1 / 4

Nodiadau i Gynghorwyr

Nodiadau i Gynghorwyr . Nodiadau Athro/Cynghorydd. Cyflwyniad a Faint ydych yn ei wybod? - Sleidiau 1-5 Bydd yr wybodaeth a'r ymarferion yn y canllaw hwn yn cynnig trosolwg i fyfyrwyr o brif feysydd

lenora
Download Presentation

Nodiadau i Gynghorwyr

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Nodiadau i Gynghorwyr

  2. NodiadauAthro/Cynghorydd Cyflwyniad a Faint ydych yn ei wybod? - Sleidiau 1-5 Bydd yr wybodaeth a'r ymarferion yn y canllaw hwn yn cynnig trosolwg i fyfyrwyr o brif feysydd cyllid i fyfyrwyr, gan gyffwrdd ar bynciau megis rheoli arian, cyllidebu ac ad-daliadau, y byddant oll yn hanfodol wrth helpu sicrhau pontio esmwyth i addysg uwch. Cyn symud ymlaen i'r prif gynnwys, dylech annog y myfyrwyr i ateb y cwestiynau ar sleidiau 4-5 i brofi Beth maent yn ei wybod yn barod am gyllid i fyfyrwyr ac ar ôl iddynt gwblhau'r canllaw, i fynd yn ôl i weld sut wnaethant. Beth yw Cyllid Myfyrwyr Cymru? – Sleidiau 6-7 Mae'r adran hon yn cynnig cyflwyniad byr i Gyllid Myfyrwyr Cymru (CMC). Y negeseuon allweddol i'w cyfleu yma yw bod CMC yn rhan o'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ehangach, a bod y cyllid a gynigir yn cael ei gefnogi gan y llywodraeth, felly nid yw yr un fath â benthyciad masnachol, ac mae amrediad o gymorth ar gael i fyfyrwyr cymwys wrth iddynt astudio i helpu talu eu ffioedd dysgu a'u costau byw. Pa gyllid sydd ar gael? – Sleidiau 8-17 Trosolwg o'r prif fathau o gyllid i fyfyrwyr sydd ar gael gan gynnwys Benthyciadau Ffioedd Dysgu a Chymorth Cynhaliaeth. Un o'r pethau cyntaf i'w nodi yw bod angen i fyfyrwyr fodloni meini prawf penodol i fod yn gymwys i gael cymorth gan CMC. Bydd hyn yn gysylltiedig gyda'u cwrs, eu prifysgol/coleg, gweithgarwch astudio AB blaenorol, eu hamgylchiadau personol a'u manylion preswylio. O blith y rhain, efallai mai cymhwystra personol yw'r un y bydd angen ei esbonio ymhellach. Mae myfyriwr yn debygol o fod yn gymwys yn bersonol: • os yw’n ddinesydd o'r DU sy'n 'preswylio fel arfer' yn y DU ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf ei gwrs • os yw wedi bod yn byw yn y DU am y dair blynedd yn union cyn y dyddiad hwn, a heb fod yn gwneud hynny er mwyn cael addysg amser llawn yn unig neu'n bennaf • os yw’n meddu ar 'statws preswylydd sefydlog' - sy'n golygu y gall y myfyriwr fyw'n barhaol yn y DU heb i'r Swyddfa Gartref osod unrhyw gyfyngiadau ar hyd y cyfnod y gall aros Efallai y bydd myfyrwyr yn gymwys i gael cyllid hefyd os byddant yn meddu ar statws preswylio o blith y canlynol: ffoadur; Diogelwch Dyngarol (DD) (rhaid bod hyn o ganlyniad i gais am loches a fu'n aflwyddiannus); gweithiwr mudol; plentyn dinesydd o'r Swistir, dinesydd UE neu blentyn gweithiwr o Dwrci yn y DU. Mae gweddill yr adran yn esbonio elfennau craidd cyllid i fyfyrwyr mewn ffordd fanylach, gan gyflwyno Bwrsariaethau GIG ac astudio mewn SAUau preifat, y gallent fod yn berthnasol i rai myfyrwyr. ? Atebion i gwestiynau'r cwis – Sleidiau 4-5 C1 - Benthyciadau a grantiau i helpu talu ffioedd dysgu a chostau byw C2 – Cyn gyned ag y bo modd C3 – Eich Incwm yn y Dyfodol C4 - £21,000 i Yn ôl y gofyn, gellir gweld gwybodaeth bellach am gymhwystra i gael cyllid i fyfyrwyr ar-lein trwy droi at www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk neu ffonio CMC ar 0300 200 4050

