1 / 13

Modiwl 8: Ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad

Modiwl 8: Ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad. Ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad. Mae pedair ffordd o grwpio'r ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad ac ymddygiad. Beth ydyn nhw? Trafodwch hyn ac wedyn cliciwch ar y delweddau i ddysgu mwy. Dylanwadau etifeddol.

metea
Download Presentation

Modiwl 8: Ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Modiwl 8: Ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad

  2. Ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad Mae pedair ffordd o grwpio'r ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad ac ymddygiad. Beth ydyn nhw? Trafodwch hyn ac wedyn cliciwch ar y delweddau i ddysgu mwy. Dylanwadau etifeddol Dylanwadau economaidd-gymdeithasol sy'n ymwneud â'n gwneuthuriad genetig sy'n cyfuno ffactorau cymdeithasol ac economaidd Dylanwadau seicolegol Dylanwadau amgylcheddol ffactorau sy'n effeithio ar y meddwl dylanwadau o'r byd o'n cwmpas Modiwl 8: Ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad

  3. Anhwylderau genetig Mae genynnau'r unigolyn wedi'u hetifeddu oddi wrth ei rieni ac maent yn rheoli twf a datblygiad. Mae anhwylderau genetig yn digwydd oherwydd mwtadiadau mewn genynnau sy'n gwneud iddynt weithredu'n amhriodol. Mae Ffibrosis Systig yn anhwylder sydd wedi'i achosi gan enynnau diffygiol. Cliciwch ar yr eicon fideo i wylio clip am Lauren sydd â Ffibrosis Systig. Wrth i chi wylio, gwnewch restr o effeithiau'r anhwylder ar Lauren. • Mae ffibrosissystigynperiilysnafeddgludioggronniynyrysgyfaint. Mae hynyngalluachosi: • diffyganadl • pesychu • llai o alluisymud o gwmpas • heintiau Modiwl 8: Ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad

  4. Dylanwadau amgylcheddol a'u heffaith Edrychwch ar y delweddau isod. Ym mha ffordd y mae'r dylanwadau hyn yn gallu effeithio ar ddatblygiad dynol? Llygredd aer Llygredd sŵn Llygredd dŵr Llid yn y llygaid a'r gwddf, anhwylderau anadlol fel asthma Amharu ar gwsg, straen, effaith ar y gallu i ganolbwyntio Salwch, dolur rhydd ac, mewn achosion difrifol, marwolaeth Modiwl 8: Ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad

  5. Dylanwadau amgylcheddol: troseddu Darllenwch y senario isod ac ystyriwch sut y gallai'r sefyllfa hon effeithio ar Bryn. Cofnodwch eich syniadau yma: Mae Bryn yn 72 flwydd oed. Mae'n ei chael yn anodd symud o gwmpas ac mae arthritis arno. Mae wedi byw yn yr un ardal ar hyd ei oes. Yn y blynyddoedd diwethaf mae lefel y troseddu wedi codi ac mae gangiau wedi symud i'r ardal. • Gallai Bryn ddechrau teimlo nad yw'n ddiogel a pheidio â mynd allan. • Gallai ddechrau teimlo'n unig a mynd i'w gragen. Modiwl 8: Ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad

  6. Dylanwadau economaidd-gymdeithasol Pa ddylanwadau economaidd-gymdeithasol y gallwch feddwl amdanyn? Trafodwch hyn ac wedyn cliciwch ar y delweddau isod i weld rhai atebion. Incwm Teulu Y gallu i gael gwasanaethau iechyd Addysg ? ? Dylanwadau economaidd-gymdeithasol ? Diwylliant ? ? Dosbarth cymdeithasol Galwedigaeth Tai Diet Modiwl 8: Ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad

  7. Dylanwadau economaidd-gymdeithasol: incwm Mae lefel eich incwm yn gallu effeithio ar ansawdd eich bywyd a'ch datblygiad. Ym mha ffyrdd gwahanol y gallai incwm effeithio ar gyfleoedd bywyd y plant hyn? Cofnodwch eich syniadau isod, wedyn cliciwch ar y delweddau i weld ein hawgrymiadau. Mae Bethan yn 5 mlwydd oed ac mae ganddi ddau frawd hŷn. Mae ei mam yn gweithio'n rhan-amser ac mae ei thad yn ddi-waith. Cofnodwch eich syniadau yma: Mae Bethan yn fwy tebygol o fod heb adnoddau addysgol, o brofi straen ac o fod â disgwyliadau isel. Mae Luke yn 7 mlwydd oed ac mae ganddo un brawd hŷn. Mae ei dad yn bartner mewn cwmni cyfreithwyr ac mae ei fam yn gweithio ym maes bancio. Cofnodwch eich syniadau yma: Mae Luke yn fwy tebygol o gael arian ar gyfer anghenion, o fod â hunangysyniad cadarnhaol ac o wireddu ei botensial yn yr ysgol. Modiwl 8: Ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad

