1 / 31

Bylbiau ’ r Gwanwyn i Ysgolion Canlyniadau ’ r archwiliad 2006-2011

Bylbiau ’ r Gwanwyn i Ysgolion Canlyniadau ’ r archwiliad 2006-2011. Yr archwiliad.

evette
Download Presentation

Bylbiau ’ r Gwanwyn i Ysgolion Canlyniadau ’ r archwiliad 2006-2011

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion Canlyniadau’r archwiliad 2006-2011

  2. Yr archwiliad Ers Hydref 2005 mae gwyddonwyr ysgol o Gymru benbaladr wedi bod yn cadw cofnodion tywydd a nodi pryd mae eu blodau yn ymagor fel rhan o astudiaeth hirdymor sy’n edrych ar effeithiau tymheredd ar fylbiau’r gwanwyn.

  3. 71 o ysgolion a gymrodd ran!

  4. Rhoddodd yr ysgolion eu canlyniadau ar y we.

  5. Yr astudiaeth hirdymor Mae’n hinsawdd a’n tymhorau’n newid. Dros y degawd neu ddau nesaf (a mwy gobeithio) rydym am i’r gwyddonwyr ysgol ddangos sut mae’r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar amseroedd ymagor mewn bylbiau’r gwanwyn. Yn y tymor byr mae mwy na digon i’w astudio.

  6. Diolch yn fawr! Mae Athro’r Ardd yn diolch yn fawr i’r holl wyddonwyr ysgol a anfonodd eu cofnodion atom ni eleni! Rydych chi i gyd yn Wyddonwyr Gwych!

  7. Ysgolion â chydnabyddiaeth arbennig: • Maesycwmmer Primary School • Bishop Childs CIW Primary School • Coleg Meirion Dwyfor • Laugharne VCP School • Glyn Hafod Junior School • Howell's School Llandaff • Ysgol Iau Hen Golwyn • Pembroke Dock Community School • Ysgol Gynradd Brynconin • Ysgol Brynffordd • Stepaside Gwobrau: Blodau i ddenu, gloÿnnod byw a hadau salad lliwgar.

  8. Ysgolion â chymeradwyaeth uchel: • Ysgol Bodfari • Ysgol Cynfran • Cwm Glas Primary • Milford Haven Junior School • Oakfield Primary school • Tynewydd Primary School • St Joseph's Primary School • St. Joseph's R C Primary • Windsor Clive Primary • Ysgol Porth Y Felin • Glyncollen Primary School • Coleg Powys. • Murch Junior School • Ysgol Nant Y Coed • Ysgol Deganwy  • Ysgol Pencae • Ysgol Y Ffridd • Lansdowne Primary School • St. Mary's Catholic Primary School • Ysgol Gynradd Glantwymyn • Ysgol Penycae (Ystradgynlais) • Ysgol Rhys Pritchard • Eyton Primary School Gwobrau: Hadau blodau haul, Blodau i ddenu gloÿnnod byw a hadau salad lliwgar.

  9. Goreuon y Gweddill:  • Ysgol Morfa Rhianedd • Ysgol Bro Ciwmeirch • Ysgol Clocaenog. Gwobrau: Tocyn Amazon gwerth £40 i wario ar offer garddio.

  10. Ennilwyr 2011 Saint Roberts Roman Catholic Primary School Gwobr: Diwrnod o weithgareddau natur yn Sain Ffagan Ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Oakdale ac Ymddiriedolaeth Bodfach.

  11. Crynodeb 2005-2011 • Dyma grynodeb o’n canlyniadau ni ers 2005. • Gallwch chi lawrlwytho’r canlyniadau i’w hastudio o www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/scan/bylbiau/

  12. Pethau i’w hastudio… • Gwnewch siartiau amlder a graffiau i ganfod y cymedrau. • A wnaeth blodau agor yn hwyr mewn ysgolion oedd yn cofnodi tywydd oer? • Sut wnaeth tymheredd, heulwen a glaw effeithio ar ddyddiadau blodeuo ar gyfartaledd? • Chwiliwch am dueddiadau mewn gwahanol lefydd yng Nghymru. Gwelwch: www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau

  13. Mae ein cofnodion yn dangos bod 2011 yn oerach na’r blynyddoedd cynt.Roedd Rhagfyr yn arbennig o oer ond roedd Chwefror a Mawrth yn eithaf cynnes.

