1 / 20

Gloywi Iaith Siân Esmor, Canolfan Bedwyr

Gloywi Iaith Siân Esmor, Canolfan Bedwyr. Cynhadledd Tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru 22 Hydref 2011. Nod y sesiwn . Cadarnhau ac atgyfnerthu’r hyn yr ydym eisoes yn ei wybod Edrych ar rai pwyntiau ieithyddol sy’n medru achosi poen meddwl i diwtoriaid

thyra
Download Presentation

Gloywi Iaith Siân Esmor, Canolfan Bedwyr

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Gloywi IaithSiân Esmor, Canolfan Bedwyr Cynhadledd Tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru22 Hydref 2011

  2. Nod y sesiwn • Cadarnhau ac atgyfnerthu’r hyn yr ydym eisoes yn ei wybod • Edrych ar rai pwyntiau ieithyddol sy’n medru achosi poen meddwl i diwtoriaid • Rhoi’r hyder i chi ymdrin â’r pwyntiau hynny • Mewn geiriau eraill, mynd i’r afael â’r bwgan hwnnw o’r enw….. • GRAMADEG!

  3. Rhannau ymadrodd • Partner A + Partner A, Partner B + Partner B: Darllenwch y disgrifiadau o’r rhannau ymadrodd sydd gennych gan sicrhau eich bod yn deall yr esboniadau • Partner A + Partner B:Esboniwch y rhannau ymadrodd ar eich taflen chi i’ch partner newydd • Yna parwch y geiriau sydd wedi eu hamlygu yn y darn gyda’r rhannau ymadrodd ar yr ail daflen

  4. Cwmni Seren Arian wedi’i atgyfodi(o wefan golwg360.com) • Maecwmni Seren Arian wedi’i atgyfodi fel Gwyliau Seren Arian Cyf ar ôl i ddyn busnes brynu’r cwmni aeth i ddwylo’r gweinyddwyr ddechrau’r mis. • Mae rheolwyr blaenorol Seren Arian wedi cyhoeddi heddiw eu bod wedi ail strwythuro ac ail agor cwmni newydd a fydd yn  gweithredu fel Gwyliau Seren Arian. Mae’r staff i gyd – ac eithrio dau -  wedi cael eu swyddi’n ôl, meddai’r rheolwr cyffredinol wrth Golwg360. • Fe aeth un o gwmnïau gwyliau enwoca’ Cymru i ddwylo’r gweinyddwyr ddechrau fis Hydref. Fe gollodd 12 o bobl eu gwaith gyda chwmni Seren Arian o Gaernarfon, sydd wedi bod yn trefnu gwyliau gartre’ athramor ers mwy nag 20 mlynedd. • Roedd y cwmni wedi cau ei swyddfa yn Wrecsam ynghynt eleni.

  5. Dewch o hyd i’r rhain yn y darn • Enwgwrywaiddunigol • Enwbenywaiddunigol • Enwlluosog • Enwpriod • Rhagenw • Ansoddair • Cysylltair • Berfenw • Berfgryno • Berfgwmpasog • Goddrychberf • Gwrthrychberf • Adferf • Arddodiad • Y fannod

  6. Atebion Enwgwrywaiddunigolcwmni Enwbenywaiddunigolswyddfa Enwlluosogrheolwyr EnwpriodGwyliauSeren Arian Cyf. Rhagenweu Ansoddairnewydd Cysylltair a Berfenwtrefnu Berfgrynoaeth BerfgwmpasogRoedd y cwmniwedicau Goddrychberf 12 o bobl Gwrthrychberfeugwaith Adferfheddiw Arddodiad o Y fannod (ddwylo)’r

  7. Ateb cwestiynau dysgwyr – pam? • yn ddysgwr • yn dda ond • yn dysgu Cymraegac yn Ninbych • Pam? • Treiglad meddal mewn enw ac ansoddair ar ôl ‘yn’ traethiadol. Dim treiglad mewn berfenw. • Treiglad trwynol ar ôl yr arddodiad ‘yn’ (=in)

  8. Pam? • y gath yr _ardd y faneg • y baned y faled • y delyn y ddiodONDy llyfrgell, y rhaw • Nidywll a rhyntreiglo’nfeddalarôl y fannodmewnenwbenywaiddunigol • Cofiwch: yn y morcyn un

  9. Pam? • Rydw i’n ysgrifennu llythyr • Ysgrifennaf lythyr • Ysgrifennir llythyr • Mae gwrthrych berf gryno bersonol yn treiglo’n feddal. • Nid yw gwrthrych berf gwmpasog yn treiglo. • Nid yw gwrthrych berf amhersonol yn treiglo.

