1 / 18

Ymchwil Criw Amser

Ymchwil Criw Amser. Rhoddwyd comisiwn i CRG i gynnal ymchwil i bwyso a mesur agweddau ac adborth gan athrawon a phlant mewn perthynas

Thomas
Download Presentation

Ymchwil Criw Amser

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


    1. Ymchwil Criw Amser

    3. Ymchwil Criw Amser Dull: Grwpiau ffocws i fechgyn – 6 grwp gyda bechgyn 9-11 mlwydd oed (3 Dwyrain, 3 Gorllewin, 10 bachgen ym mhob un, 2 grwp Cymraeg) Grwpiau ffocws i athrawon – 2 grwp (1 Dwyrain, 1 Gorllewin, 50/50 gwrywaidd/benywaidd, 5 o athrawon ym mhob sesiwn ) Arolwg drwy’r Post – 300 o holiaduron drwy’r post wedi’u dosbarthu ledled Cymru (97 o ysgolion a oedd wedi archebu Criw Amser a 203 o ysgolion eraill nad oeddent wedi’i archebu ac a ddewiswyd ar hap) Pwyntiau i’w cofio: Ailgrynhoi’r broses ar gyfer dosbarthu ac archebu Criw Amser – copi sampl wedi cael ei anfon at bob ysgol ac wedyn roedd yn rhaid i athrawon archebu copďau ychwanegol am ddim. Ar adeg yr ymchwil dim ond 97 o ysgolion oedd wedi archebu copďau ychwanegol – roedd hyn yn cyfyngu ar ein sampl, ond roedd hefyd yn golygu ei bod yn bwysig archwilio’r rhesymau dros y nifer isel a oedd yn ei dderbyn fel rhan o’r ymchwil. Fe ymatebodd 39 o ysgolion i’r holiadur, yr oedd 22 ohonynt wedi archebu copďau ychwanegol o Criw Amser.

    4. Ymchwil Criw Amser Gofyn i’r bechgyn beth oeddent yn ei feddwl

    5. Ymchwil Criw Amser Athrawon Darllen ac Adnoddau Fe gadarnhaodd yr Athrawon fod Criw Amser yn diwallu angen canfyddedig am adnoddau sydd wedi’u bwriadu i ennyn diddordeb darllenwyr sy’n methu ac sy’n gyndyn. Mae argaeledd adnoddau dysgu sydd o ansawdd uchel (ac sy’n fforddiadwy) yn cael ei ystyried yn ffactor pwysig ar gyfer mynd i’r afael â’r mater hwn. Rhoddwyd digon o enghreifftiau o adnoddau a ddefnyddir ar hyn o bryd, ond wedi dweud hynny fe bwysleisiodd yr athrawon nad yw adnoddau ynddynt eu hunain yn datrys y broblem – cael y bechgyn i defnyddio’r adnoddau yw’r allwedd. Caiff potensial comics fel adnodd darllen ei gydnabod gan athrawon, yn enwedig fel modd i ennyn diddordeb darllenwyr sy’n methu ac sy’n gyndyn (bechgyn yn enwedig). Y Broses – Hyrwyddo, Dosbarthu, a.y.b… Gorlwytho â mentrau; ychydig o ddealltwriaeth oedd gan lawer am y cyswllt rhwng Criw Amser a Darllenwn Fil o Eiriau gyda’n Gilydd. Mae’r mater sy’n ymwneud â ‘cheidwaid pyrth’ mewn ysgolion (megis ysgrifenyddion) yn dal i fod yn allweddol i sicrhau bod mentrau megis Criw Amser yn cael eu defnyddio’n effeithiol. Ychydig o ddealltwriaeth oedd gan nifer o athrawon ynghylch sut yr oedd y comic wedi cael ei archebu. Bu i’r rheiny a wnaeth archebu’r comic gael bod y broses yn rhwydd ac yn effeithlon. Roedd rhesymau dros archebu’n gysylltiedig â’r ffaith mai adnodd rhad ac am ddim ydyw a bod potensial i’w ddefnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Roedd samplau o’r comic yn aml yn peri i’r plant eu hunain roi pwysau ar yr athro/athrawes i archebu copďau ychwanegol.

