1 / 36

DYSGU AM DDEMENTIA

DYSGU AM DDEMENTIA. AMCANION. Rhoi dealltwriaeth sylfaenol o ddementia i’r gofalwyr. Canlyniadau’r Dysgu. Byddwch yn deall beth yw ystyr y term dementia; yr achosion cyffredin; eu harwyddion a’u symptomau a ffactorau risg perthnasol; a’r hyn y mae pobl yn ei alw’n ddementia ar gam yn aml iawn

nishan
Download Presentation

DYSGU AM DDEMENTIA

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. DYSGU AM DDEMENTIA

  2. AMCANION • Rhoi dealltwriaeth sylfaenol o ddementia i’r gofalwyr.

  3. Canlyniadau’r Dysgu • Byddwch yn deall beth yw ystyr y term dementia; yr achosion cyffredin; eu harwyddion a’u symptomau a ffactorau risg perthnasol; a’r hyn y mae pobl yn ei alw’n ddementia ar gam yn aml iawn • Byddwch yn gwybod beth yw’r gyfraith mewn perthynas â chefnogi pobl gyda dementia a’u gofalwyr • Byddwch yn deall sut y gallai gwahanol bobl ddioddef o ddementia oherwydd ffactorau megis oed, math a lefelau gallu ac anabledd

  4. Canlyniadau’r Dysgu • Byddwch yn deall sut y gallai’r amgylcheddau cymdeithasol a chorfforol alluogi pobl gyda dementia i gyflawni eu potensial a deall a rheoli risgiau • Byddwch yn deall y gwahanol ffyrdd o gwrdd ag anghenion cyfathrebu a blaenoriaethau pobl a hyrwyddo rhyngweithio positif • Byddwch yn ymwybodol o’r Modelau Meddygol a Chymdeithasol o ddementia • Byddwch yn deall rhai agweddau o’r gwasanaethau e.e. cynllunio sy’n canolbwyntio ar y person a sut i gyfranogi • Byddwch yn rheoli eich teimladau eich hun ac yn sicrhau cymorth a chyngor

  5. Beth yw Dementia? • Rydym yn defnyddio’r gair Dementia i ddisgrifio’r symptomau sy’n ymddangos pan fydd yr ymennydd yn cael ei effeithio gan glefydau a chyflyrau penodol. Mae dementia’n broblem raddol a thymor hir yn yr wybyddiaeth, ac mae’n broblem sy’n achosi i waith yr ymennydd fethu. • Mae dementia’n effeithio ar bobl ar wahanol gamau mewn bywyd, yn effeithio ar wahanol rannau o’r ymennydd ac yn digwydd yn gyflymach mewn rhai pobl nag eraill.

  6. Ffeithiau am ddementia • Mae 2/3 o’r bobl sydd â dementia yn ferched • Mae 15,000 o’r rhain yn iau na 65 • Ar hyn or byd, amcangyfrifir bod gan 700,000 o bobl ryw fath o ddementia, sef 1/120 o bobl. • Yn ôl yr amcangyfrifon, bydd gan fwy na 34 miliwn o bobl ledled y byd ryw fath o ddementia erbyn y flwyddyn 2025. (ystadegau gan NICE)

  7. Beth allai gael ei gamgymryd fel dementia? • Nam sy’n ymwneud ag oedran • Iselder • Deliriwm • Mathau eraill o salwch

  8. Rhai mathau cyffredin o ddementia • Clefyd Alzheimer • Clefyd Parkinson gyda Dementia • Dementia fasgwlar • Dementia blaen-dalcennol (PICKS) • Cyrff Lewy • Syndrom Korsakoff

  9. Clefyd Alzheimer • Dyma’r math mwyaf cyffredin o Ddementia • Mae clefyd Alzheimer yn newid strwythur yr ymennydd, sy’n arwain at farwolaeth celloedd yn yr ymennydd ac mae hyn yn amharu ar weithgareddau arferol yr ymennydd. • Mae pobl gyda Chlefyd Alzheimer yn fyr o gemegau hefyd sy’n ymwneud â throsglwyddo negeseuon i’r ymennydd.

