1 / 10

GRAFFEG - ymchwil

GRAFFEG - ymchwil. Briff > Yn dilyn llwyddiant ffilmiau fel Shrek, Monsters Inc a Finding Nemo cawsoch eich cyflogi gan animeiddiwr blaenllaw i ddatblygu stori wedi’i animeiddio newydd.

aysel
Download Presentation

GRAFFEG - ymchwil

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. GRAFFEG - ymchwil Briff > Yn dilyn llwyddiant ffilmiau fel Shrek, Monsters Inc a Finding Nemo cawsoch eich cyflogi gan animeiddiwr blaenllaw i ddatblygu stori wedi’i animeiddio newydd. Bydd angen prif gymeriad fydd hefyd yn seren y cartŵn. Bydd yn rhaid iddo/iddi fod yn gymeriad gwreiddiol rydych chi wedi’i greu.

  2. Ymchwil Pa animeiddio ydych chi’n hoffi orau? Yn aml bydd dylunwyr yn gwneud gwaith ymchwil cyn dechrau datblygu eu gwaith. Pa wybodaeth fydd angen i chi ymchwilio iddo? Pa wybodaeth fydd yn eich helpu i ddatblygu’ch syniadau ar gyfer yr animeiddio?

  3. Ymchwil – cynllun Unrhyw faes ymchwil arall? Beth ydy ffocws/pwrpas y stori yn yr animeiddio? Adloniant, Cyflwyno gwybodaeth e.e. gwybodaeth /addysgu /gwleidyddol/ datganiad cymdeithasol. Beth ydy’r prif arddulliau animeiddio? Cartŵnau Pa arddulliau sy’n boblogaidd nawr? Pwy ydy’r prif ddylunwyr ym myd animeiddio? Pa grŵp oedran sy’n cael ei dargedu gan yr animeiddio? Pobl ifanc yn eu harddegau/oedolion/plant Beth ydy anghenion y grŵp targed? Pa fathau o animeiddio mae’r grŵp targed yn ei hoffi?

  4. Ymchwil – dylunwyr eraill/ysbrydoliaeth Ffordd rwydd o gael ysbrydoliaeth yw edrych ar waith animeiddwyr blaenllaw. Mae animeiddwyr Cymreig yn creu gwaith trawiadol ….. yn aml mae’r storiau maen nhw’n eu hanimeiddio yn gyfarwydd i chi. Edrychwch ar : www.s4c.co.uk/planedplantbach www.Calon.tv www.mikeyoungproductions.com Gwefannau eraill y gallech edrych arnynt: www.aardman.com www.dreamworksanimation.com www.pixar.com www.thesimpsons.com

  5. Ymchwil - edrych ar waith animeiddwyr sy’n ysbrydoli Unwaith rydych wedi dewis ffynhonell sy’n eich sbarduno dechreuwch ofyn cwestiynau i chi eich hun. P’run yw eich hoff gymeriad? Pam…? Beth yw’r nodweddion yn yr animeiddio rydych chi’n eu hoffi orau? Pam?.. Allech chi ddefnyddio rhai o’r syniadau hyn fel man cychwyn i’ch gwaith dylunio chi? Sut?..

  6. Ymchwil – edrych ar waith animeiddwyr sy’n ysbrydoli • Oes rhywbeth rydych chi wedi’i weld wedi’ch ysbrydoli? • Sut gallech chi ddatblygu’r syniadau hyn? Sut mae’r syniadau hyn yn dechrau sbarduno’ch stori chi? • Ydych chi wedi gweld rhai o’r rhaglenni/ffilmiau animeiddio hyn?

  7. Ymchwil - dadansoddi Dadansoddi Cynnyrch. Yn aml bydd dylunwyr yn edrych yn fanwl ar waith dylunwyr eraill er mwyn cael ysbrydoliaeth neu i ganfod gogwydd. Efallai y byddant yn dadansoddi delweddau ac yn penderfynu ar yr hyn maen nhw’n deimlo sy’n gweithio’n dda a’r hyn sydd ddim. Wyneb dynol Logo yn awgrymu ei fod yn arwr Sefyll fel person Mae pawennau’n haws i’w lluniadu na dwylo. Lliwiau llachar cyferbyniol /lliwiau sylfaenol Edrychwch ar y ddelwedd gyferbyn a phenderfynwch beth yw nodweddion positif y cymeriad cartwn hwn. Traed sy’n rhy fawr i’r corff

  8. Ymchwil - dadansoddi Tasg- Chwiliwch am dair delwedd rydych yn ei hoffi. Gallwch ddod o hyd iddynt mewn comig / llyfr neu ar y rhyngrwyd.. Lluniadwch y delweddau hyn yn y llefydd gwag a ddarparwyd. Disgrifiwch agweddau positif pob delwedd – gallwch ddefnyddio’r banc geiriau a ddarparwyd. Labelwch neu anodwch eich gwaith i gadarnhau’ch syniadau. Meddyliwch am y cyflwyniad hefyd ….. Bydd lliw ac amlinellau mewn du yn helpu. Dyma rai esiamplau i chi.

  9. Ymchwil Banc geiriau … lliwgar, plastig, disglair, cŵl, ffynci, gwead, ffasiynol, naturiol/realistig, lliwiau sylfaenol, hiwmor/doniol, arwr/arwres, dihiryn, aflunio, trin, cartŵn, safiad dynol, nodweddion chwyddedig, gorlunio, cartwn/comig stribed, braslun, animeiddio, ffilm wedi cael ei hanimeiddio Allwch chi feddwl am eiriau I ddisgrifio delweddau cartŵn neu rai sydd wedi cael eu hanimeiddio?

  10. Ymchwil Efallai y gall y gwefannau ychwanegol hyn roi sbardun ychwanegol i chi. www.shrek.com www.marvel.com www.cartoonnetwork.com/ www2.warnerbros.com http://home.disney.go.com/ http://www.nick.com www.thesimpsons.com

More Related