1 / 33

Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben.

Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben. Rhai o’r peilotiaid fu’n ymladd yn ystod Brwydr Prydain. Douglas Bader. Harold Bird-Wilson. Robert Stanford Tuck. Frederick Rosier. James ‘Ginger’ Lacey. Cedric Watcyn Williams. Alan Deere. Adolf Galland. Adolph ‘Sailor’ Malan. Werner Moelders.

ingrid
Download Presentation

Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben.

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben.

  2. Rhai o’r peilotiaid fu’n ymladd yn ystod Brwydr Prydain. Douglas Bader Harold Bird-Wilson Robert Stanford Tuck Frederick Rosier James ‘Ginger’ Lacey Cedric Watcyn Williams Alan Deere Adolf Galland Adolph ‘Sailor’ Malan Werner Moelders Mawr ddiolch i Bill Bond – Cymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain – am ddarparu’r wybodaeth yn yr adran hon.

  3. Douglas Bader Prydeiniwr (Sais) Sgwadron 257 Aeth i Goleg y Llu Awyr Brenhinol (RAF) yn Cranwell yn 1928. Anfonwyd ef i Sgwadron 23 yn 1930. Collodd ei ddwy goes mewn damwain hedfan yn 1933 a gollyngwyd ef yn wael o’r RAF o ganlyniad. Ailddechreuodd dyletswyddau hedfan yn 1939. Ym mis Chwefror 1940 ymunodd â Sgwadron 19 oedd yn hedfan awyrennau Spitfire. Cafodd ei drosglwyddo i Sgwadron 222 fel Cadlywydd Awyrennau. Yn ystod mis Gorffennaf 1940 cafodd ei ddyrchafu yn Bennaeth Sgwadron 242. Yn ôl

  4. Buddugoliaethau Douglas Bader - 1940 1 Mehefin - saethodd Bader Bf 109 i lawr. 11 Gorffennaf - saethodd Do 17 i lawr. 21 Awst - saethodd Do 17 arall i lawr. 30 Awst - dinistriodd ddwy awyren Bf 110.7 Medi - saethodd i lawr Bf 110 a Bf 109 9 Medi - saethodd Do 17 i lawr.15 Medi - dinistriodd Do 17 a Ju 88. 18 Medi - dinistriodd Do 17. 27 Medi - cafodd ei gydnabod am ddinistrio un Bf 109 ac yn debygol o fod wedi dinistrio un arall. Nifer awyrennau’r gelyn a ddinistrwyd ganddo = Mehefin – Medi Medi Cyfanswm yn 1940

  5. Anrhydeddwyd Douglas Bader â medal DSO (1940) a medal DFC (1941). Yn 1941 cafoddeiddyrchafu’nGadlywyddAsgell a bu’narwainyrenwogTangmere Wing.Roeddyrasgellhonwedi’iffurfio o dairsgwadron Spitfire. Aeth Bader yneiflaenisaethu 11 awyrenBF 109 arallilawr (a rhannudwyarall) mewncyrchoedddrosFfrainc. Ar 9 Awstfewnaethwrthdaro â Bf 109. Llwyddoddibarasiwtioi’rddaear a chafoddeiddalyngarcharor. Erbynhynroeddwedisaethucyfanswm o 23 o awyrennau’rgelynilawr. FlwyddynarôliddogaeleiddalcafoddeianfoniGastellColditz - carcharoeddifodynamhosibldiancohono. Dymalleroeddcarcharorionrhyfel a oeddyncreuhelynti’rawdurdodauynyrAlmaenyncaeleucadw, yn y gobaithnafyddentyngalludianc. DFC: Distinguished Flying Cross DSO: Distinguished Service Order

  6. Ydychchi’nmeddwlfodyradroddiadhwnyndisgrifio’rdryswch, y perygla’ranrhefnsy’ngysylltiedigagysgarmesawyrynllwyddiannus? “Ymosodwyd arnom gan rengoedd o tua ugain Me. 109 oedd yn esgyn, felly dywedais wrth sgwadron 610 i aros lle roeddynt. Plymiais gyda fy adran i ar y pedair Me 109 oedd ar y blaen. Bu bron i mi wrthdaro â’r cyntaf wrth i mi danio tuag ati ac roedd rhaid i mi fynd y tu ôl iddi ac o dan ei chynffon. Parhau i ddisgyn wnes i a chael golwg ar fwy o awyrennau Me 109. Pan gyrhaeddais canol rhain roedd yn amlwg nad oeddent yn cadw gwyliadwriaeth dda. Mae’n debyg eu bod yn tybio fod y grŵp cyntaf wnaethon ni ymosod arnynt yn eu gwarchod. Cefais gyfle hawdd iawn i saethu at un o’r rhain, mi hedfanodd yn syth yn ei blaen nes iddi fynd ar dân y tu ôl i le’r peilot … wnes i wrthdaro â Me 109 a thorrodd cynffon fy awyren i ffwrdd. Fy mai i oedd y gwrthdrawiad. Neidiais o’r awyren a glanio’n ddiogel, ond roeddwn i nawr yn garcharor rhyfel.” Douglas Bader’ yn disgrifio cael ei saethu i lawr – Adroddiad Ysgarmes 1945.