  10. Dementia Fasgwlar • Mae Dementia Fasgwlar yn ffurf gyffredin arall o ddementia a chaiff ei sbarduno gan rwystrau yn y gwythiennau (System Fasgwlar) yn yr ymennydd. • Does dim digon o waed ac ocsigen yn cyrraedd y celloedd nerfol felly maen nhw’n marw. • Enw’r mannau ym meinweoedd yr ymennydd sydd wedi marw yn y ffordd yma yw cnawdnychiadau, felly’r enw arall ar ddementia fasgwlar yw dementia amlgnawdychol. • Mae’n haws meddwl am ddementia fasgwlar fel cyfres o strociau sy’n codi o broblemau iechyd eraill, megis pwysedd gwaed uchel, TIA.

  11. Dementia blaen-dalcennol a PICKS • Mewn dementia blaen-dalcennol mae’r niwed wedi’i ganolbwyntio yn rhan flaen yr ymennydd. • Mae’r bersonoliaeth a’r ymddygiad yn cael eu heffeithio’n fwy na’r cof i ddechrau • Clefyd Pick’s yw’r enw am yr hyn a alwn erbyn hyn yn fath o Ddementia Blaen-dalcennol • Fel arfer, mae’n cychwyn rhwng 40 a 70 oed.

  12. Dementia gyda Chyrff Lewy • Mae Dementia gyda Chyrff Lewy yn ffurf gyffredin arall o ddementia a gall effeithio cymaint ag un ymhob deg o bobl sydd â dementia. • Mae Cyrff Lewy yn ymddangos yn y niwronau sy’n dirywio. • Pan fo cyrff Lewy ym mharthau dwfn yr ymennydd sy’n effeithio ar reoli symudiad, maent yn achosi Clefyd Parkinson.

  13. Syndrom Korsakoff • Mae syndrom Korsakoff yn anhwylder yn yr ymennydd sydd fel arfer yn gysylltiedig ag yfed trwm a chamdrin cyffuriau dros gyfnod hir o amser. • Er nad yw hwn yn Ddementia mewn gwirionedd, mae pobl gyda’r cyflwr yma’n methu cofio atgofion tymor byr ac, am nad yw’r person yn edrych ar ôl ei iechyd, gall hwn ddatblygu’n Ddementia Fasgwlar/Clefyd Alzheimer • Mae modd gwella’r math yma o ddementia, yn wahanol i’r mathau eraill sydd wedi bod dan sylw. I wneud diagnosis o hwn mae’n rhaid i’r person fod heb alcohol neu gyffuriau am 6 wythnos.

  14. Risgiau cysylltiedig • Ddim yn symud yn dda – yn golygu bod mwy o duedd i syrthio. • Yn methu barnu’n dda – gall hyn olygu eu bod yn gollwng eitemau, bod eu golwg yn ddrwg ac nad ydynt yn gallu adnabod eitemau. • Yn crwydro allan o’u cartrefi. • Y person yn mynd yn gorfforol ymosodol.

  15. Sut allwn ni reoli’r risgiau? • Cynllunio ymlaen llaw • Adnabod y risgiau a sut i’w hosgoi nhw neu eu lleihau nhw • Sicrhau cefnogaeth

  16. Y model meddygol a chymdeithasol o Ddementia. • Y model meddygol- mae hwn yn creu dibyniaeth, yn cyfyngu ar ddewis, yn dirymu, yn dibrisio, yn cryfhau stereoteipiau a gellir ei ystyried yn ormesol. Mae’r model meddygol yn canolbwyntio ar y nam fel y broblem ac yn canolbwyntio ar ei wella. • Model cymdeithasol – mae gan hwn ganolbwynt personol, mae’n canolbwyntio ar hawliau’r unigolyn, gan roi grym i’r unigolyn yn ei dro, hybu annibyniaeth, cynnig dewis ac edrych ar yr hyn y gall yr unigolyn ei wneud.

  17. Camau Dementia • Bydd profiad pawb o Ddementia’n wahanol, bydd yn datblygu’n araf mewn rhai pobl a gall eraill waethygu’n gyflym. • Mae’r model o gamau Dementia wedi’i seilio ar Glefyd Alzheimer am mai yma un o’r mathau mwyaf cyffredin o dan yr ymbarél dementia.

