1 / 12

“Efallai eich bod wedi torri calon eich mamau, ond ni fyddwch yn torri fy un i!”

Pwyswch ‘ESC’ unrhyw bryd i stopio’r cyflwyniad. Mi wnes i ymuno!. “Efallai eich bod wedi torri calon eich mamau, ond ni fyddwch yn torri fy un i!” “Efallai bod gennych het grand ar eich pen, ond gen i mae tair streipen!”.

naeva
Download Presentation

“Efallai eich bod wedi torri calon eich mamau, ond ni fyddwch yn torri fy un i!”

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Pwyswch ‘ESC’ unrhyw bryd i stopio’r cyflwyniad Mi wnes i ymuno! “Efallai eich bod wedi torri calon eich mamau, ond ni fyddwch yn torri fy un i!” “Efallai bod gennych het grand ar eich pen, ond gen i mae tair streipen!” Dyfyniadau o Cardiff (Pals) Commercial: The Welsh Regiment, golygwyd gan K. Cooper a J.E. EvansDelwedd gan M. Williams Des Quinn a Martin Williams

  2. “Ŵyr ifanc Cymru, gadewch i’ch plant yr etifeddiaeth gyfoethocaf o ddigon – sef yr atgof am dadau, yn enw achos mor deilwng, a roddodd hunanaberth o flaen esmwythyd ac anrhydedd o flaen bywyd ei hun.” Y Prif Weinidog, H. Asquith, yn annerch yng Nghymru (2 Hydref 1914) Wedi i’r Prif Weinidog a llawer o ŵyr mawr eraill, fel David Lloyd George, ymbil ar ddynion ifanc i ymuno â’r lluoedd arfog, atebwyd yr alwad, fel y gwelsom, gan lawer o ŵyr ifanc Cymru. Gorymdeithiodd 750 o’r Cardiff Pals trwy strydoedd Caerdydd ar 14 Medi 1914 ar eu ffordd i’w gwersyll cyntaf yn Lewes, Sussex. Ond, wedi iddynt gyrraedd yno, doedd ganddyn nhw ddim iwnifformau, dim ond un reiffl ar gyfer pob platŵn i ddrilio, un pryd o fwyd yn unig bob dydd ac “ychydig o sbarion”.

  3. “Wedi ychydig fisoedd o ‘hyfforddiant’ yn Winchester, nad oedd yn cynnwys mwy na saethu chwe ergyd gyda reiffl oherwydd bod yr arfau a’r offer tanio mor brin, daeth yr awr i adael am Ffrainc a’r ffosydd. Roedden ni wedi’n cau yn howld y llong hyd doriad gwawr, ac yna cawsom fynd i fyny i’r dec a gweld arfordir Ffrainc yn raddol ddod i’r golwg. Roedd yr olygfa a gawson ni wrth i’r wawr dorri ar y diwrnod oer a niwlog hwnnw ymhell o fod yn ddeniadol.” W.A. Tucker, 38th (Welsh), Divisional Cyclist Company, dyfyniad o Wales and the First World War gan Keith Strange Er i’r alwad fynd allan i ddynion o bob rhan o’r D.U. i ymrestru, a yw’n edrych yn debyg fod yr awdurdodau’n barod i dderbyn y fath niferoedd o ddynion a wnaeth ymuno â’r lluoedd arfog?

  4. Yn 1914 ymunodd dynion o bob rhan o Gaerdydd: Gweithwyr o Siop James HowellAthrawonGweithwyr o Gwmni Nwy CaerdyddGohebwyr (llawer ohonynt o’r Western Mail)Clercod o gwmni blawd Spillers Pob aelod bron o dîm pêl-droed Cardiff Corinthians… Yr un oedd y stori mewn llawer ardal ledled Cymru. Roedd y dynion yn ateb yr alwad i’r gad. Ond pam roedden nhw’n gwneud hynny? Rydym yn gwybod erbyn hyn fod yr amodau a’r peryglon a wynebai’r milwyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn rhy niferus a rhy ofnadwy i feddwl amdanynt bron.

  5. “Pan gychwynodd rhai o fy oppos a minnau am Benbedw (Birkenhead), glowyr yn tynnu at yr ugain oed oedden ni, ac roedden ni wedi’n dewis i ymuno â’r Minteioedd Twnelu newydd oedd yn cael eu rhoi at ei gilydd. Daeth swyddog atom i’r pwll gan ddweud wrthym y gallen ni weithio fel Gwahaddod y Fyddin, yn cloddio dan linellau’r Almaenwyr, a bydden ni’n derbyn cymaint â phum swllt y dydd o dâl. Roedd hynny’n gyflog mawr bryd hynny, felly fe aethon ni i ffwrdd i wneud ein ffortiwn!” Dyfyniad gan Albert Lewis o Wales and the First World War, ganKeith Strange “Fy Mam anwylaf. O’r diwedd mae gen i ychydig o newyddion i chi – rwyf wedi newid fy nillad isaf. Wedi’r cwbl, maent wedi fy ngwasanaethu’n rhagorol am y ddeufis diwethaf.” Dyn ifanc 18½ oed, aelod o’r Cardiff Pals, dyfyniad o Cardiff (Pals) Commercial: The Welsh Regiment Pam yn eich barn chi yr ymunodd llawer o ŵyr ifanc?

