1 / 15

S4C 2012– Cyd-Destun Ymchwil

S4C 2012– Cyd-Destun Ymchwil. Ffynonellau Ymchwil. Grwpiau Trafod (Ymchwil Ansoddol)– 15 grwp trafod y flwyddyn ar draws Cymru ar raglenni a phynciau amrywiol - YouGov

emma
Download Presentation

S4C 2012– Cyd-Destun Ymchwil

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. S4C 2012– Cyd-Destun Ymchwil

  2. Ffynonellau Ymchwil • Grwpiau Trafod (Ymchwil Ansoddol)– 15 grwp trafod y flwyddyn ar draws Cymru ar raglenni a phynciau amrywiol -YouGov • Ymchwil Plant a Phobol Ifanc – nifer fawr o grwpiau trafod ac arolygon ar wasanaethau a rhaglenni - Ymchwil Gwasanaethau Plant S4C • Gwerthfawrogiad – Panel Ymateb – 1,500 o bobl sy’n cael eu holi yn fisol : ddyddiadur gwylio ac holiadur yn gofyn eu barn am raglenni a gwasanaethau Kantar Media • Tracio Delwedd – Arolwg gyda 1,000 o sampl yn holi dwy waith y flwyddyn am ddelwedd a chryfderau genres -SPA

  3. Ffynonellau Ymchwil • Ystadegau’r We – ffigyrau safonol ar fesuriadau’r wefan:ymweliadau, ymweliadau unigryw ac argraffiadau tudalen - Nielsen • Sesiynau Gwylio - ffigyrau safonol ar niferoedd o sesiynau gwylio (drwy Clic, safleodd eraill a Ffrydio Byw) -Multistream a SawMill • Ffigyrau gwylio – Ffigyrau gwylio dyddiol manwl ar raglenni, gan gynnwys ymddygiad gwylio, proffiliau, data rhanbarthol, rhuglder ayb - BARB

  4. Be mae ymchwil diweddar yn dangos? • Noson Gwylwyr 25/10/2010– mae yna gynulleidfa graidd sy’n ein gwerthfawrogi’n fawr (ac yn gyfrifol am ganran mawr o’n gwylio), ac mae yna apel gref iawn i sawl elfen o’n hamserlen bresennol. Ond mae hefyd galw am S4C “newydd” gan eraill. Dysgwyr yn galw am fwy ar eu cyfer. Cefnogaeth gref iawn i Cyw a gwasanaethau Plant. • Y wybodaeth yn ategu canlyniadau ein holl waith ymchwil ar hyd y blynyddoedd, er enghraifft Tracio Delwedd a phrosiect Gwylwyr Ysgafn Mai 2010. Roedd hwnnw yn nodi ein llwyddiannau pendant o ran bod yn lleol a bod yn unigryw o ran cynnwys, ond yn nodi bod angen rywbeth mwy – gwasanaethu’r oedran “canol” rhwng 25-45, cael mwy o adloniant, comedi, hwyl a rhaglenni gafaelgar  - “engaging” a  “talked about”. • Ofcom – gwylio teledu yn yr oriau brig dal yn bwysig iawn.

  5. Be arall mae ymchwil yn dangos? • O ran siaradwyr Cymraeg, mae 74% o’n gwylio yn dod o 20% o’r gynulleidfa* – felly dyma’r gynulleidfa graidd. Nodweddion y gynulleidfa graidd: • 92% o lefel ruglder 1 (mwyaf rhugl) • 91% dros 35 oed, 62% dros 65 oed • 45% o’r Gogledd, 44%o’rGorllewin/Canolbarth, 11% o’r De • Ar y llaw arall, mae 45% o’n cyrhaeddiad wythnosol** yn dod o gyrhaeddiad unigryw – h.y. y gwylwyr achlysurol sy’n gwylio un rhaglen yn unig yr wythnos. • Felly mae yna gydbwysedd rhwng gwylwyr craidd a gwylwyr achlysurol. * Wythnosau 14-46, 2010 BARB **BARB, 2010

  6. Be arall mae ymchwil yn dangos? • Y Di-Gymraeg – mae 25% o’r gynulleidfa yn yr oriau brig* yn dod o bobl Di-Gymraeg. • Mae’n cyrhaeddiad ni’n isel iawn ymysg y iau ond yn uchel ymysg y rhai hŷn: 2010: cyrhaeddiad wythnosol oriau Cymraeg*: Siaradwyr Cymraeg Oedolion 41% Plant (4-15) 16% 16-24 15% 65+ 72% * Data 2010 : BARB

  7. Gwerthfawrogiad • Mae gwerthfawrogiad S4C uchlaw prif sianeli PSB eraill yng Nghymru. • Mae hyn yn wir ymysg Cymry Cymraeg a’r Di-Gymraeg * Kantar Media – Panel Ymateb ** BBC 1, BBC2 ac ITV1

  8. Y We a Gwylio Ar-Lein • Bu 161,000 o ymweliadau i safle we S4C bob mis* ar gyfartaledd yn 2010 • Roedd 91,000 o ddefnyddwyr unigryw bob mis ar gyfartaledd. • Roedd 1.5 miliwn o argraffiadau tudalen y mis. • Mae Ionawr a Chwefror 2011 yn dangos cynnydd blwyddyn ar-flwyddyn o ran ymweliadau (+23%) a defnyddwyr unigryw (+23%). * Data Nielsen , 2010, cymhariaeth gydag 2009 ddim yn bosib ( dull mesur gwahanol).

