1 / 43

Canllawiau rheoli perfformiad

Canllawiau rheoli perfformiad. Rheoli perfformiad Rhan B: rheoli perfformiad penaethiaid. Gweithredu’r rheoliadau rheoli perfformiad diwygiedig Ionawr 2011 ar gyfer rheoli perfformiad penaethiaid (i’w rhoi ar waith erbyn 1 Ionawr 2013). Amcanion y sesiwn.

daria
Download Presentation

Canllawiau rheoli perfformiad

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Canllawiau rheoli perfformiad

  2. Rheoli perfformiadRhan B: rheoli perfformiad penaethiaid Gweithredu’r rheoliadau rheoli perfformiad diwygiedig Ionawr 2011ar gyfer rheoli perfformiad penaethiaid (i’w rhoi ar waith erbyn 1 Ionawr 2013)

  3. Amcanion y sesiwn Deall gofynion y rheoliadau diwygiedig a sut i’w rhoi ar waith yn effeithiol. Adolygu rôl rheoli perfformiad ar gyfer y pennaeth wrth godi safonau. Adolygu sut mae rheoli perfformiad y pennaeth wedi’i wreiddio yng nghyd-destun ehangach prosesau gwella’r ysgol. Adolygu gweithredu’r broses rheoli perfformiad y pennaeth, gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau’r rhai sy’n rhan ohoni.

  4. Atgrynhoi a throsolwg o’r gofynion rheoli perfformiad diwygiedig

  5. Gofynion diwygiedig Amserlen Rheoliadau diwygiedig a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2012. Defnyddio’r trefniadau diwygiedig erbyn 31 Rhagfyr 2012. Diwygiadau Mae gan reoli perfformiad gysylltiad glir â: – safonau ac ymarfer proffesiynol – blaenoriaethau ysgol gyfan a chenedlaethol – data perfformiad dysgwyr – cynnydd tâl. Mae ymarferwyr yn cynnal a chadw cofnod ymarfer, adolygu a datblygu. Mwy o gyfranogiad gan yr awdurdod lleol ym mhroses rheoli perfformiad ysgolion. Rhaid i’r Brif Swyddog Addysg derbyn copi o’r datganiad gwerthuso. Mae gan Estyn fynediad i amcanion perfformiad penaethiaid. Dylech gadw dogfennau rheoli perfformiad am o leiaf tair blynedd.

  6. Diben rheoli perfformiad ‘Mae rheoli perfformiad yn helpu ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith penaethiaid fel unigolion ac fel arweinwyr timau ysgol. Mae’n gosod fframwaith i athrawon ac arweinwyr gytuno ar flaenoriaethau ac amcanion a’u hadolygu yng nghyd-destun cynlluniau gwella’r ysgol. Mae’n canolbwyntio sylw ar wneud addysgu ac arwain yn fwy effeithiol er budd disgyblion, athrawon ac ysgolion.’ Rheoli perfformiad i benaethiaid (Llywodraeth Cymru, 2012)

  7. Rôl rheoli perfformiad yn y broses gwella’r ysgol Mae rheoli perfformiad yn cefnogi: ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith ymarferwyr fel unigolion ac mewn timau athrawon i ddiwallu anghenion dysgwyr a gwella safonau. Mae rheoli perfformiad yn arddangos ymrwymiad yr ysgol i: ddatblygu’r holl ymarferwyr yn effeithiol sicrhau boddhad yn y swydd lefelau uchel o arbenigedd dilyniant ymarferwyr yn eu galwedigaeth dewisol.

  8. Y cylch gwerthuso Bydd y pennaeth yn pennu amser y cylch gwerthuso i bob athro/athrawes. Rhaid i’r corff llywodraethu bennu cylch gwerthuso ar gyfer y pennaeth. Fel arfer blwyddyn fydd hyd y cylch gwerthuso.

