1 / 18

Trefn gwasanaeth

Trefn gwasanaeth. Wythnos Cymorth Cristnogol 9-15 Mai 2010. Ymatebion agoriadol. 2. Llais cefnogwyr: Rwy’n dod o gefndir cysurus, ac rwy wastad wedi teimlo’n gysurus. Ond bod yno, yn gweld, yn arogli, a theimlo’r gwres - rwy’n ofni’r tlodi y gallaf ei weld.

Download Presentation

Trefn gwasanaeth

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Trefn gwasanaeth • Wythnos Cymorth Cristnogol • 9-15 Mai 2010

  2. Ymatebion agoriadol 2 Llais cefnogwyr: Rwy’n dod o gefndir cysurus, ac rwy wastad wedi teimlo’n gysurus. Ond bod yno, yn gweld, yn arogli, a theimlo’r gwres - rwy’n ofni’r tlodi y gallaf ei weld. Pawb:Arglwydd agor ein llygaid i weld realiti dy fyd heddiw.

  3. 3 Llais cefnogwyr: Straeon gwir yw'r rhain, dyma bobl go iawn sy’n dioddef. Pawb: Arglwydd agor ein clustiau i glywed lleisiau’r rhai na chant eu clywed. Llais cefnogwyr: Dydw i ddim eisiau mynd fel un sy’n gwylio yn unig, fel sbeciwr. Rydw i eisiau dianc rhag y syniad fy mod i’n rhoi, a hwythau’n derbyn. Rwyf am gydgerdded â hwy. Pawb: Arglwydd, agor ein calonnau i ymateb mewn tosturi. Helpa ni i gerdded wrth ochr y tlodion.

  4. Gweddi o gyffes 4 Llais cefnogwyr: Mae’n hawdd, yn ein sefyllfa ni, i’n calonnau fynd yn galed ac yn debyg i asgwrn. O dro i dro mae angen i ni fod yn agored i fannau o ddolur a dioddefaint oherwydd pan fydd ein calonnau yn feddal fe all Duw ein defnyddio ni. Dyma gyfle i ddweud ‘Dduw, mae fy nghalon yn dy ddwylo di. Tynera fy nghalon, tynera fy nghalon tuag at bobl sydd o bwys i ti’.

  5. 5 Pawb: Dduw cariadus Rydym wedi pechu yn dy erbyn di ac yn erbyn y rhai sydd o bwys i ti. Troesom ein golwg ymaith oddi wrth y rhai sy’n dyheu am newid. Nid ydym wedi clywed y rhai sy’n siarad dros gariad. Weithiau bu’n calonnau yn oer. Arglwydd, maddau i ni a thrawsffurfia ni. Helpa ni i weld â’th lygaid di. Helpa ni i wrando fel taset ti’n llefaru.

  6. 6 Pawb: Dangos i ni sut mae byw fel rhai sy’n credu mewn yfory newydd. Trwy Iesu Grist ein Harglwydd a fu’n cydgerdded gyda ni. Amen. Arweinydd: Bydded i’n Duw sy’n gariad ac sy’n gwneud pob peth yn newydd faddau i ni a’n hadnewyddu, ein tynnu ni’n agos ato a chynhesu ein calonnau. Pawb: Amen.

  7. Offrymu ein rhoddion a’n gweithredoedd 7 Arweinydd: Offrymwn ein rhoddion a’n gweithredoedd heddiw gan gredu y medrwn newid yfory. O’ch blaen fe welwch amlen a cherdyn gweithredu yn gofyn i’r prif weinidog weithredu ar frys i ddileu’r hyn sy’n achosi tlodi. Mewn ymateb i’r hyn yr ydych wedi ei weld a’i glywed heddiw llenwch y cerdyn ac ystyriwch faint y medrwch chi ei roi. Os ydych yn drethdalwr yn y DU llenwch y datganiad rhodd cymorth os gwelwch yn dda - bydd hyn yn cynyddu gwerth eich rhodd.

