1 / 14

Mabwysiadu a gofalu am eich bylbiau

Mabwysiadu a gofalu am eich bylbiau. Helo Gyfeillion!. Llythyr oddi wrth Athro’r Ardd. Diolch am gytuno i’m helpu! Rwyf wedi anfon bylbiau Cennin Pedr, Crocws a photyn planhigyn i bob un ohonoch. Cyn i chi fedru plannu eich bylbiau bach, rhaid i chi: Ddysgu sut i ofalu am eich bylb.

thetis
Download Presentation

Mabwysiadu a gofalu am eich bylbiau

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Mabwysiadu a gofaluam eich bylbiau

  2. Helo Gyfeillion! Llythyr oddi wrth Athro’r Ardd • Diolch am gytuno i’m helpu! Rwyf wedi anfon bylbiau Cennin Pedr, Crocws a photyn planhigyn i bob un ohonoch. • Cyn i chi fedru plannu eich bylbiau bach, rhaid i chi: • Ddysgu sut i ofalu am eich bylb. • Ei fabwysiadu. • a gwneud label ar gyfer eich potyn.

  3. Mabwysiadu eich bylbiau bach • Mae bwlb fel baban planhigyn. Mae angen eich cymorth chi arno fe i dyfu. • Os na fyddwch chi’n edrych ar ôl y bwlb, mae’n bosibl na fydd e’n tyfu nac yn blodeuo yn y gwanwyn. • Cyn mabwysiadu eich bylbiau bach, rhaid i chi ddysgu sut i ofalu am eich bwlb…

  4. Eich cenhinen Bedr • Cenhinen Bedr yw’r mwyaf o’ch bylbiau. • Dyma’r ail genhinen Bedr gynhenid i Ynysoedd Prydain. • Mae’n brin iawn heddiw. • Mae ganddi liw melyn euraidd ac mae ei ffurf yn berffaith. • Uchder: 30-40cm. • Yn ei blodau: Chwe/Mawrth/Ebrill. ‘Tenby’ Daffodil(narcissus obvallaris) Roedd cenhinen Bedr Dinbych-y-pysgod yn gyffredin iawn yn y caeau o gwmpas y dref. Mae’n brin iawn heddiw achos mae’r caeau gwledig yn diflannu i greu lle ar gyfer tai a ffyrdd newydd. Bu bron i bobl Oes Fictoria achosi iddynt ddiflannu’n llwyr o Gymru. Roedden nhw mor hoff ohonynt eu bod yn eu casglu a’u hanfon ar drenau i’w gwerthu yn Llundain.

  5. Eich Crocws • Y bwlb lleiaf yw’r crocws. • Dyma un o’r crocysau sy’n blodeuo’n gyntaf bob blwyddyn. • Daw’n wreiddiol o ddwyrain Ewrop. • Lliw: porffor gydag anther a stigma oren. • Taldra: hyd at 10 cm. • Blodeuo: Ionawr/Chwefror. Crocws Crocus tommasinianus Enwyd y planhigyn ar ôl y botanegydd enwog Muzio G. Spirito de Tommasini (1794-1879)

  6. Bylbiau, bylbiau sbâr a bylbiau dirgel Rhoddir i bob ysgol: • 1 bwlb daffodil, bwlb crocws a phot / i bob disgybl • 4 bwlb daffodil, bwlb crocws a phot sbâr • 5 bwlb dirgel ac 1 pot

  7. Sut i ddefnyddio eich potiau sbâr Defnyddiwch un o'r potiau sbâr ar gyfer y bylbiau dirgel a'i labelu gyda gofynnod. Pan fydd eich bylbiau dirgel yn blodeuo rhowch wybod i'r blog-blodau gan ddweud beth ydynt yn eich barn chi www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/1714/ Defnyddiwch weddill potiau'r bylbiau sbâr fel mynnwch chi. Ewch i'r adran dogfennau a lawrlwythiadau ar wefan Bylbiau'r Gwanwyn i weld syniadau ac arbrofion ar gyfer eich bylbiau sbâr. Anfonwch eich straeon a’ch lluniau i’n blog bylbiau a dilynwch Athro’r Ardd ar Twitter! www.twitter.com/Professor_Plant

  8. Sut i ofalu am eich bylbiau Allwch chi enwi rhai pethau sydd eu hangen ar fwlb neu blanhigyn?

  9. Y pethau sydd eu hangen ar blanhigion • Lle i dyfu • Golau • Dwr • Gwres • Maeth • Aer • Amser i dyfu

  10. Rhowch ddwr i’r bylbiau • Mae angen dwr ar blanhigion i fyw! Mae dwr yn mynd â maetholion i wahanol rannau’r planhigyn. Bydd y planhigyn yn marw os caiff gormod neu rhy ychydig o ddwr. • Rhowch ddwr iddo bob dydd Llun, Mercher a Gwener. • Dylai’r pridd fod yn llaith ond nid yn rhy wylb. • Trafodwch: Sut fyddwch chi’n dyfrhau eich planhigion?

  11. Trafodwch ble i roi eich planhigion yn eich ysgol… Dewiswch ardal sydd: Yn yr awyr agored Yn heulog Yn hawdd i’w ddyfrhau Yn ddiogel rhag fandaliaid a phlant yn chwarae.

  12. Mabwysiadwch eich bylb bach. Enwch eich bylbiau bach a llofnodwch eich tystysgrif mabwysiadu! Gallwch gael tystysgrif gwag oddi ar y wefan: www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau

  13. Gwnewch label ar gyfer eich bylbiau. • Defnyddiwch yr enghraifft oddi ar y wefan neu gwnewch un eich hun!

  14. Llongyfarchiadau ar gyflawni’r dasg hon! Rydych bellach yn barod i blannu eich bylbiau! Hwyl Gyfeillion!

More Related