1 / 16

Ymchwil Prifysgol Caerdydd

Ymchwil Prifysgol Caerdydd. Dr Adrian Price. Eitem 1: Cwrs CiO Newydd. tri amrywiad ieithyddol rhanbarthol sef Gogledd, De-Orllewin, a De-Ddwyrain; amrywiad ac amrywiaeth leol i fod yn fater i’r canolfannau CiO yn lleol;

Download Presentation

Ymchwil Prifysgol Caerdydd

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Ymchwil Prifysgol Caerdydd Dr Adrian Price

  2. Eitem 1: Cwrs CiO Newydd • tri amrywiad ieithyddol rhanbarthol sef Gogledd, De-Orllewin, a De-Ddwyrain; • amrywiad ac amrywiaeth leol i fod yn fater i’r canolfannau CiO yn lleol; • canllawiau i diwtoriaid ar y defnydd o’r iaith darged yn y dosbarth a’r tu hwnt, a hynny mewn perthynas â gweithgareddau cysylltiedig amrywiol. Dylai’r canllawiau hyn gynnwys cyngor ar gynyddu’r defnydd o’r iaith darged hyd at y pwynt lle y defnyddir yr iaith darged yn unig â dysgwyr; • canllawiau i ddysgwyr ar amcanion, gwerthoedd a dulliau cyflwyno’r cwrs; • darnau drilio byr, cyd-destunol; • tasgau cyfathrebol ar wahanol lefelau er mwyn ymateb i wahaniaethau ymhlith dysgwyr

  3. Eitem 2: Canllaw Gramadeg i Ddysgwyr • Dylid gwneud defnydd o nifer o lyfrau safonol a phoblogaidd ym maes TEFL tra’n datblygu’r canllaw hwn, er enghraifft: • Raymond Murphy gyda Williams R. Smalzer ‘BasicGrammarinUseAnswerKey: ReferenceandPracticeforStudents of English’ (Cambridge University Press, 2002); • Raymond Murphy ‘EssentialGrammarinUsewithAnswers: A Self-StudyReferenceandPracticeBookforElementaryStudents of English’ (Cambridge University Press, 2007); • Raymond Murphy gyda Williams R. Smalzer ‘EnglishGrammarinUsewithAnswers: A Self-StudyReferenceandPracticeBookforIntermediateStudents of English’ (Cambridge University Press, 2002); • Michael Swan a Catherine Walter ‘HowEnglish Works: A GrammarPracticeBookWithAnswers’ (Oxford University Press, 1997); • Martin Hewings ‘Advanced GrammarinUse: A Self-StudyReferenceandPracticeBookfor Advanced Students of English’ (Cambridge University Press, 2005).

  4. Eitem 3: Canllaw Gramadeg i Diwtoriaid • Yr argymhelliad yw i’r Adran Addysg a Sgiliau gomisiynu canllaw gramadeg yn benodol ar gyfer tiwtoriaid CiO sy’n ymgorffori’n neilltuol canllawiau i diwtoriaid ar sut i gyfathrebu ac egluro gramadeg i ddysgwyr. • Dylid defnyddio a thynnu at ei gilydd yn y canllaw hwn deunydd CiO cyfredol, perthnasol, yn unol ag awgrymiadau ymarferwyr CiO • Dylid gwneud defnydd o nifer o lyfrau safonol a phoblogaidd ym maes TEFL tra’n datblygu’r canllaw hwn, er enghraifft: • A. J. Thomson a A. V. Martinet ‘A PracticalEnglishGrammar’ (Oxford University Press, 1986); • Michael Swan ‘PracticalEnglishUsage’ (Oxford University Press, 2005).

  5. Eitem 4: App Gramadeg i Ddysgwyr • Dylai’r App hwn ymgorffori esboniadauyn Saesneg a thynnu ar yr arfer da canlynol ym maes TEFL: • Cambridge University PressEnglishGrammarinUseActivitiesAppforiPhone (<http://www.cambridge.org/other_files/wasp_video_player/inUse/EGUMobileActivities.html>); • Cambridge University PressEnglishGrammarUseTestsApp (http://www.cambridge.org/other_files/wasp_video_player/inUse/EGUMobileTests.html). Reviewedby EFL practitionershere (http://www.englishblog.com/2010/03/essential-apps-for-english-learners-grammar.html); • University College London InteractiveGrammar of English [iGE]

