1 / 56

SGILIAU MEDDWL yn seiliedig ar athroniaeth Dysgu Cyflym

Cydnabod disgyblion disglair. 5%-10% mwyaf galluog unrhyw ysgolGallu eithriadol ac amryddawn - yn aml wedi ei gadarnhau gan asesiadau dirnadol.Disgyblion sy'n arddangos lefel uchel o ddatblygiad. Safon sydd wedi bod yn eithaf cyson ers y blynyddoedd cynnar.Gellir bod yn eithaf hyderus wrth ragdyb

katen
Download Presentation

SGILIAU MEDDWL yn seiliedig ar athroniaeth Dysgu Cyflym

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


    1. SGILIAU MEDDWL (yn seiliedig ar athroniaeth Dysgu Cyflym)

    2. Cydnabod disgyblion disglair 5%-10% mwyaf galluog unrhyw ysgol Gallu eithriadol ac amryddawn - yn aml wedi ei gadarnhau gan asesiadau dirnadol. Disgyblion sy’n arddangos lefel uchel o ddatblygiad. Safon sydd wedi bod yn eithaf cyson ers y blynyddoedd cynnar. Gellir bod yn eithaf hyderus wrth ragdybio parhad mewn cynnydd academaidd yn ogystal â/neu mewn meysydd megis cerddoriaeth, chwaraeon, dawns neu gelf.

    3. Dysgu disgyblion disglair “Good teaching of more able and talented pupils has the essential characteristics of good teaching for any pupil. It is characterized by planning more creatively, using more demanding resources, teaching pupils deliberately how to engage fully with the subject and creating a classroom climate where children are motived to learn with increasing independence.”

    4. Cysyniadau Dysgu Cyflym Cysyniadau Dysgu Cyflym wedi bodoli ers blynyddoedd lawer. Athrawon wedi bod yn arbrofi gyda’r math yma o addysgu ers degawdau. ‘Arbenigwyr’ wedi penderfynu casglu’r syniadau at ei gilydd a phennu term ar yr holl gysyniad, sef Dysgu Cyflym, Accelerated Learning. Cyn-athrawon ac arbenigwyr o fewn y maes wedi penderfynu cyhoeddi llyfrau yn cyflwyno’r cysyniad o Ddysgu Cyflym. LLAWER o arian yn cael ei greu!

    5. Astudiaeth Achos (ymchwil a wnaed gan yr NUT) Gweithiodd yr NUT gydag athrawon amrywiol mewn nifer o ysgolion gan gynnwys ysgolion cynradd, canolig ac uwchradd. Roedd natur yr ysgolion yn amrywiol e.e. cefn gwlad, dinesig, gallu cymysg a.y.y.b. Canolbwyntio ar Gyfnodau Allweddol 1-4. Athrawon o brofiad amrywiol - o ran eu profiad yn dysgu a’u gwybodaeth o sgiliau meddwl. Athrawon yn gweithio mewn parau i ddatblygu’r defnydd o sgiliau meddwl o fewn yr ystafell ddosbarth.

    6. Gweithiodd yr athrawon ar dechnegau megis; graffiau byw straeon dirgel mapiau’r cof mapiau meddwl sesiynau gwerthuso a.y.y.b.

    7. Manteision Dysgu Cyflym i’r disgyblion Mwynhâd Brwdfrydedd ac ymrwymiad gweithredol. Disgyblion yn datblygu deallusrwydd ehangach o’r ffordd y maen nhw’n dysgu. Hyder y disgyblion yn cynyddu, sy’n ychwanegu at eu dealltwriaeth o dasg. Wrth i ddealltwriaeth gynyddu, mae geirfa’r disgyblion yn ehangu, eu sgiliau cyfathrebu yn datblygu a safon eu gwaith yn gwella. Gallu gwell i wrando a mynegi eu hunain mewn trafodaeth. Meddwl creadigol a beirniadol yn datblygu. Disgyblion yn mwynhau’r manteision o weithio mewn grwpiau bach - parchu ei gilydd, cydweithio ac yn cyfnewid syniadau’n well.

    8. Manteision i’r athro/awes Mwynhâd Datblygiad proffesiynol Hyder

    9. Anhawsterau wrth weithredu cysyniadau Dysgu Cyflym Amser Adnoddau Arian Dydy’r gweithgareddau ddim yn addas ar gyfer pob grwp dysgu.

    10. Y gobaith yw ymestyn disgyblion i fod yn; annibynnol dadansoddol meddylgar ac i gymryd cyfrifoldeb dros eu dysgu personol.

