1 / 17

Lliw ac Emosiynau

Gallwn ddefnyddio lliw i ddisgrifio sut rydyn ni’n teimlo. Mae gan liwiau donau cynnes a thonau oerllyd . Gallwn ddewis tonau cynnes ac oerllyd i greu awyrgylch neu naws yn ein gwaith celf. Edrychwch ar y lliwiau canlynol a d’wedwch sut maen nhw’n gwneud i chi deimlo.

tangia
Download Presentation

Lliw ac Emosiynau

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Gallwn ddefnyddio lliw i ddisgrifio sut rydyn ni’n teimlo. Mae gan liwiau donau cynnes a thonau oerllyd. Gallwn ddewis tonau cynnes ac oerllyd i greu awyrgylch neu naws yn ein gwaith celf. Edrychwch ar y lliwiau canlynol a d’wedwch sut maen nhw’n gwneud i chi deimlo. A yw’n lliw cynnes neu’n lliw oerllyd? Lliw ac Emosiynau

  2. Coch

  3. Gwyrddlas

  4. Melyn

  5. Oren

  6. Glas

  7. Beth ydych chi’n ei wybod yn barod am gymysgu lliwiau? Allwch chi enwi’r lliwiau Sylfaenol? Allwch chi enwi’r lliwiau Eilaidd? Beth yw lliwiau Trydyddol? Arbrofwch drwy gymysgu lliwiau gan ddefnyddio paent neu basteli sialc. Beth ddysgoch chi? Sut y bydd hyn yn eich helpu? Yr Olwyn Liwiau. Lliwiau Cyferbyniol yw’r enw ar liwiau sydd gyferbyn â’i gilydd Lliwiau Cyflenwol yw’r enw ar liwiau sydd nesaf at ei gilydd Gallwn ddefnyddio hyn i helpu creu awyrgylch yn ein gwaith celf. Cymysgu Lliwiau

  8. Tasg gyda Phartner: Torrwch siapau o bapur lliw a’u gosod ar gefndiroedd lliw.

  9. Byddwn ni’n defnyddio LliwiauCyferbynioli greu drama ac effaith yn ein gwaith. Beth ydych chi wedi’i ddysgu am Liwiau Cyferbyniol?

  10. Byddwn ni’n defnyddio Lliwiau Cyflenwoli greu effeithiau ysgafn a chydbwysedd yn ein gwaith. Beth ydych chi wedi’i ddysgu am Liwiau Cyflenwol?

  11. Hapus Ofnus  Balch Diddig  Pryderus Nerfus Dig Trist Cyffrous Eiddigeddus Cymysglyd Cynhyrfus   Anhapus Digyffro Digynnwrf Hyderus Mae’n gallu bod yn anodd deall sut mae pobl yn teimlo. Pa gliwiau sydd gyda ni i’n helpu i ddeall sut mae person yn teimlo? Ydyn ni’n gallu gweld emosiwn ar wyneb rhywun? Meddyliwch am emosiwn a disgrifiwch sefyllfa pryd y cawsoch chi brofiad o’r emosiwn hwnnw. Amser Cylch: Allwch chi enwi ambell deimlad neu emosiwn?

  12. Edrychwch eto ar y llun gan John Elwyn • Sut mae’r arlunydd yn dangos emosiwn yn y llun? • Beth allwch chi ddweud am fynegiant wyneb y bobl? Lluniau drwy garedigrwydd : John Elwyn

  13. Tasg: Dewiswch emosiwn. Paratowch astudiaeth lliw i ddisgrifio’r emosiwn Meddyliwch am …. Pa ddefnyddiau fyddwch chi’n eu defnyddio? paent inc sialc olew pastel papur lliw creon cwyr ffabrig pensil Pa brosesau fyddwch chi’n eu dewis? paentio lluniadu argraffu collage cyfrwng cymysg Lliw ac Emosiynau Hapus neu Flin Beth ydych chi’n feddwl?

  14. Gofynnwch i’ch gilydd…… Allwch chi ddyfalu pa emosiwn mae’r astudiaeth lliw yn ei disgrifio?? Pam felly, dybiwch chi? Ym mha ffordd gallwch chi ddefnyddio’ch gwaith gorffenedig mewn tasg/testun arall? Ewch ati i arddangos eich gwaith gorffenedig a’i drafod

  15. Cynllunio Beth fyddwch chi’n ei gynnwys yn eich llyfr? Sut fyddwch chi’n gwneud hyn? Fyddwch chi’n defnyddio lliw yn eich llyfr? Fyddwch chi’n defnyddio lluniau yn eich llyfr? Fydd gyda chi gymeriad llyfr fel dolen gyswllt? Pa gymeriad/symbol allech chi ei ddefnyddio? Myfyrio Meddyliwch am…… Sut aethoch chi ati i gynllunio’ch gwaith? Ble daethoch chi o hyd i syniadau ar gyfer y llyfr? Sut fyddech chi’n disgrifio’r dasg wrth rywun arall Beth fyddech chi’n ei newid pe baech chi’n ailadrodd y dasg? Allwch chi feddwl am wahanol sefyllfaoedd lle byddai eich llyfr yn ddefnyddiol? Tasg Dosbarth: Lluniwch lyfr dosbarth o emosiynau. • Datblygu • Pwy fydd yn darllen eich llyfr? • Oes angen i chi wneud unrhyw newidiadau i’r llyfr? • Pam?

More Related