1 / 26

Bwyd o Gymru

Bwyd o Gymru. Beth sydd gan y bwydydd isod i gyd yn gyffredin?. Mae’r bwydydd uchod i gyd yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru. Bwydydd sy’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru – traddodiadol ac arloesol. Pa fwydydd neu gynnyrch o’r lluniau rydych chi’n eu hystyried yn draddodiadol neu’n arloesol?.

helia
Download Presentation

Bwyd o Gymru

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Bwyd o Gymru

  2. Beth sydd gan y bwydydd isod i gyd yn gyffredin? Mae’r bwydydd uchod i gyd yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru.

  3. Bwydydd sy’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru – traddodiadol ac arloesol Pa fwydydd neu gynnyrch o’r lluniau rydych chi’n eu hystyried yn draddodiadol neu’n arloesol?

  4. Dyluniwch focs pryd o fwyd oGymru. Bydd yr uned hon yn canolbwyntio ar ddylunio neu addasu cynnyrch bwyd i’w gynnwys mewn bocs bwyd. Cymerwch fwyd sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol a gwneud bocs pryd o fwyd o Gymru

  5. Yn yr adran ymchwil ar ddylunio bocs bwyd o Gymru mae’r gweithgareddau a’r ymchwiliadau’n canolbwyntio ar: • Beth yw bocsys pryd o fwyd a beth maent yn eu cynnwys? • Beth yw bwydydd traddodiadol Cymru? • Profi a threialu seigiau o Gymru • Ymchwilio cynnyrch sydd ar gael yn lleol a chynhyrchwyr bwydydd arloesol o Gymru.

  6. Dylunio bocs bwyd o Gymru Tasg - Dylunio bocs bwyd o Gymru. Mae angen i’r bocs bwyd: • ddefnyddio bwydydd tymhorol sydd ar gael yn lleol. • bod mor ‘iach’ â phosibl – yn isel mewn siwgr a braster. • defnyddio detholiad o ffrwythau a llysiau i helpu cyflawni’r ‘nod 5 y dydd’ • cynnwys cyfuniadau blas diddorol. • cynnwys amrywiaeth o ansoddau a lliwiau. • Er mwyn cwblhau’r dasg hon mae angen ymchwilio’r agweddau a ganlyn: • Pa fwydydd sydd ar gael yn lleol? • Pa fwydydd sydd yn eu tymor? • Bwydydd/ seigiau traddodiadol sy’n cael eu bwyta yn yr ardal.

  7. Seigiau math Indiaidd. Seigiau math Tsieineaidd Seigiau math Mecsicanaidd Beth yw bocspryd o fwyd? Tasg: Meddyliwch am gymaint â phosib o fathau bocsys prydau bwyd sydd ar gael ar y farchnad. Ymwelwch ag archfarchnad neu wefan archfarchnad a rhestrwch y mathau gwahanol sydd ar werth. Ysgrifennwch nhw ar ffurf siart corryn. Dyma rai mathau gwahanol o focsys prydau bwyd ar y farchnad. Cynhyrchion sydd eisoes yn bod Ydych chi’n gallu enwi rhai o’r seigiau a fyddai’n cael eu cynnwys yn y bocsys bwyd?

  8. Cyri Cyw iâr Coch Cyri Cyw iâr Gwyrdd Reis Gludiog Crempogau llysiau Beth sy mewn bocs pryd o fwyd ? Beth ydych chi’n credu sy’n gynwysedig yn y bocs pryd o fwyd Thai hwn? Pris - £7.99 Bwydo dau berson Gellir rhoi’r bwyd mewn popty microdon Tasg: Beth am ddatod bocs pryd o fwyd?

  9. Beth yw datodiad? Ystyr datodiad yw ‘tynnu ar wahân’. Pam datod? Mae datod cynnyrch bwyd sydd eisoes yn bod yn gallu eich helpu i gael syniadau dylunio. Tasg – Gan ddefnyddio bocs bwyd sydd eisoes yn bod gallech ymchwilio’r canlynol: • Pa ddeunyddiau bwyd/gynhwysion sydd wedi cael eu defnyddio? • Fel beth mae’r cynnyrch bwyd yn edrych? Disgrifiwch ei faint/bwysau, ei siâp a’i liw.

