1 / 19

DPP CBAC 2012

DPP CBAC 2012. SESIWN 2 Newidiadau HY1 ar gyfer addysgu o fis Medi 2012 a’r arholiad ym mis Mai 2013 (a) y fanyleb wedi’i diwygio (b) geiriau allweddol yn y papur arholiad (c) dyraniad amser (ch) newidiadau i’r cynllun marcio. DPP CBAC 2012.

kristy
Download Presentation

DPP CBAC 2012

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. DPP CBAC 2012 SESIWN 2 Newidiadau HY1 ar gyfer addysgu o fis Medi 2012 a’r arholiad ym mis Mai 2013 (a) y fanyleb wedi’i diwygio (b) geiriau allweddol yn y papur arholiad (c) dyraniad amser (ch) newidiadau i’r cynllun marcio

  2. DPP CBAC 2012 NEWIDIADAU I HY1 AR GYFER ADDYSGU O FIS MEDI 2012 A’R ARHOLIAD GYNTAF YN HAF 2013 Newidiadau TAG Hanes unedau UG, HY1 a HY2 wedi’u hachredu gan y rheoleiddiwr arholiadau, OFQUAL. Gwnaed y newidiadau hyn o ganlyniad i argymhellion wedi archwiliad llywodraeth o’r pwnc yn 2009. Byddan nhw ar gael i’w haddysgu ym mis Medi 2012. Bydd yr arholiadau cyntaf yn y dull diwygiedig ar gael ym mis Mai 2013. Mae’r fanyleb wedi’i diwygio a’r deunydd asesu enghreifftiol wedi’i ddiwygio ar gael nawr ar wefan CBAC http://www.cbac.co.uk

  3. DPP CBAC 2012 NEWIDIADAU I HY1 AR GYFER ADDYSGU O FIS MEDI 2012 A’R ARHOLIAD CYNTAF YN HAF 2013 MAE’R FANYLEB WEDI NEWID AR GYFER POB UNED HY1. Gwnewch yn siŵr eich bod yn addysgu’r fanyleb newydd – edrychwch ar y Dudalen TAG Safon Uwch Hanes ar y wefan.

  4. DPP CBAC 2012 NEWIDIADAU I HY1 AR GYFER ADDYSGU O FIS MEDI 2012 A’R ARHOLIAD CYNTAF YN HAF 2013 Mae pob astudiaeth o gyfnod ar gyfer HY1 yn cynnig dewis o bynciau mewn pedwar maes. Mae rhai o’r rhain yn feysydd cynnwys ychwanegol, rhai wedi’u creu trwy rannu pynciau yn y meysydd presennol. Mewn rhai o’r meysydd pynciau cyffredinol eraill newidiwyd y cynnwys fymryn er mwyn gwneud yr ymdriniaeth yn gliriach i’r canolfannau. Does DIM newid yng nghynnwys y Astudiaeth o Gyfnod ar gyfer HY4 – mae’r newidiadau hyn yn berthnasol i HY1 yn unig.

  5. Dyma enghraifft o osod allan manyleb ar gyfer HY1 yn dangos meysydd PEDWAR pwnc: cafodd y templed gwreiddiol ei gadw.

  6. Crynodeb o’r prif newidiadau i bob un o’r Astudiaethau o Gyfnod.

  7. DPP CBAC 2012 NEWIDIADAU I HY1 AR GYFER ADDYSGU O FIS MEDI 2012 A’R ARHOLIAD CYNTAF YN HAF 2013 Nid yw natur y cwestiynau na disgwyliadau’r Arholwyr wedi newid – er bod y cynllun marcio wedi newid. Bydd y papur arholiad yn dal yn werth 120 GMU. Neilltuir mwy o amser ar gyfer y papur o ystyried y pryder nad oedd 90 munud yn caniatáu amser i feddwl a chynllunio. Rydym yn ychwanegu 10 munud o AMSER MEDDWL yn y gobaith y bydd yr ymgeiswyr yn treulio’r amser ychwanegol yn ystyried a chynllunio eu hymateb i’r union gwestiynau a osodir. Bydd yr arholiad HY1 yn para am 1 awr a 40 munud o haf 2013.

  8. DPP CBAC 2012 NEWIDIADAU I HY1 AR GYFER ADDYSGU O FIS MEDI 2012 A’R ARHOLIAD CYNTAF YN HAF 2013 Ymhob cwestiwn yn y papur arholiad bydd geiriau allweddol fydd yn ymwneud â chysyniadau hanesyddol yn cael eu hamlygu. Er enghraifft: • Y newid yn rôl a statws menywod, 1880-1929 • (a) Eglurwch pam cafodd menywod yr hawl i bleidleisio yn 1928. [24] • Ai’r Rhyfel Byd Cyntaf oedd yn bennaf gyfrifol am newid rôl a statws menywod rhwng 1880-1929? [36] Does yna ddim newid arall i arddull na chynllun y papurau arholiad – cewch weld enghraiift nesaf.

