1 / 14

DPP CBAC 2012

DPP CBAC 2012. MATERION YN CODI O ARHOLIADAU 2012 HY1 : Ateb y cwestiwn gosod HY3 : Defnydd o’r rhyngrwyd HY3 : Cyfannu AA2a ac AA2b HY3 : Cyfyngu geiriau HY4 : Materion ysgrifennu traethodau Arweiniad ar HY3 ar gyfer 2014. DPP CBAC 2012. MATERION YN CODI O ARHOLIADAU 2012

Download Presentation

DPP CBAC 2012

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. DPP CBAC 2012 MATERION YN CODI O ARHOLIADAU 2012 HY1: Ateb y cwestiwn gosod HY3: Defnydd o’r rhyngrwyd HY3: Cyfannu AA2a ac AA2b HY3: Cyfyngu geiriau HY4: Materion ysgrifennu traethodau Arweiniad ar HY3 ar gyfer 2014

  2. DPP CBAC 2012 MATERION YN CODI O ARHOLIADAU 2012 Mae Hanes, er gwaethaf pob dim a ddigwyddodd rhwng 2012 a 2013, yn dal yn fyw ac yn ffynnu yn y Canolfannau a gwnaed llawer o waith da gan y lliaws o ymgeiswyr, a rhai perfformiadau gwirioneddol eithriadol gan nifer o fyfyrwyr talentog. Mae’r rhan hon yn darparu adborth cryno ynghylch rhai o’r materion sy’n codi o arholiadau 2012. Roedd y materion hyn yn ddibwys o gymharu â’r ymatebion da ac o ansawdd uchel a welwyd o’r canolfannau. Rydym yn tynnu sylw at y rhain dim ond am ein bod yn teimlo bod lle i wella ymhellach neu er mwyn egluro rhai materion sydd efallai’n aneglur.

  3. DPP CBAC 2012 MATERION O ARHOLIADAU 2012 Gellir dod o hyd i nifer o’r materion hyn ynghyd â chyngor cyffredinol ar sut i wella ar wefan CBAC mewn cyfres o gyflwyniadau sain. Ni fyddwn felly yn mynd dros y meysydd cyffredinol heddiw. Mae’r rhain ar gael arhttp://www.cbac.co.uk/

  4. DPP CBAC 2012 MATERION O ARHOLIADAU 2012 – cefnogaeth gwe ar at www.cbac.co.uk

  5. DPP CBAC 2012 • MATERION YN CODI O ARHOLIADAU 2012 • HY1 – Ateb y Cwestiwn Gosod • Gormod o ymgeiswyr yn methu ateb y cwestiwn gosod. • Maen nhw’n canolbwyntio ar y PWNC a ddysgwyd iddyn nhw yn hytrach nag ar y sgiliau allweddol a’r geiriau allweddol. • Y sgiliau allweddol yw • Rhan (a) esbonio PAM • Rhan (b) gwerthuso pwysigrwydd/arwyddocâd nifer o ffactorau • Mae’r geiriau allweddol yn y cwestiwn – er enghraifft • Gwleidyddiaeth, llywodraeth a’r Goron, c.1483-1543 • Eglurwch pam collodd Richard III Frwydr Bosworth. [24] • I ba raddau y gellir dweud mai iwygiadau Thomas Cromwell oedd y datblygiad mwyaf arwyddocaol mewn llywodraeth rhwng 1483-1540? [36] • Byddwn yn gwneud y rhain yn amlycach o Haf 2013 trwy amlygu’r geiriau allweddol mewn llythrennau BRAS ond mae angen i chi ganolbwyntio ar ddysgu’r sgiliau allweddol.

  6. DPP CBAC 2012 MATERION O ARHOLIADAU 2012 HY2 – mae’r uned hon yn parhau i godi’r un materion ag arfer sydd wedi’u hamlygu yn yr adroddiad ar y we Bydd y sesiwn wedi’r toriad am goffi yn delio â’r arholiad HY2 sydd wedi’i ddiwygio.