  3. NodiadauAthro/Cynghorydd O'r wybodaeth hon a'r ymarfer hwn, dylai myfyrwyr wybod nawr am amrediad y cyllid craidd sydd ar gael, a beth bynnag fo incwm y cartref (ar yr amod eu bod yn gymwys), bod cymorth ar gael i dalu eu costau byw a'u ffioedd dysgu. Pan fo hynny'n berthnasol, dylid annog myfyrwyr i rannu'r wybodaeth hon gyda'u rhieni! Cymorth ychwanegol – Sleidiau 20-22 Mae angen i fyfyrwyr y mae ganddynt anableddau, cyflyrau iechyd hirdymor, cyflyrau iechyd meddwl neu anawsterau dysgu penodol, plant neu oedolion dibynnol fod yn ymwybodol o'r cymorth ychwanegol sydd ar gael iddynt, a gyflwynir yn yr adran hon, ynghyd â bwrsariaethau ac ysgoloriaethau. Bydd nifer o brifysgolion a cholegau AB yn cynnig amrediad o fwrsariaethau ac ysgoloriaethau i'w myfyrwyr, y gallent fod yn werth miloedd o bunnoedd. Er mwyn sicrhau na fyddant yn colli'r cyfle, mae angen gwneud ymchwil ynglŷn â’r rhain yn gynnar – beth ydynt, sut i fod yn gymwys a sut a phryd i ymgeisio. Rhan 2 Ceisiadau ac Ar ôl Hynny, Sut a Phryd i ymgeisio – Sleidiau 25-29 Tudalen sy'n cynnig cyngor defnyddiol cyffredinol ynghylch sut a phryd i wneud cais am gyllid i fyfyrwyr. Y negeseuon allweddol i'w cyfleu yw bod angen i fyfyrwyr ymgeisio ar-lein cyn gynted ag y bo modd er mwyn sicrhau bod eu cyllid yn barod erbyn y byddant yn cychwyn eu cwrs. Nid oes angen eu bod wedi cael cynnig wedi'i gadarnhau cyn ymgeisio, gan sicrhau y darperir yr holl dystiolaeth ofynnol ynghylch incwm a manylion personol. Os ydych yn helpu myfyrwyr i gofrestru ac ymgeisio, dylech sicrhau eu bod yn gwneud nodyn o fanylion diogelwch eu cyfrif a'u Cyfeirnod Cwsmer, a'u bod yn ei gadw mewn man diogel!! Rheoli eich arian – Sleidiau 30-32 Er y bydd cychwyn addysg uwch yn ymddangos yn rhywbeth pell i ffwrdd i nifer o fyfyrwyr, bydd yn digwydd yn gynt na’r disgwyl, felly er mwyn paratoi eu hunain ar gyfer y costau y byddant yn eu hwynebu, mae'n bwysig eu bod yn dechrau ystyried sut fyddant yn rheoli eu harian. Un ffordd o wneud hyn yw cynllunio cyllideb sy'n rhestru eu treuliau a'u hincwm, a nod yr adran hon yw gwneud hyn, yn ogystal â darparu gwybodaeth arall ynghylch cyfrifon banc myfyrwyr, swyddi rhan-amser ac NUS extra. Gweithgarwch cyfrifo – Sleidiau 18-19 Er mwyn gwneud yr wybodaeth yn fwy perthnasol i'r myfyriwr, gall ddefnyddio'r cyfleuster cyfrifo ar www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk a'r canllaw cychwyn cyflym i gael amcangyfrif cychwynnol o'r cymorth y bydd yn gymwys i'w gael a gwneud nodyn o'r manylion yn y tabl a ddarparwyd. A A A Gall myfyrwyr ddefnyddio gwefannau prifysgolion/colegau a www.scholarship-search.org.uk i fwrw golwg ar beth sydd ar gael gan eu dewisiadau, a nodi'r manylion yn y blychau a ddarparwyd. Gall myfyrwyr ddefnyddio'r dudalen cyllidebu i gael syniad o'u costau tebygol, a thrwy ddefnyddio gwefannau prifysgolion, unistats, push.co.uk a gwefannau eraill, gallant ddechrau nodi rhai o'r costau fel rhent, pris Trwydded Deledu neu gerdyn Rheilffordd 16-24 ac ati. Yna, gallant gymharu'r rhain gyda'r amcangyfrifon incwm o'r cyfleuster cyfrifo a'r ymarferion chwilio am fwrsariaethau/ysgoloriaethau.