  9. Enghraifft o bapur arholiad HY1 yn dangos y dudalen cyfarwyddiadau a’r pedwar cwestiwn i’w gweld ar y cefn.

  10. TAG HANES - HY1 MAE DEUNYDDIAU ASESU ENGHREIFFTIOL AR GAEL AR GYFER POB ASTUDIAETH O GYFNOD A PHOB ASTUDIAETH FANWL (HY2) AR Y WEFAN.

  11. TAG HANES - HY1 Mae’r cynlluniau marcio ar gyfer HY1 wedi newid yn sylweddol ond rydym wedi cadw tair lefel yn Rhan (a) a Rhan (b). Cafodd y trefniant cyfredol o rannu amcanion asesu yn linynnau o AA1a ac AA1b ei ddisodli gan fersiwn cyfunol: Amcan Asesu 1. Hwn yw’r disgrifiad swyddogol o Amcan Asesu 1: Bydd ymgeiswyr yn galw i gof, dethol a defnyddio gwybodaeth hanesyddol yn briodol, ac yn cyflwyno gwybodaeth a dealltwriaeth o hanes mewn dull eglur ac effeithiol. Bydd ymgeiswyr yn dangos eu dealltwriaeth o’r gorffennol trwy egluro, dadansoddi a chyflwyno datganiadau cytbwys o gysyniadau allweddol megis achosiad, canlyniad, parhad, newid ac arwyddocâd o fewn cyd-destun hanesyddol; y berthynas rhwng nodweddion allweddol y cyfnodau a astudiwyd.

  12. Mae’r cynllun marcio wedi’i osod allan fel a ganlyn ar gyfer Rhan (a) a Rhan (b). Mae’n dechrau gyda pheth esboniad ac arweiniad am y modd y dosberthir y marciau a sut fyddan nhw’n cael eu cymhwyso.

  13. Mae gan y cynllun marcio grid generig wedyn yn dangos y tair lefel. Ymhob lefel mae yna ddisgrifiad cyffredinol o’r math o ymateb a ddisgwylir ac yna rhennir pob lefel yn ymatebion ISEL, CANOLIG ac UCHEL ynghyd â disgrifiad o’r nodweddion ar bob lefel a’r ystod marciau fydd ar gael. Dyma Ran (a) DANGOSIR GRID LEFEL 3 NESAF ER MWYN EGLURDER

  14. LEFEL 3 O RAN (a) Y GRID. Nodwch nad yw gofynion y cynllun marcio wedi newid – bu’n ofynnol i ni gyfuno AA1a ac AA1b.

  15. Yna mae yna adran sy’n dangos y CYNNWYS DYNODOL ar gyfer pob is-gwestiwn – nid rhywbeth i’w anwybyddu yw’r cyflwyniad cyffredinol: mae’n adlewyrchiad o’r amrediad o gynnwys posibl.

  16. Perthyn yr un strwythur i gynllun marcio Rhan (b).

  17. Y TAIR LEFEL O RHAN (b) Y GRID.

  18. LEFEL 3 O RAN (b) Y GRID. Nodwch nad yw gofynion y cynllun marcio wedi newid – bu’n ofynnol i ni gyfuno AA1a ac AA1b.

  19. CYNNWYS DYNODOL AR GYFER CWESTIWN 4(b) NODWCH: Nid yw’r cynnwys hwn yn ragnodol a does dim disgwyl i ymgeiswyr gyfeirio at yr holl ddeunydd y cyfeirir ato isod. Bydd pob ateb yn cael ei asesu yn ôl ei deilyngdod yn unol â’r cynllun marcio generig yn ogystal â’r cynnwys dynodol. CWESTIWN: I ba raddau roedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn bennaf gyfrifol am newid rôl a statws menywod 1880-1929? Disgwylir i ymgeiswyr gyflwyno dyfarniadau cadarn gyda thystiolaeth ynghylch p’un a oedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn bennaf gyfrifol am newid swyddogaeth a statws merched rhwng 1880-1929 neu beidio. Dylai effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar y newid yn rôl a statws menywod gael ei dadansoddi a’i gwerthuso yng nghyswllt materion megis: Cyflwyno deddfwriaeth yn rhoi mwy o gyfle i fenywod i weithio Ymateb menywod i’r ymdrech ryfel Y newid yn agwedd llawer o ddynion o ganlyniad i’r rhyfel Y galw cyffredinol am fwy o ddiwygio gwleidyddol Dylai effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar y newid yn rôl a statws menywod gael ei werthuso yng nghyd-destun ffactorau eraill oedd yn gyfrifol am newid rôl a statws menywod yn ystod y cyfnod hwn. Rhai o’r materion y gellid eu trafod o bosibl fyddai: newid agwedd nifer o lywodraethau yn ystod y cyfnod effaith cyffredinol y mudiadau pleidlais rhyddfreinio economaidd merched newidiadau cymdeithasol a diwylliannol yn gyffredinol cyfleoedd addysg yn newid effaith unigolion ac ymgyrchwyr penodol uchafbwyntiau ymestyn etholfreintiau yn 1918 a 1928

More Related