  10. Tasg – Gan ddefnyddio bocs bwyd sydd eisoes yn bod gallech ymchwilio’r canlynol: • Beth yw ei werth maethol? Ymchwiliwch yr wybodaeth faethol ar y label. • Sut mae’r cynnyrch yn cael ei baratoi i’w werthu? e.e. ffres, wedi ei rewi, yn oer • Am ba hyd y bydd yn cadw a sut dylai gael ei storio? Edrychwch ar y marc dyddiad a’r cyfarwyddiadau storio. • Faint mae’n costio a beth yw’r gost y 100gm? Cyfrifwch y gost am 100 gram.

  11. Tasg – Gan ddefnyddio bocs bwyd sydd eisoes yn bod gallech ymchwilio’r canlynol: • Sut mae’n cael ei wneud? Edrychwch yn ofalus ar y cynnyrch a cheisiwch weithio allan sut rydych chi’n credu ei fod yn cael ei wneud. Gallech ysgrifennu at y gwneuthurwr am fwy o wybodaeth. • Faint mae pob rhan o’r cynnyrch yn ei bwyso? • Gallech chi dynnu’r cynnyrch ar wahân a phwyso’r gwahanol rannau. • Sut dylai gael ei baratoi a’i weini? • Sut mae’r cynnyrch yn cael ei becynnu? Gallech fraslunio’r dyluniad neu’r ffurf a chynnwys manylion y deunyddiau a ddefnyddiwyd yn allanol ac yn fewnol. • Pa wybodaeth sydd ar y defnydd pacio? Allwch chi ddisgrifio mewn geiriau yr hyn sydd wedi ei restru arno. Cadwch y defnydd pacio fel tystiolaeth o bosib.

  12. Allwch chi enwi rhai cynhwysionnodweddiadol traddodiadol o Gymru? Cocos ac wstrys Bara lawr Mecryll a phenwaig Llysiau gwraidd Cig oen, cig eidion a phorc Cymru Bresych Cynnyrch llaeth Ceirch

  13. Tasg – ydych chi’n gallu adnabod y seigiau traddodiadol hyn o Gymru? Cawl Cawl cennin a chaws Bara Brith Cacenni cri Caws ar dost Pwdin yr Wyddfa

  14. Pambwyta bwyd o Gymru sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol? • Mae gennym ddewis o fwyd amrywiol a blasus ar gael yng Nghymru. • Gallem fwynhau y buddion iechyd a’r pleser sy’n deillio o fwyta cynnyrch o ansawdd, sy’n ffres a thymhorol a rhanbarthol-wahanol.

  15. Pambwyta bwyd o Gymru sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol? • Byddem yn cefnogi ein diwydiant ffermio a bwyd. • Mae bwyta bwyd sydd wedi ei gynhyrchu’n lleol yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

  16. Tasg– ymchwilio bwydydd sydd wedi cael eu cynhyrchu yn eich ardal leol • Tynnwch fap o’r ardal rydych yn mynd i’w harchwilio a chwilio am gynhyrchwyr bwyd lleol. • Chwiliwch am syniadau yn • Gwir Flas / TrueTaste www.foodwales.com • www.s4c.co.uk/dudley • rhestri marchnadoedd ffermwyr lleol • Lluniwch collage o’r cynhyrchion neu restr, gallent fod o gymorth drwy roi bwrdd ysbrydoliaeth i chi ar gyfer eich syniadau.

  17. Mae tarddiad bwyd Cymru a’i wreiddiau’nddwfn yn eu cefndir a’u traddodiad Celtaidd. Tasg – ymchwilio hanes bwyd Cymru • Gallech ddefnyddio rhai o’r gwefannau a ganlyn i ddarganfod beth oedd ein hynafiaid Cymreig yn ei fwyta. http://www.museumwales.ac.uk – teipiwch bwydydd traddodiadol Cymru /rhagor • http://www.s4c.co.uk/dudley/e_welsh_history.shtml • http://recipes.wikia.com/wiki/Welsh_Cuisine • http://www.bbc.co.uk/food/tv_and_radio/food_heroes/directory_wales.shtml • www.allbritishfood.com O ganlyniad tueddai seigiau fod yn rhai mawr, sylweddol oedd yn eich llenwiac roedd ryseitiau yn cael eu trosglwyddoo’r naill genhedlaeth i’r llall ar dafod leferydd.

