1 / 12

MATERION HIL YN AMERICA

MATERION HIL YN AMERICA. 1929-1990 (Protest heddychlon). Y GOGLEDD. Ar ôl 1860 symudodd nifer o bobl dduon i’r Gogledd lle roedd bywyd ychydig yn well a lle roedd llai o wahaniaethu. Doedd dim arwahanu yn y gogledd ac ymgododd dosbarth canol o bobl dduon ynghyd â dadeni diwylliannol.

derick
Download Presentation

MATERION HIL YN AMERICA

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. MATERION HIL YN AMERICA 1929-1990 (Protest heddychlon)

  2. Y GOGLEDD Ar ôl 1860 symudodd nifer o bobl dduon i’r Gogledd lle roedd bywyd ychydig yn well a lle roedd llai o wahaniaethu. Doedd dim arwahanu yn y gogledd ac ymgododd dosbarth canol o bobl dduon ynghyd â dadeni diwylliannol. Er na chafwyd deddfau Jim Crow roedd pobl dduon yn y gogledd o hyd yn dueddol o gael y swyddi gwaethaf a’r tai gwaethaf, ac roedd llawer iawn o wahaniaethu preifat hefyd yn digwydd.

  3. YR AIL RYFEL BYD • Yn ystod y Rhyfel roedd y Duon yn ymladd mewn catrodau ‘Jim Crow’ ar wahân ac yn aml roeddent yn gwneud gwaith gwasaidd nad oedd yn arwrol. Ond roedd rhai MANTEISION: • Roedd dynion duon yn y fyddin yn profi bywyd heb arwahanu tramor mewn lleoedd fel Prydain a Ffrainc. Roedd hyn yn ei gwneud yn anoddach o lawer i ddychwelyd i hiliaeth ac arwahanu yn nhaleithiau’r De. • Gartref roedd swyddi newydd oedd yn talu’n well mewn ffatrïoedd rhyfel. D.S. daeth gwahaniaethu yn anghyfreithlon mewn ffatrïoedd oedd yn eiddo i’r llywodraeth. • Codwyd ymwybyddiaeth gartref a thramor oherwydd roedd y rhyfel yn ymwneud â rhagfarn hiliol Hitler. • Roedd y Duon yn benderfynol o ddal ati i ymladd. Cynyddodd aelodaeth NAACP bron i ddeg gwaith. • Dechreuodd agweddau’r gwynion newid e.e. rhoddodd yr Arlywydd Truman ddiwedd ar arwahanu ym myddin America.

  4. Pam, yn eich barn chi, bod rhoi diwedd ar arwahanu ym myddin America yn gam mor bwysig i gael cydraddoldeb i Americanwyr duon?(cofiwch fod yr Arlywydd ei hunan wedi integreiddio rhaniadau gwynion a duon)

  5. ACHOS BROWN 1954 Yn 1954 heriodd NAAPC fyrddau ysgolion lleol (gan gynnwys un yn Topeka Kansas) i arwahanu ysgolion. Ar 17eg Mai 1954 penderfynodd y Goruchaf Lys bod ysgolion a arwahanwyd yn anghyfreithlon o dan y cyfansoddiad. Erbyn 1956, er gwaethaf y cam ymlaen mewn 6 talaith ddeheuol yn America, nid oedd un plentyn du yn mynychu ysgol i’r gwynion ac mewn taleithiau eraill dim ond camau bychain tuag at integreiddio a wnaed.

  6. Eglurwch pam bod achos Brown yn 1954 yn dyngedfennol i Americanwyr duon o ran cael hawliau cyfartal.(Ystyriwch bwysigrwydd addysg)

  7. Boicot Bws Montgomery Pam byddai hyn wedi bod yn syniad drwg cyn Tachwedd 1956? • 1af Rhagfyr 1955, gwrthododd Rosa Parks, dynes ddu 41 oed, roi ei sedd i ddyn gwyn a sefyll yng nghefn y bws yn unol â gofynion y gyfraith. Cafodd ei harestio a’i dirwyo $10. O fewn 48 awr roedd ffrindiau a theulu Rosa Parks wedi trefnu boicot, ac o dan arweiniad MLK fe dyfodd ac fe ledaenodd. Ym mis Tachwedd 1956, wedi 18 mis o anghyfleustra, bygythiadau a hyd yn oed bomio tân, dyfarnodd y Goruchaf Lys bod arwahanu ar fysiau yn anghyfreithlon.

  8. PROTESTIADAU EISTEDD COWNTERI CINIO • Trefnodd CORE (Y Gymdeithas Ganolog dros Gydraddoldeb Hiliol) brotestiadau eistedd heddychlon wrth gownteri cinio Woolworth. Roedd y cownteri cinio i fod i gael eu harwahanu ond eisteddodd pobl dduon a phobl gwynion gyda’i gilydd a chythruddwyd y gwargochion…

  9. Defnyddiwch y ffynhonnell yma a’ch gwybodaeth eich hun i egluro’r agweddau at roi diwedd ar arwahanu yn y De.

  10. Beth sy’n digwydd yn y llun hwn? Efallai eich bod yn meddwl mai parth rhyfel ydyw ond ysgol uwchradd ydyw mewn gwirionedd. Roedd angen y milwyr i amddiffyn y 9 myfyriwr du a fynychai’r ysgol, rhag cael eu hymosod gan y myfyrwyr, yr athrawon a’r rhieni gwynion.

  11. Little Rock (Arkansas) 1957 • Er bod y Goruchaf Lys wedi deddfu bod pobl dduon yn gallu mynd i ysgolion y gwynion, cynyddodd y tensiwn yn Little Rock yn 1957. • Defnyddiodd y Llywodraethwr filwyr wrth gefn y Gwarchodlu Cenedlaethol, i rwystro 9 myfyriwr du rhag cofrestru yn Ysgol Uwchradd Little Rock. • Anfonodd yr Arlywydd Eisenhower 1000 o barafilwyr yr Unol Daleithiau i warchod y myfyrwyr duon rhag y torfeydd treisgar am y flwyddyn nesaf. • Yn 1957, fe wnaeth y Ddeddf Hawliau Sifil wahaniaethu yn anghyfreithlon. • (mewn gwirionedd roedd Eisenhower yn pryderu mwy am y modd roedd y genedl yn cael ei chynrychioli dramor yn hytrach na hawliau sifil y myfyrwyr).

  12. Amlygwch y prif lwyddiannau a gaed gan yr Americanwyr duon yn y 1950au. Cafwyd pob delwedd o Lyfrgell Genedlaethol y Gyngres (www.loc.gov) Hyd y gwêl yr awdur nid oes unrhyw gyfyngiad sy’n hysbys ar y cyhoeddiad.

More Related