    11. CYDOSOD

    12. Cydosod Bwriad y gweithgaredd : Mae greddf yr unigolyn yn golygu ein bod ni wrth ein boddau yn rhoi pethau at ei gilydd, yn creu cyfanwaith gorffenedig allan o ddarnau bach, torredig. Sut? Mae disgyblion yn medru gweithio ar eu ben eu hunain, neu gyda phartner er mwyn ad-drefnu deunydd sydd wedi cael ei dorri i fan ddarnau. Rhaid bod digon o gliwiau yn y deunydd er mwyn i’r disgyblion fedru cysylltu’r darnau mewn trefn synhwyrol (e.e. trefn naratif mewn stori). Gall y deunydd ei hun fod yn ysgrifenedig, ar ffurf lluniau, symbolau neu cyfuniad o destunau gwahanol.

    13. Amrywio’r gweithgaredd Gofyn i’r disgyblion i dreulio amser yn rhannu testunau ac i greu gemau cydosod ar gyfer disgyblion eraill y dosbarth. Torri cerddi TGAU i fyny fesul thema a gofyn i’r disgyblion gydosod y cerddi i gyd yn gywir. Cysylltu geirfa dadansoddi ffilm gyda’r diffiniadau cywir ar gyfer arholiad llafar Llunyddiaeth.

    14. BINGO

    15. Bingo Bwriad y gweithgaredd : Gêm ddefnyddiol ac ysgafn ar gyfer atgyfnerthu ac adolygu themâu a chysyniadau allweddol o fewn y cwricwlwm. Sut? Rhoddir darn o bapur plaen i’r disgyblion. Rhaid iddynt ddarlunio grid ‘bingo’ naw sgwâr (gellir amrywio nifer y sgwariau). Ar y bwrdd gwyn, ysgrifennir deuddeg o eiriau allweddol y thema/pwnc diweddaraf. Rhaid i’r disgyblion lenwi’r sgwariau, gan ddewis naw term/gair o’r deuddeg sydd ar y bwrdd gwyn. Mae’r athro/athrawes yn galw diffiniadau o’r deuddeg term ar hap. Gellir ysgrifennu’r diffiniadau ar ddarn o gardfwrdd o flaen llaw. Mae’r disgyblion yn mynd ati i groesi’r geiriau oddi ar eu grid. Pan fo disgybl wedi cael gwared ar linell o dermau, rhaid i’r disgybl hwnnw ddarllen y termau allweddol yn eu tro yn ogystal â rhoi’r diffiniadau cywir amdanyn nhw. Gellir parhau â’r gem hyd nes i ddisgybl groesi pob term oddi ar ei grid.

    16. Trafod Arddull 1.cymhariaeth 2.trosiad 3.gwrthgyferbynnu 4.personoli 5.odl 6.ansoddair 7.berf 8.onomatopoeia 9.cynghanedd 10.uchafbwynt 11.cytseinedd 12.ail-adrodd

    20. Amrywio’r gweithgaredd Gellir rhoi taflen plaen i’r disgyblion a gofyn iddyn nhw lenwi’r bylchau. Er enghraifft; Ffurfiau llenyddol – darllen ffurf llenyddol ar goedd a’r disgyblion i nodi prif nodweddion y ffurf hwnnw. Dyfyniadau o gerddi TGAU – disgyblion i nodi enw’r gerdd/bardd/ffurf a.y.y.b. Gellir darllen termau/geirfa ar goedd a gofyn i’r disgyblion ysgrifennu’r diffiniadau ar eu cyfer.

    21. TRAWSFFURFIO

    22. Trawsffurfio Bwriad y gweithgaredd : Er mwyn amlhau sgiliau dysgu i’r eithaf, mae angen datblygu’r syniad bod unrhyw ddeunydd yn medru cael ei drawsffurfio. Sut? Gofynnir i’r disgyblion gymryd deunydd sydd wedi ei gyflwyno ar un ffurf, a’i drawsffurfio i ffurf gwahanol.