  7. Roedd gan yr RAF gymaint o feddwl o Douglas Bader fel y trefnwyd cyrch arbennig ddeng niwrnod ar ôl iddo gael ei saethu i lawr. Yn y cyrch roedd awyrennau bomio Blenheim a’rTangmere Wing oedd yn dychwelyd o gyrch bomio. “Roedd y Luftwaffe wedi cynnig ‘taith ddiogel’ i’r awyren a fyddai’n cario coes artiffisial newydd i Bader, yn lle’r un gafodd ei difrodi wrth iddo neidio allan o’r awyren. Ond gwrthododd y weinyddiaeth awyr. Yn hytrach, gollyngwyd ei goes gan Bleinheims sgwadron rhif 82. Roedd Tangmere Wing yn hebrwng yr awyrennau bomio yn agos. Cyhoeddodd Cadlywydd Asgell Woodhouse, yn Saesneg, ar y radio i’r Almaenwyr fod y goes ar ei ffordd. Casglodd yr Almaenwyr y goes a’i rhoi i Bader. Gwnaeth ddefnydd da ohoni, y munud y dechreuodd gerdded eto dechreuodd feddwl am ddianc… Roedd gan yr Almaenwyr lawer i’w ddysgu am eu carcharor ystyfnig.” Cymerwyd o: Bader. The Man And His Men, gan Michael G. Burns, Cassell, 1990

  8. Robert Stanford Tuck Prydeiniwr (Sais) Sgwadron 257 Ymunodd â’r RAF yn 1935Gwasanaethodd gyda Sgwadron 65. Ymunodd â Sgwadron 92 ar 1 Mai, 1936 Ar 23 Mai saethodd un awyren Bf 109 a dwy awyren Bf 110 i lawr dros Dunkerque.Ar 2 Mehefin saethodd Heinkel 111 a Bf 109 i lawr ac am hynny cafodd fedal Croes Hedfan gydag Anrhydedd (DFC). Rhwng 13 ac 14 Awst dinistriodd bedair awyren JU 88 (un yn ystod y nos). Ym mis Awst 1940 cafodd ddyrchafiad i fod yn bennaeth Sgwadron 257. Saethodd Tuck bum awyren arall i lawr yn ystod Brwydr Prydain. Yn ôl

  9. Ym mis Rhagfyr 1940 rhoddwyd DSO iddo ac ym mis Mawrth 1941 ychwanegwyd ail far i’w DFC. Yn 1942 cafodd Tuck ei saethu i lawr dros Ffrainc a’i ddal gan yr Almaenwyr. Llwyddodd i ddianc yn 1945. Roedd Tuck wedi saethu i lawr 29 o awyrennau’r gelyn i sicrwydd. Am gyfnod o fis Mehefin 1940 ymlaen roedd Tuck a Sgwadron 92 yn hedfan awyrennau Hurricane o faes awyr Pembre yng Nghymru. I ddechrau, roedd Tuck yn siomedig ei fod wedi cael ei dynnu oddi ar y llinell ffrynt ar hyd y Sianel. Ond yn fuan sylweddolodd nad oedd y symud i Sir Gaerfyrddin ‘mor wirion wedi’r cyfan’. Roedd awyrennau sengl ar helfa ac awyrennau rhagchwilio yn aml yn hedfan i fyny Môr Hafren ac yn prowlan yng nghyffiniau porthladdoedd Caerdydd ac Abertawe.

  10. Mae Robert Stanford Tuck yn dwyn i gof ysgarmes dros Gaerdydd yn 1940. “Erbyn hyn mae’n siŵr mai yn union uwchben Caerdydd oedden ni. Wrth iddyn nhw ddod tuag atom ni, mi wnaethon ni dagu’r throtl yn ôl hynny fedrem ni ac arafu yn defnyddio’r propelor – er mwyn bod mor araf a phosibl wrth agosáu at ein gilydd … Llwyddais i gael dot anelu’r gynnau i orffwys yn daclus uwchben canopi awyren yr arweinydd. Yna, arhosom ni amdanyn nhw… Daliais y dot anelu fymryn bach yn uchel am eiliad neu ddwy ac yna ar yr eiliad olaf ei ollwng yn llawn ar y canopi… Wedyn wnaethon ni ddarganfod ei fod wedi cwympo i’r ddaear ar gyrion Caerdydd. Goroesodd dau o’r peilotiaid. Fe wnaethon ni rasio o flaen y ddwy awyren oedd ar ôl ac ail adrodd yr un perfformiad yn union, ymhell allan dros Fôr Hafren. O Fly for your Life, gan Larry Forrester, 1956

