1 / 37

Modiwl 5: Rheoli eich arian – cyllidebu

Modiwl 5: Rheoli eich arian – cyllidebu. Amcanion y modiwl Rhoi cyfle i edrych ar y deilliannau dysgu yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) i weld ble mae cyllidebu yn bodoli yn y cwricwlwm yng Nghymru.

damisi
Download Presentation

Modiwl 5: Rheoli eich arian – cyllidebu

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Modiwl 5: Rheoli eich arian – cyllidebu

  2. Amcanion y modiwl • Rhoi cyfle i edrych ar y deilliannau dysgu yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) i weld ble mae cyllidebu yn bodoli yn y cwricwlwm yng Nghymru. • Tynnu sylw at yr adnoddau a’r gweithgareddau y gellir eu defnyddio yng Nghyfnodau Allweddol 2, 3 a 4 i ddatblygu sgiliau rhifedd dysgwyr yng nghyd-destun rheoli eu harian drwy gyllidebu.

  3. Nodau’r dysgwyr Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno’r broses o gyllidebu. Mae’n gweithio ar draws cyfnodau allweddol a bydd rhai dysgwyr yn: • gwerthfawrogi’r penderfyniadau y mae angen eu gwneud mewn perthynas ag ‘eitemau hanfodol a ddim yn hanfodol i'w prynu’ • adnabod y gwahaniaeth rhwng angen (rhywbeth na allwch fyw hebddo) ac eisiau (rhywbeth y gallwch fyw hebddo) • adnabod sut mae arian yn dod i mewn ac yn gadael eu bywydau • deall y gwahaniaeth rhwng incwm a gwariant • gallu esbonio pam mae angen mantoli’r gweddill ar gyfer cyllideb.

  4. Y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) • Mae’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) yn canolbwyntio ar bedwar llinyn rhifedd: • Llinyn 1: Datblygu ymresymu rhifyddol • Llinyn 2: Defnyddio sgiliau rhif • Llinyn 3: Defnyddio sgiliau mesur • Llinyn 4: Defnyddio sgiliau data.

  5. Cydran rhifedd y FfLlRh • Llinyn: Defnyddio sgiliau rhif • Elfennau: • Defnyddio ffeithiau rhif a’r berthynas rhwng rhifau • Ffracsiynau, degolion, canrannau a chymhareb • Cyfrifo gan ddefnyddio dulliau meddwl ac ysgrifenedig • Amcangyfrif a gwirio • Rheoli arian

  6. Deilliannau dysgu’r FfLlRh Mae’r tablau canlynol yn dangos y deilliannau dysgu fel y’u nodir yng nghydran rhifedd y FfLlRh. Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar gyllidebu a thynnir sylw ato mewn teip trwm yn y tablau.

  7. Mae’r Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth o gyllidebu.Tynnir sylw at y rhain mewn teip trwmar y sleid nesaf.

  8. Allwn ni ei fforddio? Gweithgaredd cychwynnol: Sut ydym ni’n gwybod a allwn ni fforddio rhywbeth?

  9. Beth yw ystyr y termau hyn? eisiau angen Gweler Taflen weithgaredd rheoli arian: Angen ac eisiau (gweithgaredd Cyfnod Allweddol 2/3). Gan ddefnyddio delweddau a geiriau, gall dysgwyr benderfynu pa eitemau na allan nhw fyw hebddyn nhw (angen) a’r eitemau hynny y maen nhw eisiau eu cael.

  10. Angen yn erbyn eisiau Gwnewch y gweithgaredd ar-lein yn https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/2009-10/maths/financial-literacy//cym/needs_v_wants.swf

  11. Eitemau hanfodol a ddim yn hanfodol Senario: Rydych chi wedi dechrau gweithio, mae gennych chi eich fflat eich hun ac rydych chi newydd gael benthyciad i brynu car newydd. Argraffwch Adnodd 1: Eitemau hanfodol a ddim yn hanfodol, sy’n weithgaredd Cyfnod Allweddol 3/4. Mae’r gweithgaredd hwn yn gofyn i ddysgwyr drefnu’r cardiau yn ddau grŵp – taliadau/pryniadau misol ‘hanfodol’ a ‘ddim yn hanfodol’. Dangosir enghreifftiau ar y sleid nesaf.