  9. Y We a Gwylio Ar-Lein • Roedd cynnydd o 44% blwyddyn ar flwyddyn i sesiynau gwylio rhaglenni (gan gynnwys ffrydio byw) 2010 o gymharu â 2009. • 1,606,162 yn 2010 • 1,113,843 yn 2009 • Mae Panel Ymateb Kantar Media yn rhoi amcanion fod gwylio rhaglenni S4C ar-lein yn 0.8% o'r holl wylio (2010). Mae hwn yn debyg iawn i data BARB (arolwg omnibus) ble mae 1% o gwylio oedolion yn cael ei wneud ar-lein. • Gwyddom fod y gynulleidfa sy’n gwylio ar-lein yn iau ar gyfartaledd na chynulleidfa teledu.

  10. Beth yw ein cryfderau? • Mae’r holl ymchwil, ynghŷd â gwybodaeth o’r Noson Gwylwyr yn dangos mai’n cryfderau pendant yw: • Bod yn “lleol” a thrwy hynny yn berthnasol ac yn unigryw drwy ystod eang o’n rhaglenni. • Adlewyrchu Cymru gyfan, a Chymru wledig a chyfoes. • Safon i raglenni penodol fel rhai dramau ac eraill. • Digwyddiadau, chwaraeon o Gymru, rhaglenni plant (yn enwedig Cyw), dogfennau perthnasol i Gymru, a cherddoriaeth o Gymru yn gryfderau amlwg, ymhell uwchlaw sianeli eraill. • I nifer o’r gwylwyr craidd, S4C yw “teledu” – gwylio pobeth. (Rhain sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan ail-ddarllediadau).

  11. Beth sydd angen? • Cadw’r gynulleidfa graidd yn hapusOND: • Bod yn “ysgafnach” o ran arddull mwy o’n cynnwys. • Cael cynnwys gafaelgar, iau, adloniadol a chomedi. • Safon yn parhau i fod yn bwysig. • Mae’r gynulleidfa yn adnabod rhaglenni rhad o bell – rhaid bod yn ddyfeisgar. • Wrth fod yn ysgafnach – bydd rhaid hyrwyddo hynny yn benodol. Mae’n “annisgwyl” i’r rhan fwyaf o’n gynulleidfa potensial – y rhai nad ydynt yn gwylio ar y funud. • Iaith symlach: clir, a naturiol. Hyrwyddo hyn hefyd.

  12. Gwylio ac Argaeledd i wylio • Mae cyrhaeddiad wythnosol 18.30-21.30 (2010) yn 309,000. • Mae cyfartaledd miloedd 18.30-21.30 rhwng 27,000 a 32,000 dros y 9 mlynedd diwethaf (28,000 yn 2010). Mae hyn yn arwydd o sefydlogrwydd yn ystod yr oriau brig mewn cyfnod o newid i deledu digidol. • Cyrhaeddiad wythnosol holl oriau Cymraeg, 2010 = 467,000 (18,000 yn fwy nac yn 2009). • Sleids nesaf yn dangos argaeledd i wylio 2010

  13. Brigo am 21:00 - 1,421 (Ll-G) - 1,462 (Sad-Sul) Dros miliwn yn gwylio ar ol 18:00 - 997 (Ll-G) - 1,082 (Sad-Sul) • Cwymp sylweddol rhwng 22:00 i 24:00 • 918k yn diffodd y teledu (Ll-G) • 887 yn diffodd y teledu (Sad-Sul) Cynnydd sylweddol ar ôl 15:30 - 509 (Ll-G) - 733 (Sad-Sul)

  14. Cyrhaeddiad Rhaglenni dros 100,000 2010

  15. Rhaglenni dros 100,000 o gyrhaeddiad • 32 rhaglen gwahanol • 14 yn ymwneud â Chwaraeon yn uniongyrchol • 2 yn gysylltiedig â Chwaraeon • 5 Pobol y Cwm • 11 yn ymwneud â Cherddoriaeth neu Digwyddiad • Mae 84 rhaglen unigol wedi denu dros 100,000 • 53 yn ymwneud â Chwaraeon yn uniongyrchol • 4 yn gysylltiedig â Chwaraeon • 14 Pobol y Cwm • 13 yn ymwneud â Cherddoriaeth neu Digwyddiad

More Related