1 / 12

“ Dysgu i Arwain ein Bywydau ”

“ Dysgu i Arwain ein Bywydau ”. Y Comiwnyddion yn cipio Grym. Sgil: Cronoleg, Gweithio gydag Eraill. GCaD Cymru: Rwsia 1900-1924. Beth sydd ei angen i ddymchwel Llywodraeth. Tachwedd 1917: Mae’r Bolsieficiaid wedi meddiannu Rwsia! Mae’r digwyddiad anhygoel yma newydd ddigwydd !

isi
Download Presentation

“ Dysgu i Arwain ein Bywydau ”

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. “Dysgu i Arwain ein Bywydau” Y Comiwnyddion yn cipio Grym Sgil: Cronoleg, Gweithio gydag Eraill GCaD Cymru: Rwsia 1900-1924

  2. Beth sydd ei angen i ddymchwel Llywodraeth. . .

  3. Tachwedd 1917: Mae’r Bolsieficiaid wedi meddiannu Rwsia! Mae’r digwyddiad anhygoel yma newydd ddigwydd ! I ddarganfod pam, dyma gyfres o fflachiadau newyddion o bapurau newyddion yn ystod y 9 mis diwethaf. Crëwch y tabl hwn a defnyddiwch y fflachiadau i’w gwblhau!

  4. FFLACH NEWYDDION 1! Mawrth 1917 – Mae’r Tsar newydd ymddiorseddu! Mae grym yn Rwsia wedi ei roi i 2 grŵp o bobl ! Grŵp 1: Y Dwma dan arweiniad Alexander Kerensky! Bydd y grŵp yma’n cynnal etholiadau’n fuan, felly Llywodraeth Dros Dro ydyn nhw! Grŵp2: Grŵp mawr o weithwyr a milwyr a elwid yn Sofiet Petrograd! Mae’r Llywodraeth dros dro yn gallu pasio deddf os yw Sofiet Petrograd yn cytuno i hynny ! Mae Gorchymyn Rhif. 1 yn golygu fod Sofiet Petrograd yn rheoli’r Fyddin ! Mae’r ddau wedi cytuno i ryddid barn a rhyddid y wasg a’r hawl i streicio!

  5. Fflach newyddion 2! Penderfyniadau pwysig wedi’u gwneud! Mawrth 1917: Penderfyniadau’r Llywodraeth Dros Dro ! Penderfyniad 1: Fydd y Llywodraeth Dros Dro ddim yn dod â’r rhyfel i ben oherwydd byddai’r Almaenwyr yn gwneud i’r Rwsiaid dalu pris rhy uchel pe baen nhw’n ildio ! Penderfyniad 2: Fydd y Llywodraeth Dros Dro ddim yn rhoi eu tiroedd yn ôl i’r werin. Maen nhw’n poeni pe baen nhw’n dechrau rhoi tir yn ôl, bydd milwyr Rwsia yn encilio ac yn dychwelyd i hawlio eu tiroedd!

  6. FFlach newyddion 3! Mae Lenin wedi dychwelyd Mae Lenin, arweinydd y Bolsieficiaid, newydd ddychwelyd i Rwsia yn Ebrill 1917! Mae’n awyddus iawn i weld y Bolsieficiaid yn cipio grym! Gwnaeth araith bwysig yn syth ar ôl cyrraedd yn yr orsaf drenau! Dyma gerflun a adeiladwyd yn ddiweddarach yn dangos Lenin yn traddodi’r ddarlith. Llun trwy garedigrwydd Keith McInnes

  7. Syniadau Lenin yw: “Heddwch, Bara a Thir!”a“Pob grym i’r Sofietiaid” Felly mae eisiau: *Diwedd i’r Rhyfel *Rhoi tir i’r werin *y Sofietiaid i gymryd grym - “Dim cydweithredu gyda’r Llywodraeth dros dro!” Ysgrifennwyd y syniadau hyn a’u galw’n Theses Ebrill!

