1 / 14

Nodiadau athro

Nodiadau athro. Ymchwil. Ymchwil – Cyflwyniad i’r dasg.

brilliant
Download Presentation

Nodiadau athro

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Nodiadau athro Ymchwil Ymchwil – Cyflwyniad i’r dasg Fy mwriad yn yr uned hon oedd cynhyrchu adnodd fyddai’n dod â photensial Metal i sylw pobl ac yn tanio’u dychymyg – ac helpu disgyblion i weld metal fel deunydd gwydn amlbwrpas cyffrous. Rwyf wedi dewis gosod tasg ddylunio a gwneud sydd wedi bod yn brosiect metal llwyddiannus yng ngweithdy’r ysgol ers nifer o flynyddoedd, rwyf hefyd wedi ychwanegu elfennau hwyliog a modern sydd yn bywiogi’r dasg – animeiddio, trin siapiau, ayyb. Yn yr uned hon ceir cyfres o gyflwyniadau PowerPoint a’r fethodoleg addysgu a ddefnyddir yn ein hysgol ni. Byddwn yn cyflawni’r dasg hon gyda blwyddyn 9 yn ystod Tymor yr Hydref, gosodwyd rhai elfennau i herio’r disgyblion mwyaf galluog a byddai’r rhain yn addas ar gyfer arholiad TGAU. Ein gobaith yw y bydd y prosiect o gymorth i unrhyw un sydd eisiau gweld beth mae pobl eraill yn ei wneud - ac i ddewis a dethol a chymysgu o’r ffair sbarion o syniadau! Dydy’r uned hon ddim yn honni y bydd yn datrys pob dim sydd ynglŷn â gweithio mewn metal, yn hytrach yr hyn a geir yma yw ein profiad ni wrth weithio ar brosiect sydd wedi datblygu dros gyfnod o amser , prosiect sydd wedi bod yn boblogaidd a llwyddiannus iawn yn ystod y blynyddoedd diweddar - a gwelwyd rhai canlyniadau anhygoel. Peidiwch bod ag ofn newid y fformat i siwtio’ch anghenion eich hun. Rwyf yn gobeithio y byddwch o’r farn bod y cyflwyniadau’n ddefnyddiol a diddorol.

  2. Nodiadau athro Ymchwil Ymchwil – cyflwyniad i’r dasg Mae’r dasg gyntaf yn rhoi amlinelliad o’r dasg, mae’r ddwy sleid nesaf yn nodi’r pedwar maes ymchwil allweddol o fewn y sefyllfa ddylunio - cwmnïau crefft Cymreig trendi a dadansoddi cynnyrch, dylunwyr arloesol sy’n gallu ysbrydoli, siapiau organig a mathau o fetelau - yn enwedig dur meddal. Mae Sleid 3 yn rhoi crynhodeb pwysig o’r pedwar maes allweddol y dychwelir atynt bob tro yr ymchwilir i faes newydd. Wrth astudio hwn gall y disgyblion weld yn eglur beth yw disgwyliadau’r dasg a’r ymchwil. Mae hefyd yn rhoi cyfle i’r athro adolygu pob adran. Sleid 4 – yma ceir diffiniad o’r gwahaniaeth rhwng y prif ddull ymchwil a’r dull eilaidd.

  3. Nodiadau athro Ymchwil Ymchwil – cwmniau crefft Cymreig arlein Yn y sleid gyntaf mae’r petryal coch yn amlygu’r cyntaf o’r meysydd allweddol fydd yn cael eu harchwilio yn y gyfres hon o sleidiau. Mae’r ail a’r drydedd sleid yn cynnig ystod o opsiynau ymchwil i’r disgyblion wrth iddynt ymchwilio cwmnïau crefft Cymreig trendi. Er mwyn hwyluso pethau mae hypergyswllt ar gyfer pob cyfeiriad gwefan. Mae’r sleidiau hyn yn atgyfnerthu’r deffiniad o’r prif ddull ymchwil a’r dull eilaidd ac yn cynnig syniadau ar gyfer ffynonellau ymchwil. Mae sleid 4 yn amlygu gwefan Adra - gwefan ddefnyddiol ac un sy’n sbarduno syniadau, ceir gwybodaeth am ddylunwyr a gwneuthurwyr rhanbarthol yng Nghymru.

