1 / 6

Mathau o Gyflogaeth

Mathau o Gyflogaeth. Gwaith Llawn Amser. Fel rheol mae gweithiwr llawn amser yn gweithio pum diwrnod yr wythnos. Yn aml mae’r swydd yn barhaol.

kevlyn
Download Presentation

Mathau o Gyflogaeth

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Mathau o Gyflogaeth

  2. Gwaith Llawn Amser • Fel rheol mae gweithiwr llawn amser yn gweithio pum diwrnod yr wythnos. • Yn aml mae’r swydd yn barhaol. • Mae nifer yr oriau a weithir gan y gweithiwr llawn amser cyfartalog wedi gostwng o tua 42 awr yr wythnos 30 mlynedd yn ôl i 37 awr yr wythnos nawr – gan roi mwy o amser hamdden. • Mae'r llywodraeth yn ystyried unrhyw un sy'n gweithio mwy na35 awr yr wythnos yn llawn amser.

  3. Gwaith Rhan-Amser • Yn syml, mae gweithio rhan-amser yn golygu gweithio llai o oriau na llawn amser, efallai dim ond ychydig o oriau yr wythnos, efallai 20 awr neu fwy. • Os yw pethau'n dawel yn y busnes, yn aml mae oriau gweithwyr rhan-amser yn cael eu torri, ond ar y llaw arall, yn ystod cyfnodau prysur mae'r oriau gwaith yn cynyddu. • Mae llawer o weithwyr yn fodlon ar weithio'n rhan-amser gan y gall yr oriau gydweddu â galwadau teuluol e.e. gweithio yn ystod oriau ysgol yn unig. • Mae llawer o weithwyr rhan-amser yn chwilio am swyddi llawn amser

  4. Rhannu Swydd • Mae rhannu swydd yn golygu bod dau berson yn rhannu'r un swydd, efallai ar sail hanner a hanner. • Yn aml mae rhannu swydd yn caniatáu i weithwyr proffesiynol barhau i weithio, pan fyddai'n rhaid iddynt gymryd toriad gyrfa fel arall. • Mae'r enghraifft orau o hyn yn digwydd gyda mamau newydd, a all gyfuno gwaith a magu baban drwy rannu swydd. • Gall rhannu swydd bara am nifer o flynyddoedd.

  5. Gwaith Dros Dro • Cyflogir gweithwyr dros dro am gyfnod penodol, er enghraifft 6 mis i gwmpasu absenoldeb mamolaeth. • Gellir estyn y cyfnod hwn, ac o bosib ei wneud yn barhaol. • Trefnir peth gwaith dros dro drwy Asiantaethau Cyflogi. Mae asiantaethau cyflogi yn darparu gweithwyr i gyflogwyr, ac yn aml mae gan y gweithwyr hyn sgiliau penodol, fel gweithwyr ysgrifenyddol, gyrwyr, labrwyr ac ati.

  6. Mathau eraill o gyflogaeth • Gwaith Contract • Gwaith Tymhorol • Gwaith Portffolio • Gwaith Gwirfoddol

More Related