  4. NodiadauAthro/Cynghorydd Sut mae ad-dalu benthyciad i fyfyrwyr? – Sleidiau 33-35 Yn ddelfrydol, bydd myfyrwyr yn gwneud dewis prifysgol ar sail cynnwys y cwrs a'u rhagolygon gyrfa yn y dyfodol, er gallai rhai yn seilio'u penderfyniad ar pa rai sy'n codi ffioedd dysgu is, gan eu bod yn tybio y byddant yn rhwym i ddyled na fyddant yn gallu ei rheoli am weddill eu hoes. Nid oes rhaid i hyn ddigwydd os bydd y myfyriwr a'r unigolion allweddol sy'n gwneud penderfyniadau gyda’r myfyriwr yn deall sut y mae'r system ad-dalu yn gweithio, a bydd yr adran hon yn dechrau rhoi sylw i hyn. Mae'r wybodaeth hon yn disgrifio pryd fydd myfyriwr yn 'dechrau ad-dalu', sut y cyfrifir ei ad-daliad misol ar sail 9% o’i incwm yn y dyfodol, ac na wneir unrhyw ad-daliadau nes bydd yn ennill dros £21,000 y flwyddyn gros. Mae'r tabl yn dangos ad-daliadau enghreifftiol ar sail lefelau incwm amrywiol. Ac eithrio rhoi cyd-destun i'r ad-daliadau misol, y negeseuon allweddol fydd angen i fyfyrwyr eu cael o'r adran hon yw y bydd ad-daliadau yn gysylltiedig â'r swm y byddant yn ei ennill bob amser, ac nid y swm y gwnaethant ei fenthyca, ac os bydd eu hincwm yn gostwng dan y trothwy ar unrhyw adeg, y bydd eu had-daliadau yn stopio a bod cyfnod 'dileu' o 30 o flynyddoedd ar eu had-daliadau, sy'n cychwyn pan fyddant yn dechrau ad-dalu. Llog ar eich benthyciad – Sleid 36 Un maes arall sy'n peri pryder i fyfyrwyr a'u rhieni yw'r llog sy'n gysylltiedig â'r benthyciad. Codir llog o'r diwrnod pan fyddwn yn gwneud yr ad-daliad cyntaf nes bydd y benthyciad yn cael ei ad-dalu'n llawn neu'n cael ei ddileu. Mae'r llog a godir yn gysylltiedig â'r Fynegai Prisiau Manwerthu (RPI) a bydd yn amrywio. Yn ystod y cyfnod astudio a nes byddant yn dechrau ad-dalu, ychwanegir llog yn ôl RPI + 3%, gan symud ymlaen, os byddant yn ennill £21,000 neu'n llai, y gyfradd fydd RPI yn unig, os byddant yn ennill rhwng £21,000 a £41,000, bydd yn RPI a hyd at 3% nes byddant yn ennill dros £41,000, pan fydd y gyfradd yn RPI +3%. Mae gwefan www.studentloanrepayment.co.uk yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ad-dalu benthyciadau, gwybodaeth am gyfraddau llog ac ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn cael gwybod sut mae ad-daliadau yn gweithio os byddant yn byw ac yn gweithio mewn gwlad dramor ar ôl gorffen yn y brifysgol. A A Ar sail incwm o £30,000 y flwyddyn, y swm a ddefnyddir i gyfrifo ad-daliad ei fenthyciad fyddai £9,000, gan mai dyma’r swm a enillir dros £21,000. Ffordd sylfaenol o gyfrifo'r ad-daliad misol fyddai rhannu £9,000 gyda 12 sy’n rhoi £750 a chyfrifo 9% o hwnnw (750 x 0.09), sydd yn ad-daliad misol o £67.50, a fyddai'n cael ei dalgrynnu i lawr i £67. Rhestr gyfeirio myfyriwr Gall myfyrwyr ddefnyddio'r rhestr gyfeirio hon i'w hatgoffa o'r camau allweddol wrth ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr a helpu sicrhau bod eu cyllid yn barod pan fyddant yn cychwyn eu cwrs.

More Related