1 / 11

Amcanion:- Cydnabod pwysigrwydd holi agored Adnabod pan fydd holi yn briodol ac yn amhriodol

Nodau:- Trafod technegau holi a defnyddio distawrwydd mewn cyd-destun cwnsela Ymarfer sgiliau mewn lleoliad arbennig. Amcanion:- Cydnabod pwysigrwydd holi agored Adnabod pan fydd holi yn briodol ac yn amhriodol Trafod distawrwydd mewn perthynas â sgiliau cwnsela

megara
Download Presentation

Amcanion:- Cydnabod pwysigrwydd holi agored Adnabod pan fydd holi yn briodol ac yn amhriodol

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Nodau:- Trafod technegau holi a defnyddio distawrwydd mewn cyd-destun cwnselaYmarfer sgiliau mewn lleoliad arbennig Amcanion:- Cydnabod pwysigrwydd holi agored Adnabod pan fydd holi yn briodol ac yn amhriodol Trafod distawrwydd mewn perthynas â sgiliau cwnsela Rhoi sgiliau ar waith oddi mewn i sesiwn ymarferol

  2. Distawrwydd Weithiau gall rhywun gyfleu diddordeb a gofal drwy ddistawrwydd ac ymddygiad di-eiriau

  3. Gall distawrwydd fod o gymorth. • Annog neu hwyluso cleient/datgelwr i siarad ymhellach. • Sicrhau’r cleient/datgelwr fod y gwrandawr yn disgwyl, yn llawn diddordeb ac â chonsyrn am yr hyn allai gael ei ddweud. • Yn y broses o adnabod teimlad neu emosiwn arbennig.

  4. Angen i’r gwrandawr ‘aros yn ôl’ a chaniatáu’r distawrwydd. • Peidio â cheisio ‘achub’ y cleient rhag anesmwythyd. • Fodd bynnag nid ymryson am rym ydyw ychwaith – pwy fydd y cyntaf i dorri’r distawrwydd? • Yna’n mae’n mynd yn antherapiwtig • Angen i’r gwrandawr fod wedi tiwnio i mewn mewn difri i’r gofod hwnnw, ac mae hyn felly yn galw am allu barnu’n sensitif.

  5. Defnyddio Cwestiynau • A oes angen cwestiynau? • Pam defnyddio cwestiynau? • (a) HOLI • (b) GWYBODAETH • (c) SICRHAU DEALLTWRIAETH • (ch) HERIO • (d) SYMUD YMLAEN

  6. Cwestiynau sy’n gadael i gleientiaid siarad yn fwy rhydd a sylweddol • Bydd helpwyr yn aml yn holi gormod o gwestiynau. Heb fod yn sicr beth i’w ddweud na’i wneud, tuedda helpwyr di-glem i holi cwestiynau, fel petai pentyrru gwybodaeth yn nod i’r cyfweliad helpu. Ond gall cwestiynau, wedi eu defnyddio’n ddoeth, fod yn rhan bwysig o’ch rhyngweithio gyda’ch cleientiaid.

  7. Peidiwch â holi gormod o gwestiynau. • Holwch gwestiynau sydd â phwrpas iddynt • Wrth holi cwestiynau, cadwch y ffocws ar y cleient • Holwch gwestiynau penagored sy’n helpu’r cleientiaid drafod profiadau, ymddygiad a theimladau penodol.

  8. Defnyddio cwestiynau ‘agored’ a ‘chaeedig’ • Ar ôl dechrau holi cwestiynau, rydych yn aml wedi’ch dal i orfod dal ati i ofyn cwestiynau. • Cwestiynau ‘caeedig’ yw’r rhai y gallwch eu hateb gydag ‘ie’ neu ‘nage’. • Mae cwestiynau ‘agored’ yn well, megis: • Beth oedd y math o bethau a ddigwyddodd i ddod â chi yma? • Beth sy’n eich poeni chi fwyaf ar y funud?

  9. Mae’n teimlo fel petaech yn ei chael hi’n anodd iawn siarad. Beth fyddai’r peth hawsaf i ddechrau gydag e? • Mae’n teimlo fel petaech chi’n dadlau rhywbeth yn eich pen. Allwch chi ei roi mewn geiriau? • Rydych chi’n edrych fel petaech wedi cael digon / wedi ypsetio / yn flin. Beth sydd yn mynd ymlaen yn eich meddwl?

  10. Awgryma Egan mai rheol fuddiol bob amser yw aralleirio ateb i gwestiwn bob amser. • Gallwch hefyd ddilyn aralleiriad gyda chwestiwn a bydd hwnnw yn anorfod yn gorffen fel cwestiwn agored. • (enghraifft) Cyng: Beth ydych chi yn ei hoffi am y cwrs cwnsela (cwestiwn agored) • Cleient: Rwy’n teimlo fy mod yn dysgu llawer o bethau newydd nad oeddwn i yn eu gwybod cynt fel fy mod i’n teimlo’n well amdanaf fy hun. • Cyng: Felly rydych yn teimlo bod y cwrs yn gadarnhaol iawn i chi? Sut hoffech chi fynd â’r sgiliau hyn ymhellach?

  11. Ymarferiad • Yn barau – Ymarfer holi cwestiynau agored drwy droi’r cwestiynau ar y ddalen o fod yn rhai ‘caeedig’ yn rhai ‘agored’

More Related