1 / 26

ysbrydoliaeth o’r ymchwil

Wrth i ni ddylunio ein gem llaw bydd angen ystyried y canlynol:. Gwerthuso canlyniadau ein hymchwil. ysbrydoliaeth o’r ymchwil. gwerthuso + mireinio ein ystyried dylunio i wneud yn siwr eu bod yn gweithio. Gwerthuso a phrofi eich syniadau dylunio. datblygu syniadau cysyniad.

nituna
Download Presentation

ysbrydoliaeth o’r ymchwil

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Wrth i ni ddylunio ein gem llaw bydd angen ystyried y canlynol: Gwerthuso canlyniadau ein hymchwil • ysbrydoliaeth o’r ymchwil gwerthuso + mireinio ein ystyried dylunio i wneud yn siwr eu bod yn gweithio Gwerthuso a phrofi eich syniadau dylunio. • datblygu syniadau cysyniad • addasu syniadau, profi a modelu • manylu’r dyluniad terfynol

  2. CYSYNIADAU Pwrpas y cam hwn yw recordio eich syniadau yn gyflym iawn. Peidiwch â cheisio rhoi manylion. Fel y byddwch yn archwilio pob syniad gallwch ychwanegu manylion megis lliw yn nes ymlaen. Deintydd y Diafol Difa Bomiau Antur yn y Gofod Peidiwch â chymryd yn ganiataol mai eich syniad cyntaf fydd yr un gorau. TASG: Brasluniwch a disgrifiwch rai syniadau diddorol Cofiwch – bydd angen i’r gêm fod mor arloesol â phosibl, felly buddsodwch amser ac ymdrech i fod yn greadigol. Meddyliwch am y cynhyrchion llwyddiannus eraill y daethoch ar eu traws yn ystod yr ymchwilio.

  3. Syniadau posibl DATBLYGIAD DYLUNIAD ….ddargludo trydan ….fod yn ddiogel …gasglu’r ciwb Yn ystod datblygiad y dyluniad byddwn yn ystyried y defnyddiwr wrth geisio mireinio syniadau. Byddwn yn defnyddio’n hymchwil i wella syniadau ac wrth benderfynu os ydynt yn ymarferol. Bydd yn rhaid i’r handlen …… fforc- peryglus efallai pleiars- anodd eu defnyddio mewn lle cyfyng sbigyn/rhoden- peryglus efallai Ystyriaethau eraill :- tiwb (y tu mewn i’r ‘bom’)- byddai’n rhaid iddo ddargludo trydan Dydy bomiau ddim yn sgwar – bydd yn rhaid iddo fod yn grwn Dydy bomiau ddim yn syniad da ar gyfer tegan plant Gallai llaw plentyn fynd yn sownd y tu mewn maneg- byddai’n rhaid i’r tiwb fod yn fwy Plyciwr – hawdd ei wneud TASG: Ychwanegwch nodiadau a brasluniau wrth werthuso eich syniadau a disgrifiwch y newidiadau y byddai eu hangen i wella arnynt. Gofynnwch i’ch ffrindiau am awgrymiadau.

  4. Yn y syniad yma gellid defnyddio tiwb cerdyn gyda ffoil dargludo y tu mewn iddo. Gallai ystyried y defnyddiau eich helpu i wneud y penderfyniadau cywir. Yn ystod y cam hwn byddwch yn datblygu un neu fwy o’ch syniadau. Yma gallwch werthuso syniad a dechrau ychwanegu manylion. DATBLYGU SYNIAD THEMA CYFFREDINOL DIFA BOMIAU Esgyll dur cerdyn Ciwb metel Tiwb sgwar dur 50mm Cas MDF Tiwb crwn Gallai gofyn barn pobl eraill fod yn ddefnyddiol yn ystod y cam hwn. Ystyriwch bob syniad yn erbyn eich manyleb. Meddyliwch sut y gallech wneud y cynnyrch. Ydy e’n ymarferol? TYLLAU Rodiau dur Gwaelod TASG: Cynhyrchwch luniadau mwy manwl o’ch syniadau gorau. Labelwch y partiau. Cyfeiriwch at eich pwyntiau manyleb.

