1 / 18

ADEILADU EICH TŶ

ADEILADU EICH TŶ.

kylene
Download Presentation

ADEILADU EICH TŶ

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. ADEILADU EICH TŶ

  2. Roedd saer oedrannus yn barod i ymddeol. Dywedodd wrth ei feistr am ei fwriad i adael y busnes adeiladu tai i fyw bywyd mwy hamddenol gyda'i wraig a mwynhau bod gyda'i wyrion. Byddai'n gweld eisiau'r siec gyflog bob wythnos, ond roedd am ymddeol. Roedd digon o arian ganddynt i oroesi.

  3. Roedd ei feistr yn drist i feddwl am ei weithiwr da'n gadael a gofynnodd iddo adeiladu dim ond un tŷ arall fel cymwynas bersonol.

  4. Dywedodd y saer y byddai'n gwneud, ond dros amser roedd hi'n hawdd gweld nad oedd ei galon yn ei waith. Roedd yn gwneud gwaith eilradd ac yn defnyddio deunyddiau gwael. Roedd yn ffordd anffodus i orffen gyrfa.

  5. Ar ôl i'r saer gwblhau ei waith, daeth ei gyflogwr i archwilio'r tŷ. Yna rhoddodd allwedd y drws blaen iddo gan ddweud, "Dyma'ch tŷ chi... fy rhodd i chi."

  6. Synnwyd y saer yn arw! Dyna drueni! Petai wedi gwybod ei fod yn adeiladu ei dŷ ei hun, byddai wedi gwneud y cyfan yn gwbl wahanol.

  7. Fel hyn y mae pethau. Rydym yn adeiladu ein bywydau un dydd ar y tro, yn aml yn rhoi llai na chant y cant i'r gwaith. Yna, rydym yn synnu wrth sylweddoli bod rhaid i ni fyw yn y tŷ rydym wedi'i adeiladu. Petai cyfle i ni ail-wneud y gwaith, mae'n bosib y byddem yn ei wneud yn wahanol iawn.

  8. Ond does dim modd mynd yn ôl. Chi yw'r saer, a bob dydd rydych yn morthwylio hoelen, gosod bwrdd neu godi wal. Dywedodd rhywun unwaith, "Prosiect DIY yw bywyd." Mae eich agwedd a'r dewisiadau a wnewch heddiw yn helpu i adeiladu'r "tŷ" lle byddwch yn byw yfory. Felly, adeiladwch yn gall!

  9. BYDDWCH YN GAREDIG

  10. HELPWCH BOBL ERAILL

  11. RHANNWCH

  12. PARCHWCH BOBL

  13. GOFYNNWCH I DDUW EICH ARWAIN

More Related