    23. Amrywio’r gweithgaredd Gellir gofyn i’r disgyblion drawsffurfio testun llenyddol neu weledol i; fap meddwl bwrdd stori siart cylchoedd sy’n gorgyffwrdd graff pwyntiau bwled darlun

    24. CYLCHFAN TRAFODAETH

    25. Cylchfan Trafodaeth Bwriad y gweithgaredd : Mae’r gweithgaredd hwn yn galluogi pawb i gyfrannu at drafodaeth mewn modd effeithiol a fydd yn datblygu sgiliau llafar y disgyblion. Sut? Rhaid creu dau gylch o seddau o fewn y dosbarth. Mae’r cylch fewnol yn gwynebu tuag allan, a’r cylch allanol yn gwynebu i mewn. Hynny yw, mae pawb yn gwynebu rhywun yn y dosbarth! Rhoddir testun i’r disgyblion i’w drafod Mae’r disgyblion yn mynd ati i drafod y testun mewn parau gan sicrhau bod pob disgybl yn cael y cyfle i drafod. Ar ôl amser penodedig, mae’r cylch allanol yn symud o gwmpas hyd nes i’r athro ddweud wrthynt i stopio. Mae’r disgyblion yn eistedd ac yn gwynebu partner newydd. Cyn iddyn nhw ddatblygu’r drafodaeth rhaid iddyn nhw grynhoi safbwynt eu cyn-bartner yn gyntaf. Gellir ail-wneud y gweithgaredd nifer o weithiau.

    26. Amrywio’r gweithgaredd Testunau mynegi barn ar gyfer CA3/4 +5. Trafod cymeriadau/digwyddiadau/themâu nofel ddosbarth TGAU. Disgyblion yn cael y cyfle i drafod gyda nifer o ddisgyblion y dosbarth yn hytrach na grwp bach wrth baratoi ar gyfer arholiad.

    27. DISTYLLIAD

    28. Distylliad Bwriad y gweithgaredd : Mae’r gweithgaredd hwn yn creu ysbryd dda o fewn yr ystafell ddosbarth drwy ddistyllu gwybodaeth bwysig ac hanfodol o fewn thema neu bwnc. Sut? Gellir distyllu ystyr testun trwy ddefnyddio proses o hidlo. Lluniwch dwndis ar y bwrdd gwyn. Mae’r disgyblion yn mynd i ati i weithio ar destun mewn parau. Rhaid iddyn nhw ddarganfod pump (gellir newid y rhif hwn) o eiriau/digwyddiadau pwysicaf y testun. (Efallai bod angen diffinio “pwysicaf” iddyn nhw). Gellir gofyn i’r disgyblion ddod allan i ysgrifennu eu syniadau ar y bwrdd gwyn ac i mewn yn y twndis. Ar ôl i un pâr ddod i fyny, gofynnir i bâr arall ychwanegu geiriau gwahanol i’r twndis. Unwaith i bob pâr gyfrannu at y dasg, gellir annog trafodaeth ddosbarth ynglyn â’r gair pwysicaf i ddod allan o’r twndis yn gyntaf. Rhain fydd y geiriau allweddol i gyfleu ystyr y testun.

    29. Amrywio’r gweithgaredd Geiriau sy’n disgrifio arddull bardd neu lenor. Nodweddion pwysicaf ffurf lenyddol. Digwyddiadau mwyaf allweddol nofel ddosbarth.

    30. GÊM DDOMINO

    31. Gêm Ddomino Bwriad y gweithgaredd : Gêm ysgafn yw hon sydd wedi ei seilio ar egwyddor gêm boblogaidd. Gellir profi dealltwriaeth y disgyblion mewn modd effeithiol ac o fewn awyrgylch ymlaciedig. Sut? Rhaid paratoi set o gardiau, tua maint A6 neu A7, a’u rhannu’n ddau megis darnau o ddomino. Ar un hanner y garden ysgrifennir cwestiwn, ac ar ochr arall y garden, ysgrifennir ateb. Nid yw’r cwestiwn a’r ateb yn cyd-fynd â’i gilydd. Cymysgir y cardiau, ac yna dosberthir carden i bob disgybl. Gofynnir i ddisgybl ddechrau drwy adrodd y cwestiwn ar eu cerdyn nhw. Bydd gan rywun yn y dosbarth yr ateb cywir i’r cwestiwn, ac felly’n ei darllen hi allan. Os ydy gweddill y disgyblion yn cytuno mai dyna’r ateb cywir, gosodir yr ateb gyda’r cwestiwn. (Os nad oes digybl yn cynnig ateb i’r cwestiwn, gall yr athro/awes ofyn i’r rheini sy’n meddwl bod ganddyn nhw’r ateb cywir). Mae’r disgybl sydd â’r ateb cywir wedyn yn gofyn eu cwestiwn nhw, ac yna gwneir yr un peth unwaith eto hyd nes i’r cardiau i gyd ffurfio linell neu siap ddomino. Ar ôl i ddisgybl osod ei garden ar y bwrdd, mae’n dal i fod yn rhan o’r gêm am ei fod yn beirniadu atebion y disgyblion eraill yn y dosbarth.