  12. Eitemau hanfodol a ddim yn hanfodol Lawrlwytho cerddoriaeth Tocynnau bws Ad-daliad benthyciad car Bwyd/ nwyddau ymolchi Pryd o fwyd gyda ffrindiau Trwydded deledu Trydan Tocyn cyngerdd Dillad gwaith Bil ffôn symudol Pitsa i fynd Petrol Yswiriant tŷ Trenyrs newydd Yswiriant car Dŵr Morgais/ rhent Nwy Y dreth gyngor £10 o gynilion

  13. Gweithgaredd trafod: Sut mae arian yn dod i mewn ac allan o’ch bywyd bob dydd, bob wythnos neu bob mis?

  14. Byrbrydau Lwfans Cynhaliaeth Addysg Talu am waith tŷ Rhoddion Ffôn symudol Nwyddau ymolchi Sinema/ cyngherddau Arian poced Gwaith rhan-amser Prynu cerddoriaeth Prynu dillad Tocynnau bws

  15. Incwm a gwariant Gweithgareddau Cyfnod Allweddol 2: Gweithgaredd 1: Allwn ni ei fforddio? (gweler Taflen weithgaredd rheoli arian: Allwn ni ei fforddio?) Gweithgaredd 2: Yn gall gydag arian: gêm cerdyn cyllidebu misol (gweler Taflen weithgaredd rheoli arian: Yn gall gydag arian – gêm cerdyn cyllidebu misol) Gweithgaredd 3: Cyllidebu faint o drydan i’w defnyddio – ‘Mae’n bryd inni wario llai’. Ewch ar-lein i weld y gweithgaredd yn www.hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/2009-10/maths/financial-literacy//cym/lets-cut-back/index.html Mae gweithgareddau wedi cael eu gwahaniaethu yn gyfnodau allweddol yn seiliedig ar y cyd-destun. Mae’r cyfnodau allweddol yn rhoi arweiniad yn unig a dylai athrawon ddewis gweithgareddau sy’n cyfateb â gallu’r dysgwyr. Dolenni/esboniadau ar gyfer gweithgareddau ar y sleidiau canlynol.

  16. Incwm a gwariant Gweithgaredd 1: Allwn ni ei fforddio? Gweler Taflen weithgaredd rheoli arian: Allwn ni ei fforddio? Mae’r dysgwyr yn cael bwrdd stori i’w gwblhau. Mae’r bwrdd stori yn adrodd hanes teulu wrth iddyn nhw geisio penderfynu a allan nhw fforddio prynu beic fel anrheg pen-blwydd. Mae’r bwrdd stori yn codi pwyntiau trafod.

  17. Incwm a gwariant Gweithgaredd 2: Yn gall gydag arian – gêm cerdyn cyllidebu misol Gweler Taflen weithgaredd rheoli arian: Yn gall gydag arian – gem cerdyn cyllidebu misol. Mae’r dysgwyr yn torri allan y cardiau sy’n dangos sut y maen nhw wedi ennill a gwario arian, ac yn eu troi nhw wyneb i waered. Maen nhw’n troi un cerdyn drosodd ar y tro, ac yn penderfynu ble i’w roi yn eu tabl cyllideb fisol. Eu her yw sicrhau eu bod nhw: • heb fynd i ddyled mewn unrhyw fis • wedi talu’u costau ar ddiwedd y tri mis. Mae hyn yn golygu efallai y bydd rhaid iddyn nhw symud eu cardiau i sicrhau nad yw eu gwariant yn fwy na’u henillion! Pan fyddan nhw’n hapus gyda’u cyllidebu, gall y dysgwyr gofnodi eu syniadau drwy lynu eu cardiau yn eu lle.