  14. Rhagfyr DU 2011

  15. Mae ein cofnodion yn dangos bod 2011 yn oerach na’r blynyddoedd cynt.

  16. Mae’r gaeafau diwethaf wedi bod yn oer ond mae ein byd yn dal i gynhesu! Gyda’r holl aeafau oer, efallai eich bod yn meddwl bod y byd yn oeri – nid yn cynhesu – ond nid yw hynny’n wir. Er bod y tymheredd wedi bod mor isel â -22 mewn rhai llefydd yn y DU, 2010 oedd yr ail flwyddyn gynhesaf ar gofnod! Mae’r byd yn dal i gynhesu, ac mae angen i ni barhau i leihau ein hallyriadau CO2

  17. Mae oriau heulwen wedi amrywio llawer dros y blynyddoedd. Er bod 2011 yn oer iawn, cafwyd dros 80 awr o heulwen.

  18. O ganlyniad, roedd y dyddiad blodeuo ar gyfartaledd yn hwyr, ond ddim mor hwyr â’r flwyddyn cynt – oedd 17 diwrnod yn hwyrach!

  19. Canlyniadau 2005-2011

  20. Sut mae’r tywydd yn effeithio ar amseroedd blodeuo cennin pedr?

  21. Mae’r patrwm yn dangos: Wrth i’r tymereddau ostwng, mae cennin pedr yn blodeuo’n hwyrach.

  22. Pa flynyddoedd sydd ddim yn dilyn y patrwm?Atb: 2007 Esboniad posibl: Er bod y tymheredd ar ei uchaf yn 2007, agorodd y blodau’n eithaf hwyr, mwy na thebyg achos bod yr oriau o heulwen wedi aros yn isel tan fis Mawrth y flwyddyn honno.

  23. Mae’r patrwm yn dangos: Wrth i’r oriau o heulwen leihau, mae cennin pedr yn agor yn hwyrach. Mae’n ymddangos bod heulwen yn cael effaith gref ar adeg blodeuo cennin pedr.

  24. Pa flynyddoedd sydd ddim yn dilyn y patrwm?Atb: 2011 Esboniad posibl: Er bod yna lawer o heulwen yn 2011, agorodd y blodau’n hwyr, fwy na thebyg gan fod y tymereddau mor isel – yr isaf ar gofnod.

  25. Sut mae’r tywydd yn effeithio ar amseroedd blodeuo’r crocysau?

  26. Mae’r patrwm yn dangos: Wrth i’r tymereddau ostwng, mae blodau’r crocws yn agor yn hwyrach.

  27. Pa flynyddoedd sydd ddim yn dilyn y patrwm?Atb: 2009 Esboniad posibl: Er bod tymereddau 2009 yn eithaf cynnes, y blodau oedd yr hwyraf i agor, fwy na thebyg am fod yr oriau o heulwen yn eithaf isel y flwyddyn honno.

  28. Mae’r patrwm yn dangos: Pan fydd llai o oriau o heulwen, bydd blodau’r crocws yn agor yn hwyrach.

  29. Atb: 2006 & 2011 Pa flynyddoedd sydd ddim yn dilyn y patrwm? Esboniad posibl: Er nad oedd llawer o heulwen yn 2006, agorodd y blodau’n eithaf cynnar, fwy na thebyg am fod y tymheredd yn eithaf cynnes. Er bod llawer o heulwen yn 2011, agorodd y blodau’n hwyr, fwy na thebyg am fod y tymheredd mor oer – yr oeraf ar gofnod.

More Related