1 / 10

SGILIAU SYRCAS : SGILIAU AR RADDFA FACH

SGILIAU SYRCAS : SGILIAU AR RADDFA FACH. At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC. Gêm Un. Gêm Ystwytho Corfforol. Clap a Champ

tad-pitts
Download Presentation

SGILIAU SYRCAS : SGILIAU AR RADDFA FACH

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. SGILIAU SYRCAS: SGILIAU AR RADDFA FACH At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC

  2. Gêm Un Gêm Ystwytho Corfforol Clap a Champ • Dewch o hyd i’ch lle eich hun; bydd yr arweinydd yn clapio un waith a phawb yn gwneud ymarferiad corfforol sydd wedi’i gytuno ar gyfer y nifer hwnnw o glapiau: e.e. un clap = naid seren. • Penderfynwch ar bedwar ymarferiad corfforol gwahanol, wedyn bydd yr arweinydd yn clapio unwaith am yr ymarfer cyntaf, ddwywaith am yr ymarfer a ddewiswyd ar gyfer dau glap, deirgwaith am yr ymarfer a ddewiswyd ar gyfer tri chlap a phedair gwaith am yr ymarfer a ddewiswyd ar gyfer pedwar clap.

  3. Gêm Dau Gêm Cydsymud Cylch Taflu a Dal • Sefwch mewn cylch ag un bêl jyglo yn eich llaw chwith, a’ch llaw dde’n wag ac agored. Ar ôl cyfrif tri (un, dau, tri, taflwch) bydd pawb yn taflu’r bêl o’ch llaw chwith i law dde agored y person ar y chwith ichi, ac yn dal y bêl sy’n dod o’r dde â’ch llaw dde, fel bod eich llaw chwith bellach yn wag, a phêl jyglo yn eich llaw dde. • Ceisiwch beidio gadael i’r bêl gwympo. • Newidiwch gyfeiriad fel eich bod yn taflu o’ch llaw dde ac yn dal â’ch llaw chwith. • Gwnewch hyn ychydig o weithiau i’r ddau gyfeiriad.

  4. Gêm Tri Gêm Canolbwyntio Samurai • Sefwch mewn cylch. Mae’r sawl sy’n dechrau yn codi ei ddwylo gyda’i gilydd yn syth uwch ei ben, wedyn yn gwneud cyswllt llygaid â rhywun arall yn y cylch ac yn dod â’i ddwylo i lawr i gyfeiriad y llall fel torri pwmpen â chleddyf samurai (gydag effeithiau sain samurai). • Wedyn bydd y sawl a dderbyniodd yr ergyd yn codi ei ddwylo. Bydd rhai sydd ar y naill ochr a’r llall i’r sawl a dderbyniodd yr ergyd yn rhoi ergyd ochrol gyflym ar y sawl a dderbyniodd yr ergyd (heb wneud dim cyffyrddiad corfforol). • Wedyn ailadroddir y camau hyn, gallwch chwarae fel eich bod yn colli eich lle yn y cylch os ydych chi’n oedi neu’n rhoi ergyd pan na ddylech chi.

  5. Sgìl Un Ffyn Blodyn • Segura – bwrw’r ffon yn ôl a blaen â’r dwylo neu ffyn. Cofiwch ei meistroli ar y llawr cyn ei chodi. • Codi – ymarferwch godi’r ffon flodyn, gyda’r ddwy ffon law i ddechrau, ac arbrofwch â gwahanol ffyrdd o godi. • Fflip – ymarferwch fflipio i’r ddau gyfeiriad a thaflu ar wahanol uchderau.

  6. Sgìl Dau Poi • Planau – gweithiwch ar gymaint o wahanol blanau ag y gallwch, y ddwy ffordd. • Gafael – arbrofwch â poi o wahanol hyd wrth ymarfer. • Symud – ymarferwch droi a hollti amserau’r poi gymaint ag y gallwch i baratoi ar gyfer triciau anoddach.

  7. Sgìl Tri Jyglo • Dwylo cyntaf – ymarferwch daflu’r bêl gyntaf o’r naill law a’r llall a dal dwy mewn un llaw, gan ddechrau â phob llaw ar wahân. • Uchder – ymarferwch daflu’r props jyglo ar wahanol uchderau i ddatblygu mwy o reolaeth wrth daflu. • Triciau – dadelfennwch bob tric i’w ffurf fwyaf sylfaenol a’i feistroli, gan ddechrau gydag un prop ac wedyn ychwanegu mwy o brops yn raddol.

  8. Sgiliau uwch a dilyniant • Ar ôl treulio ychydig o amser yn mynd trwy’r sgiliau sylfaenol, bydd eich athro/athrawes yn siarad â chi i weld pa driciau newydd yr hoffech eu dysgu ac yn cynnig cyngor ynghylch pa dechnegau sydd orau i’w hymarfer. • Wrth ganolbwyntio ar un tric newydd am sesiwn, byddwch yn aml yn gallu ei ddysgu erbyn diwedd y wers, a byddwch yn teimlo ichi gyflawni rhywbeth.

  9. Creu trefniant sylfaenol • Mae creu trefniant yn rhan hanfodol o berfformio syrcas, felly syniad da iawn yw dysgu’r sgiliau sylfaenol nawr. • Perfformiwch y triciau y rydych chi’n gyfforddus â nhw yn gyntaf, cyn gorffen gyda’r tric newydd y buoch chi’n ei ymarfer yn y sesiwn honno.

  10. Dangos yr hyn a ddysgwyd • Mae perfformio’n rheolaidd o flaen cynulleidfa’n hanfodol hefyd wrth ddysgu syrcas. • Cynhaliwch sioe fach ar ddiwedd pob sesiwn lle gall pob un berfformio yn ei dro, yn unigol, fesul dau neu mewn grwpiau. • Bydd hyn yn gwella eich presenoldeb llwyfan yn aruthrol ac yn helpu lleihau nerfau yn y dyfodol. • Mae’n bwysig eich bod yn gefnogol iawn i’ch cyd-berfformwyr yn y rhan hon o’r sesiwn.

More Related