1 / 13

Y ffigar-êt economaidd ...

Y ffigar-êt economaidd. Y Gylchred Economaidd neu Fusnes. Mesur Gweithgaredd Economaidd. Mae Cynnyrch Mewnwladol Crynswth yn fesur o werth yr holl gynnyrch mewn economi mewn blwyddyn – gwerth mewn punnoedd yr holl nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchwyd

anise
Download Presentation

Y ffigar-êt economaidd ...

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Y ffigar-êt economaidd... Y Gylchred Economaidd neu Fusnes

  2. Mesur Gweithgaredd Economaidd • Mae Cynnyrch Mewnwladol Crynswth yn fesur o werth yr holl gynnyrch mewn economi mewn blwyddyn – gwerth mewn punnoedd yr holl nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchwyd • Mae 3 ffordd o gyfrifo CMC, sef dull incwm, dull cynnyrch a dull gwariant • Bydd y rhain i gyd yn rhoi’r un gwerth ar gyfer CMC • Y lefel gyfredol (2004) CMC yn economi’r DU yw oddeutu £970 biliwn

  3. Y Gylchred Economaidd neu Fusnes • Dydy’r Cynnyrch Mewnwladol Crynswth ddim yn cynyddu’n gyson dros amser – mae amrywiadau yng nghyfradd y twf • Gall fod adegau o dwf negyddol, h.y. mae’r CMC yn gostwng • Y term am y symudiadau cyfnodol hyn mewn cynnyrch, prisiau a chyflogaeth yw’r Gylchred Economaidd neu’r Gylchred Fusnes

  4. Dwy o Nodweddion Allweddol CMC: • Mae’n tyfu dros amser • mae’r duedd dymor hir mewn CMC yn bositif, oddeutu 2.75% y flwyddyn yn y DU (mae hyn yn nhermau real gan wneud lwfans ar gyfer effeithiau chwyddiant) • Mae’n amrywio wrth iddo dyfu • mae CMC yn dangos symudiadau cylchred fusnes. Yn y 15 mlynedd ddiwethaf mae wedi amrywio rhwng plws 4% a minws 2%

  5. Cynnyrch Mewnwladol Crynswth Real (UDA) Yma gwelwn amrywiadau’r twf dros amser

  6. Cynnyrch Mewnwladol Crynswth Real Dangosir y duedd mewn cyfradd twf gan y llinell goch

  7. Twf Ymyl y Môr Tawel Mae cyfraddau twf yn amrywio o wlad i wlad. Yn aml mae gan wledydd sy’n datblygu gyfraddau twf sy’n gyflymach na chyfraddau twf gwledydd yn Ewrop • Mae cyfraddau twf gwledydd Ymyl y • Môr Tawel oddeutu 4-6%. • Yn y D.U. oddeutu 2.75% yw’r • cyfartaledd.

  8. Rhannau o’r Gylchred Fusnes Ffyniant CMC Adferiad/Ehangu Dirwasgiad amser Pant/ Methiant

  9. Rhannau o’r Gylchred Economaidd - Adferiad • Hyder defnyddwyr yn cynyddu – gan arwain at gynnydd mewn benthyca a gwario • Cwmnïau’n cynyddu cynhyrchu – yn cynyddu lefelau stoc • Gallu cynhyrchu sbâr yn cael ei ddefnyddio, yna • Buddsoddiant yn digwydd • Diweithdra’n gostwng – gall gymryd mwy na blwyddyn o adferiad i gael newidiadau mawr yn lefelau diweithdra

  10. Rhannau o’r Gylchred Economaidd - Ffyniant • Lefelau isel o ddiweithdra – prinder llafur yn gwthio cyfraddau cyflog i fyny • Lefelau uchel o fenthyca a gwario gan ddefnyddwyr • Cwmnïau’n gweithio ar eu gallu cynhyrchu llawn • Lefelau elw’n uchel • Chwyddiant yn cynyddu • Cyfraddau llog yn cynyddu • Ffyniant yn y farchnad dai

  11. Rhannau o’r Gylchred Economaidd - Dirwasgiad • Cyfradd twf CMC yn gostwng neu’n negyddol • Cwmnïau’n gostwng cynhyrchu ac yn lleihau stoc • Diweithdra’n codi • Chwyddiant yn gostwng • Buddsoddiant yn gostwng • Cwmnïau’n dioddef - elw’n gostwng, adenillion ar fuddsoddiant yn gostwng, costau diswyddo

  12. Rhannau o’r Gylchred Economaidd - Methiant • Lefelau uchel o ddiweithdra – cynyddodd diweithdra i 2.5 miliwn yn ystod dirwasgiad rhan gyntaf y 90au, o’i gymharu â 900,000 nawr • Lefelau isel o fuddsoddiant • Llai o wario gan ddefnyddwyr yn enwedig ar nwyddau traul sy’n para • Lefelau uchel o allu cynhyrchu sbâr • Chwyddiant isel

  13. Y Llywodraeth a’r Gylchred Economaidd • Bydd y llywodraeth yn ceisio rheoli amrywiadau mewn twf economaidd • Mae’n ceisio cyflawni twf oddeutu lefel y duedd • Yn y gorffennol mae wedi defnyddio polisi cyllidol ac ariannol i gyflawni’r amcan hwn • Yn y 10 mlynedd ddiwethaf mae’r ffocws wedi bod ar ddefnyddio cyfraddau llog (polisi ariannol) a pholisïau ochr-gyflenwad i gyflawni twf cyson • Dros y 10 mlynedd ddiwethaf mae’r DU wedi bod yn glir o ddirwasgiad, er i dwf fod mor isel ag 1.5%

More Related