1 / 23

TREFN GWASANAETH

Wythnos Cymorth Cristnogol: 13–19 Mai 2012. TREFN GWASANAETH. Galwad i Addoli. Rhoddodd Iesu ei fywyd i ni; Haleliwia, canwn am ei gariad. Galwodd Iesu ni’n gyfeillion iddo; Haleliwia, rhannwn yn ei alwad. Dangosodd Iesu beth yw ewyllys Duw; Haleliwia, cerddwn ar hyd ei ffordd.

kale
Download Presentation

TREFN GWASANAETH

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Wythnos Cymorth Cristnogol: 13–19 Mai 2012 • TREFN GWASANAETH

  2. Galwad i Addoli • Rhoddodd Iesu ei fywyd i ni; • Haleliwia, canwn am ei gariad. • Galwodd Iesu ni’n gyfeillion iddo; • Haleliwia, rhannwn yn ei alwad. • Dangosodd Iesu beth yw ewyllys Duw; • Haleliwia, cerddwn ar hyd ei ffordd.

  3. Dewisodd Iesu ni i ddwyn ffrwyth; • Haleliwia, fe rannwn ein hadnoddau. • Mae Iesu yn ein plith mewn llawenydd; • Haleliwia, carwn ein gilydd.

  4. Gweddi o Gyffes • Dduw cyfiawnder, diolchwn i ti am y • cyfle i weddïo ac i weithredu dros newid. • Diolchwn i ti am wneud dy iachawdwriaeth • yn hysbys, ac am ddangos dy gyfiawnder • i’r byd trwy dy Fab, ein Gwaredwr, Iesu Grist. • (Tawelwch)

  5. Cyffeswn i ni fethu yn ein perthynas ag eraill. • Cuddiwyd dy gyfiawnder a’th degwch yn ein • hunanoldeb a’n trachwant. Nid ydym wedi • caru ein gilydd. Nid ydym wedi aros yn dy • gariad. Rhaid i bob un ohonom newid. • Gofynnwn am dy faddeuant. • (Kyrie neu Arglwydd trugarha)

  6. Arglwydd, mae dy gariad a’th ffyddlondeb yn ymestyn allan at bawb. Fel rhai sy’n gwybod • am dy iachawdwriaeth, rhyddha ni i fyw mewn cyfiawnder a thegwch, ac felly dangos dy gyfiawnder i’r byd. • Amen, diolch a fo i Dduw.

  7. Gweddïau Eiriolaeth • Duw trosom ni, a greodd fyd o gyfleoedd; • Dyro i ni’r hyder i ymateb iddynt. • Duw gyda ni, sy’n dangos y ffordd i ni fyw • gyda’n gilydd mewn undod; • Helpa ni i rannu’n hadnoddau a’n • gwybodaeth gyda phobl sydd eu hangen.

  8. Duw yn ein plith, sy’n ein hysbrydoli i ddal • ati, ac sy’n troi ein dechreuadau bach yn • ganlyniadau mawr; • Cadw ni’n ffyddlon i’r posibiliadau sy’n • ein hwynebu.

  9. Duw bywyd, dathlwn bopeth sy’n dda ac • sy’n rhoi bywyd yn dy greadigaeth. • Cyflwynwn i ti, wlad a phobl Sierra Leone, • gwlad brydferth a ffrwythlon sy’n gyfoethog • o adnoddau naturiol, a phobl urddasol a gwydn.

  10. Mor aml fe welwn ni’r problemau’n unig; • ond mae pobl Sierra Leone yn gweld y • posibiliadau. Gall dy fyd ddarparu bwyd • a bywyd da i bawb, pe byddem ond yn • rhannu’r adnoddau a’n sgiliau; • Oherwydd diwedd newyn yw dechrau codi • llais dros newid.

  11. Weithiau cawn ein llethu gan faint y gwaith. • Ond rwyt yn gofyn i ni roi’r hyn a allwn - offer • a hadau. • Gall ein gweithredoedd bach ni ynghyd â • gwaith caled y partneriaid yn Gbap (yngenir • Bap), greu newidiadau mawr; • Oherwydd diwedd newyn yw dechrau • codi llais dros newid

  12. Diolchwn fod technoleg syml a dulliau • amgen yn helpu pobl Gbap i fod yn fwy • cynhyrchiol a chreu incwm. • Helpa ni i beidio cymryd yn ganiataol ein • bwyd na’r rhai sy’n ei gynhyrchu; • Oherwydd diwedd newyn yw dechrau • codi llais dros newid.