  18. Gweithgaredd 3: Cyllidebu faint o drydan i’w defnyddio Gweithgaredd Cyfnod Allweddol 2: Cyllidebu faint o drydan i’w defnyddio Ewch ar-lein i weld y gweithgaredd hwn ar Hwb yn www.hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/2009-10/maths/financial-literacy//cym/lets-cut-back/index.html

  19. Incwm a gwariant Gweithgareddau Cyfnod Allweddol 3/4: Gweithgaredd 1: Allwch chi helpu Carrie a Mo i gyllidebu? (Adnodd: Rheoli Arian) Gweithgaredd 2: Senarios ‘Rheoli arian’ (Adnodd: Pecyn Cymorth Cyllid Personol Llywodraeth Cymru) Gweithgaredd 3: Cadw gweddill cyfredol ar gyfer y cartref (gweler Adnodd 2 o’r modiwl hwn) Mae gweithgareddau wedi cael eu gwahaniaethu yn gyfnodau allweddol yn seiliedig ar y cyd-destun. Mae’r cyfnodau allweddol i roi arweiniad yn unig a dylai athrawon ddewis gweithgareddau sy’n cyfateb â gallu’r dysgwyr. Dolenni/esboniadau ar gyfer gweithgareddau ar y sleidiau canlynol.

  20. Gweithgaredd 1 Allwch chi helpu Carrie a Mo i reoli eu cyllideb? Adnodd: Rheoli Arian, Gweithgaredd 5 – Carrie a Mo (tudalennau 39–47) Lawrlwytho’r adnodd ynhttps://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/_layouts/NGFLSolution/MaterialDescription.aspx?LearningMaterialId=44957&lang=cy

  21. Incwm a gwariant Gweithgaredd 1Cyfnod Allweddol 3/4: Allwch chi helpu Carrie a Mo i gyllidebu? Mae’r gweithgaredd hwn yn codi’r broblem o orwario ar gyllideb dynn. Disgrifir ffyrdd o fyw dau berson ifanc, Carrie a Mo. Mae cyllideb gan bob un ohonyn nhw yn dangos incwm a gwariant misol arferol. Y dasg i’r dysgwyr yw trafod eu ffyrdd o fyw a’u harferion gwario i weld ble y gallen nhw dorri i lawr er mwyn mantoli eu cyllideb. Mae’r sleidiau canlynol yn dangos brasluniau o’r gweithgaredd hwn.

  22. Gweithgaredd 2 Senarios rheoli eich arian Adnodd:Pecyn Cymorth Cyllid Personol Llywodraeth Cymru Gweler Testun 3 ‘Rheoli eich arian’ (tudalennau 29–33) ynghyd â’r taflenni adnoddau ategol o fewn Testun 3 o’r enw ‘Rheoli fy arian’ (tudalennau 31–34). Lawrlwytho’r adnodd yn http://wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/resources/?skip=1&lang=cy Mae’r gweithgaredd (a ddisgrifir ar dudalen 32) yn cynnig pedwar senario sy’n disgrifio sefyllfaoedd ariannol pobl ifanc. Mae’r dysgwyr yn awgrymu sut y gallen nhw reoli eu harian yn fwy llwyddiannus. Rhoddir enghreifftiau o’r senarios ar y sleidiau nesaf.

  23. Gweithgaredd 3 Cadw gweddill cyfredol ar gyfer y cartref Adnodd: Cadw gweddill cyfredol (gweler Adnodd 2 o’r modiwl hwn) Mae’r gweithgaredd hwn ar ddull dyddiadur yn dangos y trafodion sy’n digwydd o fewn mis o safbwynt oedolyn sy’n gweithio gyda thri o blant. Mae’n rhaid i’r dysgwyr ddarllen yr wybodaeth a chadw gweddill cyfredol ar ffurf tabl drwy gyfrifo’r arian sy’n cael ei dalu i mewn ac sy’n cael ei dalu allan o gyfrif banc.