    6. Ymchwil Criw Amser Athrawon Y Defnydd o Criw Amser ac Adborth Athrawon Roedd athrawon a oedd wedi gweld a defnyddio’r comic ar y cyfan yn dweud pethau cadarnhaol am Criw Amser – rhoddwyd canmoliaeth i’r cysyniad, yr ansawdd, ac agweddau ar rediad y stori. Roedd athrawon yn defnyddio’r comic mewn ystod o wahanol ffyrdd – roedd rhai’n annog plant i ddarllen mewn grwpiau, tra bo eraill yn gofyn i blant ddarllen y comic yn unigol. Roedd Criw Amser hefyd yn cael ei ystyried yn erfyn defnyddiol ar gyfer ennyn diddordeb darllenwyr sy’n methu ac sy’n gyndyn – gan arwain at ddigon o egni a thrafodaeth yn yr ystafell ddosbarth. Dywedodd rhai athrawon fod bod â chomic i’w ‘roi’ i’r plant yn beth cadarnhaol ynddo’i hun – nid oes gan nifer o blant fynediad at y deunyddiau hyn gartref. Efallai y byddai darparu awgrymiadau ar gyfer athrawon o ran sut i ddefnyddio’r comic wedi annog mwy i archebu’r comic, ac wedi ysgogi defnydd mwy creadigol o Criw Amser yn yr ystafell ddosbarth.

    7. Ymchwil Criw Amser Athrawon Adborth arall Dywedwyd fod ymateb y plant yn gadarnhaol i raddau helaeth, er bod rhai plant yn rhoi beirniadaeth adeiladol o ran rhediad y stori, cymeriadau, arddull, a.y.b. Roedd lefel yr iaith yn fras yn gywir ar gyfer y grwp oedran targed. Ymddengys fod gwahaniaeth barn ymhlith yr athrawon ynghylch defnyddio slang mewn comics – mae’n groes i ddoethineb addysgu confensiynol, ond maent yn sylweddoli ei fod yn ffordd o apelio at blant, yn enwedig bechgyn. Cafodd y fersiwn Gymraeg ei beirniadu gan athrawon – roedd yr eirfa’n cael ei hystyried yn rhy anodd, a’r defnydd o eiriau ac ymadroddion gogleddol yn cyfyngu ar hygyrchedd y cyfieithiad. Rhoddwyd digon o enghreifftiau a syniadau am ffyrdd y gellir datblygu Criw Amser a’i wella ymhellach. Ar y cyfan, roedd athrawon yn falch eu bod wedi derbyn/archebu Criw Amser a byddent yn ei archebu eto pe bai rhifyn dilynol yn cael ei gyhoeddi. Yn fwy eang, fe fynegodd yr athrawon awydd i weld adnoddau ychwanegol er mwyn hyrwyddo darllen mewn ysgolion, er bod rhai wedi awgrymu y gallai buddsoddi mewn adnoddau presennol gynnig mwy o werth am arian na datblygu rhai newydd.

    8. Ymchwil Criw Amser Plant Fe gadarnhaodd y grwpiau ffocws bod plant yn mwynhau darllen comics ac yn gallu mynd ati’n rhwydd i enwi enghreifftiau o gyhoeddiadau y maent yn mwynhau’u darllen – Beano Dandy, Simpsons a.y.b. Roedd yr ymatebion i Criw Amser yn gadarnhaol ar y cyfan, gyda dwy ran o dair o’r cyfranogwyr yn y grwpiau ffocws yn datgan eu bod yn ei gael yn ‘Wych neu’n Dda’. Bu i’r grwpiau ddangos dealltwriaeth dda am y rheswm yr oedd y comic wedi cael ei ddatblygu – h.y. i hyrwyddo darllen. Nid oedd yn effeithio ar eu mwynhad. Roedd y comic yn apelio at blant am amrywiaeth o resymau: rhediad stori anturus, y defnydd o gymeriadau, y cysyniad (estroniaid, dinosoriaid, teithio mewn amser), ymddangosiad lliwgar, defnydd o slang, adran bosau.

    9. Ymchwil Criw Amser Plant Roedd y rhesymau dros beidio â hoffi Criw Amser yn amrywio: peth dryswch ynghylch rhediad y stori, anhawster gyda chynllun y tudalennau, y fformat seiliedig ar un stori yn hytrach na nifer o storďau byrrach, rhy ifanc i rai bechgyn. Er na wnaeth pob un o’r plant fwynhau’r comic, bu i’r grwpiau ffocws ysgogi llawer o drin a thrafod am ffyrdd y gellid ei wella a’i ddatblygu yn y dyfodol. Roedd lefel yr iaith yn Saesneg i’w gweld fel pe bai’n briodol o ran gallu, er bod peth o’r slang a’r dewis o eiriau’n drysu darllenwyr. Roedd y fersiwn Gymraeg yn peri problemau. Roedd yr eirfa’n rhy gymhleth (hyd yn oed i siaradwyr Cymraeg hyfedr) ac yn cynnwys tafodiaith ogleddol nad oedd yn rhwydd i’w deall. “Mae dinosoriaid sy’n siarad yn fabďaidd” “Mwy o arddull stori” “Ddim yn hoffi’r enw” “Mwy o drais” “Pam fod estroniaid ar y ddaear” “Roedd y cymeriadau’n wael iawn” “Addas i flwyddyn 1 a 2 nid i flwyddyn 3 ac uwch” “Roedd rhan ganol y comic yn edrych yn ddryslyd” “Roedd y swigod siarad yn rhy agos at ei gilydd, yn anodd i’w dilyn” “Nid oedd wedi’i osod fel comic go iawn” “Llawer o fynd yn hytrach na bod yn ddigrif”