  5. Darganfod ysbrydoliaeth THEMA NEWYDD Datblygu syniad arall Gem Gwifren Bos O ganyliad i ofyn barn pobl eraill mae ein hymchwil wedi dangos y byddai gêm gwifren bos yn fwy poblogaidd os oes iddi thema. Unwaith rydych wedi cael syniad gall bwrdd delweddau helpu i sbarduno syniadau neu wella arnynt. Casglwch luniau sy’n berthnasol i’ch thema, sganiwch hwy’n ofalus gan y byddant yn eich helpu i gael syniadau. TASG: Er mwyn gwella rhai neu’r cyfan o’ch syniadau gorau cynhyrchwch fwrdd delweddau sy’n berthnasol i’ch prosiect.

  6. Gellir defnyddio CAD i gynhyrchu syniadau. Gellir arbrofi gyda gwahanol siapiau a lliwiau yn rhwydd. DATBLYGU SYNIAD ARALL Start with an image Gellir dargopïo siapiau a’u haddasu ar gyfer eich dyluniad. Cynhyrchwyd gan Gyfarpar Dylunio 2D V2

  7. Cylched PIC Cylched PIC addas yw’r CH1040 sydd ar gael gan Revolution Education. Mae i’r gylched un mewnbwn a phedwar allbwn, mae un ohonynt yn gallu darparu cerddoriaeth drwy seinydd piezo. Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud templed o’r gylched a’r batris cyn datblygu’r dyluniad ymhellach. Mae hefyd yn ein galluogi i fodelu’n syniadau'n fanwl ar gerdyn fel y gallwn gael y mesuriadau cywir. Dyma dri trefniant ar gyfer y bwrdd cylched a’r pac batri. TASG: Gwnewch dempled maint llawn o’r gylched a’r pac batri.

  8. MODELU SYNIAD Mae modelu cerdyn brys yn ddull effeithiol iawn o brofi sut mae syniadau dylunio’n gweithio. Mae gwneud templed cerdyn o’r gylched a’r batri yn helpu i wneud yn siŵr y byddan nhw’n ffitio yn y syniad dyluniad sy’n cael ei ddatblygu. Pa fanteision sydd i’r dylunydd wrth wneud modelau? TASG: Gwnewch fodelau maint llawn o’ch syniadau gorau er mwyn eu profi ac amcangyfrif faint o’r defnyddiau fydd eu hangen arnoch.

  9. MODELU SYNIAD Ar ôl cwblhau model cerdyn boddhaol gallwn ddefnyddio cynllunio trwy gyfrwng cyfrifiadur(CAD) i ddatblygu ymhellach y syniad rydych wedi’i ddewis a pharatoi ar gyfer cynhyrchu gyda chymorth cyfrifiadur. TASG: Cynhyrchwch luniad CAD o’ch syniad neu fodel gorau. Ewch ati i allfudo’r lluniad i ProDesktop. Copïwch ef, yna’i allwthio 3mm. Yn olaf ychwanegwch y rhannau sydd wedi cael eu gwneud yn barod - blwch dal batri a bwrdd cylched. Mae’r byrddau cylched gyferbyn eisoes wedi cael eu lluniadu a’u rendro yn defnyddio ProDesktop.

  10. MODELU SYNIAD Nid yn unig mae ProDesktop yn cynhyrchu darlun realistig iawn o syniad terfynol ond mae hefyd yn caniatau i chi werthuso’r edrychiad ar ôl gwneud newidiadau. Gellir hyd yn oed newid lliwiau’r LED’s

  11. DYLUNIAD MANYLION • Bydd yn rhaid dilyn rhai rheolau wrth ffitio cydrannau megis cylchedau, batris, LEDs, seinyddion a switshis : • Bydd yn rhaid i’r holl gydrannau fod yn hollol sownd yn y cas. • Er mwyn trwsio neu roi cydran newydd bydd angen gallu mynd at yr holl gydrannau. • Wrth osod y cydrannau dylid sicrhau defnyddio cyn lleied o wifrau â phosibl. • Dylai cyn lleied â phosibl o wifrau noeth fod yn y golwg. • Dylai fod yn bosibl tynnu cydrannau allan pan fo angen. • Dylid dylunio’r cynnyrch fel y bydd yn bosibl dadosod ac ailgylchu’r cydrannau ar ddiwedd ei oes – dyluniad cynaladwy. Pwrpas Dyluniad Manylion yw i allu gwneud y penderfyniadau cywir am ble i osod cydrannau a pham. Os ydy hyn yn anghywir gennych yna gallai fod yn anodd defnyddio’r cynnyrch a gallai fod yn beryglus hefyd. TASG: Anodwch eich dyluniad terfynol i ddangos eich bod wedi ystyried pob un o’r pwyntiau uchod.