    33. Amrywio’r gweithgaredd Gofyn i’r disgyblion i greu’r gêm. Dyfyniadau o gerddi i’w cysylltu gyda’r gerdd/bardd. Cysylltu nodweddion cymeriad gyda’r cymeriad cywir o nofel ddosbarth. Dyfyniadau gan gymeriadau i’w cysylltu gyda’r cymeriad cywir o nofel osod. Rheolau ieithyddol.

    34. PWY YDW I?

    35. Pwy ydw i? Bwriad y gweithgaredd : Mae’r gwaith ditetctif mwyaf sylfaenol yn annog sgiliau holi a chwestiynu, meddwl craff, dyfalbarhad a chyflymder meddwl. Sut? Mae’r digyblion yn eistedd mewn grwpiau o 4, gan sicrhau eu bod yn medru clywed pob aelod o’r grwp yn siarad. Rhoddir pac o gardiau cymysg i bob grwp. Gosodir y cardiau ar i lawr ar y bwrdd. Ar y cardiau ceir symbolau neu ddiffiniadau o bwnc diweddar. Rhaid i’r grwp benderfynu pwy sydd i fynd yn gyntaf. Mae’r chwareuwr cyntaf yn codi’r cerdyn cyntaf ac yn edrych arno, gan sicrhau nad oes neb o’r grwp yn medru ei weld. Mae gweddill y grwp yn gofyn cwestiynau ynghylch y symbol neu ddiffiniad sydd ar y cerdyn. Gall y chwareuwyr sy’n dal y garden ond ateb drwy ddefnyddio “ydy” / “nac ydy” / “oes” / “nacoes”. Gellir cyfyngu nifer y cwestiynau neu hyd yr amser os oes angen. Unwaith i’r eitem/cymeriad/techneg gael ei ddyfalu’n gywir, symudir ymlaen i’r chwareuwr nesaf.

    36. Amrywio’r gweithgaredd Disgyblion i ddewis cymeriad o nofel osod. Gall y disgyblion ddewis cerdd a rhaid i weddill y grwp/dosbarth ofyn cwestiynau i ddarganfod pa gerdd sydd yn cael ei disgrifio. Gall y disgyblion ddewis ffurff lenyddol a gweddill y grwp i ofyn cwestiynau e.e. A oes defnydd o iaith ffurfiol yn cael ei defnyddio? A fyddech chi’n disgwyl gweld llawer o deimladau o fewn y ffurf? a.y.y.b Gall y disgyblion ddewis math o air e.e. rhagenw, ansoddair, berf, adfer, arddodiad a.y.y.b.

    37. BWRDD Y COF

    38. Bwrdd y Cof Bwriad y gweithgaredd : Gêm hawdd a chyflym sy’n cynorthwyo disgyblion i gofio termau technegol a diffiniadau. Sut? Mae’r athro/awes yn ysgrifennu 12 neu fwy o dermau technegol yn ymwneud â phwnc diweddar ar y bwrdd gwyn. Rhoddir munud i’r disgyblion i gofio’r termau. Unwaith i’r funud ddod i ben rhaid cael gwared ar y termau oddi ar y bwrdd gwyn. Rhaid i’r disgyblion ysgrifennu diffiniadau’r termau yn hytrach na’r termau eu hunain ar bapur. Rhaid iddynt ysgrifennu cymaint o ddifiniadau â phosib o fewn amser penodol. Adolygir y termau gan drafod diffiniadau gwahanol y disgyblion.

    39. Amrywio’r gweithgaredd Gall y disgyblion weithio mewn parau yn hytrach nag ar eu pen eu hunain. Termau barddoniaeth yn CA3 a CA4.

    40. TAFLU’R BAICH

    41. Taflu’r Baich Bwriad y gweithgaredd : Pam na ellir taflu’r baich a gadael i rywun arall wneud y gwaith? Mae’r gweithgaredd hwn yn hyfforddi’r disgyblion i fanylu wrth ateb cwestiynau. Sut? Mae’r disgyblion yn gweithio mewn parau ac yn dechrau ysgrifennu ateb i gwestiwn anodd a roddwyd iddynt. Gellir gweithio ar bapur A3 – gyda pheniau lliwgar. Ar ôl i’r amser penodedig (3-5munud) ddod i ben, maen nhw’n pasio’r papur at bâr arall ac yna yn eu tro, yn derbyn gwaith pâr arall hefyd. Mae ganddyn nhw nawr yr un cyfnod o amser i barhau yr ateb a ddechreuodd y pâr o’u blaenau nhw. Annogir y disgyblion i groesi allan ac i ail-ddrafftio’r gwaith cyn dechrau ychwanegu eu syniadau nhw at yr ateb. Gwneir yr un peth eto – hyd nes i’r disgyblion lwyddo i greu drafft cyflawn. Mae’r papurau yn cael eu dychwelyd i’r pâr gwreiddiol ac yna maen nhw’n gweithio oddi ar syniadau’r disgyblion eraill i greu drafft terfynol o’r ateb.