  11. Mae Robert Stanford Tuck hefyd yn dwyn atgofion am ysgarmes yn ymyl Abertawe. “Roedd adroddiad wedi dod i mewn am awyren anhysbys yn agos i Abertawe. Ddiwrnod neu ddau yn gynharach roedd y tanciau storio olew mawr yn Noc Penfro wedi cael eu taro ac roeddynt dal i losgi’n ffyrnig. Roedd y cwmwl mawr o fẃg fy atgoffa o’r ymladd fu uwchben Dunkerque. Dywedodd y Reolaeth wrthym fod Do. 17 yn bomio llong lannau fach ym Môr Hafren a rhoddodd gwrs i ni ei lywio. Roedd peilot y Dornier wedi gweld y Spit (Spitfire) yn gwyro tuag ato a chododd yn gyflym i gwmwl. Dilynais ef gan ei oddiweddyd ar gyflymder uchel. Yna cododd adain chwith ei awyren yn herciog ac wrth gael cipolwg sydyn arni sylwais ar gwpwl o dyllau bwledi ynddi.” Daliodd Tuck ati i erlid a thanio ar yr awyren Almaenig nes… “...gwelais y Dornier yn plymio i’r dŵr lai na milltir oddi wrth y llong fach yr oedd wedi methu ei tharo.”

  12. Frederick Ernest Rosier Prydeiniwr (Cymro) Sgwadron 229 Ganed ef ar 13 Hydref 1915 yn Wrecsam. Addysgwyd yn Ysgol Parc Grove, yn Wrecsam. Ymunodd â’r RAF ar gomisiwn gwasanaeth byr yn Awst 1935. Ar 2 Tachwedd 1935 penodwyd ef i wasanaethu yn Wittering. Ar 11 Mai 1936 ymunodd â Sgwadron 43 yn Tangmere. Ar 6 Hydref 1939 ymunodd â Sgwadron 229 fel Cadlywydd Asgell. Ar 16 Mai 1940 arweiniodd ran o Sgwadron 229 i Ffrainc. Ddau ddiwrnod yn ddiweddarach cafodd ei saethu i lawr, ond llwyddodd i barasiwtio allan a glanio yn ymyl Vitry. Roedd wedi ei losgi’n ddrwg. Ar 23 Mai anfonwyd ef yn ôl i Loegr drwy borthladd Dieppe. Ar 19 Hydref 1940 daeth yn bennaeth ar Sgwadron 229 ar ôl i’r swyddog oedd yn bennaeth gael ei saethu i lawr. Yn ôl

  13. Harold ‘Birdie’ Bird-Wilson Prydeiniwr (Cymro) Sgwadron 17 Ganed ef ym Mhrestatyn ar 20 Tachwedd 1919. Addysgwyd yng Ngholeg Lerpwl. Ymunodd â’r RAF ar gomisiwn gwasanaeth byr ym mis Medi 1937. Ymunodd â Sgwadron 17 yn Kenley yn Awst 1938. Ar 19 Medi 1938 cafodd ei ddal mewn storm ac anelodd am Cranwell. Cafodd ddamwain yn y tywydd drwg a lladdwyd y peilot oedd yn teithio gydag ef. Cafodd Bird-Wilson anafiadau difrifol i’w wyneb a chafodd lawdriniaeth bedair gwaith gan Archie McIndoe, y tro olaf yn Hydref 1939. Roedd yn un o’r ‘guinea pigs’ cyntaf i dderbyn y llawdriniaeth gosmetig arbrofol newydd. Ar 28 Rhagfyr cafodd ei anfon i Grŵp 12 a dechreuodd hedfan awyrennau Hurricane. Ar 24 Chwefror 1940 ailymunodd â Sgwadron 17. Yn ôl