  6. Eitem 5: Corpws CiO • Yr argymhelliad yw i’r Adran Addysg a Sgiliau gomisiynu corpws electronig yn benodol ar gyfer CiO ac yn seiliedig ar Gymraeg llafar cyfoes. • Dylai’r Adran Addysg a Sgiliau weithio ag arbenigwyr ym maes corpora ieithyddol ynghyd ag arbenigwyr o blith ymarferwyr CiO ac arbenigwyr mewn Cymraeg llafar cyfoes er mwyn datblygu corpws priodol. • Cyfanswm goblygiadau cost: lleiafswm £150,000 • Mae’r ffigwr hwn yn seiliedig ar gostau corpora tebyg eraill. • Nid yw hyn o reidrwydd yn gost i AdAS. Mae cynghorau cyllido ymchwil y DU a chyrff cyllido ymchwil eraill e.e. AHRC, ESRC, Ymddiriedolaeth Leverhulme, a’r Academi Brydeinig wedi arfer â chefnogi gwaith o’r math hwn.

  7. Eitem 6: Darllenwyr Graddedig (Prosiect Cwmpasu) • Yr argymhelliad yw i’r corff arweiniolyn y sector CiO ymgymryd â’rdasg o ystyried ymha ffyrdd y gellir datblygu casgliad newydd o ddarllenwyr graddedig. • Dylai’r testunau fod yn gysylltiedig â lefelau a nodweddion penodol o’r cwrs newydd. Yn neilltuol, dylai’r testunau fod yn seiliedig ar ddealltwriaeth wyddonol o’r patrymau geirfaolac ieithyddol fel y maent yn codi trwy’r cwrs. Hefyd, dylai’r testunau fod yn ailgylchu’n fwriadol y patrymau geirfaol ac ieithyddol hyn. Yn ogystal â hyn, dylid datblygu canllawiau i diwtoriaid ynghylch defnyddio’r darllenwyr graddedig, gan cynnwys mewn Clybiau Darllen. Yn ddelfrydol, bydd ystod o adnoddau cefnogol clywedol yn gysylltiedig â’r darllenwyr graddedig hyn. Byddai modd defnyddio darllenwyr o’r math hwn i bontio’r gagendor rhwng cyrsiau.

  8. Eitem 7: Gweithgareddau DysguLled-ffurfiol • Dylid ymgorffori’r nodweddion canlynol i’r gwaith hwn: • dealltwriaeth eglur a phendant o’r gwahaniaethau rhwng dysgu ffurfiol, lled-ffurfiol ac anffurfiol; • gweithgareddau lled-ffurfiol penodol, yn cynnwys cywair a thocynnauymateb rhyngweithiol, sy’n gysylltiedig â gwahanol lefelau ac agweddau o’r cwricwlwm CiO; • monitro a gwerthuso gweithgareddau lled-ffurfiol trwy ddefnyddio ‘Toolkit’ NIACE / RARPA; • bod gan bob canolfan CiO aelod penodol o staff â chyfrifoldeb penodol am ddatblygu a gweithredu rhaglen o weithgareddau dysgu lled-ffurfiol; • bod pob canolfan CiO yn gweithio yn agos â’r Mentrau Iaith sy’n lleol iddynt ar ddatblygu a gweithredu cynlluniau a gweithgareddau yn y maes hwn.

  9. Eitem 8: Hyfforddiant i Awduron • Yr argymhelliad yw i’r Adran Addysg a Sgiliau gefnogi’r corff arweiniol ar hyfforddiant ym maes CiO i ddatblygu rhaglen hyfforddiant i gyw awduron yn y maes. • Dylid anelu rhan gyntaf yr hyfforddiant at ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o awduron CiO a dylid ei arwain gan awduron cyfredol CiO. Dylai ail ran yr hyfforddiant gynnwys ‘dosbarth meistr’ ar gyfer awduron profiadol ym maes CiO, a hwnnw i’w gynnal gan arbenigwr rhyngwladol. Dylid ei gynnal yn flynyddol. Mae’r ffigwr isod yn adlewyrchu’r goblygiadau cost ar gyfer un flwyddyn yn unig. Yn amlwg, byddai hyfforddiant i awduron ar sail barhaus â goblygiadau cost wrth drefnu a darparu gweithgareddau a digwyddiadau. • Cyfanswm goblygiadau cost yn fras: £3,500