  18. Gweithgaredd • Meddyliwch am eich perthynas a cheisiwch enwi’r arwyddion/symptomau sydd ganddynt ac enwi’r camau y maen nhw arnynt. • Oes unrhyw newidiadau allai gael eu gwneud i’r gefnogaeth a gânt?

  19. Cynnar Gallech gamgymryd y salwch gan feio henaint neu haint Gallent ymddangos wedi drysu ychydig Efallai y byddent angen rhywfaint o gefnogaeth ychwanegol Newidiadau bach mewn ymddygiad Camau Dementia

  20. Y cam canol Mae’r newidiadau’n fwy amlwg, gallent fynd yn fwy anghofus Bydd angen mwy o gefnogaeth gyda thasgau byw dyddiol Ar y cam yma gall y bobl fynd yn ofidus, blin ac ymosodol yn hawdd iawn Camau Dementia

  21. Hwyr Ni fydd y person yn gallu gwneud tasgau syml Gallai’r person golli’r gallu i gyfathrebu Bydd yn effeithio ar eu gallu i symud, Gallai eu caethiwo mewn gwely neu gadair olwyn Camau Dementia

  22. Strategaethau dementia • Mae’r llywodraeth wedi llunio strategaeth 5 mlynedd genedlaethol o’r enw “Byw’n Dda gyda Dementia”. Mae’r strategaeth yma wedi’i seilio ar argymhellion gan ddau gorff sy’n gweithio gyda’r adran iechyd, sef y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol, a’r Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth.

  23. Y ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i bobl sy’n dioddef o ddementia a’u gofalwyr • Y Ddeddf Hawliau Dynol 1998 • Y Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 • DOLS (Trefniadau diogelu rhag colli rhyddid) • Y Ddeddf Atwrneiaeth Barhaus 1985 • Y Ddeddf Gofal Cymunedol 1990 • Y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 • Y Ddeddf Safonau Gofal 2000 • Y Ddeddf Diogelu Data1998 • Y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 • Y Ddeddf Gofalwyr (Cyfle Cyfartal) 2004

  24. Y Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 • Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn darparu fframwaith statudol i rymuso ac amddiffyn pobl sy’n agored i niwed sy’n methu gwneud eu penderfyniadau eu hunain. Mae’n dangos yn glir pwy sy’n gallu gwneud penderfyniadau, ym mha sefyllfaoedd a sut y dylent wneud hyn. • Mae’n galluogi pobl i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer cyfnod pan fyddent efallai wedi colli’r gallu.

  25. D.O.L.S. • Mae rhai pobl sydd naill ai yn yr ysbyty neu’n byw mewn cartrefi gofal yn methu gwneud eu penderfyniadau eu hunain am nad oes ganddynt y gallu meddyliol i wneud hynny. • O dan y ddeddf yma mae’n rhaid gwneud asesiad os oes rhywun yn colli eu rhyddid. Bydd asesydd annibynnol yn gwneud hyn a bydd yn asesu gallu’r person ac yn penderfynu a yw’r colli rhyddid yma er budd gorau’r person. Bydd amserlen ar gyfer adolygu hyn. • Mae’r gallu’n mynd a dod weithiau ac mae angen asesu’r unigolyn ar yr amser penodol hwnnw

  26. Cynlluniau gofal Os yw eich perthynas yn derbyn gwasanaeth gan yr Adran Gofal Cymdeithasol, dylid llunio Cynllun Gofal. Dylai’r gofalwyr gymryd rhan ac isod mae cwestiynau i’w gofyn i chi’ch hun am hyn:- • Pa wybodaeth mae hi’n bwysig ei rhoi i ddarparwyr gwasanaeth i’w galluogi i gefnogi ein perthnasau’n gywir? • Pwy ddylai fod yn cyfranogi yn y cynllun gofal ar gyfer ein perthnasau? • Pam fo asesiadau risg yn bwysig i unigolion? • Pam ei bod hi’n bwysig asesu gallu meddyliol?