  10. Pam? • Dydd Llun yw fy hoff ddiwrnod • Rydw i’n dysgu’r modiwl gloywi ar ddydd Llun • Byddaf yn y swyddfa ddydd Llun • Dydd Llun = y diwrnod • Ar ddydd Llun = ‘on a Monday’, h.y. yn arferol • Ddydd Llun = ‘on Monday’ • Yn y frawddeg olaf, mae ‘dydd Llun’ yn gweithredu fel adferf, ac felly’n treiglo’n feddal.

  11. Pam? • Cefais glywed manylion y cyfarfod • Cyhoeddwyd dyddiad y cyfarfod nesaf • Cefais glywed rai dyddiau wedyn fanylion y cyfarfod • Cyhoeddwyd ar unwaith ddyddiad y cyfarfod nesaf • Treiglad meddal yn dilyn sangiad, sef ymadrodd sy’n torri ar draws rhediad y frawddeg

  12. Pam? • Os bydd hi’n braf yfory, mi gaf fynd am dro ar fy meic newydd • Pe bawn i yn artist, mi dynnwn lun rhyfeddod y machlud dros Benrhyn Llŷn • Gofynnais iddo a gawn i ganiatâd i fynychu’r gynhadledd • Mae’n bosib’ cyfieithu’r tri i’r Saesneg fel ‘if’ – a dyna’r broblem i’r dysgwyr

  13. Pam? • Os = amod pendant (‘if’)h.y. dim ondosbyddhi’nbraf y caffyndar y beic • Pe = amodagelfen o amheuaeth yn perthyniddoh.y. does dim sicrwydd o gwblfy mod i’n artist, nac yn debygol o fod yn un chwaith. • Mae’rdysgwyr yn adnabodhwnfelpatrwm ‘taswn’ (Pebuaswn>Petaswn>taswn) • Aholiadol = cyflwynocwestiwnanuniongyrchol. Mae elfen o gwestiwnyma (‘whether’)

  14. Pam? • Penderfynu i fynd X OND • Mynd i nofio √ cytuno i chwarae √ • Paratoi i adael √ tueddu i gytuno √ • Nid oes angen ‘i’ o flaen berfenw yn y Gymraeg. Mae’n gyflawn heb yr arddodiad. Ond yn yr enghreifftiau isaf, mae’r arddodiad ‘i’ yn dod gyda’r berfenw o’i flaen ac felly mae’n gywir.

  15. Llyfrau defnyddiol Gwallau gramadegol cyffredin • Llawlyfr Gloywi Canolfan Bedwyr • Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu

  16. Llyfrau defnyddiol Treiglo • Llawlyfr Gloywi Canolfan Bedwyr • Y Treigladur • Taclo’r Treigladau

  17. Llyfrau defnyddiol Berfau • Llawlyfr Gloywi Canolfan Bedwyr • Y Llyfr Berfau

  18. Llyfrau defnyddiol Meddwl yn Saesneg • Llawlyfr Gloywi Canolfan Bedwyr • Pa Arddodiad?

  19. Llyfrau defnyddiol Gramadeg gyffredinol • Gramadeg Cymraeg Cyfoes/Welsh Contemporary Grammar (CBAC) • Gramadeg y Gymraeg (Peter Wynn Thomas) • Cymraeg Da (Heini Gruffudd)

  20. Manylion cyswllt • SiânEsmorCanolfanBedwyrPrifysgol BangorDyfrdwyFfordd y ColegBangor, GwyneddLL57 2DG • (01248) 383247 / 383293 • s.esmor@bangor.ac.uk

More Related