    10. Ymchwil Criw Amser Plant Cymariaethau â chomics eraill Roedd ansawdd y comic yn cael ei ystyried yn dda ac roedd bechgyn ar y cyfan yn hoff o’i ddiwyg. Wedi dweud hynny, roedd y bechgyn yn awyddus iawn i amlygu agweddau ar y comic a oedd yn gwneud iddo edrych a theimlo’n wahanol i gomics confensiynol. Beirniadwyd y syniad o gynnwys logos LlCC ar y clawr blaen – roedd yn gwneud iddo deimlo fel “rhywbeth y byddech yn ei ddefnyddio yn yr ysgol”. Roedd nifer o wendidau canfyddedig y comic yn gysylltiedig â chymariaethau â brandiau comics mwy sefydledig (Beano a.y.b.) – er enghraifft, mae gan y comics hyn roddion am ddim, nifer o storďau, dolenni i wefannau, mwy o bosau, cystadlaethau, rhagflas o rifynnau o’r comic yn y dyfodol, hysbysebion a.y.b. Mae bechgyn yn uniaethu â chomics eraill – sy’n aml yn gysylltiedig â ‘brandiau’ sefydledig megis The Simpsons. Fe wnaeth y bechgyn nifer o awgrymiadau sylwgar am ffyrdd y gellid datblygu brand Criw Amser dros amser, e.e. Gwybodaeth gefndir am y cymeriadau i alluogi’r darllenwyr i uniaethu â hwy, datblygu gwefan sy’n eich galluogi i ddysgu mwy am y Criw Amser, mwy o rifynnau i’w gwneud yn bosibl i’r comic ddatblygu dilynwyr, a.y.b. Mae a wnelo â ‘phrynu i mewn’. Roedd y bechgyn yn dangos egni a brwdfrydedd yn y trafodaethau am ffyrdd y gellid datblygu Criw Amser. Mae’n dangos potensial y comic ac yn cynnig data gwerthfawr ar gyfer llywio datblygiad adnoddau tebyg.

    11. Ymchwil Criw Amser Plant Rhai o’r awgrymiadau a ddarparwyd: “Gallech wneud y clawr yn well”. “Dylent gynnwys adran ‘darllenwch wythnos nesaf.” “Byddai’r comic yn well pe bai’n cynnwys llythyrau gan ddilynwyr, cystadlaethau a gwobrau”. “Dylai’r comic gynnwys gwahanol storďau.” “Gallai’r comic fod â gwefan, sy’n dweud wrthych beth sy’n digwydd nesaf”. “Gwnewch y cymeriadau’n fwy fel oedolion gan eu bod yn fabďaidd”. “Dylid cael pobl dda a phobl ddrwg.” “Dylent fod â theganau ar y tu blaen”. “Dylai Criw Amser gynnwys hysbysebion.” “Dylem gael gwybod mwy am y cymeriadau”. “Dylent fynd yn ôl at ddigwyddiadau hanesyddol ac yna gallai’r storďau gynnwys gwybodaeth ffeithiol.” “Dylech gasglu’r syniadau gan blant, nid oedolion.”

