1 / 28

Yr Eglwys ar Waith yn y Gymuned

Yr Eglwys ar Waith yn y Gymuned. Gweithio mewn T imau. Rhaglen Genhadol EBC / Agape a’r Coleg Gwyn. Pwrpas yr Hyfforddiant . Yn ystod yr hyfforddiant mi fyddwn yn edrych ar: Y syniad o fod yn rhan o eglwys Sut y gallwn ddatblygu’n ffydd Syniadau a all roi pwyslais newydd ar ein gwaith

manton
Download Presentation

Yr Eglwys ar Waith yn y Gymuned

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Yr Eglwys ar Waith yn y Gymuned Gweithio mewn Timau Rhaglen Genhadol EBC / Agape a’r Coleg Gwyn

  2. Pwrpas yr Hyfforddiant • Yn ystod yr hyfforddiant mi fyddwn yn edrych ar: • Y syniad o fod yn rhan o eglwys • Sut y gallwn ddatblygu’n ffydd • Syniadau a all roi pwyslais newydd ar ein gwaith • Yr angen i gerdded gyda Iesu, gan ddatblygu ein gweledigaeth o’r eglwys yn ein bro

  3. Gweithio mewn Timau • Gall tîm gael ei ddiffinio fel: “… dau neu fwy o bobl yn symud ar hyd yr un llwybr, gan gyd-weithio, tuag at yr un bwriad …” Allweddeiriau: • Un llwybr • Cyd-weithio • Un bwriad

  4. UN LLWYBR • Dim ond UN llwybr sydd tuag at y Deyrnas, rhaid cerdded gyda Iesu • Fel pobl rydym yn tueddu mynd a’r goll!! Gweddïwch gyda’ch gilydd, pan fydd pethau’n ansicr, neu’n aneglur. • Mewn tîm, mae’n bosib i bob un ohonom ni gyfrannu tuag at waith y Deyrnas – a helpu’n gilydd pan fyddwn yn dechrau mynd ar goll • Cadwch y tîm gyda’i gilydd, peidiwch a gadael i unrhyw un lithro, neu gael ei anghofio ar y daith

  5. CYD WEITHIO • Cadwch mewn golwg bob amser beth yw PWRPAS y tîm: Peidiwch ei anghofio!! • Gyda’ch gilydd mi ellwch beri i bethau ddigwydd. A’r wahan, bydd pethau’n cael eu hanghofio. Peidiwch dweud “Roeddwn i’n meddwl bod rhywun arall wedi gwneud hynny.” • Os ydych wedi CYTUNO i wneud rhywbeth mae’n bwysig ei wneud. Os na ellwch, dywedwch wrth rywun, er mwyn i eraill gymryd y cyfrifoldeb o wneud yn siwr bod y dasg yn cael ei chyflawni. Does dim pwynt cael ‘Bore Goffi’, a neb yn dod a choffi!

  6. UN BWRIAD • Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn gwybod BETH YW’R DASG MEWN GOLWG; a’n bod i GYD yn gweithio i’w chyflawni. • Dim ‘agendas gwahanol’ os gwelwch yn dda! • Dewisiwch arweinwyr sy’n gallu gwneud y gwaith yn iawn; ond peidiwch ag ymyrryd yn eu swyddogaeth y tu nôl i’w cefn – bydd hynny’n gwneud pethau’n anodd i bawb yn y tîm. • Os oes gennych syniad(au) gwych, rhannwch hwy gyda’r aelodau eraill.

  7. Gweithio mewn Timau • Gweithio ar un prosiect – os na fydd aelodau’r tîm yn cyfathrebu, ni bydd yn bosib i’r tîm fod yn effeithiol. • I gael tîm effeithiol rhaid i’r aelodau gyfathrebu â’i gilydd, a gweithio tuag at yr un bwriad (drwy’r amser)

  8. Pwrpas Tîm • Mae creu tîm yn gallu cynorthwyo pobl i gyflawni mwy nag y byddai’n bosib efo pawb yn gweithio fel unigolion • “… Y mae dau yn well nag un, oherwydd y maent yn cael tâl da am eu llafur; os bydd y naill ym syrthio, y mae’r llall yn gallu ei godi, ond gwae’r un sydd ar ei ben ei hun; pan yw ef yn syrthio, nid oes ganddo gyfaill i’w godi…” (Llyfr y Pregethwyr 4: 9-10). • Mae maint ac ansawdd y gwaith yn gwella wrth i’r tîm fod yn fwy effeithiol

