70 likes | 371 Views
yn a mewn. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng mewn ac yn ?. Rydyn ni’n defnyddio mewn + lle amhendant ( dim yn rhywle penodol ). e.e. mewn tŷ - Rydw i’n byw mewn tŷ. mewn ysgol – Rydw i’n ddisgybl mewn ysgol. mewn bocs - Mae’r gwaith yn cael ei gadw mewn bocs.
E N D
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng mewn ac yn? Rydyn ni’n defnyddio mewn+ lle amhendant (dim yn rhywle penodol) e.e. mewntŷ - Rydw i’n byw mewn tŷ. mewnysgol – Rydw i’n ddisgybl mewn ysgol. mewnbocs - Mae’r gwaith yn cael ei gadw mewn bocs.
Rydyn ni’n defnyddio yn+ lle pendant (rhywle penodol) e.e. yn ytŷ - Rydw i’n byw yn y tŷ mwyaf ar y stryd. ynYsgol… – Rydw i’n ddisgybl yn Ysgol Brynrefail yn ybocs - Mae’r gwaith yn y bocs sydd ar y bwrdd.
Y treiglad trwynol ar ôl ‘yn’: Pwysig! Cofiwch am y treiglad trwynol mewn enwau lleoedd yn syth ar ôl yn. e.e. yng Nghaernarfon, ymMhrestatyn, yn Nhremadog, yn Ninas Dinlle Wnaethoch chi sylweddoli beth sy’n digwydd i’r yn cyn rhai geiriau sy’n treiglo’n drwynol?
Ymarfer: Rhowch yn neu mewn yn y bylchau. 1. Mae Catrin yn byw ______ tŷ. 2. Prynodd y ferch ei dillad ______ y dref. 3. Rydw i’n cael cinio _______ caffi. 4. Mae hi’n aros ______ pabell heno. 5. Mae’r plant yn chwarae _____nghae chwarae’r ysgol. 6. ______ chwarter awr, bydd angen i bawb fynd i’r neuadd. 7. Mae cwningen yn byw ______ cawell. 8. Roedd ein bochdew yn byw _____ y cawell yn y gegin. 9. Rydw i’n byw ______ y tŷ lleiaf ar y stryd. 10. __________ ei amser hamdden mae Geraint yn hoffi hwylio.