  12. PCB Cas Drilio tyllau trwy ochrau’r cas yna ffitio sgriws bychan i osod y pileri PCB hyn yn sownd yn y cas. DYLUNIAD MANYLION DYLUNIAD MANYLION FFITIO BYRDDAU CYLCHED Yn y mwyafrif o fyrddau cylched mae twll ymhob cornel. Mae sawl ffordd y gallwch ddefnyddio’r rhain.. Coedyn Defnyddiwch sgriws hunan dapio i osod y bwrdd cylched yn sownd i ddau ddarn o goedyn. Gludwch y coedyn i du mewn y cas. Driliwch dyllau trwy ochr y cas. Ffitiwch sgriw hir yr holl ffordd, gan gynnwys y bwrdd cylched. Defnyddiwch diwbyn plastig i weithredu fel gwahanydd i gadw’r bwrdd yn glir o’r cas. PCB Gwahanydd Cas

  13. DYLUNIAD MANYLION FFITIO BYRDDAU CYLCHED Pa ddull? Fel arfer mae’r dull yn dibynnu ar eich cyllid, yr offer sydd ar gael a’r math o ddefnyddiau rydych yn eu defnyddio i wneud y cas. Mae angen mwy o amser a chywirdeb mwy manwl yn ystod y cynhyrchu i rai o’r dulliau. Gall cael y tyllau mewn llinell cyn drilio â llaw fod yn anodd ond mae’n broses hawdd os defnyddir CAM. Gellir defnyddio slot neu rigol mewn bloc i ddal byrddau cylched yn eu lle. Gallech ddefnyddio lli i dorri’r slot neu ddefnyddio haenau o goed neu blastig i greu’r daliwr.

  14. Dull arall yw gwneud blwch bach i ddal y batri yn ei le. Gellir ffurfio llenfetel megis alwminiwm neu bolystyren anhyblyg 2mm i fod yn ddalwyr PP3. Bydd angen i’r defnyddiau sy’n cael eu dewis fod yn sbringar. Daliwr PP3 – ond mae’r rhain yn ddrud. DYLUNIAD MANYLION FFITIO BATRIS Y mathau mwyaf cyffredin o fatris safonol sy’n cael eu defnyddio mewn cynhyrchion electronig yw: Batri ‘sgwâr’ PP3 9V Batri AA ‘tortsh boced’ mewn cyfres i gynhyrchu 3folt, 4.5folt neu 6folt. Mewn cynhyrchion electronig bydd problemaustorio sy’n neilltuol i bob batri . Wrth ddylunio mae’n allweddol cofio y bydd yn rhaid gallu newid y batris!! Dulliau posibl o ddal batris mewn lle

  15. Dyma’r cysylltiad mewnbwn ar y cylched PICAXE. Gall y sglodyn PICAXE ganfod cysylltiad rhwng y gwifrau. Dyma eich cysylltydd USB. Byddwch yn cysylltu hwn i’ch PC ac yn ysgrifennu eich rhaglen. Yna byddwch yn ei lwytho i lawr i’r sglodyn. Mae tri allbwn LED i’r bwrdd cylched hwn. Dyma allbwn y Seinydd Piezo. Mae’n cael ei reoli gan y gorchymyn sain a’r gorchymyn tôn. CH1040 08M PicAxe DYLUNIAD MANYLION Cylched PICAXE TASG:Lluniadwch y dyluniad terfynol gan gynnwys Y CYFAN o’r manylion fydd eu hangen i allu gwneud y cynnyrch. Dangoswch sut ac ymhle y bydd y cydrannau’n ffitio yn eich tegan. Nodwch y mesuriadau neu’r dimensiynau ar eich lluniad.

  16. DYLUNIAD MANYLION RHAGLENNU mewn PICAXE SYLFAENOL. – RHAN 1. Cyfarwyddiadau ysgrifenedig sy’n cael eu teipio gennych chi i feddalwedd o’r enw GOLYGYDD RHAGLENNU sy’n rheoli’r tri LED. Y cyfarwyddyd neu orchymyn ar gyfer troi allbwn ymlaen (ac felly LED) yw ‘ high’ ac yna rhif yr allbwn i ddilyn. Yma mae’r allbwn hwn wedi’i gysylltu i’r LED COCH ac mae’n cael ei adnabod fel allbwn 0. Felly’r gorchymyn cywir i droi ymlaen yr LED hwn yw ‘high 0’. Y gorchymyn i’w droi i ffwrdd yw ‘low’.