  9. Pwrpas Tîm • Roedd Iesu’n ymwybodol o sut i gael tîm i weithio’n effeithiol. • Dewisodd Iesu dîm o 12 a hyfforddodd hwy ar sut i barhau ei waith Ef, ar ôl iddo fynd yn ôl i’r nefoedd • Mae Marc (6:7-13) yn disgrifio sut y rhannodd y 12 i fod yn chwe tîm o ddau

  10. Pwrpas Tîm • Hyfforddodd Iesu ei ddisgyblion i gyd-weithio’n effeithiol, er mwyn iddynt gyflawni eu gwaith • Mae creu tîm yn galluogi’r aelodau i ddefnyddio’u doniau,eu sgiliau, a’u talentau yn fwy effeithiol a chael rhan yn y gwaith y mae Iesu am i ni ei wneud.

  11. Mesur Meintiol(Quantitative Measurement) • Mae rhai timau wedi eu creu i wneud llawer o bethau yn sydyn - h.y. cannoedd o frechdanau i borthi’r ymwelwyr yn y Cyfarfod Blynyddol [Llawer o bethau] • Mae rhai tîmau’n gorfod gweithio mewn amser byr - e.e. mae angen cwblhau peintio’r Mans oherwydd bod y gweinidog newydd a’i deulu yn cyrraedd mewn pythefnos [Amser yn brin]

  12. Mesur Ansawdd(Qualitative Measurement) • Datblygu’r tîm i fod yn un arbennig - lle mae pawb yn teimlo’u bod yn rhan allweddol o’r gweithgareddau. • e.e. Tîm newydd yn cael ei sefydlu i baratoi adroddiad ar sut y gall tair neu bedair eglwys o ddau enwad gwahanol (heb weinidog) ddod at ei gilydd i greu ‘Gweinidogaeth Bro’ - ER LLES Y DEYRNAS, WRTH GANLYN IESU

  13. Ansawdd • Pan fydd pethau’n mynd o le cofiwch eiriau’r Salmydd: • “… Y mae Duw yn noddfa ac yn nerth i ni, yn gymorth parod mewn cyfyngder. Felly nid ofnwn …” (Salm 46:1-2)

  14. Datblygu Tri Synnwyr • Cyfeiriad • Perthynas • Hunaniaeth

  15. Synnwyr Cyfeiriad • Gweledigaeth o pwrpas ‘strategol’ y tîm (h.y. os na fydd y tîm yn gweithio’n gywir, bydd y posiect neu’r gwaith yn methu; a bydd hynny’n tanseilio pwrpas ein hymdrech) • Sut mae’r tîm yn rhan o’r EGLWYS; a ydym ni’n mynd tuag at Y Deyrnas gyda’n gilydd?

  16. Ymdeimlad o Berthyn • Nid yw cael ffocws ar y pethau ‘strategol’ yn ddigon • Mae’n rhaid cael ymdeimlad o berthynas – fel bod aelodau’r tîm yn teimlo’u bod yn rhan bwysig o’r prosiect ac yn cael eu gwerthfawrogi • Mae’n angenrheidiol i aelodau’r tîm fod yn: • Gwybod beth sydd angen ei wneud • Gyda’r hunan-hyder yn ei gilydd ac ynddynt eu hunain i gyflawni’r gwaith yn iawn • Yn mwynhau gweithio gyda’i gilydd

  17. Ymdeimlad o Hunaniaeth • Bydd anghenion bob unigolion yn wahanol, ond bydd tîm da yn creu awyrgylch lle bydd pobl, ac nid yn unig eu sgiliau a’u gwybodaeth, yn cael eu gwerthfawrogi • Mae angen cael tîm sy’n agored a chefnogol lle gall pawb ymddiried yn ei gilydd • Drwy hyn bydd hunan-hyder yn tyfu

  18. Munud i Feddwl Rhaid gofyn TRI chwestiwn; • A ydym ni yn rhan o dîm ? • Oes angen tîm? • A yw ein tîm ni yn barod AC yn fodlon i ddarparu yr AWYRGYLCH, y DIWYLLIANT a’r GEFNOGAETH sy’n angenrheidiol i greu tîm effeithiol ?

