1 / 11

Modiwl 9: Damcaniaethau am ddatblygiad dynol

Modiwl 9: Damcaniaethau am ddatblygiad dynol. Pam mae gwahanol ddamcaniaethau?. Mae damcaniaethwyr yn anghytuno ynghylch beth sydd wedi dylanwadu fwyaf ar ein datblygiad a'r gwahanol ffyrdd rydyn ni ‘n datblygu. Edrychwch ar y delweddau hyn a thrafodwch y gwahaniaethau hyn. neu.

xia
Download Presentation

Modiwl 9: Damcaniaethau am ddatblygiad dynol

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Modiwl 9: Damcaniaethau am ddatblygiad dynol

  2. Pam mae gwahanol ddamcaniaethau? Mae damcaniaethwyr yn anghytuno ynghylch beth sydd wedi dylanwadu fwyaf ar ein datblygiad a'r gwahanol ffyrdd rydyn ni ‘n datblygu. Edrychwch ar y delweddau hyn a thrafodwch y gwahaniaethau hyn. neu Etifeddiad genetig Yr amgylchedd neu Datblygu drwy gyfres o gamau penodol Datblygu'n barhaus ar hyd eich oes Modiwl 9: Damcaniaethau am ddatblygiad dynol

  3. Beth yw'r gwahanol ddulliau o drin datblygiad dynol? Os yw damcaniaethwyr yn rhannu'r un rhagdybiaethau am ddatblygiad ac ymddygiad dynol, dywedir eu bod yn rhannu'r un dull o'i drin. Un dull yw'r un Seicodynamig.A allwch feddwl am bump arall? Ymddygiadol Gwybyddol Dyneiddiol Dulliau o drin datblygiad dynol Dysgu Cymdeithasol Seicodynamig Biolegol Modiwl 9: Damcaniaethau am ddatblygiad dynol

  4. Dull Seicodynamig Mae profiadau mewn plentyndod cynnar yn bwysig ar gyfer datblygu personoliaeth. Pwy yw'r pedwar prif ddamcaniaethwr? Beth oedd eu damcaniaethau am ddatblygiad? Mae'r meddwl anymwybodol yn ddylanwad mawr ar ein ffordd o ddatblygu ac ymddwyn. Freud Mae camau datblygiadol yn gysylltiedig ag amgylchedd cymdeithasol y plentyn ac agwedd ei rieni. Erikson Mae rôl y fam ac effeithiau amddifadedd mamol yn bwysig mewn plentyndod cynnar. Bowlby Mae straen ym mywyd y plentyn yn gysylltiedig â'r tebygolrwydd i'r plentyn droi'n dramgwyddwr. Rutter Dysgwch fwy am y dull seicodynamig a phrif ddamcaniaethwyr y dull hwn yma. Ysgrifennwch grynodeb o'r dull hwn a'i brif ddamcaniaethwyr ar y grid sydd ar gael i'w lawrlwytho yma. Modiwl 9: Damcaniaethau am ddatblygiad dynol

  5. Dull Dyneiddiol Mae'r ffordd y mae pobl yn teimlo amdanyn nhw eu hunain yn bwysig iawn ac mae'n effeithio ar bopeth maen nhw'n ei feddwl, ei ddweud a'i wneud. Mae dau brif ddamcaniaethwr. Trafodwch pwy oedden nhw a beth roedden nhw’n ei gredu. Allwch chi labelu hierarchaeth Maslow? Cliciwch ar bob segment i weld y labeli. Rogers Hunansylweddoli angerdd, creadigedd, moesoldeb, datrys problemau Mae ar bobl angen lefel uchel o hunan-barch er mwyn gwireddu eu potensial yn llwyr. Hunan-barch, hyder, parch at eraill a gan eraill Hunan-barch Maslow Cyfeillgarwch, teulu, rhyngweithio cymdeithasol, agosrwydd, anwyldeb Cariad/perthyn Caiff pobl eu symbylu gan hierarchaeth anghenion. Pan fydd y lefelau isaf wedi'u bodloni gallan nhw ddiwallu anghenion uwch. Diogelwch o ran: y corff, cyflogaeth, adnoddau, moesoldeb, teulu, eiddo, iechyd Diogelwch Bwyd, dŵr, cwsg, anadlu, iechyd Ffisiolegol Dysgwch fwy am y dull dyneiddiol a phrif ddamcaniaethwyr y dull hwn yma. Ysgrifennwch grynodeb o'r dull hwn a'i brif ddamcaniaethwyr ar y grid sydd ar gael i'w lawrlwytho yma. Modiwl 9: Damcaniaethau am ddatblygiad dynol

  6. Dull ymddygiadol Mae'r rhan fwyaf o ymddygiad dynol yn cael ei dysgu o'r amgylchedd. Rydyn ni’n dysgu ailadrodd ymddygiad sydd â chanlyniad cadarnhaol a pheidio ag ailadrodd ymddygiad sydd â chanlyniad negyddol. Mae dau brif ddamcaniaethwr. Pavlov Skinner Cyflyru gweithredol Cyflyru clasurol Mae'n adeiladu ar sail ymddygiad sy'n bodoli eisoes Dysgu ymddygiad o ganlyniadau yn yr amgylchedd. Allwch chi feddwl am enghreifftiau sy'n dangos y syniadau hyn ar waith? Gallen ni ddioddef poen wrth gael ein trin gan ddeintydd ac felly gallen ni gael ein cyflyru i deimlo pryder neu straen cyn mynd at y deintydd. Gallaiplentynddysguymddwynmewnfforddbenodol am eifodyncaelcanmoliaethneugosb. Felly, natur ynteu magwraeth? Magwraeth Dysgwch fwy am y dull ymddygiadol a phrif ddamcaniaethwyr y dull hwn yma. Ysgrifennwch grynodeb o'r dull hwn a'i brif ddamcaniaethwyr ar y grid sydd ar gael i'w lawrlwytho yma. Modiwl 9: Damcaniaethau am ddatblygiad dynol