  6. 13 Medi 1914 Y Prif SwyddogFullwood BarracksPreston Annwyl Syr Derbyniais lythyr oddi wrth 20 o recriwtiaid a anfonwyd o’r dref hon i’r barics yn Preston, a llythyr truenus yw hwnnw a dderbyniais oddi wrthynt. Mae’n anhygoel meddwl y gellir trin dynion sy’n mentro’u bywydau tros eu gwlad yn y fath fodd. Wrth i mi gadeirio cyfarfod yn y dref hon, rhoddais fy ngair y byddent hwy a’u teuluoedd yn derbyn pob gofal pe baent yn ymrestru i wasanaethu, ac mae derbyn y llythyr a dderbyniais wedi fy ngwylltio’n arw, a bydd yn sicr o gael effaith andwyol ar recriwtio i’r dyfodol.

  7. Rwy’n anfon copi o’r llythyr hwn at y Cyrnol Vaughan, a fu’n gweinyddu’r llw i’r dynion hyn, a byddaf yn falch o glywed y bydd pethau wedi’u rhoi mewn trefn erbyn iddo ei dderbyn. Cawsom anawsterau lawer yng Nghastell Nedd gyda’r dynion a anfonwyd oddi yma. Rwy’n biledu 66 o ddynion yn y dref, sef rhai a ddanfonwyd yn ôl o’r barics oedd eisoes wedi’i lenwi gan aelodau o’r gatrawd. Mae’n ddrwg gennyf fy mod yn gorfod anfon unrhyw achwyniad, ond nid mater i’r dref yn unig yw hyn, mae’n Staen Cenedlaethol sy’n ein rhwystro rhag cryfhau Byddin Prydain. Gofynnaf i chi fod cystal â rhoi gwybod i mi a yw popeth yn iawn ai peidio erbyn hyn. Yr eiddoch yn gywir,

  8. Gwelir isod ran o lythyr a anfonwyd o’r Rhyl ar 29 Ionawr 1915. O’r llythyr hwn a’r tabl o ‘nwyddau’ a gyhoeddwyd, dylech gael rhyw syniad o raddfa’r broblem o gyflenwi bataliwn o filwyr ar gyfer eu hyfforddi, cyn iddynt hyd yn oed gychwyn i ffwrdd i ymladd y rhyfel. At: - Yr Ysgrifennydd, Corfflu’r Fyddin Gymreig. Gan gyfeirio at eich llythyr … rwy’n amgáu y rhestr o Ddillad ac Angenrheidiau a ddosbarthwyd i filwyr y Bataliwn hwn (10th, 1st Rhondda) ers ei sefydlu ym mis Hydref 1914 … Dim ond am y Dillad a’r Angenrheidiau a dderbyniwyd gan y Bataliwn wedi 30 Hydref 1914 rwyf fi’n gyfrifol. Cyrnol ……………… yng ngofal 10th (Service) Bn. Welsh Regt. 1st Rhondda

  9. 1 2 3 4 5 6 Total

  10. Dyfyniad yw’r darn isod o lythyr a anfonwyd o Gaerdydd at y 1st Rhondda Battalion. Derbyniwyd ar 5 Ionawr 1915. Corfflu’r Fyddin Gymreig 4 Ionawr 1915Annwyl Syr Derbyniais eich telegram a anfonwyd gennych heddiw yn sôn am gyflenwadau. Anfonais neges i archebu … 183 pâr o Dronsiau (Drawers). Mae 507 o Dywelion wedi’u hanfon atoch eisoes gan Gwmni Howells. Anfonais neges at y Brodyr Samuel i ofyn iddynt anfon y siwtiau glas cyn gynted â phosibl. Efallai y bydd peth oedi cyn i chi dderbyn y Coesrwymau (Puttees) gan eu bod yn anodd eu cael ar hyn o bryd. Gyda golwg ar y Raseli (Razors), mae gennym gontract ar gyfer 5,000 ond ni fyddant yn cael eu dosbarthu tan ddechrau Chwefror. Mae’n anodd iawn cael rhai. Mae R.B. Brown a’i Feibion yn gwneud eu gorau i sicrhau y bydd yr iwnifformau ar gael yn fuan.

  11. Roedd y Swyddfa Ryfel yn talu lwfans o 10 swllt i bob dyn am fenthyca’i ddillad, a byddai’n rhaid eu hanfon yn ôl i’w gartref ar gost y llywodraeth unwaith y byddai’r iwnifformau wedi’u dosbarthu. Cymysgedd o ddillad cyffredin a milwrol oedd gan y 16th Cardiff City Battalion. Gwisgai bataliynau’r Rhondda ac Abertawe iwnifformau arbennig a wnaed o hen frethyn cartref Cymreig o’r enw ‘Brethyn Llwyd Cymru’. Gwisgai’r 11th Cardiff Pals iwnifform o Frethyn Llwyd oedd ychydig yn fwy brown na’r caci arferol o ran ei lliw; dyna pam y cawsant eu galw’n ‘Chocolate Soldiers’. Doedd gan y bataliynau newydd fyth ddigon o offer. Yn 1915 doedd gan Fataliwn y Rhondda ddim gwellt, rhaff, defnydd gweol na physt, a dim trawsbrennau ar gyfer ymladd â’r bidog. 60 o hen reifflau nad oedd modd eu defnyddio a roddwyd i Fataliwn Caerdydd. Fe gymrodd fisoedd eto cyn i’r Swyddfa Ryfel allu darparu’r Fyddin Newydd â’r offer priodol. DIWEDD

More Related