbiau yn gyson fel yr addewid ar y tystysgrif mabwysiadu.

  3. Paratowch eich offer! Dylai fod gennych chi: • 1 bwlb cennin pedr • 1 bwlb crocws • 1 pot planhigyn • Compost neu bridd da • 1 pren mesur a phensil • 1 taflen labelu planhigion Cennin Crocws Rhoddwyd y bylbiau a'r potiau drwy garedigrwydd yr Edina Trust.

  4. Iechyd a Diogelwch! • Meddyliwch am unrhyw ddamweiniau a allai ddigwydd wrth blannu. Wedyn penderfynwch ar set o reolau diogelwch.

  5. Cofiwch, mae’ch bylbiau’n bethau byw – daliwch nhw’n ofalus! Cymrwch eich amser i blannu’ch bylbiau’n iawn. Ymlaciwch a mwynhewch! Darllenwch y cyngor ar blannu cyn mynd ati i blannu’ch bylbiau. Dilynwch y cyfarwyddiadau’n ofalus er mwyn gwneud prawf teg. Pob hwyl gyda’r dasg!

  6. Sut i blannu • Llenwch eich pot â 4cm o gompost aml-bwrpas a gwasgwch e i lawr. Rhowch smotyn bach ar flaen eich pot. 2) Rhowch fwlb y daffodil ar ben y compost gyda’r gwreiddiau’n wynebu am i lawr. Rhowch e ar yr ochr chwith lle mae’r smotyn yn eich wynebu chi.

  7. Sut i blannu 3) Rhowch bridd o gwmpas eich bwlb nes ei fod wedi cuddio’n rhannol, wedyn rhowch fwlb eich crocws ar ben y pridd. Gwnewch yn siwr bod lle rhwng y bylbiau. Rhowch y bwlb yma ar yr ochr dde pan fo’r smotyn yn eich wynebu chi. 4) Rhowch gompost dros y bylbiau a gwasgwch e i mewn gyda blaenau’ch bysedd.

  8. Sut i blannu 5) Llenwch y pot i fyny i’r top â chompost. 6) Rhowch digon o ddwr iddo, wedyn rhowch ragor o gompost iddo os oes angen. Anfonwch eich straeon a’ch lluniau i’n blog bylbiau a dilynwch Athro’r Ardd ar Twitter! www.twitter.com/Professor_Plant

  9. Nawr ewch i blannu’ch bwlb! • Pan fyddwch chi wedi gorffen, gwnewch yn siwr eich bod chi wedi plannu’r bylbiau’n iawn, wedyn labelwch y planhigion fel hyn. • Cofiwch olchi eich dwylo ar ôl plannu!

More Related