  4. Nodiadau athro Ymchwil Ymchwil – Dadansoddi Cynnyrch 6 7 5 Mae Sleid 5 yn annog y disgyblion i gwestiynu pam bod angen y cynnyrch ac yn gofyn iddynt ystyried anghenion y defnyddwyr. Gellid ymestyn y dasg ymchwil hon i gynnwys ystod o gynhyrchion metel eraill pe byddai’r athro’n teimlo fod hynny’n addas. Mae sleid 6 yn cynnig sampl o’r cynhyrchion sydd eisoes ar gael ar y farchnad a dylid defnyddio’r wybodaeth i holi sut y gellid gwneud dyluniad sy’n wreiddiol ac yn wahanol i’r hyn sydd ar gael yn barod. Ceir cyfle yma i gyflwyno’n fyr y pwnc ‘arloesi’. Yn y dasg dadansoddi cynnyrch gofynnir i’r disgyblion werthuso’n feirniadol ystod o ddalwyr cannwyll fach gron a dalwyr cannwyll. Fe’u hanogir i ddefnyddio termau technegol. Gellir defnyddio sleid 7 i sbarduno map meddwl ar ddechrau prosiect neu fel esiampl o’r cwestiynau y gellid eu gofyn wrth ddadansoddi cynnyrch e.e. agweddau positif a negyddol o’r cynnyrch. Mae’r fformat hwn yn caniatáu’r disgyblion i fod yn fwy beirniadol wrth ddadansoddi ar y lefel hon ac mae’n canolbwyntio’u dealltwriaeth o’r nodweddion sy’n gwneud cynnyrch yn llwyddiannus.

  5. Nopdiadau athro Ymchwil Ymchwil – Dylunwyr arloesol sy’n gallu ysbrydoli Copi dyblyg o’r rhestr meysydd allweddol i’w hymchwilio sydd i’w gweld yn y cyflwyniad yw’r sleid gyntaf. Mae’r petryal coch yn amlygu’r maes allweddol fydd yn cael ei ymchwilio yn y gyfres hon o sleidiau - sef dylunwyr arloesol sy’n ysbrydoli. Yn sleid 2 ceir cyflwyniad i bwysigrwydd arloesi ac rwyf wedi cynnwys esiamplau o ddylunwyr a gwneuthurwyr sydd un ai’n Gymry neu gyda chysylltiad â Chymru. Mae eu gwaith yn fodern, yn ffynci, ac yn codi gweithio â metel i lefel sy’n ysbrydoli. Caiff disgyblion y cyfle i feddwl y tu allan i’r ffiniau arferol a sylweddoli potensial llawn y defnyddiau cyffrous - metel. Gallai ymchwilio dylunwyr fod yn waith cartref ymchwilio neu’n dasg estynedig.

  6. Nodiadau athro Ymchwil Ymchwil – siapiau organig / ysbrydoli Copi dyblyg o’r rhestr meysydd allweddol i’w hymchwilio sydd i’w gweld yn y cyflwyniad yw’r sleid gyntaf. Mae’r petryal coch yn amlygu’r maes allweddol fydd yn cael ei ymchwilio yn y gyfres hon o sleidiau - sef siapiau organig ac ysbrydoli. Mae sleid 2 yn cynnig cyflwyniad i ystyr y term organig a sut y gall dylunwyr gael eu hysbrydoli. Mae sleid 3 yn darparu esiampl o ddyluniwr Cymreig sy’n cael ei ysbrydoli gan ffurfiau organig. Gellir defnyddio gwaith neu wefan Ross Lovegrove fel gwers / man cychwyn pwnc neu waith cartref ymchwilio / tasg estynedig yn holi disgyblion. Yn sleidiau 4-6 ceir cwis sy’n gofyn i’r disgyblion ddyfalu’r ysbrydoliaeth organig i ystod o ddalwyr cannwyll fach gron. Mae’n ddull hwyliog a chyflym o gael y disgyblion i ddechrau meddwl am siapiau organig a’r potensial sydd iddynt yn eu dylunio.

  7. Nodiadau athro Ymchwil Ymchwil – siapiau organig / ysbrydoliaeth Mae’r ddwy sleid nesaf yn dangos sut y gall delweddau o siapiau naturiol blodau a phlanhigion fod yn ysbrydoliaeth i ddylunio daliwr cannwyll fach gron. Gallai lluniadu siapiau naturiol o ffotograffau a’u datblygu’n syniadau cyflym fod yn waith cartref ymchwilio neu’n dasg estynedig. Mae sleidiau 9 a 10 yn cynnig cyfle ymchwilio modern i’r disgyblion. Ar ‘You Tube’ gellir gweld esiamplau o waith dylunwyr blaenllaw sydd wedi datblygu syniadau o fyd natur. Y gobaith yw y bydd cynnwys gwefan sy’n gyfarwydd ac yn ddiddorol i’r disgyblion yn eu hannog, ac yn cynnig ffynonellau posibl i’w hysbrydoli. Gellir mewnosod y ffilmiau hyn fel rhan o’r cyflwyniad PowerPoint.