  14. 17 Mai - aethiFfraincgydamintaio’rsgwadron ac ar 18 Mai cyfrannodd at ddinistrio Do 17. Ar 19 Mai gwnaethddifrodi Bf 109 ac ar 21 Mai cyfrannodd at ddinistrHs 126. 23Mai - cafoddSgwadron 17 eigalw’nôliLoegr. 25 Mai - fewnaeth Bird-Wilson ddifrodiJu 87 a chyfrannu at ddinistrioJu 88 wrthbatrolioardalDunkerque. 29 Gorffennaf - bu’nrhannolgyfrifol am ddinistrioawyren He III ac achosidifrodi Bf 110, ac ar 21 Awstcyfrannodd at ddinistrioJu 88. 25 Awst - saethodd Bf 109 ilawrisicrwydd; 31 Awstdinistriodd Bf 109 ac mae’ndebygoleifodwedidinistrio un arall. 3 Medichwaraeoedd ran mewndinistrio Do 17 ac mae’ndebygiddoddinistrio un arallar 15 Medi. 24 Medi 1940 - cafoddeiwobrwyo â DFC. Medi 24 - cafoddeisaethuilawrgan y peilotAlmaenig, Adolf Galland. Cafoddeilosgi’narwondllwyddoddibarasiwtioo’rawyren. Cafoddeiachubo’rmôr. 1 Hydref - ailymunodd â Sgwadron 17.

  15. Cedric Watcyn Williams Prydeiniwr (Cymro) Sgwadron 17 Ganed yn Ne Cymru a chafodd ei addysgu yn Ysgol Sir Maesyddywen. Ymunodd â’r RAF ym mis Medi 1926 fel prentis awyrennau a llwyddodd i ennill cymhwyster fel Ffitiwr yn 1929. Derbyniodd gadetiaeth yng Ngholeg RAF Cranwell ac aeth i’r coleg ym mis Medi 1929. Graddiodd yn 1931 ac ymunodd â Sgwadron 32 yn Kenley. Mis Chwefror 1933 cafodd ei anfon i Sgwadron 84 yn Shaihah yn Iraq ond yn 1935 dychwelodd i Brydain i ymuno â Gwersyll Hyfforddi Arfau 3 yn Sutton Bridge. Erbyn 1938 roedd Watcyn Williams yn aelod o’r Gyfarwyddiaeth Ddirprwyol ar Gasglu Gwybodaeth (Deputy Directorate of Intelligence ) yn y Weinyddiaeth Awyr. Yn 1940 aeth ar gwrs gloywi sgiliau hedfan cyn symud ymlaen i hedfan awyrennau Hurricane gyda Sgwadron 17. Yn fuan wedyn, ef oedd pennaeth y sgwadron. Yn ôl

  16. Cedric Watcyn Williams Prydeiniwr (Cymro) Sgwadron 17 18 Awst 1940 saethodd Watcyn Williams a dinistrio Do 17. 21 Awst bu’n rhannol gyfrifol am ddinistrio dwy awyren JU 88. 24 Awst cyfrannodd at ddinistrio He 111. 25 Awst dinistriodd Bf 110. Yn yr ymosodiad hwn collodd Watcyn Williams ei fywyd. Roedd Watcyn Williams gwrthdaro â’r Bf 110 yn benben a llwyddodd y 110 i wneud difrod difrifol i’w Hurricane. Disgynnodd ei Hurricane - rhif R 4199 - i’r môr. Roedd Cedric Watcyn Williams yn 30 oed pan gafodd ei ladd.

  17. James ‘Ginger’ Lacey Prydeiniwr (Sais) Sgwadron 257 Ymunodd â Gwirfoddolwyr wrth Gefn y Llu Awyr Brenhinol( RAFVR: Royal Air Force Voluntary Reserves) yn 1937. Pan dorrodd y rhyfel allan cafodd Ginger ei anfon i Sgwadron 501. Ym mis Mai 1940 cafodd ei anfon i ymladd yn Ffrainc. Ar ei gyrch cyntaf – Mai 13 - saethodd Bf 109 a He 111 i lawr. Yn ystod ei ail gyrch saethodd Bf 110 i lawr. Am y weithred hon anrhydeddwyd Ginger â medal Croix de Guerre gan y Ffrancwyr. 27 Mai saethodd ddwy awyren He 111 arall i lawr. 18 Mehefin fe wnaeth Sgwadron 501 adael Ffrainc a dychwelyd i Loegr. 20 Gorffennaf dinistriodd Ginger awyren Bf 109 a chafodd ei anrhydeddu â medal DFM. Yn ystod mis Awst fe ddinistriodd Ju 87, Ju 88, dwy Bf 109, ac mae’n bur debygol ei fod wedi dinistrio awyren JU 87 a Bf 110. Gwnaeth ddifrod i dair awyren arall. Yn ôl