    12. Ymchwil Criw Amser Plant

    13. Ymchwil Criw Amser Casgliadau Cafodd Criw Amser dderbyniad da gan athrawon a oedd yn gwerthfawrogi’r ffaith bod adnodd rhad ac am ddim yn cael ei ddarparu i ategu ymdrechion mewn perthynas â llythrennedd yn gyffredinol. Roedd agweddau cadarnhaol tuag at y comics yn amlwg ymhlith athrawon. Roedd y comic yn boblogaidd iawn ymhlith plant (yn enwedig bechgyn), a oedd yn mwynhau’r cysyniad, rhediad y stori, y cymeriadau a diwyg y comic yn gyffredinol. Er gwaethaf yr agweddau cadarnhaol, mae’n bwysig ystyried y nifer isel sydd wedi archebu copďau o Criw Amser. Gall fod ‘methiant i ddanfon’ a oedd yn gysylltiedig â’r modd y cafodd y comig ei hyrwyddo, a’r broses archebu. Dylid ystyried awgrymiadau gan athrawon o ran sut y gellid gwella ar hyn. Mae’n bwysig peidio â dod i gasgliadau negyddol anghywir, gan y gall fod a wnelo’n fwy â’r ffordd y mae ‘ceidwaid pyrth’ yn rheoli llif gwybodaeth i ysgolion, yn hytrach na phenderfyniad bwriadol i beidio ag archebu. Bu i gysyniad a rhediad stori Criw Amser ysgogi llawer o drafod brwd ymhlith athrawon a phlant fel ei gilydd. Gwnaed awgrymiadau o ran y ffordd y gallai’r comic gael ei ddatblygu yn y dyfodol. Bu i’r grwpiau ffocws i blant ddarparu pwyntiau dysgu amhrisiadwy o ran pam fod plant yn mwynhau darllen comics penodol – gellid cynnwys yr elfennau hyn, os bydd rhifyn pellach o Criw Amser yn cael ei gyhoeddi. Bu i’r mwyafrif o’r plant a gymerodd ran yn yr ymchwil fynegi diddordeb mewn gweld mwy o rifynnau o Criw Amser. O ystyried mai hwn oedd y rhifyn cyntaf, ni ddylid bychanu’r gamp hon. Byddai mantais gyda rhifynnau yn y dyfodol yn yr ystyr eu bod yn ‘gyfarwydd’ i’r plant ac yn cael eu deall gan yr athrawon. Gallai newidiadau i’r ffordd y caiff y comic ei hyrwyddo a’i archebu wella nifer y rhai sy’n ei dderbyn.

    14. Ymchwil Criw Amser Ffactorau Llwyddiant Mwy o rifynnau – rhoi amser i Criw Amser gael dilynwyr Datblygu’r Cymeriadau – rhoi cyfle i’r darllenwyr ddod i wybod mwy am y cymeriadau, prynu i mewn Datblygu’r cryfderau – roedd plant yn hoffi Criw Amser, ac fe wnaethant ddarparu llawer o syniadau am ffyrdd i’w wneud yn well Fformat – ystyried cael mwy nag un stori, swigod siarad eglurach, a.y.b. Clawr – gwneud y clawr yn fwy deniadol, cyfeirio at yr hyn sydd y tu mewn i’r comic Cystadlaethau – mae plant yn hoffi cymryd rhan, ennill gwobrau, a gweld eu cyfraniadau’n cael eu harddangos yn y comic Posau – poblogaidd iawn, angen iddynt fod yn ddigon soffistigedig i ddifyrru Hysbysebu?? Dyma sy’n cael ei ystyried yn arferol, a ellir defnyddio’r fformat i gyfeirio at fentrau eraill sy’n gysylltiedig â dysgu? Gwefan – Adnodd pwysig sy’n galluogi plant i ymchwilio ymhellach i’r brand, y cymeriadau, i ddysgu, chwarae. Er enghraifft, cynigiodd plant y syniad o deithio i wahanol gyfnodau mewn hanes. Gellid defnyddio’r wefan i ddarparu ffeithiau cefndir a chyfeirio at gyfleoedd dysgu pellach Ymdeimlad o berthyn, clwb cefnogwyr efallai – ffordd wych o ennyn brwdfrydedd, teyrngarwch a chyfranogiad Manylion – roedd defnyddio logos yn troi’r darllenwr oddi ar y comic – gall manylion bychain wneud i fenter lwyddo neu fethu Mae’r defnydd o fodelau rôl yn gymhellol iawn – gallai sbarduno mentrau megis Criw Amser os caiff ei wneud yn iawn ‘Ym mhennod yr wythnos nesaf” – mae plant am gael gwybod beth sy’n digwydd nesaf….. Hyrwyddo’r adnodd yn effeithiol ymhlith athrawon a rhoi syniadau iddynt am ffyrdd y gallent ei ddefnyddio.

    15. Ymchwil Criw Amser Ffactorau Llwyddiant

    17. Ymchwil Criw Amser Pwyntiau Trafod Sut dderbyniad gafodd Criw amser yn eich ardal chi? Pa mor bwerus all comics fod fel cyfrwng? Unrhyw brofiadau ymarferol o fethiant i ddanfon y comics: beth yw’r ffordd orau o anfon gwybodaeth a deunyddiau trwy ddrysfa’r ysgol? Ydych chi’n credu bod cyndynrwydd i ddarllen yn arwydd o broblemau dyfnach?

    18. Diolch am eich gwrandawiad CRG Research 25 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9TZ mark@crgresearch.co.uk www.crgresearch.co.uk

More Related