  17. DYLUNIAD MANYLION RHAGLENNU mewn PICAXE SYLFAENOL. – RHAN 1. Gallwch reoli’r amser y bydd allbwn yn aros ymlaen neu i ffwrdd trwy ddefnyddio un ai’r cyfarwyddyd ‘aros’ neu ‘saib’. Er enghraifft wait 5 – bydd yr allbwn yn aros ymlaen am bum eiliad pause 500 – bydd yr allbwn yn aros ymlaen am 500 milieiliad neu 0.5 eiliad. Ar hyn o bryd mae’r allbwn hwn wedi’i gysylltu i LED MELYN ac mae’n cael ei adnabod fel allbwn 1, felly’r cyfarwyddyd cywir i droi ymlaen yr LED hwn yw ‘high 1’. Mae’r seinydd PIEZO ar allbwn 2 a’r switsh ar allbwn 3. Felly’r LED GWYRDD sydd ar allbwn 4 a chaiff ei reoli gan ‘high 4’.

  18. DYLUNIAD MANYLION RHAGLENNU mewn PICAXE SYLFAENOL. – RHAN 2. Rhaglen yw dilyniant o gyfarwyddiadau y bydd sglodyn picaxe yn ufuddhau iddynt mewn trefn resymegol. Os yw ein cyfarwyddiadau yn y drefn gywir yna bydd y dilyniant yn gweithio’n gywir. Dyma raglen syml: main: high 0 low 4 pause 250 low 0 high 4 pause 250 goto main ‘Main’ yw’r enw ar y rhaglen hon Mae’r rhain yn rheoli’r allbynnau Oedi am ¼ eiliad Mae’r rhain yn rheoli’r allbynnau Oedi am ¼ eiliad Mae hwn yn dolennu’r rhaglen yn ôl i’r dechrau fel y bydd yn mynd ymlaen ac ymlaen yn ddiddiwedd.

  19. DYLUNIAD MANYLION RHAGLENNU mewn PICAXE SYLFAENOL. – RHAN 2. Mae’n rhaid i’r gystrawen yn y rhaglen fod yn gywir - sillafu cywir, llythyren is, bylchau, cromfachau a cholonau lle bo angen ayyb. Mae’n rhaid cymryd gofal. Dyma raglen fflachio LED arall. main: high 0 wait 2 high 1 wait 2 high 4 wait 2 low 0 low 1 low 4 goto main ‘Main’ yw’r enw ar y rhaglen hon Troi LED coch ymlaen Oedi am 2 eiliad Nawr troi ‘r LED melyn ymlaen Yn olaf yr LED gwyrdd. Mae’r rhain yn troi’r LED’s i gyd i ffwrdd. Tasg: Teipiwch y rhaglen hon i mewn i’r Golygydd Rhaglennu a’i llwytho i lawr i’ch cylched PICAXE. Mae hwn yn dolenu’r rhaglen.

  20. DYLUNIAD MANYLION RHAGLENNU mewn PICAXE SYLFAENOL. – RHAN 2. Cwis 1. Pa orchymyn sy’n troi ymlaen allbwn 4? 2. Pa gyfarwyddyd sy’n rhoi 3 eiliad o oedi? • Atebion • high 4 • wait 3 • Troi i ffwrdd allbwn/LED 0 • Troi ymlaen allbwn 4 am • ½ eiliad ac yna i ffwrdd • 5. goto main 3. Beth mae’r gorchymyn low 0 yn ei wneud? 4. Beth mae’r rhaglen ganlynol yn ei wneud? main: high 4 pause 500 low 4 pause 500 5. Yng nghwestiwn 4 pa linell allech chi ei hychwanegu i wneud i’r rhaglen ail-ddolennu’n ddiddiwedd?

