1 / 10

Nodyn i’r athro:

Nodyn i’r athro:. Yma mae Cyflwyniad PowerPoint ar sut i fynd ati i gyflwyno’r sgil o baragraffu i’r disgyblion. Mae’n ofynnol i ddisgyblion sy’n gweithio ar Lefel 4 drefnu eu gwaith mewn paragraffau:

fay
Download Presentation

Nodyn i’r athro:

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Nodyn i’r athro: Yma mae Cyflwyniad PowerPoint ar sut i fynd ati i gyflwyno’r sgil o baragraffu i’r disgyblion. Mae’n ofynnol i ddisgyblion sy’n gweithio ar Lefel 4 drefnu eu gwaith mewn paragraffau: “Bydd y disgyblion yn defnyddio paragraffau i gyflwyno’u gwaith yn drefnus ac mewn dilyniant i bwrpas y darllenydd.” (Targedau cyrhaeddiad: ysgrifennu Cwriwclwm Cenedlaethol 2008) Cofier bod modd newid y cyflwyniad hwn drwy ychwanegu testunau mwy addas ar gyfer eich dosbarth, e.e. rhan o nofel a astudir neu unrhyw ffurf arall, megis llythyr. Mae modd troi at yr uned waith i ddewis tasgau sy’n cyd-fynd â’r cyflwyniad yn ogystal â dewis rhai sy’n dilyn ymlaen ymhellach – mae mwy o ddewis yno nag sydd yma. Pob hwyl gyda’r addysgu!

  2. Sutmaeparagraffu?

  3. Beth yw paragraff? • Grŵp o frawddegau gyda’i gilydd yw paragraff. • Mewn paragraff mae’r brawddegau yn sôn am yr un testun neu agwedd. A fedrwch chi rannu’r brawddegau canlynol yn baragraffau?

  4. Rhowch A neu B yn y lle cywir pan fyddwch yn meddwl bod y brawddegau yn perthyn i’r un paragraff. Mae tair brawddeg yn perthyn i’r paragraff cyntaf a dwy frawddeg yn unig yn yr ail baragaraff.

  5. Pam mae angen paragraffu? • Mae paragraffau yn rhoi trefn i’ch gwaith.

  6. Pryd dylid dechrau paragraff newydd? • newid lle • newid person • siaradwr newydd • newid amser • pan fydd rhywbeth newydd yn digwydd • pan fydd problem yn cael ei chyflwyno

  7. Beth yw cynnwys y paragraffau? • Darllenwch ran agoriadol o chwedl Dwynwen yn ofalus - ddwy neu dair o weithiau. • Ail-ddarllenwch y pwyntiau ynglŷn â phryd dylid dechrau paragraff newydd. • Trafodwch gyda phartner i benderfynu ymhle mae angen paragraffau newydd.

  8. Darllenwch y stori a phenderfynwch ymhle mae angen dechrau paragraff newydd. Amser maith yn ôl, ym Mrycheiniog yn ne ddwyrain Cymru, roedd yna frenin o’r enw Brychan yn byw. Roedd gan Brychan dri deg chwech o blant, sef un ar ddeg o feibion, a dau ddeg pump o ferched. Roedd merched Brychan yn hynod o dlws. Gan eu bod mor dlws, roedd gwŷr ifainc o bell ac agos eisiau’u priodi. Ond roedd Brychan yn ddoeth iawn. Doedd e ddim am i’w ferched briodi dynion balch a difeddwl, felly byddai’n gyrru llawer i ffwrdd. Ymhell i’r gogledd, roedd tywysog o’r enw Maelon Dafodrill yn byw. Un diwrnod roedd Maelon yn edmygu’i hun yn y drych. “Mae’n bryd i fi gael gwraig,” meddai, gan anwesu’i farf ddu. “Yn enwedig gwraig ddel.” Felly, heb oedi eiliad yn rhagor, galwodd Maelon ei ddynion ynghyd, ac i ffwrdd â nhw i Frycheiniog. Ar ôl marchogaeth yn galed am ddau ddiwrnod, daeth y criw i olwg llys Brychan yn Nhalgarth, a sefyll yn ymyl nant fach. “Arhoswch fan hyn!” gorchmynnodd y tywysog i’w ddynion, a chan neidio o’r cyfrwy, fe ddilynodd y nant drwy goedwig fechan nes iddo gyrraedd pwll clir, llonydd. Ar lan y pwll, penliniodd Maelon a golchi pob mymryn o lwch o’i wallt a’i farf. “A, dyna welliant!” meddai, gan godi’i ben ac ysgwyd y dŵr o’i wallt. “Nawr dwi’n barod i hawlio merch dlysaf y Brenin Brychan.”

  9. Sut mae ysgrifennu mewn paragraffau? • Rhaid dechrau pob paragraff newydd lled bys bawd o ochr y dudalen.

  10. Rhowch gynnig arni! Morwyn Llyn y Fan Yng nghanol mynyddoedd yr hen Sir Gaerfyrddin y mae llyn unig a thawel a elwir yn Llyn y Fan Fach. Mewn ffermdy o’r enw Blaensawdde, heb fod ymhell o’r llyn, fe drigai bachgen ifanc gyda’i fam weddw. Ffermwr oedd yntau, fel ei dad a oedd wedi marw ers blwyddyn. Un prynhawn braf ar ddechrau Awst, pan oedd e’n gofalu am y gwartheg yn ymyl llyn, fe ddychmygodd iddo weld wyneb merch yn y dŵr! Ond pan edrychodd yn fwy manwl, ni allai weld dim ond y dŵr tywyll a’r llus gwyrdd yn ei waelod. Ond wrth fynd adref y noson honno, fe deimlai’n siŵr nad wedi breuddwydio na dychmygu’r oedd. Roedd e wedi gweld wyneb merch, a hwnnw’n wyneb tlws iawn. Trannoeth dychwelodd i lan y llyn gyda’r gwartheg. Yr oedd yn ddiwrnod braf, a’r haul yn disgleirio ar wyneb y dŵr. Edrychodd yn fanwl i bob cwr o’r llyn i weld a oedd sôn am yr wyneb tlws hwnnw a welodd y diwrnod cynt. Ond roedd wyneb y llyn yn wag ac yn llonydd. Trodd ei ben i weld a oedd y gwartheg yn iawn, a heb grwydro ymaith o’i olwg. Pan edrychodd eto ar wyneb y llyn, dyma lle roedd hi, yn eistedd yn yr hesg, yn cribo’i gwallt a chrib euraid a fflachiai yn yr haul. Nid oedd y bachgen erioed wedi gweld neb mor brydferth â hi. Estynnodd ei freichiau allan, gan obeithio y deuai hi’n nes.

More Related