  18. Yn ystod mis Medi 1940 saethodd Ginger bedair awyren Bf 109, un Heinkel 111 (oedd newydd fomio Palas Buckingham) ac un Do 215. Erbyn diwedd mis Hydref 1940 roedd Ginger wedi saethu 18 o awyrennau’r gelyn i sicrwydd. Bryd hynny roedd wedi saethu mwy o awyrennau na’r un peilot Prydeinig arall ym Mrwydr Prydain. Enillodd far i’w fedal DFM ac aeth yn ei flaen i fod yn bennaeth ar ei sgwadron ei hun. Erbyn diwedd y rhyfel roedd Ginger wedi saethu cyfanswm o 28 o awyrennau’r gelyn i lawr. “Felly daeth mis hydref i ben a Brwydr Prydain hefyd. Roedd Sarsiant Lacy wedi dinistrio deunaw o awyrennau’r gelyn yn y frwydr gan ennill sgôr uwch nag unrhyw beilot arall yn y Reolaeth Awyrennau Ymladd. Yn ychwanegol, roedd e’n fwy na thebyg wedi dinistrio pedair awyren arall, ac wedi difrodi chwech. Hefyd yn Ffrainc, roedd pump arall wedi’u dinistrio.“ O Ginger Lacey: Fighter Pilot, gan Richard Townsend Bickers, 1964

  19. Darllenwch y darn isod. Mae’n disgrifio bywyd peilot awyrennau ymladd yn ystod Brwydr Prydain. “Mae’r patrwm codi yn ddidrugaredd ac ar brydiau mae’n teimlo’n ddi-ddiwedd. Rhaid codi’n gynnar iawn: 4.00 yb. efallai. Byth yn hwyrach na 6:30 yb. Yna, hedfan patrôl rheolaidd yn rhywle o amgylch ‘Devil’s Corner’, sef ochr de ddwyreiniol Lloegr. Glanio yn Hawkinge. Sgramblo, sgramblo a sgramblo unwaith eto. Un patrôl rheolaidd arall i aros am elyn fydd efallai’n dod ac efallai ddim. Yna, yn ôl i Gravesend. Efallai y bydd rhaid bod wrth gefn drwy’r nos. Os ddim, yna gallwn ymweld â rhywle’n sydyn. Rhywle mae pobl gyffredin yn cymdeithasu, rhywle i mi allu anghofio am refio, cyflymu a saethiadau gogwydd am ennyd. Yna, caf syrthio’n ddiymadferth ar y gwely a sylweddoli y gallai yfory fod fy niwrnod olaf ar y ddaear hon, cyn syrthio i gysgu’n syth.“ O Ginger Lacey: Fighter Pilot, gan Richard Townsend Bickers, 1964

  20. Alan ‘Al’ Deere o Seland Newydd Sgwadron 54 Ymunodd â’r RAF yn 1937. Yn wreiddiol cafodd ei anfon i Sgwadron 74, ond yna yn 1938 anfonwyd ef i Sgwadron 54 - sgwadron gafodd ei hailarfogi gydag awyrennau Spitfire yn 1939. Ar 15 Mai gwnaeth Deere ei gyrch cyntaf dros Ffrainc. Ar 23 Mai 1940 ymunodd ei sgwadron ef gyda Sgwadron 74 (Sgwadronau’r Teigrod) i helpu gyda gwarchod milwyr y Cynghreiriad wrth iddyn nhw adael Dunkerque . Bryd hynny bu Alan mewn cyrch mentrus gydag is-gapten Hedfan, i geisio achub pennaeth Sgwadron oedd wedi cael ei orfodi i lanio ar faes awyr Ffrengig. Ymosododd y Luftwaffe ar awyrennau’r RAF a saethodd Deere ddwy awyren Bf 109 i lawr. Yn ôl

  21. Yn dilyn ysgarmes ym mis Mai, bu’n rhaid i Deere lanio’i awyren Spitfire ar draeth yng Ngwlad Belg. Gwnaeth ei ffordd i Dunkerque ac ymuno â milwyr Prydain a Ffrainc oedd yn cael eu hachub o’r traethau. Cyrhaeddodd yn Lloegr ac ymuno â’i sgwadron, 19 awr ar ôl iddo esgyn i’r awyr. Ar 12 Mehefin 1940 derbyniodd y fedal DFC. Ym mis Gorffennaf fe wnaeth Deere saethu Bf 109 i lawr ond bu’n rhaid iddo lanio’n sydyn ar ôl gwrthdaro â Bf 109 arall oedd wedi ymosod arno. Ar 11 Awst saethodd Bf 109 i lawr ac ar 12 Awst saethodd ddwy Bf 109 a Bf 110. Ar 15 Awst dinistriodd Bf 109 arall cyn iddo gael ei erlid gan nifer o awyrennau Bf 109 a gorfod parasiwtio allan o’i awyren. Ar 30 Awst hawliodd ei fod, yn fwy na thebyg, wedi dinistrio Do 17.