  8. Nodiadau athro Ymchwil Ymchwil – Bioddynwared Bioddynwared yw’r pwnc hynod ddiddorol sy’n cael ei gyflwyno yn y tair sleid yma a gellir addasu’r deunydd ar gyfer ystod o wahanol oedrannau a lefelau gallu. Mae’r pwnc yn cymysgu Gwyddoniaeth a Thechnoleg ac yn cynnig mewnwelediad gwych i sut mae dyn wedi dysgu trwy ddynwared dyluniadau byd natur. Yn fy mhrofiad i mae’r disgyblion yn cael eu cyfareddu ac yn cwestiynu’r siapiau sydd wedi cael eu ‘copïo’. Gall hyn arwain at gyfleoedd trafodaeth diddorol. Unwaith eto gellir defnyddio’r pwnc hwn fel gwers / man cychwyn pwnc neu waith cartref ymchwilio / tasg estynedig.

  9. Nodiadau Athro Ymchwil Ymchwil – metelau Gellir gweld yr adran hon ar Fetelau hefyd yn adran generig cyflwyniadau adnoddau GCaD. Yn sleid 2 ceir rhestr ddyblyg o’r meysydd allweddol i’w harchwilio sydd i’w gweld yn yr adran cyflwyniad. Mae’r petryal coch yn amlygu’r maes allweddol fydd yn cael ei ymchwilio yn y gyfres hon o sleidiau - sef mathau o fetelau, yn enwedig dur meddal. Yn sleid 3 cyflwynir metel fel un o’r defnyddiau mwyaf cyffrous, mwyaf amlbwrpas, a phwysicaf sydd ar gael i ddynolryw. Gosodir safbwynt ar gyfer trafodaeth er mwyn gweld os yw’r disgyblion yn cytuno â’r gosodiad. Gallai hyn fod yn fan cychwyn diddorol i wers neu gellir ei osod yn waith cartref ymchwil. Yn sleid 4 gofynnir i’r disgyblion restru deg eitem sydd wedi cael eu gwneud o fetel sydd o’u cwmpas - mae hyn er mwyn creu ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth o gynhyrchion sy’n cael eu gwneud o fetel. Fel arfer bydd rhai o’r pwrpasau’n eu synnu. Yn sleid 5 ceir bwrdd hwyliau bywiog ac arno luniau o wahanol fetelau - gofynnir i’r disgyblion feddwl am eiriau sy’n disgrifio metelau, yna gofynnir i’r disgyblion enwi rhai. Mae’r lluniadau’n gymorth i annog ymateb.

  10. Nodiadau athro Ymchwil Ymchwil - metelau Pwrpas sleid 6 yw codi ymwybyddiaeth y disgyblion o’r nifer fawr o wahanol ddefnydd sydd i fetelau heddiw a’u heffaith ar ein bywydau. Mae sleidiau 7-9 yn edrych ar bob pwynt a godwyd yn sleid 6. Edrychir ar y modd y defnyddir metelau yn y cartref, ar gyfer trafnidiaeth ac mewn gemwaith. Ceir ffotograffau ym mhob sleid i ateb y cwestiwn. Unwaith eto gallai hyn fod yn waith cartref ymchwil gweledol neu’n dasg estynedig. Cynigir tasg ymchwil bosibl arall yn Sleid 10, yma gofynnir i’r disgyblion greu poster digidol ar ddylanwad metelau yn ein bywyd bob dydd. Un dull posibl o ymateb i’r dasg fyddai trafod yr ystod o fetelau y bydd myfyriwr yn dod i gysylltiad ag ef o’r amser pan godith yn y bore (e.e ymolchi) i fynd i’r gwely yn y nos (sbrings metel y fatres)

  11. Nodiadau athro Ymchwil Ymchwil – metelau Yn y sleidiau sydd yn yr adran hon rhoddir sylw i’r gwahanol fathau o fetelau, eu nodweddion, a’r defnydd a wneir ohonynt. Mae hi’n bosibl argraffu pob un o’r sleidiau a’u defnyddio fel posteri yn y dosbarth Mae sleid 11 yn trafod o le daw metelau ac yna cyflwynir y tri chategori o fetelau. Darperir gwybodaeth ar fetelau fferrus ar sleidiau 12-14 - eu nodweddion a’r defnydd cyffredin ohonynt. Gofynnir cwestiynau sy’n cynnwys y disgyblion yn y wers ac sy’n canfod eu gwybodaeth am fetelau. Darperir gwybodaeth ar fetelau anfferrus ar sleid 15, eu nodweddion a’r defnydd cyffredin ohonynt. Mae sleid 16 yn canolbwyntio ar aloeon. Gosodwyd esiamplau gweledol ar bob sleid er mwyn atgyfnerthu’r defnydd o fetelau i’r dysgwr gweledol.

