1 / 17

Trefn Gwasanaeth

Trefn Gwasanaeth. Wythnos Cymorth Cristnogol 15-21 Mai 2011. Galwad i addoli. Dduw’r Creawdwr credwn ynot lluniwr syniad a sain lluniwr y gwynt lluniwr heddwch a chariad Iesu ein Harglwydd ymddiriedwn ynot cyfaill y tlawd cwmn ïwr yr unig bugail y colledig. Ysbryd Sanctaidd bywyd,

Rita
Download Presentation

Trefn Gwasanaeth

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Trefn Gwasanaeth Wythnos Cymorth Cristnogol 15-21 Mai 2011

  2. Galwad i addoli Dduw’r Creawdwr credwn ynot lluniwr syniad a sain lluniwr y gwynt lluniwr heddwch a chariad Iesu ein Harglwydd ymddiriedwn ynot cyfaill y tlawd cwmnïwr yr unig bugail y colledig

  3. Ysbryd Sanctaidd bywyd, mae ein hymdeimlad o berthyn ynot, ffynhonnell ein hundod, aflonyddwr ein hunanfodlonrwydd, cludwr ein trawsnewidiad. Drindod Fendigaid, cynnull ni i’th gymuned, yng ngrym dy gyfiawnder, yn yr argyhoeddiad o’th addewid, yng ngogoniant dy weledigaeth. Clod fo i Dduw byth bythoedd!

  4. Gweddi Gadewch i ni agosáu at Dduw’r bywyd. Dduw trugarog, diolch fod cariad yn gwneudpob peth yn newydd. Felly gofynnwn am dy faddeuant am droi ein cefn ar gariad. (Tawelwch) ‘Oherwydd yr oeddech fel defaid ar ddisberod. Ond yn awr troesoch at fugail a gwarchodwr eich eneidiau.’ (1 Pedr 2. 25) 4

  5. Fe’n gelwaist i’th ddilyn ar hyd llwybrau cyfiawnder ond yr ydym wedi crwydro ymaith fel defaid. Maddau i ni. Yr ydym wedi crwydrooddi ar lwybrau cyfiawnder. Ond yn awr daethom yn ôl at yr un sy’n fugail a gwarchodwr i ni. Wedi ein cyfyngu gan weithredoedd anghyfiawn, wedi ein clwyfo gan ddiffyg heddwch, Breuddwydiwn am gyfiawnder i bawb, 5

  6. Yr oeddem fel defaid ar ddisberod. Ond yn awr troesom at fugail a gwarchodwr ein eneidiau. Adnewydda ni yn nelw Crist, y bugail da, a roddodd ei fywyd trosom, Er mwyn i ni allu byw mewn ffordd fydd yn rhyddhau dy fyd o dlodi, a bod dy blant i gyd yn cael bywyd, a’i gael yn ei gyflawnder. Amen. 6

  7. Ymbiliau Arglwydd Iesu, carwn dy ddarlun o fywyd yn ei gyflawnder, tyfiant a digonedd, cynaeafau da a boliau llawn; gobaith, cyfiawnder a chymunedau ffyniannus. Felly fe ddathlwn waith Soppexcca, a gweddïwn dros bobl Jinotega, Nicaragua, sydd wedi gosod eu hunain yng nghanol y darlun. Trwy ein gweddïo, ein gweithredu a’n rhoi Boed i ni fod yn rhan ohono. 7

  8. Ar draws y byd, mae miliynau o bobl yn dy ddarlun di. Llawer ohonynt yn bartneriaid Cymorth Cristnogol ac fe weddïwn drostynt, a dathlwn, eu hurddas, dewrder a’u ffydd ar waith i greu newid. Trwy ein gweddïau, ein gweithredu a’n rhoi Boed i ni fod yn rhan ohono. 8

  9. Ond i lawer, gwyddom fod y darlun yn dywyll ac o dan gysgod oherwydd cynaeafau a fethodd, afonydd sych, daeargrynfeydd a llifogydd. Gweddïwn drostynt, a gweddïwn hefyd y bydd llywodraethau, llunwyr polisïau a’r rhai sy’n dal grym o fewn y sustemau ariannol yn cael eu symud i weld darlun ehangach o fywyd yn ei holl gyflawnder. Trwy ein gweddïo, ein gweithredu a’n rhoi Boed i ni fod yn rhan ohono. 9

  10. Yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol, wrth i ni weddïo dros drefnyddion, casglyddion a chefnogwyr, boed i ni bob amser gadw’r darlun ehangach o flaen ein llygaid ein hunain. A thrwy ein gweddïo, ein gweithredu a’n rhoi Boed i ni fod yn rhan ohono. 10

  11. Gweddi o Nicaragua Boed iddi ddod yn fuan i’r newynog i’r wylofus i’r rhai sy’n sychedu am dy gyfiawnder, i’r rhai fu’n disgwyl am ganrifoedd am fywyd gwirioneddol dynol. Rho i ni’r amynedd i baratoi’r ffordd y daw dy deyrnas atom. Rho i ni obaith, fel na fyddwn yn blino ei chyhoeddi a gweithio drosti. Rho i ni weledigaeth eglur fel ein bod, yn yr awr hon o’n hanes, yn gweld y gorwel a gwybod y ffordd y daw dy deyrnas atom. Amen. 11

  12. Emyn Anfonodd Iesu Fi Anfonodd Iesu fi, i’r byd i wneud ei waith a gwneud yn siwr y daw ei deyrnas ef yn ffaith; anfonodd Iesu fi, i’r byd i wneud ei waith a gwneud yn siwr y daw ei deyrnas ef yn ffaith; 12

  13. nid gwaith angylion yw troi byd o boen a braw yn fyd o gariad pur a heddwch ar bob llaw: anfonodd Iesu fi i wir rhyddhau ei fyd, O Dduw, rho help i’m wneud d’ewyllys di o hyd. (Caneuon Ffydd 866) 13

  14. Datganiad Gadewch i ni gyd-adrodd gweddi Wythnos Cymorth Cristnogol: Am chwerthin lle bu dagrau, Diolch i Dduw. Yr ydym yn rhan o hynny! Am gymunedau a gryfhawyd i wrthsefyll trychinebau naturiol, Diolch i Dduw. Yr ydym yn rhan o hynny! Am leisiau yn erbyn anghyfiawnder a dawelwyd ynghynt, Diolch i Dduw Yr ydym yn rhan o hynny! 14

  15. Am wledda lle bu newynu, Diolch i Dduw. Yr ydym yn rhan o hynny! Am yr holl ffyrdd y mae Cymorth Cristnogol yn helpu trawsnewid cymunedau gan alluogi ein chwiorydd a’n brodyr i fyw bywydau mwy cyflawn, Diolch i Dduw. Yr ydym yn rhan o hynny! Diolch i Dduw. Amen. 15

  16. Bendith Dduw byw, bendithia’r hyn a gyflwynwn: ein gweddi a’n hymrwymiad ein harian a’n henwau, er mwyn iddynt ddwyn bywyd yn ei gyflawnder i lawer. Dduw byw, bendithia’r hyn a gyflwynwn ymhellach: wrth i ni adael gyda’n gilydd, yn rymus yn ein dyhead, yn gryf yn ein hundod yn ostyngedig yn ein hangen, i garu a gwasanaethu’r byd. Amen. 16

  17. Wythnos Cymorth Cristnogol 15–21 Mai 2011

More Related