  21. DYLUNIAD MANYLION RHAGLENNU mewn PICAXE SYLFAENOL. – RHAN 2. Gallwn ddefnyddio’r seinydd sydd ar allbwn 2 i ddarparu synau syml. Y gystrawen gywir yw : sound 2,(nodyn,parhad) Gall y nodyn fod yn unrhyw werth rhwng 0 a 127 (distaw yw 0 ) Gall y parhad fod yn unrhyw werth rhwng 0 a 255, mae pob rhif yn luosrif o 10 milieiliad. Er enghraifft byddai 100 yn para am un eiliad. Rhaglen nodweddiadol gyda sain main: high 0 high 1 low 4 sound 2,(120,30) low 0 high 4 sound 2,(60,30) goto main

  22. www.rev-ed.co.uk/docs/picaxe_manual2.pdf DYLUNIAD MANYLION RHAGLENNU mewn PICAXE SYLFAENOL. – RHAN 2. Gallwn hefyd ddefnyddio’r seinydd ar allbwn 2 i ddarparu cerddoriaeth syml. Y gystrawen gywir yw : tune 0, 2,(nodyn,nodyn,nodyn…) Oni bai eich bod yn gallu cyfansoddi y syniad gorau o ddigon yw llwytho tonau i lawr o’r cyswllt hwn http://www.rev-ed.co.uk/picaxe/software.htm a’u pastio i mewn i’ch rhaglen. Rhaglen nodweddiadol gyda cherddoriaeth

  23. DYLUNIAD MANYLION RHAGLENNU mewn PICAXE SYLFAENOL. – RHAN 3. Un mewnbwn sydd ar gylched sglodyn PIC. Y ddwy wifren yw’r rhain. Gall y sglodyn PIC ganfod os os fydd y ddwy wifren yn cyffwrdd neu’n cael eu cysylltu gan switsh. Mae un o’r gwifrau wedi cael ei chysylltu i bin3 ar y PIC ac mae’r gweddill yn cysylltu â phositif y batri. ‘1’ yw pin3 pan fydd y gwifrau’n cyffwrdd, fel arall ‘0’ yw pin3. ’ main: If pin3=1 then flashred goto main flashred: high 0 wait 3 low 0 goto main Ydy’r gwifrau’n cyffwrdd? Os felly ewch i ‘flashred’ Tasg: Teipiwch y rhaglen hon i mewn i’r Golygydd Rhaglennu a llwythwch ef i lawr i’ch cylched PICAXE. Dolen: i wirio drwy’r amser Rhan nesaf y rhaglen Mae’n troi ymlaen yr LED coch Mae’n cadw’r LED ymlaen am 3 eiliad Mae’n troi i ffwrdd yr LED coch Yn ôl i’r dechrau

  24. DYLUNIAD MANYLION RHAGLENNU mewn PICAXE SYLFAENOL. – RHAN 3 TASG: Un datrysiad posibl i’r gêm llaw fyddai cael tôn yn canu a goleuadau LED’s yn goleuo pan mae’r wifren llaw yn cyffwrdd y wifren bos. Ysgrifennwchraglen fyddai’n gwneud hyn i gyd. Rhai gorchmynion defnyddiol: high low tune if.....then wait pause goto

  25. Dyma un datrysiad cywir posibl Y dôn yw ‘Hen Wlad fy Nhadau’ main: if pin3 = 1 then flash goto main flash: high 0 high 1 high 4 tune0,2,($22,$26,$24,$22,$29,$27,$26,$02,$02,$6B,$41,$C2,$27,$29,$26,$22,$64,$E6,$64,$E2,$E9,$C2,$29,$26,$22,$22,$21,$22,$E4,$29,$29,$29,$66,$67,$E9,$02,$02,$02,$6B,$41,$C2,$27,$29,$26,$22,$64,$E6,$64,$E2) low 0 low 1 low 4 Gwnewch yn siwr eich bod yn deall rôl pob un gorchymyn yn y rhaglen.

  26. DYLUNIAD MANYLION RHAGLENNU mewn PICAXE SYLFAENOL. – RHAN 3 Cwis Tasg. Nawr mae gennych ddigon o wybodaeth i ysgrifennu rhaglen ar gyfer eich dyluniad tegan electronig. Argraffwch eich syniadau a’ch datrysiad gweithio terfynol. Anodwch eich syniadau er mwyn egluro beth rydych yn ei wneud. Mae llawer o linellau yn y rhaglen hon. Astudiwch bob un a disgrifiwch beth sy’n cael ei gyflawni gan bob un. Yna disgrifiwch beth ddylai ddigwydd pan fyddwch yn rhedeg y rhaglen yn eich cylched PIC.

More Related