  10. Eitem 9: Hyfforddiant i Diwtoriaid • Dylai’r hyfforddiant fod â’r nodweddion canlynol: • Drilio – hyfforddiant yn y gwahanol ffyrdd o gyflwyno drilio a’r gwahanol arddulliau drilio, er mwyn osgoi gorlwytho semantig / syrffed ystyregol [Saesneg - semanticsatiation]; • Gramadeg – hyfforddiant ar y defnydd o derminoleg priodol a dulliau o gyflwyno esboniadau gramadegol, er mwyn osgoi cysoni / gorgyffredinol [Saesneg – overgeneralisation]; • Adborth – hyfforddiant ar adborth sy’n benodol i gynnydd ieithyddol, yn unol ag ymagweddau asesu ar gyfer dysgu. Hefyd, arweiniad ar weithio gyda thempledi / ffurflenni adborth i ddysgwyr a ‘gwaith cartref’ fel cyfleon i ddarparu adborth; • Geirfa – hyfforddiant yn y dull ‘adolygu strwythuredig’ [Saesneg - structuredreviewing]; • Gweithgareddau gwahaniaethol – hyfforddiant ar y defnydd priodol o weithgareddau gwahaniaethol o safbwynt gwahaniaethau mewn gallu ymhlith dysgwyr.

  11. Eitem 10: Hyfforddiant i Ddysgwyr • Dylai nodweddion allweddol hyn fod yn cynnwys y canlynol: • gosod targedau synhwyrol, • rheoli amser (amser cyfeiriol yn cynnwys amser cyswllt / amser yn y dosbarth a gweithgareddau amser cyfeiriol eraill), • derbyn a deall adborth.

  12. Eitem 11: Rhannu Arfer Da • Yr argymhelliad yw i CiO fel sector wneud gwell ddefnydd o’r ‘Moodle’ cenedlaethol CiO na’r defnydd a wnaed o’r mecanweithiau blaenorol yn y sector, sef y porth CiOar y we a’r cyhoeddiad sectorol ‘Y Tiwtor’<http://www.ytiwtor.org/rhifyn19/newyddion/y-bont.html>, er mwyn sicrhau bod arfer da yn y sector CiO ac o feysydd perthnasol eraill yn cael ei adnabod a’i raeadru’n eang. • Mae’r ymchwil wedi adnabod technoleg a DDD fel meysydd sydd o flaenoriaeth yn y cyd-destun hwn. • Dim goblygiadau cost newydd

  13. Eitem 12: Ymchwil Weithredol • Mae’r ymchwil wedi adnabod y meysydd canlynol fel blaenoriaethau: • defnydd cyfredol dysgwyr o gefnogaeth dechnoleg-seiliedig; • gwahaniaethau rhwng dysgwyr; • syrffed ystyregol wrth ddrilio; • patrymau mewn cysoni / gorgyffredinoli. 

  14. Eitem 13: Ymchwil Bellach • Yr argymhelliad yw i’r Adran Addysg a Sgiliau ystyried ymchwilio ymhellach i fater y continwwm ieithyddol I2 [Saesneg - L2] yn y Gymraeg. • Yn yr ymchwil, daeth y maes hwn i’r amlwg fel mater sylweddol a chymhleth. Mae ‘Cymraeg i’r Teulu’, dyfeisiadnewydd yn y sector CiO, wedi uwcholeuo’r mater ac yn neilltuol natur problemus y continwwm I2 [Saesneg - L2] yn y Gymraeg. Hefyd, mae lleiafrif sylweddol (o leiaf) o ddysgwyr CiO yn nodi iddynt ddod i gysylltiad â’r Gymraeg fel ail iaith, am y t ro cyntaf, yn y sector addysg statudol. Er enghraifft, dim ond 13.2% o ddysgwyr oedd heb astudio’r Gymraeg o’r blaen yn ôl un arolwg o Ogledd Cymru ac roedd 31.3% ohonynt wedi dysgu o leiaif peth Cymraeg yn yr ysgol gynradd (Baker etal, 2011: 49). • Dim goblygiadau cost newydd heblaw y cymerir penderfyniad i gomisiynu ymchwil.

  15. Eitem 14: Meincnodi • Yr argymhelliad yw i’r Adran Addysg a Sgiliau ystyried annog y Canolfannau CiO i ehangu meincnodi er mwyn cynnwys cymaryddion rhyngwladol. • Mae’r arfer hwn wedi’i ddatblygu gan unedau tebyg i Ganolfannau CiO mewn gwledydd eraill (e.e. National University of Ireland, Cork: 2011: 9). • Dim goblygiadau cost newydd.

  16. *** Y Diwedd ***

More Related