  8. Dylanwadau economaidd-gymdeithasol: y teulu Mae'r teulu'n hanfodol ar gyfer cymdeithasoli sylfaenol ac mae'n dylanwadu ar agweddau a chredoau'r plentyn. Mae pedwar math gwahanol o deuluoedd. Beth ydyn nhw? Trafodwch hyn ac wedyn cliciwch ar y delweddau i gael yr atebion. Teuluoedd unig rieni Teuluoedd estynedig ? Mathau o deuluoedd ? Teuluoedd sydd wedi ailffurfio Teuluoedd cnewyllol A allwch feddwl am dair mantais y mae teuluoedd yn eu rhoi ar gyfer datblygiad yr unigolyn? • cariad • cefnogaeth • cyflwyno rheolau ymddygiad mewn cymdeithas Modiwl 8: Ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad

  9. Dylanwadau economaidd-gymdeithasol: deiet Mae maeth digonol yn hanfodol ar gyfer twf a datblygiad. Beth fyddai'r effeithiau posibl o fwyta'r bwydydd canlynol bob dydd? Trafodwch hyn ac wedyn cliciwch ar y delweddau i weld ein hawgrymiadau. Mwy o egni, llai o debygolrwydd o gael salwch difrifol, gallu canolbwyntio'n well, hwyliau sefydlog ac ymdeimlad cyffredinol o les. Diffyg maeth, ennill pwysau, blinder, imiwnedd gwan, methu datblygu galluoedd gwybyddol, a chlefyd cardiofasgwlaidd. Modiwl 8: Ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad

  10. Dylanwadau economaidd-gymdeithasol: tai Ym mha ffyrdd gwahanol y gallai'r ddau fath hyn o dai effeithio ar blentyn sy'n byw ynddynt? Cliciwch ar y delweddau i weld ein hawgrymiadau. Cofnodwch eich syniadau yma: Gallai'r plentyn gael mwy o breifatrwydd ac amser iddo'i hun. Gallai gael lle i ymarfer mewn gardd breifat. Gallai'r plentyn fod heb le i chwarae, bod mewn perygl o gael damwain neu fod â lefel isel o hunan-barch. Modiwl 8: Ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad

  11. Dylanwadau seicolegol: hunangysyniad Gall nifer o ffactorau gwahanol ddylanwadu ar hunangysyniad yr unigolyn, e.e. ffrindiau, y teulu, y cyfryngau, oed a rhywedd. Gall unigolion fod â lefel uchel neu isel o hunangysyniad. Gallai'r senarios isod ddarogan lefel uchel neu isel o hunangysyniad. Cliciwch ar bob un i ddangos y lliw sy'n cyfateb i lefel yr hunangysyniad ar y dde. Mae Joanne newydd gael dyrchafiad yn y gwaith Joanne has just had a promotion at work Adam has bad acne Mae acne drwg ar Adam Mae Reece dros ei bwysau Reece is overweight Hunangysyniad uchel (1 clic) Mae plant eraill yn pigo ar Anna yn aml yn yr ysgol Anna is often picked on at school Cathy has just got engaged Mae rhieni John newydd wahanu John’s parents have just split up Mae Cathy newydd ddyweddïo Hunangysyniadisel (2 glic) Alun has just passed his driving test. Mae Alun newydd basio ei brawf gyrru. Mae tad Amandayn sâl iawn Mae Ella newydd raddioo'r brifysgol Modiwl 8: Ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad

  12. Cymeradwyaeth gan bobl eraill Mae cymeradwyaeth gan rieni a chyfoedion yn gallu bod yn neilltuol o bwysig i bobl ifanc. Mae Ian wedi dechrau mewn ysgol newydd yn ddiweddar ac mae am gyd-dynnu â phobl eraill ond mae'n ei chael yn anodd gwneud ffrindiau. Beth fydd yr effeithiau tebygol ar Ian os na chaiff gymeradwyaeth gan ei gylch cyfoedion? Cofnodwch eich syniadau yma: • diffyg hyder cymdeithasol • mynd i'w gragen • cyrhaeddiad academaidd is • teimlo'n fwy unig Modiwl 8: Ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad

  13. Ffactorau datblygiadol yn eich ardal Mae'r holl ffactorau sy'n dylanwadu ar ddatblygiad yn gallu effeithio ar unigolion ym mhob cyfnod o'u bywyd mewn ffyrdd cadarnhaol a negyddol. Cliciwch yma i gael tabl gwagi wneud crynodeb o beth rydych chi wedi'i ddysgu. Nawr ystyriwch y ffactorau sy'n fwyaf tebygol o effeithio ar gyfleoedd bywyd plentyn sydd wedi'i eni yn eich ardal chi. Os ydych wedi cwblhau modiwl 2, defnyddiwch y wybodaeth rydych wedi'i chasglu am ddemograffeg leol i'ch helpu. Modiwl 8: Ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad

More Related