1 / 40

Prawf Theori Economaidd

Prawf Theori Economaidd. Mae’r prawf hwn yn cynnwys 10 cwestiwn i brofi eich dealltwriaeth o theori economaidd. Mae’r cysylltau’n rhoi dewis o atebion i chi, ynghyd ag esboniadau a datrysiadau. Bydd angen cyfrifiannell arnoch i gwblhau’r prawf hwn. Cwestiwn 1.

zahur
Download Presentation

Prawf Theori Economaidd

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Prawf Theori Economaidd Mae’r prawf hwn yn cynnwys 10 cwestiwn i brofi eich dealltwriaeth o theori economaidd. Mae’r cysylltau’n rhoi dewis o atebion i chi, ynghyd ag esboniadau a datrysiadau. Bydd angen cyfrifiannell arnoch i gwblhau’r prawf hwn.

  2. Cwestiwn 1. Elastigedd pris y galw am gynnyrch yw 1.5. Ydy hyn yn a. anelastig b. elastig c. unedol.

  3. Pan fo elastigedd pris y galw yn fwy nag 1, mae elastigedd pris y galw yn elastig. Mae eich ateb yn gywir.

  4. Pan fo elastigedd pris y galw yn llai nag 1, mae elastigedd pris y galw yn anelastig. Trïwch eto.

  5. Mae elastigedd pris galw o 1 yn golygu bod elastigedd pris y galw yn unedol. Hynny yw yn union gyfrannol. Trïwch eto.

  6. Cwestiwn 2. Gall polisi cyllidol gynnwys A. cynyddu effeithlonrwydd marchnadoedd llafur B. newid cyfraddau llog C. polisi trethi a gwariant.

  7. Anghywir. Mae hyn yn enghraifft o bolisi ochr-gyflenwad.

  8. Anghywir. Mae hyn yn enghraifft o bolisi ariannol.

  9. Cywir.

  10. Cwestiwn 3. Mae Cynnyrch Mewnwladol Crynswth yn mesur A. y newid mewn incwm real. B. cyfanswm gwerth cynnyrch gwlad dros un flwyddyn. C. newid ym mhrisiau basged o nwyddau.

  11. Mae hyn yn disgrifio newidadau mewn safonau byw. Trïwch eto.

  12. Cywir.

  13. Mae hyn yn fesur o chwyddiant. Trïwch eto.

  14. Cwestiwn 4. Mae gan bwyllgor polisi ariannol Banc Lloegr ran mewn gosod A. Benthyca gan y llywodraeth. B. lefel codiadau cyflog. C. cyfraddau llog.

  15. Caiff hyn ei benderfynu gan y Prif Weinidog a’r Canghellor.

  16. Caiff cynnydd mewn cyflogau (ac eithrio yn y sector cyhoeddus) ei benderfynu gan y farchnad rydd. Trïwch eto .

  17. Cywir. Mae’r Pwyllgor Polisi Ariannol yn gosod y gyfradd sylfaenol yn ystod ei gyfarfodydd misol.

  18. Cwestiwn 5. Pa un o’r canlynol sy’n diffinio Elastigedd Hysbysebu’r Galw sy’n elastig? A. Mae newid yn y gwariant ar hysbysebu yn achosi newid llai na chyfrannol ym maint y galw. B. Mae newid yn y gwariant ar hysbysebu yn achosi newid mwy na chyfrannol ym maint y galw.

  19. Anghywir. Mae’r diffiniad hwn yn ymwneud ag elastigedd hysbysebu’r galw anelastig.

  20. Cywir.

  21. Cwestiwn 6. Pa un o’r canlynol all achosi chwyddiant? A. Codiad ym mhris defnyddiau crai sy’n cael eu mewnforio B. Cynnydd mewn lefelau cynhyrchedd C. Gostyngiad mewn lefelau galw

  22. Cywir. Yn ystod y 1970au dyma un o brif achosion chwyddiant y DU.

  23. Anghywir. Gall cynnydd mewn cynhyrchedd helpu i ostwng prisiau.

  24. Gall gostyngiad mewn galw annog adwerthwyr a chynhyrchwyr i ostwng prisiau. Trïwch eto.

  25. Cwestiwn 7. Pa un o’r canlynol sy’n diffinio diweithdra cylchol? A. Diweithdra sy’n deillio o golli marchnadoedd i gynhyrchwyr tramor. B. Diweithdra sy’n deillio o amrywiadau yn y gylchred fasnach.

  26. Anghywir. Mae hyn yn debygol o arwain at ddiweithdra strwythurol.

  27. Cywir. Mae diweithdra cylchol yn digwydd yn ystod y gylchred fasnach. Mae diweithdra’n cynyddu yn ystod cyfnodau o enciliad.

  28. Cwestiwn 8. Pa un o’r canlynol sy’n dreth uniongyrchol? A. TAW B. Treth Gorfforaeth C. Treth Stamp

  29. Anghywir. Mae TAW yn dreth anuniongyrchol, mae’n dreth ar wariant.

  30. Cywir. Mae treth gorfforaeth yn dreth uniongyrchol ar incwm cwmnïau cyfyngedig.

  31. Anghywir. Mae treth stamp yn dreth anuniongyrchol, mae’n dreth ar brynu cyfranddaliadau neu eiddo .

  32. Cwestiwn 9. Pa un o’r polisïau canlynol sy’n debygol o leihau pwysau chwyddiannol? A. Cynyddu pensiynau B. Gostwng cyfraddau llog C. Cynyddu lefelau treth incwm

  33. Anghywir. Mae hyn yn debygol o gynyddu lefelau galw ac felly cynyddu pwysau chwyddiannol.

  34. Anghywir. Mae hyn yn debygol o gynyddu lefelau galw ac felly cynyddu pwysau chwyddiannol.

  35. Cywir. Bydd gan unigolion lai o incwm gwario, felly bydd galw’n debygol o ostwng, gan leihau pwysau chwyddiannol.

  36. Cwestiwn 10. Pa un o’r polisïau canlynol sy’n fesur ochr-gyflenwad? A. Cynyddu benthyca gan y llywodraeth B. Y llywodraeth yn gostwng cyfradd sylfaenol treth incwm C. Polisi Hawl i Brynu y llywodraeth

  37. Anghywir. Mae hyn yn bolisi cyllidol.

  38. Anghywir. Mae hyn yn bolisi ariannol.

  39. Cywir. Cyflwynodd y Llywodraeth Geidwadol y cynllun hwn i ganiatáu i denantiaid brynu tai cyngor, a hynny o leiaf yn rhannol er mwyn cynyddu symudedd llafur.

  40. Rydych wedi cwblhau’r prawf. Am adolygu ychwanegol mwy manwl defnyddiwch yr astudiaethau achos ar y wefan.

More Related