  22. Ar 31 Awst roedd Deere yn arwain awyrennau Spitfire ei adran i sgramblo pan ddisgynnodd un o fomiau’r gelyn ynghanol yr awyrennau ar y maes awyr. Chwythwyd awyren Deere i’r awyr a glaniodd ar ei chefn, ond mân anafiadau a gafodd Deere. Ym mis Mai 1941 ymunodd â sgwadron 601. Ar 1 Awst daeth yn bennaeth ar y sgwadron, ac ar yr un diwrnod saethodd Bf 109 i lawr. Yn 1942 cafodd ei anfon i America i ddarlithio ar dactegau brwydro. Dychwelodd i faes y gad yn 1943 a chyn hir roedd wedi saethu Fw 190 i lawr. Cafodd ei ddyrchafu’n arweinydd asgell yn Biggin Hill a chafodd ei anrhydeddu â medal DSO ar 15 Gorffennaf 1943. Arweiniodd Deere asgell o awyrennau dros flaenlaniad (bridgehead) y Cynghreiriad ar Ddydd-D. Tuag at ddiwedd y rhyfel roedd yn bennaeth ar asgell o beilotiaid o wlad Pwyl oedd yn hedfan awyrennau ymladd Mustang yn Essex.

  23. Adolph ‘Sailor’ Malan De Affrica Sgwadron 74 Wedi iddo gael ei dderbyn ar gomisiwn gwasanaeth byr gan yr RAF yn 1935, dechreuodd Adolph ei hyfforddiant hedfan yn 1936. Cafodd ei anfon at Sgwadron 74 yn Hornchurch a chafodd ei ddyrchafu’n Gadlywydd Hedfan yn 1937. Ymladdodd Adolph Malan yn erbyn y Luftwaffe am y tro cyntaf uwchben traethau Dunkerque ac enillodd ei fuddugoliaeth gyntaf ar 21 Mai 1940, pan saethodd Ju 88 a He 111 i lawr a difrodi un arall. 22 Mai 1940 saethodd He 111 i lawr a rhannodd y clod am ddinistrio Ju 88 a Do 17. Ar 27 Mai saethodd awyren Bf 109 i lawr, cyfrannodd at ddinistrio Do 17 a gwnaeth ddifrod i ddwy awyren Do 17 arall. Yn ystod Mehefin 1940, anrhydeddwyd Malan gyda medal DFC am ei ddewrder dros Dunkerque. Yn ôl

  24. Saith diwrnod ar ôl derbyn ei fedal DFC saethodd Malan ddwy awyren He111 mewn ysgarmes yn ystod y nos. Yn nyddiau cynnar Brwydr Prydain dinistriodd Malan He 111 ar 12 Gorffennaf. Ar 19 Gorffennaf hawliodd ei fod, mwy na thebyg, wedi dinistrio Bf 109, a gwnaeth ddifrod i Bf 109 ar 25 Gorffennaf. Ar 28 Gorffennaf saethodd Bf 109 i lawr a gwneud difrod i un arall. Erbyn hyn roedd Malan yn ddigon profiadol i herio rhai o’r tactegau roedd yr RAF yn eu defnyddio yn erbyn y Luftwaffe. Sylweddolodd fod yn rhaid i awyrennau ymladd Prydain glosio’n nes at awyrennau’r Almaen os am achosi mwy o ddifrod. Ail-gyfluniodd y gynnau ar ei awyren fel eu bod ar y targed ar ôl 250 llath yn hytrach na’r 400 llath arferol. Yn ei farn ef roedd y patrwm ‘Vic’ (tair awyren yn hedfan mewn siap ‘V’) yn golygu fod y peilotiaid yn treulio gormod o amser yn cadw patrwm taclus ac yn osgoi gwrthdaro, yn hytrach na chanolbwyntio ar y gelyn. Roedd hyn y gwneud awyrennau Prydain yn llawer mwy agored i ymosodiadau. Cafodd wared ar y patrwm ‘Vic’ a defnyddio patrwm o bedair awyren yn hedfan mewn llinell. PenodwydMalan yn bennaeth ar Sgwadron 74 yn ystod mis Awst 1940.

