1 / 17

Nodau ac Amcanion

Systemau Chwistrellu Tanwydd. Nodau ac Amcanion. Nod Gallu disgrifio sut y mae system chwistrellu yn gweithio mewn peiriant taniad mewnol Amcanion Gallu disgrifio sut y mae system chwistrellu yn gweithio mewn peiriant taniad mewnol

justina-day
Download Presentation

Nodau ac Amcanion

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Systemau Chwistrellu Tanwydd Nodau ac Amcanion Nod Gallu disgrifio sut y mae system chwistrellu yn gweithio mewn peiriant taniad mewnol Amcanion Gallu disgrifio sut y mae system chwistrellu yn gweithio mewn peiriant taniad mewnol Gallu adnabod system chwistrellu un pwynt a system chwistrellu aml-bwynt Dangos sut y mae aer a thanwydd yn cael eu hatomeiddio mewn system chwistrellu tanwydd.

  2. Systemau Chwistrellu Tanwydd Swyddogaeth chwistrelli Mae’r chwistrell yn chwythu niwl mân o danwydd wedi ei atomeiddio i’r fynedfa. Mae’r chwistrelli hefyd yn amrywio faint o danwydd sy’n cael ei yrru i mewn fel sydd orau yn ôl cyflwr y peiriant ar y pryd. Mae’r chwistrelliad yn cael ei atomeiddio trwy yrru tanwydd (sydd dan wasgedd) drwy ffroenell y chwistrell. Mae’r chwistrell wedi ei lleoli ym maniffold y fewnfa ger porth mewnfa pen y silindr

  3. Systemau Chwistrellu Tanwydd Chwistrelli Mae Uned Reoli Electronig (ECU) y cerbyd yn rheoli agoriad y silindr. Mae foltedd batri yn cael ei yrru i’r chwistrell trwy relai. Mae’r cylched daearu yn cael ei rheoli gan yr ECU. Pan fydd y gylched yn cael ei chyfannu gan yr ECU mae soleinid yn dod yn weithredol a falf chwistrellu yn agor, wedyn mae modd chwistrellu tanwydd i faniffold y fewnfa. Mae’r falf yn symud oddeutu 1.5 i 10 ms. Gerlwir hyn yn gyfnod chwistrellu neu amser agor. Bydd yr ECU yn addasu’r cyfnod yn amodol ar dymheredd y peiriant, tymheredd yr aer sy’n llwytho a foltedd y batri.

  4. Systemau Chwistrellu Tanwydd Atomeiddio tanwydd Mae’r tanwydd sy’n cael ei chwistrellu i’r silindr o dan wasgedd, ac mae hynny’n gwneud iddo droi’n anwedd, fel ei fod yn llosgi’n hawdd (o gymharu ag aer sy’n cael ei yrru i’r silindr ar ffurf hylif).

  5. Systemau Chwistrellu Tanwydd Sut y mae tanwydd yn cael ei atomeiddio mewn systemau chwistrellu tanwydd? Cwestiwn

  6. Systemau Chwistrellu Tanwydd Cydamserol a Dilyniannol Bydd chwistrelli cydamserol (neu grwpiau ohonynt) yn gweithio i gyd ar unwaith. Bydd chwistrelli dilyniannol yn agor a chau ar adegau gwahanol (o dan reolaeth yr ECU)

  7. Systemau Chwistrellu Tanwydd System chwistrellu pwynt sengl Mae system chwistrellu pwynt sengl neu system chwistrellu corff tagydd yn defnyddio un chwistrell sengl i orfodi tanwydd i mewn i ochr ‘aer’ y pili pala tagydd (lle mae’r carbwradur wedi ei leoli)

  8. Systemau Chwistrellu Tanwydd Mae’n atomeiddio’r tanwydd yn wael Nid yw’n rhoi rheolaeth fanwl-gywir o’r gymhareb aer/tanwydd er mwyn cwrdd â rheoliadu allyriant. Ond mae’n haws ei reoli’n elecronig nag ydy carbwradur. Mae gwasgedd y tanwydd yn llai nag yw mewn system chwistrellu aml bwynt (1 bar gan amlaf) System chwistrellu pwynt sengl

  9. Systemau Chwistrellu Tanwydd System chwistrellu aml-bwynt Defnyddir chwistrelli sengl ar gyfer pob silindr Mae chwistrell wedi ei leoli ger falf mewnfa pob silindr Roedd y system yn cael ei defnyddio’n wreiddiol mewn peiriannau diesel ond erbyn hyn mae’n cael ei defnyddio’n eang gyda pheiriannau petrol.