  7. DPP CBAC 2012 MATERIONYNCODI O ARHOLIADAU 2012 HY3 – Yn yr uned hon mae gennym bryderon cyffredinol ac rydym am roi arweiniad ar ddau fater. Defnyddio’r We Ni welwn ddim o’i le ar ddefnyddio’r we i ymchwilio a chasglu deunydd gan gynnwys ffynonellau. Ond rydym yn gweld llawer gormod o “gopïo a gludo” darnau am y digwyddiadau – nad ydyn nhw’n werth chweil – a gormod o gopïo a gludo darnau am faterion hanesyddiaeth. Rydym yn ymwybodol bod rhai safleoedd yn cael eu defnyddio’n gyson ond nid yw copïo a gludo’n ddigon. Nid yw hynny’n ddigonol ar gyfer yr ymarferiad hwn a does dim i’w ennill o gopïo a gludo’r manylion hyn ER bod llawer i’w ennill trwy gasglu’r deunydd a’i ddefnyddio’n synhwyrol yn y traethawd.

  8. Mae’n rhaid bod yna fwy i ymarferion gwaith cwrs hanes na llwytho i lawr oddi ar Wikipedia!

  9. DPP CBAC 2012 MATERION YN CODI O ARHOLIADAU 2012 – HY3 CYFANNU GWERTHUSO FFYNHONNELL a DEHONGLI / HANESYDDIAETH I gyflawni Lefel 4 dylai’r ymgeisydd ystyried gwerth y ffynhonnell a DDEWISWYD i ddilysrwydd y dehongliad ac i’r ysgol o hanes neu hanesydd y maen nhw’n ei drafod. Y cyfannu hwn o werthuso ffynhonnell, dehongli a hanesyddiaeth yw’r ffordd orau o fynd i’r afael â HY3 ac roedd nifer o ymgeiswyr abl yn gallu gwneud hynny i sicrhau marciau Lefel 4. Dylai’r pwyslais yn y traethawd fod ar ddefnyddio’r ffynonellau i drafod y dehongliad a’r hanesyddiaeth sy’n ymwneud â’r cwestiwn gosod. Mae angen mwy o ymwybyddiaeth o ddatblygiad hanesyddiaeth a’r pwys y byddai haneswyr penodol / ysgol o haneswyr yn ei roi ar RAI o’r ffynonellau penodol a ddewiswyd ar gyfer y traethawd.

  10. DPP CBAC 2012 MATERION YN CODI O ARHOLIADAU 2012 – HY3 CYFYNGU GEIRIAU Er bod y mwyafrif llethol o ymgeiswyr a chanolfannau wedi cadw at y cyfyngiad geiriau ni ddigwyddodd hyn mewn rhai achosion ac roedd rhaid cosbi. Rydym wedi dweud mai 4000 o eiriau yw’r cyfyngiad a byddwn yn parhau i gosbi pan gaiff ei anwybyddu. Dylai canolfannau sicrhau y dylai ymgeiswyr sy’n anwybyddu’r cyfyngiad geiriau o 1 – 500 o eiriau golli 2 farc. 501 – 750 o eiriau golli 4 marc. mwy na 750 o eiriau golli 8 marc.

  11. DPP CBAC 2012 MATERION YN CODI O ARHOLIADAU 2012 – HY3 Gellir dod o hyd i enghraifft o’r math o draethawd yn HY3 sy’n haeddu marciau uchel ar Lefel 4 ar wefan CBAC. Mae’r gefnogaeth ar y we hefyd yn cynnig enghreifftiau o sgriptiau yn HY1 hyd HY4 yn yr adran Nodiadau Arweiniad Athrawon.

  12. MATERION YN CODI O ARHOLIADAU 2012 HY4 – yn yr uned hon rydym yn parhau i weld gormod o ymgeiswyr sy’n Methu dadansoddi gofynion y cwestiwn gosod: rhaid iddyn nhw ganolbwyntio ar y geiriau allweddol yn y cwestiwn. Ysgrifennu dau hanner traethawd – yr ie oedd a’r na nag oedd dros ac yn erbyn fel ateb Dibynnu’n helaeth ar ymateb wedi’i baratoi. Methu strwythuro’r traethawd yn briodol. Dealltwriaeth o’r materion yn brin ac yn troi at UCN. Trafodir y materion hyn yn fanwl ar y wefan.

  13. ARWEINIAD AR HY3 AR GYFER 2014

  14. CRYNODEB O’R MEINI PRAWF AR GYFER PECYN DOGFENNAU 2014

More Related