  9. Y cylch gwerthuso AdolyguCynllunio Hunanfyfyrio Gwerthuswr Hunanddadansoddi Cyfarfod adolygu a gwerthusai Dadansoddiad Datganiad gwerthuso strategol Gosod amcanion Cytuno ar ddatblygiad proffesiynol parhaus Monitro Adolygiadau anffurfiol yn ystod y flwyddyn Arsylwad addysgu Ffynonellau cytunedig eraill o dystiolaeth sy’n briodol i rôl yr athro/athrawes

  10. Myfyrio a thrafod – hunanwerthuso Ym mha ffordd y mae’r corff llywodraethu’n: cefnogi gweledigaeth yr ysgol? cyfrannu at wella cyrhaeddiad a lles dysgwyr? cynorthwyo datblygiad proffesiynol yr holl staff? meithrin naws ymddiriedaeth rhwng yr athro/athrawes a’u gwerthuswr, sy’n caniatáu gwerthuso cryfderau a nodi meysydd i’w datblygu’n drwyadl? annog rhannu arfer da? ategu’r ymagwedd gyffredinol at arwain a rheoli’r ysgol? bodloni’r rheoliadau statudol diwygiedig? B.Sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio ym mhrosesau gwella’r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella? (Defnyddiwch daflen ysgogi 5 i hwyluso’r drafodaeth.)

  11. Rolau a chyfrifoldebau

  12. Rolau a chyfrifoldebau yn y broses rheoli perfformiad Partneriaid allweddol Corff llywodraethu/corff perthnasol. Pennaeth. Panel gwerthuso. Awdurdod lleol. Llywodraeth Cymru.

  13. Cyfrifoldebau’r corff llywodraethu/corff perthnasol dros reoli perfformiad y pennaeth Rhaid i’r corff llywodraethu/corff perthnasol: benodi panel gwerthuso i: – adolygu rheoli perfformiad y pennaeth drwy banel gwerthuso – cytuno ar amcanion ar gyfer y pennaeth – cytuno ar ddatganiad gwerthuso blynyddol – monitro perfformiad y pennaeth yn rheolaidd cynnwys person/pobl a enwebwyd gan yr awdurdod lleol ar banel gwerthuso a phroses rheoli perfformiad y pennaeth sicrhau y cynhelir proses rheoli perfformiad y pennaeth yn unol â gofynion statudol.

  14. Rôl y pennaeth yn ei broses rheoli perfformiad ei hun Trafod a chytuno amcanion gyda’r gwerthuswyr. Cytuno ar drefniadau monitro. Cymryd rhan mewn trefniadau monitro ac adolygu gan gynnwys: – adolygu ei berfformiad ei hun gan ddefnyddio’r safonau arweinyddiaeth fel gefndir – cynnal a chadw cofnod ymarfer, adolygu a datblygu – mynychu trafodaethau anffurfiol rheoli perfformiad yn ystod y flwyddyn – awgrymu amcanion gwerthuso ar gyfer y cylch nesaf – ystyried y datganiad gwerthuso. Trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol.

  15. Cyfrifoldebau’r pennaeth Trafod gosod amcanion gyda’r panel gwerthuso o fewn cyd-destun yr ysgol, y disgrifiad swydd a’r safonau proffesiynol priodol. Hwyluso’r broses drwy nodi a darparu data perthnasol a thystiolaeth o berfformiad. Cymryd rhan mewn trefniadau monitro. Cynnal a chadw cofnod ymarfer, adolygu a datblygu cyfredol. Cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol. Trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol i gefnogi ymarfer proffesiynol.

  16. Myfyrio a thrafod – hunanwerthuso Ym mha ffordd y mae’r gwerthusai (y pennaeth) yn: trafod gosod amcanion gyda’r gwerthuswyr (panel gwerthuso) o fewn cyd-destun yr ysgol, y disgrifiad swydd a’r safonau proffesiynol priodol? hwyluso’r broses drwy nodi a darparu data a thystiolaeth berthnasol? cymryd rhan mewn trefniadau monitro a chynnal a chadw cofnod ymarfer, adolygu a datblygu cyfredol? cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol? trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol i gefnogi ymarfer proffesiynol? B. Sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio ym mhrosesau gwella’r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella? (Defnyddiwch daflen ysgogi 4 i hwyluso’r drafodaeth.)

  17. Rôl y panel gwerthuso (llywodraethwyr ac enwebai(enwebeion) yr awdurdod lleol) Rhaid i’r panel gwerthuso: gytuno a chofnodi amcanion gyda’r pennaeth monitro ac adolygu perfformiad trwy gydol y cylch trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol y pennaeth paratoi’r datganiad gwerthuso blynyddol darparu copi o’r datganiad gwerthuso i’r pennaeth, cadeirydd y corff llywodraethu a’r Prif Swyddog Addysg darparu, ar gais, copi o ddatganiad gwerthuso y pennaeth i lywodraethwyr sy’n rhan o faterion yn gysylltiedig â chyflog, dyrchafu, disgyblaeth neu ddiswyddo y pennaeth.