  10. Systemau Chwistrellu Tanwydd System chwistrellu aml-bwynt Y system chwistrellu aml-bwynt yw’r math mwyaf cyffredin o system danwydd a ddefnyddir ar gerbydau modern heddiw. Y rheswm pennaf am hynny yw’r ffaith bod modd rheoli’r system chwistrellu hon yn hawdd gydag Uned Reoli Electronig y cerbyd. Hefyd y mae’r dull hwn o ddarparu tanwydd yn well ffordd o losgi’r tanwydd heb lawer o wastraff, o gymharu â systemau tanwydd eraill.

  11. Systemau Chwistrellu Tanwydd Cwestiwn Nodwch dair o fanteision system chwistrellu pwynt sengl Nodwch dair o fanteision system chwistrellu aml-bwynt.

  12. Systemau Chwistrellu Tanwydd Mathau o chwistrelli Chwistrell Pintl Chwistrell pintl Dyluniad gwreiddiol y chwistrell Atomeiddio tanwydd yn dda Tueddu i adeiladu gwaddod ar falf y pintl (gall y gwaddodion amharu ar lif y tanwydd, felly bydd y cerbyd yn rhedeg ar danwydd teneuach na’r cymysgedd delfrydol).

  13. Systemau Chwistrellu Tanwydd Chwistrell twll Chwistrell Twll Cyflwynwyd y chwistrell hwn ar fodelau diweddarach o beiriannau, er mwyn ateb y pryderon ynglŷn ag adeiladu gwaddod. Mae’r tanwydd yn cael ei ddarparu trwy dyllau mewn plat reoli ym mlaen y chwistrell. Mae’n atomeiddio tanwydd yn dda ac yn well am wrthsefyll adeiladu gwaddod.

  14. Systemau Chwistrellu Tanwydd Weindiadau gwrthiant uchel ac isel ar gyfer chwistrelli Weinidadau chwistrell gwrthiant isel Ystod rhwng 2-3Ώ ar 21.1 ◦C Defnyddir gyda gwrthydd allanol mewn cylched y rheolir ei foltedd. Cylchedau gwrthiant uchel Ystod oddeutu 13.8Ώ ar 21.1 ◦C Does dim angen defnyddio gwrthydd allanol mewn cylched y rheolir ei foltedd. Defnyddir dau wahanol fath o weindiad chwistrell Mae hyn yn dibynnu ar y math o gylched gyrru a ddefnyddir Y mae hefyd yn ddibynnu a oes gwrthydd allanol yn cael ei ddefnyddio.

  15. Systemau Chwistrellu Tanwydd Cwestiwn Ar ba lefel o wrthiant fyddech chi’n disgwyl i gylched gwrthiant uchel weithredu?

  16. Systemau Chwistrellu Tanwydd Cylchedau gyriant chwistrell Swits tanio Gwrthydd solenoid Chwistrell Gwrthiant Uchel Chwistrell Gwrthiant Uchel Y math math gwrthiant isel o chwistrell

  17. Systemau Chwistrellu Tanwydd Crynodeb – A ydym ni wedi… Gallu disgrifio sut y mae system chwistrellu yn gweithio mewn peiriant taniad mewnol? Adnabod system chwistrelliad pwynt sengl a system chwistrelliad aml-bwynt? Deall sut y mae tanwydd ac aer yn cael ei atomeiddio mewn system chwistrellu tanwydd?

More Related