1 / 17

Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben.

Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben. Mae GCaD Cymru yn dymuno cydnabod cefnogaeth garedig ac amhrisiadwy Cymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain . Hefyd dymunwn ddiolch i Paul Day am ganiatáu i ni ddefnyddio ffotograffau o Gerflun Coffa Brwydr Prydain.

marnie
Download Presentation

Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben.

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben.

  2. Mae GCaD Cymru yn dymuno cydnabod cefnogaeth garedig ac amhrisiadwy Cymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain. Hefyd dymunwn ddiolch i Paul Day am ganiatáu i ni ddefnyddio ffotograffau o Gerflun Coffa Brwydr Prydain. “Erioed yn hanes gwrthdaro rhwng dynolryw y bu dyled cynifer i gyn lleied mor fawr.” Winston Churchill Eglurhad Dangos y Sioe Sleidiau

  3. Mae Brwydr Prydain am fwy na hanes y peilotiaid dewr oedd yn peryglu eu bywydau bob dydd i amddiffyn Ynysoedd Prydain rhag rhengoedd o awyrennau bomio’r Luftwaffe, a’r awyrennau ymladd, cyflym oedd yn eu hebrwng. Mae’n stori am genedl yn ymdrechu’n gydweithredol i hybu cynhyrchu defnyddiau rhyfela ac i sefyll yn y bwlch i amddiffyn y wlad. Roedd ysbryd y bobl Brydeinig a’u profiadau yn ystod y cyfnod hwn, ynghyd â’u penderfyniad i ailddyblu eu hymdrechion a pheidio ag ildio i fygythiad, yr un mor hynod â champau chwedlonol peilotiaid y Llu Awyr Brenhinol (RAF).

  4. Oni bai am ddewrder y peilotiaid a Chriw Daear yr RAF does dim amheuaeth y byddai’r wlad wedi cael ei threchu ym Mrwydr Prydain. Oni bai am ddyfais radar byddai’r peilotiaid wedi cael trafferth cyfarfod â’r gelyn wrth i awyrennau’r Luftwaffe gyrraedd yr arfordir. Ar ben hynny, oni bai am ddewrder a phenderfynoldeb pobl Ynys Prydain ac areithiau Winston Churchill yn eu hysbrydoli, ni fyddai’r peilotiaid wedi gallu cyflawni eu gwaith mor hynod o effeithiol. Mae’r gofeb a’r sioe sleidiau hon yn cael eu cyflwyno i’r bobl ddewr hynny a’r gweithredoedd arwrol a gyflawnwyd ganddynt yn ystod yr awr dyngedfennol honno.

  5. Cofeb Brwydr Prydain Mae’r sioe sleidiau hon yn chwarae’n awtomatig

  6. Gorffennaf 1940 - mae’r Gwylwyr yn cadw llygad barcud ar yr awyr, gan adrodd unrhyw dystiolaeth o gyrch gan awyrennau’r gelyn yn ôl i’r Ystafell Ymgyrch y Sector.

  7. Mewn ystafell danddaearol mae plotyddion Llu Awyr Cynorthwyol y Menywod (WAAF) yn defnyddio marcwyr cod lliw a map mawr o Ynysoedd Prydain i nodi cyrch yr awyrennau.

  8. Mae peilotiaid yr RAF yn torheulo yn yr haul, gyda’u parasiwtiau a siacedi achub Mae-West wrth law, yn aros am yr alwad i Sgramblo.

  9. Yn eu cartrefi mae’r bobl gyffredin yn disgwyl yn nerfus ac yn dyfalu pryd fydd awyrennau bomio’r Luftwaffe yn cyrraedd uwchben eu pentrefi a’u trefi.

  10. Yn y ffatrïoedd mae merched yn helpu i gynhyrchu’r awyrennau sy’n hollbwysig ar gyfer amddiffyn Ynysoedd Prydain.

  11. Yn yr awyr uwchben Prydain mae ymryson ffyrnig wrth i beilotiaid awyrennau Spitfire a Hurricane herio peilotiaid profiadol y Luftwaffe.

  12. Ar y meysydd awyr mae Criwiau Daear yn gweithio’n ddiflino i ailarfogi a llenwi tanciau petrol yr awyrennau ymladd, er mwyn gallu eu hedfan unwaith eto i’r frwydr.

  13. Mae gynwyr gwrth-awyrennol yn ceisio chwalu rheng arall o awyrennau bomio’r Almaen wrth iddynt anelu am ddinas a’i thrigolion.

  14. Mae cynifer o awyrennau bomio, nid oes modd eu saethu i gyd i lawr. Yn ystod y Blitz mae strydoedd Llundain yn llawn mwg a rwbel.

  15. Unwaith mae seiren yn cyhoeddi fod cyrch y gelyn drosodd a’i bod yn ddiogel mentro allan mae Wardeiniaid yr ARP yn cloddio am oroeswyr sydd wedi’u claddu yn yr adfeilion.

  16. ErbynMisHydref 1940 roeddBrwydrPrydaindrosoddiraddauhelaeth. Doedd y Luftwaffe ddimwedidinistrio’r RAF ac felly bu’nrhaidi Hitler roi’rgoraui’rsyniad o laniomilwyrararfordirLloegr. Foddbynnagroedd y bomiomewntrefi a dinasoeddynparhau. Mae diolchgarwch pob cartref ar ein hynys, yn ein hymherodraeth, ac yn wir ar draws y byd, heblaw yn nhrigfannau’r euog, yn ymestyn at y peilotiaid Prydeinig hynny nad ydynt yn cael eu blino gan y grymoedd sy’n eu herbyn, sy’n ddiflino wrth wynebu her barhaus a pherygl marwol, ac sydd, drwy eu gallu a’u hymroddiad yn newid cwrs y Rhyfel Byd. Erioed yn hanes gwrthdaro rhwng dynolryw y bu dyled cynifer i gyn lleied mor fawr. Winston Churchill, Awst 1940.

  17. DIWEDD

More Related