  24. Cadw gweddill cyfredol Mae Mrs Jones yn rhiant prysur iawn ac mae’r wybodaeth a roddir yn adlewyrchu un mis o’i bywyd (argraffwch Adnodd 2 ‘Cadw gweddill cyfredol’). Mae’r wybodaeth yn dangos faint sy’n cael ei dalu i mewn (incwm) a’i dalu allan (gwariant) o’i chyfrif banc. Edrychwch yn ofalus ar bob un o’r diwrnodau a roddir a meddyliwch am y trafodion sy’n digwydd. Gan ddefnyddio’r tabl, paratowch weddill cyfredol i’w helpu i gadw golwg ar ei harian. Rhoddir enghreifftiau o’r wythnos gyntaf ar y sleid nesaf.

  25. 1 Awst Mae’r ddau ohonoch chi wedi cael eich talu. £3012 Siopa bwyd. £112 Talu gyda cherdyn debyd. 3 Awst Angen talu’r dreth gyngor. £142 Talu drwy ddebyd uniongyrchol. 4 Awst Taliadau morgais yn mynd allan. £1215 7 Awst Budd-dal plant. Mae tri o blant gennych chi. £20.30 am y plentyn cyntaf yr wythnos. £13.40 am y plant eraill. Sylwch: mae budd-dal plant yn cael ei dalu bob 4 wythnos. 5 Awst Diwrnod talu am wasanaethau! Nwy: £72 Trydan: £59 Dŵr: £45.10 Pob un yn cael ei dalu’n fisol drwy ddebyd uniongyrchol.

  26. Adding up to a lifetime Adnodd ar-lein rhad ac am ddim yw hwn sy’n dilyn pedwar cymeriad a sut maen nhw’n delio â sefyllfaoedd ariannol. Mae’n addas ar gyfer Cyfnodau Allweddol 3 i 5. Mae’r pecyn yn cynnwys tua 25 awr o weithgareddau dysgu y gall dysgwyr eu cwblhau ar-lein. Caiff ei gyflwyno fel pum modiwl: • Bywyd fel myfyriwr (14 oed a hŷn) • Bywyd gwaith • Perthnasoedd • Bywyd newydd • Ymddeoliad egnïol. Mae’r modiwlau yn cynnig amrywiaeth o bynciau rheoli arian, gan gynnwys cyllidebu. Ewch i www.addinguptoalifetime.org.uk Mae tiwtorial sain gyda phob modiwl y gallwch wrando arno yn Gymraeg neu yn Saesneg.

  27. Gwefannau ac adnoddau • www.pfeg.org Mae pfeg (Grŵp Addysg Ariannol Bersonol) yn elusen annibynnol sy’n darparu cyfoeth o adnoddau i gefnogi addysg ariannol mewn ysgolion. • www.barclaysmoneyskills.com/en/Information/resource-centre.aspx Pecynnau Adnoddau Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 Sgiliau Arian Barclays (lawrlwytho) – gweithgareddau angen/eisiau a hanfodol/ddim yn hanfodol ar gael o fewn y pecynnau hyn. • www.nationwideeducation.co.uk Sgiliau Arian: gemau, taflenni ffeithiau* a thaflenni gwaith* i ddysgwyr 4 i 18 ac yn fwy (adnoddau argraffadwy a gemau ar-lein). Ar gyfer gweithgareddau cyllidebu gweler Money Maths – Balancing Budgets (12–14) a Family Budget Factsheet (7–11). * Fersiynau Cymraeg ar gael. • www.Addinguptoalifetime.org.ukMae’r modiwlau yn cynnig yr ystod gyfan o bynciau rheoli arian gan gynnwys cyllidebu. • www.hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/shared%20Documents/vtc/2009-10/maths/financial-literacy//lets-cut-back/index.htmlGweithgaredd Gwyddoniaeth Cyfnod Allweddol 2: Edrych ar gyllidebu drwy’r defnydd o drydan yn y cartref. • www.moneyadviceservice.org.uk/en/categories/young-people-and-moneyGwybodaeth am reoli eich arian fel myfyriwr. • http://rbsmoneysense.co.uk/schools/resources/Rhaglen ar-lein ryngweithiol yn darparu adnoddau i helpu dysgwyr i reoli eu harian.

More Related