  19. Pwrpas Tîm Danfonodd hwy allan i: • Bregethu’r efengyl • Iachau’r cleifion • Fwrw allan gythreuliaid Roedd yr Iesu yn deall egwyddor dynamig timau yn Llyfr y Pregethwyr (4:9) – byddwn yn fwy effeithiol gyda’n gilydd

  20. SEIBIANT

  21. Rhan 2 I bob tîm, bydd Synnwyr Cyfeiriad, Perthynas, a Hunaniaeth yn GANOLOG

  22. Y Tîm - Undod yng Nghrist • Bydd y TÎM yn bobl i Dduw, yn cael ei arfogi i wneud ei waith yn well; yn adeiladu’r EGLWYS, corff Crist, i sefyllfa o gryfder ac aeddfedrwydd: • “… A dyma’i roddion; rhai i fod yn apostolion, rhai yn broffwydi, rhai yn efengylwyr, rhai yn fugeiliaid ac athrawon, i gymhwyso’r saint i waith gweinidogaeth, i adeiladu corff Crist …” (Effesiaid 4: 11-12)

  23. GWAITH YMARFEROL – 15-20 Minud (Byddwch yn hyblyg)(i’r tîm hyfforddi yn unig) • Mewn grwpiau bychan (2 - 5 o bobl) edrychwch ar anghenion HANFODOL i dîm newydd yn eich eglwys a fyddai wedi ei sefydlu i edrych ar UN o’r prosiectau canlynnol: • (a). Nos Fawrth ar ôl y storm, bu difrod i do’r eglwys. Mae’r amcangyfrif cyntaf yn rhoi pris o £64,000 ond mae eich cwmni Yswiriant yn dweud bod raid i chi dalu’r £8,000 cyntaf (oherwydd yr ‘Excess’) • (b). Mae S4C wedi gofyn i’ch Ysgrifennydd a fyddai’n bosib cynnal ‘Dechrau Canu Dechrau Canmol’ yn eich eglwys yn ystod yr ail wythnos ym mis Mehefin 2005. Yn anffodus mae’r Parchg Iwan ap Gronw eich gweinidog wedi cael gwahoddiad i feirniadu yn Eisteddfod Y Wladfa. • (c). Dydd Gwener diwethaf cafodd Mrs Mair Angharad Ffransis (un o’ch haelodau) ei dewis i fod yn Llywydd Mudiad Merched Crefyddol Cymru. Bydd yn cael ei apwyntio i’r swydd mewn gwasanaeth arbennig ar y dydd Llun cyntaf ym mis Gorffennaf. (Yn arferol, mae’r seremoni a’r gwasanaeth yn cael ei gynnal yn eglwys y Llywydd).

  24. Ymarfer: Y Tîm a’r Waith • Rhai o’r pethau HANFODOL: • Pwy yw aelodau’r tîm (digon, ond dim gormod!!!)? • Sut ydych yn trefnu/dewis arweinydd? • Faint o amser ? – gweithiwch yn ôl i heddiw • Cost? – Lle gallwch chi gael cymorth?? (Oes angen?) • Peidiwch a dechrau gyda “Dydi ddim yn bosib …” ond gyda “Sut gallwn weithredu os ydym AM wneud hyn?” • Pwy arall all roi cymorth i’r tîm yma? • A ydych yn barod i ddirprwyo tasgau (‘delegate’)? • Beth yw eich BLAENORIAETHAU? • Pa bryd fyddai raid i chi gyfarfod eto? A phaham?? • Erbyn pa bryd ydych chi’n meddwl y byddech wedi gallu gwneud pob peth?

  25. ADBORTH • Sut fydda chi’n disgrifio’r cyflwyniad? • A oedd y cynnwys yn addas? • Sut y gallai’r sesiwn fod wedi ateb eich gofynion yn well? • A gawsoch ddigon o gyfle i drafod a holi? • A ydych am gymryd rhan yn y rhaglen hyfforddi (neu rannau ohoni)? • Pa hyfforddiant pellach fyddai o gymorth i chi fel unigolun?

  26. CRYNHOI • Y tîm hyfforddi i grynhoi • Diolchiadau • Edrych ymlaen at y sesiwn nesaf • Dyddiadau a lleoliad yr hyfforddiant

More Related