1 / 6

Beth yw fy sgìl?

Beth yw fy sgìl?. Eglurwch ar y sleid hwn beth yw gwaith dylunydd goleuo. Am beth mae’r perfformiad ?. Eglurwch gefndir y perfformiad. Beth oedd eich syniadau cyntaf? Ble cawsoch chi’r syniadau hyn? Beth oedd ar y grŵp ei eisiau?

Download Presentation

Beth yw fy sgìl?

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Beth yw fy sgìl? • Eglurwch ar y sleid hwn beth yw gwaith dylunydd goleuo.

  2. Am beth mae’r perfformiad? • Eglurwch gefndir y perfformiad. • Beth oedd eich syniadau cyntaf? • Ble cawsoch chi’r syniadau hyn? • Beth oedd ar y grŵp ei eisiau? • Defnyddiwch luniau i helpu egluro’r hyn sydd raid i chi ei wneud. Gallai hyn gymryd mwy nag un sleid.

  3. Lampau y gallwch eu defnyddio • Eglurwch ba lampau sydd gennych a beth maen nhw’n ei wneud. • Eglurwch ba fath o ddec goleuo y byddwch chi’n ei ddefnyddio. • Gwnewch luniad wrth raddfa o’r gofod perfformio a’r rig goleuo. • Cynlluniwch ble i roi pob lamp yn y rig. • Cynlluniwch o ba sianel y caiff pob lamp ei gweithio. • Eglurwch ba fath o ddesg sydd gennych a sut mae’n gweithio. • Does dim rhaid i chi rigio’r goleuadau ond mae angen ichi ddweud wrth rywun ymhle rydych chi eisiau’r goleuadau. Gallai hyn gymryd mwy nag un sleid.

  4. Dangos eich dyluniadau terfynol • Mae angen 4 cyfuniad lliw gwahanol. • Mae angen o leiaf 8 ciw gwahanol. • Gwnewch luniad o’r bwrdd jaciau. • Ysgrifennwch daflen plot a pha lampau sy’n mynd ar ba sianeli a pha jaciau. • Ysgrifennwch y ciwiau ar y daflen giwiau. • Ysgrifennwch y ciwiau ar y sgript – trefn y perfformiad. Gallai hyn gymryd mwy nag un sleid.

  5. Defnyddio taflen giwiau • Ar gyfer pob ciw gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod lefel pob graddolydd. • Gwnewch yn siŵr fod y daflen yn eich ffolder. • Am ba hyd mae pob ciw goleuo’n para? A ydyw’n traws-raddoli â chiw arall? Oes yna ddiffodd y golau’n gyfangwbl? Am ba hyd y dylai bara? • Pa liwiau rydych chi wedi’u dewis, a pham, ar gyfer pob ciw. Gallai hyn gymryd mwy nag un sleid.

  6. Pethau i’w cofio cyn eich cyflwyniad • Ychwanegwch luniau i’r templed hwn i wneud eich cyflwyniad yn ddiddorol. • Dylai’r templed hwn eich helpu i gynllunio eich cyflwyniad ond bydd angen ffolder arnoch hefyd i ddangos proses eich dyluniadau. Cofiwch ddangos hwn i’r athro/athrawes / arholwr. • Gwnewch yn siŵr fod eich perfformwyr yn teimlo’n gyfforddus a hyderus yn yr effeithiau goleuo rydych chi wedi’u creu.

More Related