1 / 3

Cartref Rhywun ...

Cartref Rhywun. Mae llawer o wahanol grwpiau o bobl yn byw yng nghoedwigoedd glaw y Byd, ond mae eu niferoedd yn lleihau wrth i’w cartrefi gael eu dymchwel.

Download Presentation

Cartref Rhywun ...

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Cartref Rhywun ... Mae llawer o wahanol grwpiau o bobl yn byw yng nghoedwigoedd glaw y Byd, ond mae eu niferoedd yn lleihau wrth i’w cartrefi gael eu dymchwel. Helwyr-gasglwyr yw’r rhain yn bennaf sy’n byw mewn cytgord â’r goedwig. Mae honno yn darparu bwyd, cysgod, moddion a dillad ar eu cyfer. Y Penan (Maleisia) Mae’r Penan yn byw yng nghoedwigoedd Sarawak. Maen nhw’n hela anifeiliaid gan ddefnyddio pibau chwythu a phicellau gwenwynig. Byddan nhw hefyd yn casglu planhigion a ffrwythau, gan adeiladu eu cartrefi o ganghennau, boncyffion a phlanhigion. Yr Huli (Papua Gini Newydd) Mae’r Huli yn byw drwy hela, casglu planhigion a thyfu cnydau. Mae’r dynion a’r merched yn byw ar wahân, mewn tai i grwpiau mawr. Bydd y dynion yn addurno’u cyrff ac yn gwisgo penwisgoedd coeth ar gyfer seremonïau. Yr Yanomani (Brasil) Yr yano, neu dŷ cymunedol yw canolbwynt bywyd eu pentref. Adeilad mawr, crwn gyda tho o goed gwinwydd a dail yw hwn, gyda lle byw yn y canol. Llyriaid (math o fanana) yw prif fwyd y bobl hyn. Pigmïaid Baka (Y Camerŵn) Mae Pigmïaid Baka yn byw yng nghoedwig law Y Camerŵn, ochr yn ochr â grwpiau amrywiol o ffermwyr bantu. Maen nhw’n cyfnewid nwyddau ac wedi byw gyda’i gilydd ers cannoedd o flynyddoedd. Defnyddiwch y llecynnau nodedig i ddarllen am ffordd o fyw rhai o’r llwythau hyn. Trafodwch ym mha ffyrdd maen nhw’n debyg ac yn wahanol i’ch ffordd chi o fyw.

  2. Cartref Rhywun ... Yn ogystal â hela, casglu ffrwythau gwyllt a chnau a physgota, bydd rhai grwpiau sy’n byw yn y goedwig law yn plannu gerddi bychain hefyd gan ddefnyddio dull a elwir yn AMAETHU MUDOL. Mae’r arfer hwn yn gynaladwy a phrin yw ei effaith ar y goedwig law cyn belled nad yw’r llwyth yn tyfu’n rhy fawr a’u bod yn gallu defnyddio ardal eang o dir, fel bod rhannau sydd wedi eu defnyddio yn cael amser i ailffrwythloni… Mae’r tir sydd wedi’i glirio a’i ddefnyddio yn cael ei adael i orffwys am 10-50 mlynedd cyn ei ffermio unwaith eto. Ar ôl cael ei ddefnyddio ychydig o weithiau, mae’r pridd yn mynd yn rhy wael i alluogi mwy o gnydau i dyfu. Allwch chi osod y gosodiadau canlynol yn eu trefn gywir er mwyn i lwyth yr Huli, Papua Gini Newydd allu cynaeafu eu cnydau? Bydd y ffermwyr yn symud i ardal gyfagos sydd heb ei chlirio. Mae cnydau a ddefnyddir ar gyfer bwyd a moddion yn cael eu plannu. Caiff yr ardal sydd wedi ei chlirio ei llosgi er mwyn ychwanegu maetholion at y pridd. Mae darn bach o dir yn cael ei ddewis ar gyfer ei glirio.

  3. Cartref Rhywun ... Mae darn bach o dir yn cael ei ddewis ar gyfer ei glirio. Caiff yr ardal sydd wedi ei chlirio ei llosgi er mwyn ychwanegu maetholion at y pridd. Mae cnydau a ddefnyddir ar gyfer bwyd a moddion yn cael eu plannu. Ar ôl cael ei ddefnyddio ychydig o weithiau, mae’r pridd yn mynd yn rhy wael i alluogi mwy o gnydau i dyfu. Bydd y ffermwyr yn symud i ardal gyfagos sydd heb ei chlirio. Mae’r tir sydd wedi’i glirio a’i ddefnyddio yn cael ei adael i orffwys am 10-50 mlynedd cyn ei ffermio unwaith eto.

More Related