  18. Fel cenedl fe ddatblygom ddiwylliant o weithwyr diwyd, yn ddynion a menywod, a’r bwyd oedd ei angen arnynt i ddiwallu eu hanghenion. • Mae wedi datblygu ar hyd yr amser oherwydd ei ddaearyddiaeth a’i dirlun amrywiol. Tasg – ymchwilio hanes bwyd Cymru

  19. Pa fwydydd sydd wedi bod yn boblogaidd yng Nghymru yn y gorffennol? Cawl – wedi ei wneud o gig moch, cig oen, bresych, tatws a chennin Ydych chi’n gallu enwi rhai o’r bwydydd neu’r seigiau hyn? Seigiau sylweddol oedd yn eich llenwi Llaeth, caws a menyn, o’n ffermydd llaeth niferus Brecwastau Cymru gan gynnwys bara lawr, cig moch cartref, wyau a chocos Penwaig a macrell o arfordir Gorllewin Cymru Pam oedd y seigiau hyn yn boblogaidd yng Nghymru? Ceirch – uwd, cacennau ceirch ac ychwanegu ceirch at sŵp Wystrys, cocos a “lafwr”Gwymon bwytadwy o arfordir Bro Gŵyr. Defnyddio bwydydd lleol oedd wedi’u prisio’n rhesymol Bresych a chennin

  20. Bwydydd Llaeth Cymru caws…llaeth…iogwrt…hufen iâ...menyn… Ysbrydoliaeth ar gyfer eich syniadau dylunio. Cynnyrch llaeth o’n ffermydd llaeth niferus

  21. Cig eidion…oen…porc…pysgod...selsig ...pastai… Cynnyrch cig Cymru Ysbrydoliaeth ar gyfer eich syniadau dylunio. www.foodwales.com Cig oen, eidion a phorc o’n bryniau a’n mynyddoedd gleision toreithiog ffrwythlon

  22. Cynnyrch pysgod Cymru macrell…bara lawr….eog…cocos… Ysbrydoliaeth ar gyfer eich syniadau dylunio. Pysgod a physgod cregyn o foroedd ac afonydd Cymru

  23. cennin…tatws….blodfresych…erfin… Llysiau Cymru Ysbrydoliaeth ar gyfer eich syniadau dylunio. Llysiau o gaeau, gerddi a thai gwydr Cymru

  24. Tasg: Mapio’r meddwl Bara ’rhwygo a rhannu’ caws Caerffili • Techneg sy’n cael ei defnyddio gan ddylunwyr i gynhyrchu syniadau newydd yw mapio’r meddwl. • Gallech ddefnyddio rhai o’r syniadau hyn fel man cychwynar gyfer seigiau dyfeisgar i’w datblygu ar gyfer y Bocs Bwyd o Gymru • Mae’r ymarfer yn ymwneud â meddwl am gymaint o syniadau â phosibl i ateb y dasg – pa mor wirion neu feiddgar bynnag ydynt. hufen iâ bara brith cebabs cennin a chig oen

  25. Tasg ….edrychwch hefyd ar rai o’r bwydyddmodernffantastig o Gymru sy’n cael eu cynhyrchu. Chwiliwch am syniadau yn Gwir Flas / TrueTaste - www.foodwales.com yn yr adran wobrwyo a www.s4c.co.uk/dudley

  26. Rhowch brawf ar rai seigiau traddodiadol o Gymru ac olrhain eu hanesi’ch helpu ddatblygu eich syniadau ar gyfer y bocs bwyd. Beth am roi cynnig ar wneud rhai bwydydd traddodiadol o Gymru yn eich gwers Technoleg Bwyd? Rhowch gynnig ar unrhyw un o’r ryseitiau a ganlyn. Maent i gyd yn addas ar gyfer gwers 50 munud/1 awr: • Cacenni cri • Pwdin Marmaléd Cymru • Cawl Cennin Cymru • Selsig Morgannwg

More Related