  18. Cyfrifoldebau’r gwerthuswr(gwerthuswyr) Mae gwerthuswr(gwerthuswyr) yn cynnal eu cyfrifoldebau drwy: gynllunio’r cylch gwerthuso gyda’r gwerthusai: – gosod yr amcanion drwy ystyried adolygiad perfformiad y cylch blaenorol – trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol – parhau i adolygu cynnydd a monitro perfformiad yn erbyn amcanion yn rheolaidd trwy gydol y cylch rheoli perfformiad (adolygiad ffurfiannol) – cynnal adolygiad blynyddol o berfformiad gyda’r gwerthusai (adolygiad crynodol gan gynnwys llunio barn) gweithredu’n briodol a hwyluso cefnogaeth pan geir tanberfformiad trefnu bod datganiad gwerthuso llawn ac atodiad i’r datganiad gwerthuso ar gael i’r personél priodol.

  19. Nodir canllawiau Llywodraeth Cymru nodweddion gwerthuswyr a nodir hefyd y dylai’r holl werthuswyr gael eu hyfforddi’n briodol i ymgymryd a’r rôl. Dylai gwerthuswyr gwblhau hunanasesiad i nodi eu hanghenion datblygu. Gellir gwneud mwy o hyfforddiant yn y meysydd datblygu a nodir i sicrhau y gall gynnal y rôl yn effeithiol. Hunanasesiad ar gyfer gwerthuswyr

  20. Penodi’r panel gwerthuso Rhaid i o leiaf dau lywodraethwr gael eu penodi gan y corff llywodraethu. Rhai i un neu ddau enwebai gael eu penodi gan yr awdurdod lleol. Yn ogystal, lle ceir gwerthusiad pennaeth ysgol â chymeriad crefyddol, gall yr awdurdod esgobaethol benodi gwerthuswr. Lle mae’r amser sy’n cael ei dreulio gan bennaeth yn addysgu yn gyfran sylweddol o’i rôl, dylid ystyried cynnwys gwerthuswr a statws athro/athrawes cymwysedig (SAC). Ni all unrhyw lywodraethwr gael ei benodi fel gwerthuswr y pennaeth os ydynt yn athro/athrawes neu’n aelod o staff yr ysgol.

  21. Enwebai(enwebeion) yr awdurdod lleol Bydd yr awdurdod lleol yn: enwebu un neu ddau gynrychiolydd a fyddai fel arfer â gwybodaeth am yr ysgol, rôl y pennaeth a blaenoriaethau’r awdurdod lleol a chenedlaethol perthnasol lle bo’n addas, rhoi ystyriaeth benodol i gynnwys gwerthuswr â statws athro/athrawes cymwysedig (SAC) ymgynghori â’r pennaeth ar bwy a fydd yn cael ei benodi fel eu henwebeion i’r panel gwerthuso.

  22. Ym mha ffordd y mae’r gwerthuswr(gwerthuswyr) yn: cynllunio’r cylch gwerthuso gyda’r gwerthusai? gosod yr amcanion gan ystyried adolygiad rheoli perfformiad y cylch blaenorol? trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol? parhau i adolygu cynnydd a monitro perfformiad yn erbyn amcanion yn rheolaidd trwy gydol y cylch rheoli perfformiad (adolygiad ffurfiannol)? gweithredu’n briodol a hwyluso cefnogaeth pan geir tanberfformiad? cynnal adolygiad blynyddol o berfformiad gyda’r gwerthusai (adolygiad crynodol gan gynnwys llunio barn)? trefnu i’r datganiad gwerthuso fod ar gael i’r personél priodol? B.Sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio ym mhrosesau gwella’r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella? (Defnyddiwch daflen ysgogi 3 i hwyluso’r drafodaeth.) Myfyrio a thrafod – hunanwerthuso

  23. Adolygu perfformiad

  24. Y cyfarfod gwerthuso blynyddol Mae’n gyfle ffurfiol i: gydnabod cyflawniadau a dathlu llwyddiant trafod meysydd i’w gwella a datblygiad proffesiynol pellach ac os dymunir: cytuno ar flaenoriaethau ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys amcanion ar gyfer y cylch rheoli perfformiad dilynol.