  12. Nodiadau athro Ymchwil Ymchwil - metelau Mae sleid 17 yn trafod y nifer fawr o nodweddion gweithio gwahanol sydd i fetel, mae hyn yn atgyfnerthu’r cysyniad o fetel fel defnydd cyffrous ac amlbwrpas. Ar sleid 18 ceir cwis sy’n paru pob un o’r cynhyrchion sy’n ymddangos ar fwrdd hwyliau gweledol â’r metel sydd fwyaf tebygol o fod wedi cael ei ddefnyddio yn ei wneuthuriad. Yn ein profiad ni mae disgyblion yn ymateb yn dda i gwis cyfun cydwedd fel hwn – maen nhw’n dysgu mewn dull anffurfiol. Mae sleid 19 yn cynnig tasg bosibl arall, sef creu poster digidol i ddangos sut cafodd metelau eu defnyddio ym milltir sgwâr y disgybl, bydd hyn yn adlewyrchu diwylliant a thraddodiadau. Fel esiampl darperir ar y sgrin ystod o ddelweddau ag iddynt themâu Cymreig. Mae sleid 20 yn cynnig i athrawon y cyfle i drafod sut y cafodd metelau eu defnyddio yn y gorffennol a pha botensial sydd iddynt yn y dyfodol, e.e. cymharu’r modd y cafodd metelau eu defnyddio i ymosod ac i wneud arfau yn y gorffennol â’r defnydd o fetelau i wneud addurniadau a gemwaith yn ystod cyfnodau o heddwch, gellir cyfeirio hefyd at y defnydd o dechnoleg metel SMART, e.e. gwifren SMART a gwifren Nicrôm.

  13. Nodiadau athro Ymchwil Ymchwil – metelau Mae sleidiau 21-23 yn herio’r disgyblion i ganfod yr un sy’n wahanol i’r gweddill, mae hyn yn adolygu’r esiamplau gweledol o fetelau fferrus, anfferrus ac aloeon. Yn sleidiau 24-26 bydd y disgybl yn dod yn fwy ymwybodol o’r materion cynaladwyedd sy’n gysylltiedig â defnyddio metelau. Tynnir sylw’r disgyblion at y ffaith fod cael gafael ar y metelau rydym ni’n eu cymryd yn ganiataol yn golygu aflonyddu’n helaeth ar gramen y ddaear. Mae un cwestiwn yn dangos faint o bridd a cherrig sydd angen ei symud i gael un fodrwy aur. Datblygir agwedd fwy positif ar sleid 25 wrth ddangos manteision ailgylchu alwminiwm. Pwrpas sleid 26 yw sbarduno trafodaeth grŵp ar yr hyn y gellir ei ailgylchu - sbardun yw’r lluniau ac nid rhestr derfynol. Ar sleid 27 ceir rhai adnoddau defnyddiol (unwaith eto nid rhestr derfynol) - gwelir rhai o’r gwefannau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr agweddau metel a dylunio.

  14. Nodiadau athro Ymchwil Ymchwil – manyleb ddylunio Ar Sleid 1 ceir eglurhad byr ar sut y byddwn, ar ôl cwblhau’r ymchwil angenrheidiol, yn gallu cyrraedd at fanyleb ddylunio. Mae hefyd yn pwysleisio’r cysyniad fod ymchwil yn allweddol er mwyn ennill y ffocws a’r wybodaeth berthnasol fydd yn eu galluogi i wella’u gallu i ddylunio’r dasg a osodwyd. Cwis sydyn sydd ar sleid 2 a’r nod yw caniatáu’r disgyblion i gategoreiddio ystod o nodweddion wrth ddylunio daliwr cannwyll fach gron, caiff y nodweddion eu categoreiddio fel nodweddion llwyddiannus neu aflwyddiannus. Mae’n gallu bod yn gyflwyniad cyflym i’r pwnc ac mae’n ddull hwyliog; yn ein profiad ni mae’r disgyblion yn mwynhau’r gweithgaredd ac yn ennill gwybodaeth am y dasg. Byddai bwrdd gwyn rhyngweithiol yn ddelfrydol i’r dasg hon. Ar sleid 3 ceir canllaw i’r disgyblion ar sut i ysgrifennu manyleb ddylunio effeithiol, pwysleisir y pwysigrwydd o ddefnyddio penawdau sy’n addas a gyda ffocws pendant.

More Related