  25. 8 Awst saethodd Malan ddwy awyren Bf 109 i lawr, a gwnaeth ddifrod i un arall ar Awst 11. Ar 13 Awst saethodd ddwy Do 17 i lawr. Yn ystod Medi saethodd Ju 88 i lawr a gwneud difrod i un arall. Yn ystod mis Tachwedd saethodd ddwy Bf 109 i lawr a rhannu’r clod am ddinistrio un arall. Yn ystod nis Medi saethodd Bf 109 i lawr. Fe’i hanrhydeddwyd â medal DSO ar noswyl Nadolig 1940.Aeth Malan ymlaen i saethu 13 awyren Bf 109 arall. Mae’n bur debyg ei fod wedi saethu un arall ac wedi gwneud difrod i 9. Hefyd, rhannodd y clod am ddinistrio 2 awyren Bf 109 a Do 17. Yn dilyn cyfnod fel Hyfforddwr Hedfan a Chadlywydd Gorsaf Awyr penodwyd Malan i arwain Asgell 145. Hefyd, arweiniodd adran o Sgwadron 340 oedd yn hebrwng yr Horsa Gliders tra roedd byddinoedd y Cynghreiriaid yn glanio yn Normandie yn 1944. Yn 1946 gadawodd yr RAF.

  26. Adolf Galland Almaenwr Jagdgeschwader-26 Cafodd ei hyfforddi fel peilot gleider yn 1932. Ar ôl i’r Natsïaid ddod i rym yn yr Almaen cafodd ei roi mewn Catrawd Troedfilwyr. (1934). Yn 1935 trosglwyddwyd Adolf i’r Asgell Awyrennau Ymladd 1af yn Doberitz. Erbyn mis mai 1937 roedd yn bennaeth ar sgwadron o awyrennau ymladd yn Sbaen, (Lleng y Condor) fel rhan o ymgyrch yr Almaen o blaid y Cadfridog Franco yn Rhyfel Cartref Sbaen.(1936-39). 6 Mehefin 1939 cafodd ei anrhydeddu â’r fedal Groes Sbaenaidd, mewn aur gyda diemwntau, am ei gyfraniad i fuddugoliaeth y Cenedlaetholwyr yn Sbaen. Yn Hydref 1939 ar ôl i’r rhyfel dorri allan yn Ewrop cafodd Galland ei ddyrchafu yn gapten. Ym mis Mehefin 1940 cafodd ei drosglwyddo i JG-26 a’i wneud yn bennaeth ar Grŵp III. Yn ôl

  27. Ar 18 Mehefin cafodd Galland ei ddyrchafu’n Uwch-gapten. Datblygodd i fod yn un o archbeilotiaid gorau’r Luftwaffe yn ystod Brwydr Prydain. Saethodd ddeuddeg o awyrennau’r gelyn i lawr, yn cynnwys Hurricane oedd yn cael ei hedfan gan yr archbeilot o Gymro, Harold ‘Birdie’ Bird Wilson ar 24 Medi 1940. Anrhydeddwyd Galland drwy ei wobrwyo â Chroes y Marchog ym mis Awst 1940. Ychwanegwyd Dail y Dderwen at y fedal honno ym mis Medi. Cafodd ei ddyrchafu’n Kommodore ar JG-26. Ar 1 Tachwedd roedd wedi saethu 50 o awyrennau i lawr. Cafodd ei ddyrchafu’n Gyrnol ym mis Rhagfyr 1940. Ar yr un diwrnod yn 1941, roedd gan Galland 70 o awyrennau’r gelyn i’w enw, (saethodd awyren fomio Blenheim) ond cafodd ef ei hun ei saethu i lawr gan Spitfire ar yr un diwrnod. Sgwrs gyda Goring, 1940

  28. Yn hwyr yn 1940 roedd Hermann Goering (y Reichsmarschall y Lufftwaffe) wedi cynnal cyfarfod gyda’i beilotiaid a’i gadlywyddion gorau. Yn ei lyfr ‘First and the Last’ mae Adolf Galland yn disgrifio’r cyfarfod hwnnw. “Ar ddiwedd y cyfarfod gofynnodd Goering i ni beth oedd ein gofynion ar gyfer ein sgwadronau. Gofynnodd (Werner) Molders am beiriannau mwy pwerus ar ei awyrennau. Cytunodd Goering i’r cais. “Beth amdanoch chi?” meddai gan droi ataf. Wnes i ddim oedi’n hir. “Faswn i’n hoffi awyrennau Spitfire i fy ngrŵp, Herr Reichmarschall.” Roedd hyd yn oed Goering wedi’i syfrdanu gan y fath hyfdra digywilydd. Cerddodd i ffwrdd gan chwyrnu iddo’i hun.”