    42. Amrywio’r gweithgaredd Ymarfer atebion ar gyfer cwestiynau TASau a TGAU. Ysgrifennu straeon. Adolygu pwnc neu thema. Trafod pynciau mynegi barn.

    44. Pwy sydd am fod yn filiwnydd? Natur y gêm a’r cwestiynau’n addas ar gyfer gallu cymysg – disgyblion is eu gallu yn teimlo’n llwyddiannus am eu bod yn medru ateb y cwestiynau cynnar ac am fod ganddyn nhw gyfleoedd i gael cymorth. Amrywio’r gweithgaredd Gellir anelu’r cwestiynau ar lefelau gwahanol e.e. dechrau ar lefel uwch gyda dosbarthiadau uwch eu gallu. Gellir gofyn i’r disgyblion i greu’r cwestiynau e.e. grwpiau i greu gêm gyfan, neu barau i greu cyfres o gwestiynau (un hawdd, canolig ac anodd) a gellir creu gêm fel dosbarth cyfan.

    46. Pwy sydd eisiau’r miliwn?

    47. Y gwobrau 1 - £100 2 - £200 3 - £500 4 - £1,000 5 - £2,000 6 - £4,000 7 - £8,000

    48. Galwad at gyfaill

    49. £100

    50. £1,000,000

    53. Syniadau Ychwanegol GRAMADEG Tanlinelli elfennau gramadegol mewn testun. E.e. tanlinelli pob arddodiad, terfyniad o ferf. Gellir pennu lliw arbennig i bob elfen. Rhoi ‘teulu’ o eiriau i’r disgyblion a hwythau i danlinelli unrhyw eiriau sy’n perthyn i’r ‘teulu’ hwnnw e.e. arddodiaid, berfau personol, berfau yn y trydydd person... Dileu terfyniadau berfol o baragraff/tudalen o nofel ddosbarth a gofyn i’r disgyblion i lenwi’r terfyniadau cywir. Eilyddio Geirfa – darllen testun ac yna gweithio i weld faint o eiriau y gellir eu heilyddio ar gyfer geiriau gwell. Gofyn i’r disgyblion i ddarganfod faint o eiriau sy’n cynnwys yr un sain e.e. ‘wy’, ‘oe’, ‘ae’ a.y.y.b.

    54. Syniadau Ychwanegol YSGRIFENNU GREADIGOL Disgyblion i ddisgrifio rheolau gramadegol i’w gilydd ac yna i greu posteri ar gyfer yr ystafell ddosbarth. Wrth ysgrifennu llythyron ffurfiol e.e. ymarfer ar gyfer arholiadau TASau/TGAU, gall y disgyblion ysgrifennu llythyron go iawn a’u hanfon at sefydliadau. Rhaglenni teledu – troi’r sain i ffwrdd ac yna gofyn i’r disgyblion i greu’r ddeialog. Rhaglenni teledu – gofyn i’r disgyblion i ddefnyddio ffurfiau’r dyfodol drwy ddyfalu beth fydd yn digwydd nesaf ar ôl gorffen gwylio rhan o raglen deledu.

    55. Syniadau Ychwanegol ASESU Gall y disgyblion dapio eu hunain yn trafod/gweithio ac yna asesu eu hunain yn ôl y cynllun marcio. Gall disgyblion fynd â thapiau ei gilydd adref a’u marcio fel gwaith cartref. Disgyblion i asesu gwaith ysgrifenedig ei gilydd – canolbwyntio ar reol gramadegol penodol neu 3/4 o bwyntiau allweddol. Disgyblion i asesu gwaith dieithr – gan dalu sylw i’r iaith greadigol, gramadeg, cywirdeb a.y.y.b.

    56. GWERTHUSO Yn ôl theorïwyr o fewn y maes, dylid treulio digon o amser ar ddiwedd gwersi yn gwerthuso gweithgareddau o’r fath er mwyn profi eu heffaith. Heb werthusiad, nid yw’r gweithgaredd yn ddigon effeithiol.

    57. DYSGU CYFLYM!

More Related