  8. FFLACH NEWYDDION 4! GWRTHRYFEL ! “Dyddiau Gorffennaf” Mae’r Rwsiaid yn ddig bod y rhyfel a’r prinder yn parhau, felly maen nhw’n gwrthryfela i gael pethau wedi newid! Y Bolsieficiaid yw’r unig blaid sydd yn erbyn y rhyfel, felly mae’r terfysgwyr wedi gofyn i’r Bolsieficiaid eu harwain! Mae Kerensky yn anfon y milwyr yn erbyn y terfysgwyr. MaeLenin yn ffoi i’r Ffindir.

  9. FFLACH NEWYDDION 5! Gwrthryfel Kornilov– Awst 1917 Mae cadfridog o’r enw Kornilov mor ddig gyda gwendid Llywodraeth Rwsia fel ei fod wedi bygwth cipio grym ei hunan ! Aeth Kornilov a’i filwyr ar drenau i Petrograd i gipio grym! Roedd Kerensky mewn panig, a rhoddodd reifflau i fyddin y Bolsieficiaid, y Gwarchodlu Coch, i amddiffyn Petrograd yn erbyn Kornilov ! Fodd bynnag, ni chyrhaeddodd Kornilov – roedd gweithwyr y rheilffyrdd wedi tynnu’r traciau i fyny ac felly stopiodd y trenau. Mae’r Bolsieficiaid yn edrych fel arwyr ac maent wedi cadw’r reifflau!

  10. Y Bolsieficiaid yn meddiannu Petrograd! • 7fed Tachwedd 1917. Mae Trotsky, un o’r prif Bolsieficiaid, yn trefnu’r Gwarchodlu Coch fel eu bod yn rheoli: • Y gorsafoedd trên a’r pontydd • Y prif swyddfa delegraffau • Adeiladau allweddol eraill yn Petrograd ! • Ffodd Kerensky ac mae’r Bolsieficiaid wedi meddiannu’r ddinas! … ar wahân i … Mae’r amser yn iawn! Mae’r Llywodraeth Dros Dro (Ll.D.D.)yn amhoblogaidd oherwydd eu bod yn saethu gwerinwyr sy’n cymryd tir trwy rym. Mae troseddau’n saethu i fyny: nid yw’r Ll.D.D. i’w gweld mewn rheolaeth ! Mae’r gaeaf yn dod … Mae’r Bolsieficiaid yn boblogaidd iawn yn Sofiet Petrograd, gyda llawer o gefnogaeth! Mae Lenin yn treulio noson gyfan yn argyhoeddi Bolsieficiaid amharod fod yr amser yn iawn ar gyfer Chwyldro !

  11. Mae’r Llywodraeth Dros Dro yn y Palas Gaeaf ! Fflach Newyddion 6! Ymosodiad ar y Palas Gaeaf Am 9.00 pm taniodd y criwser Aurora (gweler y llun) belen fel arwydd bod yr ymosodiad ar y Palas gaeaf wedi dechrau! Gorymdeithiodd y Bolsieficiaid ar y Palas … Roedd yr amddiffynwyr naill ai wedi ffoi neu wedi ildio ! Daliwyd y Llywodraeth Dros Dro ac roedd y wlad dan reolaeth y Bolsieficiaid! Llun trwy garedigrwydd Keith McInnes

  12. Profwch eich partner… Disgrifiwch y digwyddiadau canlynol, a oedd yn rhan o’r broses o gipio grym gan y Bolsieficiaid, ond heb ddefnyddio’r geiriau go iawn!Edrychwch i weld faint gawson nhw’n iawn, yna newidiwch le gyda’ch partner. • Palas Gaeaf • Gwrthryfel Kornilov • Gorchymyn rhif 1 • Llywodraeth Dros Dro • Dyddiau Gorffennaf • Heddwch, bara a thir

More Related