  13. Rhown ddiolch am ferched fel Mary • Samuels, yn darganfod ei hyder a’i llais, • yn siarad dros yr hawl i gael addysg ac yn • sicrhau gwrandawiad. • Gweddïwn dros bobl ar draws y byd… Boed • i ni rannu eu dewrder a gwneud yr un peth; • Oherwydd diwedd newyn yw dechrau codi • llais dros newid.

  14. Molwn di am dy addewid o iachawdwriaeth, • ac am fyd lle mae digon i bawb… Wrth i ni • glywed y lleisiau sy’n sôn am newyn, boed i • ni newynu am newid; • Oherwydd diwedd newyn yw dechrau codi • llais dros newid.

  15. Diolchwn i ti am bob cyfrwng sy’n galluogi • newid i ddigwydd… Galluoga ni i godi llais • fel unigolion, eglwysi a chymunedau; • Oherwydd diwedd newyn yw dechrau • codi llais dros newid.

  16. Wrth i ni ddathlu pob peth fydd yn digwydd yn • ystod Wythnos Cymorth Cristnogol eleni, • diolchwn… • Down â’n gweddïau ynghyd trwy gyd-adrodd • Gweddi’r Arglwydd. Defnyddiwn ein hiaith ein • hunain, yn sefyll ochr yn ochr â phobl Sierra • Leone wrth iddynt weddïo yn eu hiaith hwythau.

  17. Gweddi’r Arglwydd yn iaith Krio(iaith pobl Sierra Leone) • Papa God we de na evin • Na yu wan gren na God, • mek all man pre to • Wi de pre mek yu rul wi • Mek wetin yu wan, bi na dis wol, • leke aw i de bi na evin

  18. Gi wi wetin wi fo it tideh • Padin wi fo di bad tin den we wi don du, • leke aw wisef de padin den pipul weh de • du wi bad • Mek wi no lef for biliv pan yu enitem we • setan tray wi, • no mek setan ebul wi. • Na yu de rul de wol, na yu get pawa, • en na yu get prez en honor, sote go. • Le i be so.

  19. Gweddi ar gyfer Wythnos Cymorth Cristnogol • Pobl yn cydweithio, • plant yn mynd i’r ysgol, • merched yn codi llais, • offer sy’n trawsnewid, • cymunedau’n ffynnu ac nid yn unig yn goroesi, • a dim mwy o newyn - • dyma’r ffrwythau fydd yn parhau. • Iesu, sy’n ein galw yn gyfeillion, • bydded i ni garu ein gilydd ac aros yn dy • gariad di.

  20. Gweddi ar ffurf tecst • Gall unigolion decstio gair neu weddi i Cymorth • Cristnogol ar 70788. Gall gweddïau fod o unrhyw • hyd, o 1-10 gair. • Yn dilyn y gwasanaeth fe gewch tecst yn cadarnhau • bod eich gweddi wedi ei dderbyn. • Fe fydd y neges yn cynnwys linc i dudalen ar y wefan lle • gellir darllen gweddïau gan bobl o bob ran o’r DG ac Iwerddon. • Bydd pob gweddi’n ddi-enw a chost pob tecst yn ôl graddfa arferol y rhwydwaith.

  21. Gweddi Comisiwn a Bendith • Bendithia’r rhoddion a gyflwynwn, • bendithia’r gwaith a wnawn, • a bendithia bawb fydd yn dwyn tystiolaeth • i’n cefnogaeth ar y cyd i bobl Sierra Leone. • Bendithia bob ymdrech a phob rhodd fach, • a thrawsnewidia hwy i fod yn ffrwythau fydd yn parhau.

  22. Ac yn awr, bydded i Dduw’r Creawdwr, • a greodd fyd haelionus, y Gwaredwr, sy’n • ein gorchymyn i garu ein gilydd, a’r Cynhaliwr, • sy’n dangos i ni’r pethau rhyfeddol a ellir eu • cyflawni, ein bendithio i gyd. • Amen

  23. 13–19 Mai 2012 caweek.org WYTHNOS CYMORTH CRISTNOGOL

More Related