1 / 16

Dyddiau olaf Iesu

Dyddiau olaf Iesu. Iesu'n cyrraedd Jerwsalem.

keyanna
Download Presentation

Dyddiau olaf Iesu

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Dyddiau olaf Iesu

  2. Iesu'n cyrraedd Jerwsalem • Aeth Iesu i mewn i Jerwsalem ar gefn asyn i ddangos mai un o'r gwerin bobl ydoedd, nid brenin ar geffyl ond dyn cyffredin ar asyn. Anfonwyd ei ddisgyblion i ddod o hyd i'r asyn drosto a daethant o hyd iddo yn yr union fan lle dywedodd y byddai i'w gael.

  3. Sul y Blodau • Wrth i Iesu farchogaeth heibio i'r bobl yn y dorf, chwifion nhw ganghennau palmwydd tuag ato a'u gosod o flaen ei draed. Mae hyn yn esbonio enw'r Saeson am y diwrnod hwn, sef “Palm Sunday” (Sul y Blodau yn Gymraeg).

  4. Ogof Lladron • Aeth Iesu i mewn i'r deml a gwelodd bobl yn gwerthu nwyddau'n dwyllodrus. • Bwriodd y byrddau drosodd gan weiddi, “Tŷ Duw yw hwn ond rydych wedi'i droi'n ogof lladron.”

  5. Y Swper Olaf

  6. Geiriau Iesu • Eisteddodd Iesu gyda'i ddisgyblion mewn ystafell ar y llawr uchaf lle dathlodd ei bryd o fwyd olaf gyda nhw. • Dywedodd fod y bara'n cynrychioli “ei gorff” a'r gwin “ei waed”. • Dywedodd hefyd wrth y lleill y byddai un ohonynt yn ei wadu deirgwaith ac y byddai un ohonynt yn ei fradychu â chusan.

  7. Gardd Gethsemane • Aeth Iesu i weddïo yng Ngardd Gethsemane. • Gofynnodd, “Pam rydych yn gwneud hyn i mi?” • Yna cusanodd Jwdas Iesu ac fe'i harestiwyd gan warchodlu Rhufeinig.

  8. Ar Brawf • Daethpwyd ag Iesu gerbron Pontiws Pilat a ddywedodd ei fod wedi golchi'i ddwylo o'r mater ac yn gadael i'r bobl benderfynu pwy ddylai farw. Pleidleisiodd y dorf i adael i Barabbas - lleidr - fynd yn rhydd a chondemniodd Iesu i farwolaeth.

  9. Iesu'n cario'r groes Gorfodwyd Iesu i gario ei groes ei hun i Galfaria. Cerddodd ar hyd y Via Dolorosa lle'r oedd angen iddo aros am seibiant sawl gwaith. Cynigiodd rhai pobl eu helpu ond fe'u hataliwyd gan y milwyr Rhufeinig. Roeddent am weld Iesu'n dioddef am ei fod wedi honni mai Brenin yr Iddewon ydoedd.

  10. Ar y Groes • Hoeliwyd Iesu i groes trwy ei arddyrnau a'i draed. • Gwisgodd goron o ddrain ar ei ben a barodd iddo waedu. Ymgasglodd pobl o'i gwmpas. • Fe'i groeshoeliwyd gyda dau leidr.

  11. Mae'r Diwedd yn Nesáu • Aeth milwr Rhufeinig at Iesu a'i drywanu yn ei ystlys, a phan ofynnodd Iesu am ddŵr rhoddwyd sbwng iddo wedi'i drochi mewn finegr. • Gwaethygodd hyn ei sychder ac roedd yn beth creulon i'w wneud.

  12. Dydd Gwener y Groglith • Yn sydyn trodd yr awyr yn ddu ac roedd pawb yn gwybod bod Iesu wedi marw. • Trodd milwr Rhufeinig at ei ffrind gan ddweud, “Hwnnw oedd Mab Duw.” Erbyn hynny roedd yn credu. • Tynnwyd Iesu oddi ar y groes a'i gymryd i feddrod dyn cyfoethog a gredai fod Iesu'n fab Duw.

  13. I'r Beddrod • Lapiwyd Iesu mewn amdo a rhoddwyd olewau pêr megis coed sandal drosto i'w berarogli. Yna rhoddwyd ei gorff mewn beddrod. • Cafodd mynedfa'r beddrod hwn ei chau gan faen mawr a oedd wedi cael ei rolio o flaen yr agoriad.

  14. Atgyfodi • Ar y dydd Sul ar ôl i Iesu farw, aeth Mair Magdalen i lawr i'r beddrod ond roedd y maen wedi cael ei symud ac nid oedd y corff yno. • Aeth Mair ar ei phenliniau dan wylo. • Clywodd lais y tu ôl iddi'n gofyn beth oedd o'i le...

  15. Mae Iesu yn Fyw • …Iesu ydoedd! • Roedd wedi cael ei adfywiocáu a dywedodd wrth Fair i fynd i roi gwybod am hyn i'r disgyblion. • Roedd Mair mewn sioc ond gwnaeth fel y gofynnodd Iesu iddi wneud. • Aeth hi i chwilio amdanynt.

  16. Esgyniad • Siaradodd Iesu â'r disgyblion ac yna esgynnodd i'r nefoedd i eistedd ar ddeheulaw Duw, ei dad.

More Related