  25. Cynllunio ar gyfer yr adolygiad perfformiad blynyddol Caniatáu digon o amser ar gyfer yr adolygiad. Rhaid i’r pennaeth gael gwybod yn ysgrifenedig am ddyddiad y cyfarfod adolygu o leiaf 10 niwrnod ysgol ymlaen llaw. Rhaid anfon y cofnod ymarfer, adolygu a datblygu at werthuswyr o leiaf pum niwrnod cyn y cyfarfod adolygu.

  26. Rheoli’r proses adolygu Penodi cadeirydd ar gyfer y panel gwerthuso. Pennu sut i gadw cofnodion ac ysgrifennu’r datganiad gwerthuso. Nodi data a thystiolaeth briodol i’w defnyddio yn unol â’r rheoliadau. Penderfynu sut caiff amcanion o’r cylch blaenorol eu hystyried. Dylai’r pennaeth hunanfyfyrio cyn y cyfarfod. Cytuno ar drefniadau monitro ac adolygu.

  27. Hunanfyfyrio’r pennaeth Dylai’r pennaeth ystyried perfformiad yn erbyn: ei asesiad ei hun o berfformiad yn erbyn yr amcanion tystiolaeth o berfformiad yn y cylch manteision unrhyw ddatblygiad proffesiynol a gafwyd unrhyw adolygiadau a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn unrhyw ffactorau sydd wedi effeithio ar berfformiad amcanion posib am y cylch nesaf.

  28. Dogfennaeth i’w hystyried Unrhyw ddata perfformiad ysgol perthnasol. Cynllun gwella’r ysgol. Cofnod hunanwerthuso’r ysgol. Cynllun ôl-arolygiad Estyn. Y Safonau Arweinyddiaeth. Unrhyw ddeunyddiau perthnasol eraill, gan gynnwys y rheini o adolygiadau’r awdurdod lleol.

  29. Dylech ystyried hefyd: adolygu, trafod a chadarnhau tasgau, amcanion a safonau hanfodol y pennaeth cydnabod cryfderau a chyflawniadau a chymryd mewn i ystyriaeth ffactorau y tu hwnt i’w rheolaeth cadarnhau gweithredu a gytunwyd mewn adolygiadau anffurfiol yn ystod y flwyddyn nodi meysydd i’w datblygu a sut i’w bodloni cydnabod anghenion datblygiad proffesiynol cytuno ar amcanion clir a chwblhau cynllun unigol ar gyfer y flwyddyn i ddod.

  30. Llunio barn Rhaid i’r panel gwerthuso a’r pennaeth: barnu i ba raddau y bodlonwyd yr amcanion barnu a yw’r perfformiad cyffredinol wedi bod yn llwyddiannus neu beidio cadarnhau a yw’r pennaeth yn parhau i fodloni’r safonau proffesiynol perthnasol ar gyfer penaethiaid barnu’r angen am gefnogaeth hyfforddiant a datblygu.

  31. Gosod amcanion

  32. Gosod yr amcanion Bydd tri amcan fel arfer yn ddigonol. Dylai amcanion y pennaeth: gyfrannu at wella cynnydd dysgwyr yn yr ysgol ystyried tystiolaeth briodol gan gynnwys gwybodaeth am berfformiad yr ysgol canolbwyntio ar ddisgwyliadau allweddol a blaenoriaethau datblygu lle gellir llunio barn sy’n seiliedig ar dystiolaeth cael eu cofnodi yn y datganiad o amcanion.

  33. Amcanion y pennaeth Ar y cyfan, mae’n rhaid eu bod yn ymwneud â: arweinyddiaeth a rheolaeth yr ysgol disgrifiad swydd y pennaeth unrhyw feini prawf cynnydd cyflog priodol unrhyw amcanion ysgol gyfan neu dîm cyfan a nodir yng nghynllun gwella’r ysgol y Safonau Arweinyddiaeth unrhyw flaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer gwella ysgolion a bennir gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau.