  29. Anrhydeddwyd Galland â medal Cleddyfau a Diemwntau yn 1941. Roedd hon yn cael ei hychwanegu at anrhydedd Dail y Dderwen a oedd eisoes wedi’i ychwanegu at y fedal Croes Marchog. Pan fu farw’r Cadfrifdog Werenr Molders tua therfyn 1941, cafodd Galland ei ddyrchafu’n Gadfridog (General) yng ngofal awyrennau ymladd. Yn 1942, ac yntau’n dri deg oed, cafodd ei ddyrchafu’n Is-gadfridog (General Lieutenant). Ef oedd yr ieuengaf i gael y fraint o fod yn Is-gadfridog gyda lluoedd y Cynghreiriad neu Bwerau’r Axis. Aeth Galland yn ei flaen i hedfan un o’r awyrennau ymladd cyntaf yn y byd i gael peiriant jet (Me-262) yn 1943. Roedd yr awyren hon 100 m.y.a. yn gyflymach na’r un awyren ymladd oedd gan y Cynghreiriaid. Yn 1945 datblygodd Galland dîm i hedfan y Me-262. Erbyn hynny, fodd bynnag, roedd y rhyfel bron ar ben a’r Cynghreiriad yn martsio am Berlin.

  30. Daeth Galland yn eithaf cyfeillgar gyda Douglas Bader, yr archbeilot o Brydain oedd wedi saethu 23 o awyrennau’r Almaen i lawr. Roedd yn cael ei ddal yng ngharchar Colditz. Parhaodd y cyfeillgarwch ar ôl i’r rhyfel ddod i ben. Roedd hefyd yn ffrindiau gyda Robert Stanford-Tuck, archbeilot arall o Brydain oedd wedi cael ei saethu i lawr dros Ffrainc yn 1942.

  31. Werner Moelders Almaenwr Jagdgeschwader-53 Ceisiodd Moelders ymuno â’r Luftwaffe fel peilot awyrennau ymladd yn 1935 ond cafodd ei ystyried yn anaddas ar gyfer dyletswyddau hedfan. Cafodd ei benodi’n hyfforddwr hedfan yn lle. Yn 1938 cafodd Moelders ei benodi’n Lefftenant ac ymunodd â lleng y Condor oedd yn ymladd yn Sbaen. Dilynodd yn ôl troed Adolf Galland a chael ei wneud yn bennaeth ar sgwadron yn J-88. Yn Sbaen, daeth Moelders yn enwog ymysg peilotiaid am helpu i ddatblygu’r dechneg ‘pedwar bys’. Roedd y dechneg honno’n galluogi awyrennau ymladd i ymestyn fel bysedd ar law. Roedd hyn yn galluogi’r peilotiaid i weld o’u hamgylch yn well ac yn rhoi mantais iddynt wrth drin yr awyren mewn brwydr. O fewn pum mis, yn 1938, roedd wedi saethu 14 o awyrennau i lawr. Yn ôl

  32. Ym mis Hydref cafodd Moelders ei wneud yn bennaeth ar Grŵp III JG-53. Ar 27 Mai 1940 cafodd ei wneud yn gapten a’i anrhydeddu â Chroes Haearn y Marchog. Erbyn hyn roedd wedi saethu 20 o awyrennau i lawr. Yn ystod Mehefin 1940 cafodd ei saethu i lawr dros Ffrainc a’i ddal yn garcharor. Ar ôl pythefnos cafodd ei ryddhau wedi i’r Almaen arwyddo cadoediad (cytundeb i atal brwydro) gyda Ffrainc. Nawr cafodd Moelders ei ddyrchafu’n Uwchgapten a’i wneud yn bennaeth ar JG-51. Ar 28 Gorffennaf cafodd Moelders ei anafu mewn ysgarmes ag Adolph Sailor Malan (o Dde Affrica) - un o archbeilotiaid yr RAF - ond llwyddodd i gyrraedd a glanio yn Ffrainc.

  33. Erbyn 1941 roedd Moelders yn ymladd yn erbyn y Rwsiaid ar y Ffrynt Dwyreiniol. Ym mis Gorffennaf 1941 llwyddodd i ennill ei ganfed buddugoliaeth yn yr awyr. Doedd yr un peilot arall wedi llwyddo i gyflawni’r ffasiwn ganran o fuddugoliaethau. Cafodd ei anrhydeddu â diemwntau i gyd-fynd â’r Dail Derw gyda Chleddyfau ar ei Groes Haearn. Cafodd Moelders ei ddyrchafu’n Gadfridog yn 1941. Bu farw Werner Moelders pan ddisgynnodd ei awyren i’r ddaear mewn storm ar 22 Tachwedd 1941. Ar y pryd, roedd yn teithio mewn He-111 a oedd yn ei gludo i angladd ei ffrind Ernst Udet. Roedd gan Moelders gyfanswm o 115 o fuddugoliaethau yn yr awyr i’w enw, 101 o’r rhain wedi’u cyflawni yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ar Ragfyr 20 1941, mabwysiadwyd yr enw ‘Moelders’ ar y JG51 er parchus goffadwriaeth amdano.

More Related