  8. 8 [Ysbaid o dawelwch cyn bod yr arweinydd yn gwahodd pobl i ddod ymlaen gyda’u rhoddion a’u cardiau] Arweinydd: Rydym wedi gweld grym gweithio mewn cymuned. Gweddïwn nawr dros bawb sy’n ymwneud ag Wythnos Cymorth Cristnogol, wrth iddynt fynd allan i’n cymuned ni ein hunain, er mwyn newid bywydau. [Yr arweinydd yn gwahodd pawb sy’n gwneud rhywbeth yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol i ddod ymlaen]

  9. 9 Llais o Kenya: Mae rhai ohonom yn meddwl yn wahanol. Credwn y gellir dianc o’r sefyllfa hon os daw pobl at ei gilydd... Llais cefnogwyr: Gall pobl gyflawni cymaint pan fyddan nhw’n dod at ei gilydd ac yn dweud, digon yw digon. Pawb: Dduw Dad, cawn ein herio gan nerth y gymuned a welsom yn Kenya. Gwna ein cymuned ninnau yn gryf, yw ein gweddi.

  10. 10 Pawb: Helpa ni i sefyll gyda’n gilydd a syllu i wyneb tlodi, a dechrau datgymalu’r strwythurau sy’n ei gynnal. Digon yw digon. Llais cefnogwyr: Ymladd tlodi yw’r sylweddoliad ein bod ni i gyd yn un. Llais o Kenya: Bydded i’r Arglwydd eich bendithio. Wrth ein helpu i oresgyn y problemau hyn, yr ydych yn helpu teulu Crist.

  11. 11 Pawb: Arglwydd bendithia’r rhai a wnaeth ddieithriaid yn aelodau o’r teulu, wrth iddynt, yn ystod yr Wythnos Cymorth Cristnogol hon, dywallt rhoddion costus i’r rhai sy’n byw mewn tlodi – rhodd o amser, cartrefi agored, doniau creadigol ac egni. Diolch i ti am iddynt feiddio credu mewn newid, ac am eu dewrder yn dal ati i sicrhau’r newid hwnnw. Llais o Kenya: Rwyf wedi llwyddo i godi fy hun o’r slym i le sy’n llawer, llawer gwell.

  12. 12 Llais cefnogwyr: Rydym am i’r deyrnas ddod. Ac os ceisiwn ni Deyrnas Dduw, fe gawn gipolwg ar y nefoedd. Rhai a gomisiynir: Arglwydd, wrth i ni geisio dyrchafu'r rhai yr wyt yn eu caru, gwna ni’n ymwybodol ein bod yn dy ddyrchafu di. Ac wrth i ni offrymu ein rhoddion yr wythnos hon, bydded i ni weld dy deyrnas yn torri trwodd. Yn enw Iesu dy Fab, a roddodd y cwbl oedd ganddo i’w roi. Amen.

  13. Gweddi Wythnos Cymorth Cristnogol 13 Dduw Dad yn y nefoedd Diolchwn i ti am bobl Nairobi, Kenya a chymunedau tlawd ledled y byd. Diolch i ti am eu breuddwydion a’u dyheadau i wella eu bywydau a rhoi gwell dyfodol i’w plant. Diolch am ein herio i wneud eu breuddwydion hwy yn freuddwydion i ni, a dyfodol eu plant hwy, yn ddyfodol i ni.

  14. 14 Diolch i ti am weledigaeth Diolch am ffydd i gredu fod popeth yn bosibl. Diolch am ddewrder i droi syniadau yn weithredoedd, ac am obaith i ddyfalbarhau hyd nes eu gwireddir. Yn enw Iesu. Amen

  15. Ymatebion terfynol 15 Llais cefnogwyr: Gall pobl ddweud, ‘O! nid yw’n bosibl. Ni ellir dileu tlodi.’ Ond fe’i gwelsom yn digwydd … Nid breuddwyd ydyw bellach i’r bobl hyn.’ Llais o Kenya: Rwy wedi dysgu fod newid yn bosibl. Nawr rwy’n gwybod bod gen i orwel ehangach. Pawb: Diolch i ti Dduw Dad am y rhai sydd eisoes wedi profi newid.

  16. 16 Llais o Kenya: Rwy’n gobeithio am ddyfodol mwy disglair, dyfodol da. Dyna sy’n rhoi nerth imi ddal ati i frwydro. Pawb: Gobeithiwn Arglwydd ar ran y rhai sy’n dal i ddisgwyl am newid. Llais cefnogwyr: Mae’n golygu wynebu holl ddioddefaint y byd a dyma’r daith y buom arni. Pawb: Gosod ni ar lwybr newydd, Arglwydd. Helpa ni i weld y ffordd ymlaen.

  17. 17 Arweinydd: Bydded i Dduw’r bywyd sy’n cydgerdded â ni, o obaith i newid, gerdded gyda ni yn awr ac am byth. Pawb: Amen

  18. Trefn gwasanaeth • Wythnos Cymorth Cristnogol • 9-15 Mai 2010

More Related