  34. glir– heb unrhyw bosibilrwydd o amwysedd neu ddryswch ynglŷn â’r deilliant a fwriedir cryno– gan ddefnyddio cyn lleied o eiriau â phosib i gyfleu’r bwriad mesuradwy– wedi’u mynegi mewn ffordd fel y gellir cytuno ar feini prawf a fydd yn dangos a yw’r nod wedi’i gyflawni ai peidio heriol– yn ddigon heriol, o gofio amgylchiadau’r ysgol, i gyflawni gwelliant sylweddol datblygol– yn cefnogi gwelliant yn yr ysgol a’r gwerthusai. Mae angen i’r amcanion fod yn:

  35. Nodi anghenion datblygiad proffesiynol Dylai datblygiad proffesiynol: gefnogi’r pennaeth wrth wella sgiliau a gwybodaeth cefnogi amcanion cytunedig datblygu cryfderau mynd i’r afael â meysydd ar gyfer datblygiad personol neu dwf proffesiynol.

  36. Monitro perfformiad

  37. Monitro perfformiad Dylai gweithdrefnau monitro: – gael eu trafod a’u cytuno yn y cyfarfodydd cynllunio – cynnwys amrywiaeth o ddulliau. Dylid monitro cynnydd drwy gydol y flwyddyn. Dylid casglu tystiolaeth ddigonol a phriodol i sicrhau llunio barn gadarn. Rhaid i’r pennaeth gynnal a chadw cofnod ymarfer, adolygu a datblygu cyfredol.

  38. Monitro cynydd Dylid fod amrywiaeth o ddulliau monitro i gasglu digon o dystiolaeth briodol er mwyn sicrhau y llunnir barn gadarn. Gellir casglu tystiolaeth o ffynonellau amrywiol gan gynnwys: cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn rhwng y panel gwerthuso a’r pennaeth cofnod ymarfer, adolygu a datblygu’r pennaeth cynllun gwella’r ysgol data a gwybodaeth perfformiad ysgol proses hunanwerthuso barhaus yr ysgol arsylwadau addysgu (lle y bo’n addas).

  39. Arsylwadau addysgu i benaethiaid Ar gyfer rheoli perfformiad rhaid cynnal arsylwadau gan athro/athrawes â statws cymwysedig (SAC) yn unig. Dylid cynnal arsylwadau yn ystod gwersi a gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio ymlaen llaw. Rhaid rhoi o leiaf pum niwrnod ysgol o rybudd. O leiaf un arsylwad y flwyddyn ar gyfer rheoli perfformiad. Rhoddir adborth cyn gynted â phosib (o fewn pum niwrnod ysgol fel arfer). Dylid cofnodi canlyniad yr arsylwad, gan gynnwys adborth – dylai fod gan benaethiaid gyfle i ychwanegu sylwadau.

  40. Rheoli tanberfformiad Nid yw rheoli perfformiad yn ffurfio rhan o unrhyw weithdrefnau disgyblu, cymhwysedd na gallu ffurfiol. Gall y rhai sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch materion perfformio, cyflog, dyrchafu, diswyddo neu ddisgyblu ystyried datganiadau gwerthuso. Bydd rheoli llinell effeithiol, gyda disgwyliadau clir a chefnogaeth briodol, yn helpu wrth nodi a mynd i’r afael ag unrhyw meysydd i’w gwella mewn perfformiad yn gynnar yn y broses.

  41. Amgylchiadau eithriadol Lle ceir penderfyniad i gychwyn ar weithdrefn cymhwysedd neu allu ffurfiol, yna bydd y weithdrefn honno’n disodli’r trefniadau rheoli perfformiad. Gellir gohirio’r broses rheoli perfformiad unrhyw bryd.

  42. Y broses rheoli perfformiad Nodir arfer gorau rheoli perfformiad drwy: ymrwymiad i gyrhaeddiad a lles dysgwyr gwerthfawrogi’r rôl hanfodol sydd gan benaethiaid ymrwymiad i berfformiad a lles staff meithrin naws o ymddiriedaeth rhwng y pennaeth a’r panel gwerthuso, sy’n caniatáu gwerthuso cryfderau a nodi meysydd i’w datblygu’n drwyadl annog rhannu arfer da integreiddio rheoli perfformiad yn yr ymagwedd gyffredinol at arwain a rheoli’r ysgol.

  43. Ac yn olaf . . . ‘Mae rheoli perfformiad yn canolbwyntio sylw ar wneud addysgu ac arwain mwy effeithiol er budd disgyblion, athrawon ac ysgolion.’ Rheoli perfformiad i benaethiaid (Llywodraeth Cymru, 2012)

More Related