  7. Dull Gwybyddol Ystyr gwybyddiaeth yw prosesu gwybodaeth am y byd o'n cwmpas ac addasu ein hymddygiad o ganlyniad. Dyma'r ddau brif ddamcaniaethwr. Trafodwch y prif wahaniaeth rhyngddyn nhw o ran eu barn am y ffordd mae plant yn dysgu orau. Vygotsky Piaget Mae plant yn dysgu orau wrth ddarganfod pethau amdanyn nhw eu hunain – dysgu drwy ddarganfod. Mae plant yn dysgu orau drwy ryngweithio cymdeithasol â'u cyfoedion – dysgu cydweithredol. Dysgwch fwy am Piaget yma ac am Vygotsky yma. Ysgrifennwch grynodeb o'r dull hwn a'i brif ddamcaniaethwyr ar y grid sydd ar gael i'w lawrlwytho yma. Modiwl 9: Damcaniaethau am ddatblygiad dynol

  8. Dull Dysgu Cymdeithasol Y prif ddylanwadau ar feddyliau, emosiynau ac ymddygiad y person yw pobl eraill, ein diwylliant a chymdeithas. Mae un prif ddamcaniaethwr. Mae plant yn dysgu o'u hamgylchedd drwy arsylwi ar bobl eraill ac wedyn dynwared beth maen nhw’n ei wneud. Bandura Sut byddai'r damcaniaethwr hwn yn egluro ymddygiad y plentyn hwn? Cofnodwch eich syniadau yma: Mae Tom yn fachgen 5 mlwydd oed sy'n ymosodol ac yn llawn dicter. Mae ei dad yn alcoholig a bydd yn gwylltio â'i deulu'n aml. Mae Tom yn dynwared ymddygiad ymosodol ei dad. Dysgwch fwy am Bandura a'r dull dysgu cymdeithasol yma. Ysgrifennwch grynodeb o'r dull hwn a'i ddamcaniaethwr ar y grid sydd ar gael i'w lawrlwytho yma. Modiwl 9: Damcaniaethau am ddatblygiad dynol

  9. Dull Biolegol Mae ein datblygiad corfforol, ein hymddygiad a'n personoliaeth yn ganlyniad i ryngweithio gan ein genynnau â'n systemau nerfol ac endocrin. Mae tri phrif ddamcaniaethwr ar gyfer y dull hwn. Trafodwch eu syniadau. Cattell Eysenck Gesell Aeddfediad: datblygiad rheolaidd a rhagosodedig y plentyn o'i enedigaeth drwy ddilyniant penodedig o gamau. Roedd yn honni bod 16 o nodweddion gwreiddiol sy'n ffurfio personoliaeth. Roedd yn credu bod dau ddimensiwn i bersonoliaeth: Allblyg-Mewnblyg a Sefydlog-Niwrotig. Rhowch gynnig ar brawf personoliaeth Cattell yma. Felly, natur ynteu magwraeth? natur Dysgwch fwy am y dull biolegol yma. Ysgrifennwch grynodeb o'r dull hwn a'i ddamcaniaethwyr ar y grid sydd ar gael i'w lawrlwytho yma. Modiwl 9: Damcaniaethau am ddatblygiad dynol

  10. Pa ddull? Cysylltwch y credoau a'r damcaniaethwyr isod â'r tri dull ar y dde. Cliciwch i ddangos y lliw sy'n cyfateb i'r dull. Ymddygiadol (1 clic) Mae etifeddiad genetig yn rheoli ein hymddygiad Mae ein diwylliant a chymdeithas yn ddylanwadau mawr Skinner Bandura Mae'r rhan fwyaf o ymddygiad dynol yn cael ei dysgu o'n hamgylchedd Eysenck Dysgu Cymdeithasol (2 glic) Gallwn gael ein cyflyrui ymddwyn mewn ffyrdd penodol Gallwn gael ein categoreiddio o danfathau penodol obersonoliaeth Pavlov Biolegol (3 chlic) Mae plant yn dysguo'u hamgylchedd drwyddynwared pobl eraill Mae ymddygiad yndatblygu ar sail atgyrchaunaturiol sy'n bodoli eisoes Cattell Modiwl 9: Damcaniaethau am ddatblygiad dynol

  11. Datblygiad dynol: beth yw'ch barn chi? Does dim un dull 'cywir' sy'n ateb yr holl gwestiynau am ymddygiad a datblygiad dynol. Trafodwch y cwestiynau hyn: • Ydy ein deallusrwydd a'n personoliaeth yn ganlyniad i natur, magwraeth neu gyfuniad o'r ddwy? • Ydy ein personoliaeth yn 3 blwydd oed yn dangos sut byddwn ni pan fyddwn yn 30 mlwydd oed? • Ydyn ni’n datblygu drwy gamau penodedig neu'n datblygu'n barhaus ar hyd ein hoes? • Ydygwylio trais ar y teledu neu mewn ffilmiau yn ein gwneud yn fwy ymosodol? • Os yw'ch bywyd cartref yn wael, ydych chi’n fwy tebygol o droi'n droseddwr? Modiwl 9: Damcaniaethau am ddatblygiad dynol

More Related