  27. Sut allwn ni helpu? • Pa dasgaudyddiolallai’rperthnasaugyda dementia a gefnogwneucaelynanodd. • Meddyliwch am y gefnogaeth y byddenteihangenargyferpob un a’rcymhorthion y gallwcheudefnyddioi’wgalluogiigadwrhywfainto’uhannibyniaeth.

  28. Teulu ac eraill • Bydd cefnogi aelodau’r teulu ac eraill, megis ffrindiau, i ddeall Dementia a’r arwyddion/symptomau yn eu paratoi ac hefyd yn rhoi gwell dealltwriaeth iddynt o’r math o gefnogaeth y mae gwasanaethau’n eu rhoi i’w perthnasau. • Dylai gofalwyr/teulu/eraill fod yn ymwybodol hefyd o’u hawliau a’r gefnogaeth y gallent gael gafael arni.

  29. Cyfathrebu – rhai cwestiynau i’w gofyn i chi’ch hun • Pa mor bwysig yw cyfathrebu? • Ydych chi’n teimlo ein bod yn cyfathrebu’n effeithiol gyda’r berthynas a gefnogwn? • Pa ddulliau o gyfathrebu ydyn ni’n eu defnyddio? • A yw ein perthnasau’n cael y cyfle i gyfathrebu eu hanghenion a’u dewisiadau?

  30. Lleihau Gofid • Dydy hi ddim bob amser yn amlwg beth yw’r rhesymau am y gwahanol ymatebion ac ymddygiad a geir gan bobl sy’n dioddef o ddementia. Efallai eu bod yn ymwneud yn rhannol â datblygiad y dementia ac yn rhannol oherwydd gofid. • Er mwyn i ni leihau gofid, mae angen i ni sicrhau ein bod yn cydnabod ei fod yn bodoli.

  31. Dyletswydd Gofal: Y Cod Ymarfer Mae staff Gofal Cymdeithasol wedi cofrestru gyda Chyngor Gofal y Llywodraeth ac maent wedi’u cyfyngu gan ei God Ymarfer. Mae’n rhaid iddynt:- • amddiffyn hawliau, hybu dewis a sicrhau fod dewisiadau’r unigolyn yn cael parch. • ennill a chynnal ymddiriedaeth unigolion i gynnal perthnasoedd gwaith. • cadw unigolion yn ddiogel rhag niwed.

  32. Dyletswydd Gofal: Cod Ymarfer • Mae’n rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol helpu unigolion i fod yn annibynnol a chymryd risgiau mewn ffordd ddiogel. • Mae’n rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol wneud y gorau gallent i sicrhau bod unigolion yn derbyn cefnogaeth yn y ffordd orau bosib ac i’r safon uchaf sydd wedi’i nodi yn y cod ymarfer.

  33. Yr Ymennydd • Mae gan yr ymennydd nifer o rannau, a chan bob un ei bwrpas eu hun. • Gall yr ymennydd ddirywio ar wahanol amseroedd, ar wahanol gyflymder a bydd pob unigolyn yn colli rhywfaint o reolaeth ar y rhannau yma.

  34. 3 prif ddarn yr Ymennydd • Y llabedau blaen yw ein rheolydd, gall niwed i’r llabedau blaen arwain at sefyllfa lle nad yw’r unigolyn yn ymwybodol bellach o’r ymddygiad y mae eraill yn eu hystyried yn anaddas. • Bydd niwed i’r llabedau parwydol oherwydd Dementia yn achosi i’r unigolyn gael anhawster gydag iaith, eu golwg neu gyda gwybod beth yw pwrpas pethau.

  35. 3 prif ddarn yr Ymennydd • Llanedau’r arlais – mae niwed i’r rhan hwn o’r ymennydd yn achosi i’r unigolyn gael problemau gyda’r cof tymor byr ac, mewn amser, gallai’r atgofion tymor hir bylu hefyd wrth i’r niwed gynyddu ymhellach i ranbarthau dyfnach yr ymennydd

  36. Pedwar rhan • Chwith basal- prosesu, arferion a chofio • Dde basal – greddf, empathi a rhythm • Chwith blaen- rhesymeg a chanlyniadau • Dde blaen- golwg a chreadigedd

More Related