1 / 27

Dr. Thomas Barnardo

Dr. Thomas Barnardo.

kimama
Download Presentation

Dr. Thomas Barnardo

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Dr. Thomas Barnardo

  2. Mab i ffyriwr oedd Thomas Barnado, ac fe’i anwyd yn Nulyn, Iweddron ar 4 Gorffennaf 1845. Gweithiodd fel clerc nes iddo gael troedigaeth yn 1862. Wedi cyfnod o bregethu yn slymiau Dulyn, symudodd Barnado i Lundain i astudio meddygaeth. Ei fwriad oedd bod yn genhadwr yn China.

  3. Roedd teuluoedd tlawd yn byw yn slymiau Dulyn

  4. Pan oedd yn fyfyriwr yn Ysbyty Llundain, agorodd Barnardo ysgol i’r tlodion yn Stepney, a sefydlodd gyfarfodydd ‘Band of Hope’ i’r plant. Cyn hir daeth Barnardo i ddeall pa mor dlawd a difreintiedig oedd bywyd plant Llundain.

  5. Ysgol i fechgyn tlawd

  6. Roedd Barnardo yn siaradwr gwych, a darlithiodd ar broblem plant tlawd mewn cynhadledd i genhadon yn 1867. Roedd yr Arglwydd Shaftesbury yn y gynulleidfa ac fe gafodd y ddarlith cymaint o effaith arno fel y cynigiodd helpu Barnardo i sefydlu cartrefi ar gyfer y plant tlawd hyn.

  7. Yr Arglwydd Shaftesbury

  8. Cytunodd y banciwr Robert Barclay hefyd i helpu. Ar 2 Mawrth, 1868 cododd Barnado ddigon o arian i agor ei gartref cyntaf i blant tlawd digartref.

  9. ROBERT BARCLAY

  10. Cartref Bechgyn Stepney Pan oedd Thomas Barnardo yn 25, agoredd gartref mawr yn Nwyrain Llundain, 18 Stepney Causeway, a’i wneud yn addas ar gyfer 25 o fechgyn i fyw yno. Roedd e’n awyddus i beidio a chymryd mwy o fechgyn nag oedd e’n gallu gofalu amdanyn nhw. Ond newidiodd un digwyddiad ei feddwl.

  11. Cartref bechgyn Stepney yn Nwyrain Llundain

  12. Un noson, daeth John Somers, Carrots roedd pawb yn ei alw, bachgen 11oed at ddrws y ty. Plediodd ar i Barnardo ei adael i mewn. Roedd e wedi cael bywyd caled ar y strydoedd ers oedd e’n 7oed. Doedd dim lle yn y ty, ond rhoddodd Barnardo arian iddo a bwyd a diod. Yn ddiweddarch, daeth rhywun o hyd i Carrots wedi marw o achos oerfel a newyn. Roedd Barnardo yn torri ei galon, ac yn beio ei hun am farwolaeth Carrots. Gosododd arwydd y tu allan i’r cartref

  13. Does dim un merchnabachgendigartrefyncaeleidroio’rneilltu Penderfynodd Barnardo na fyddai byth eto yn troi plentyn digartref i o’r neilltu. Yn wir, ar dair noson bob wythnos byddai’n mynd o gwmpas Dwyrain Llundain yn chwilio am blant oedd yn cysgu yn yr awyr agored, ac yn eu perswadio i ddod i fyw yn ei gartref.

  14. Byddai diwrnod y bechgyn yn dechrau’r gynnar. I ddechrau bydden nhw’n gwneud eu gwelyau, golchi’u dillad a glanahu. Ar ol hyn byddai gwersi. Yn y prynhawn bydden nhw’n dysgu sgiliau gwerthfawr a defnyddiol fel gwaith coed, gwneud esgidiau ac argraffu. Pan fyddai bachgen yn 16 oed, ac yn barod i adael y cartref, bydden nhw’n cael mynd fel prentisiaid i fasnachwyr fel eu bod yn gallu ennill arian mewn ffordd ddefnyddiol.

  15. Bechgyn yn dysgu sut i wneud esgidiau

  16. Yn 1874 agordd Dr Barnardo Adran Ffotograffig yng Nghartref Stepneu. Dros y 30 mlynedd nesaf cafodd pob un a fu yng nghartrefi Barnado eu lluniau wedi’u tynnu. Ar ol ychydig fisoedd byddai’r plant yn cael eu llun wedi’i dynnu eto, er mwyn dangos y gwahaniaeth.

  17. Byddai Barnardo yn gwerthu’r lluniau ‘Cyn ac Ar ol’ mewn pecynnau. Roedd hyn yn ffordd o ennill cyhoeddusrwydd i’w gartrefi.

  18. Erbyn 1878 roedd hanner cant o gartrefi plan yn Llundain, gan gynnwys Cartref Pentref yn Ilford, Essex ar gyfer merched. Roedd hwn yn gymuned gyfan, gyda 70 o fythynod, eglwys ac roedd dros 1,000 o blant yn byw yno.

  19. Cartref Pentref i ferched

  20. Datblygodd Barnardo gynllun ar gyfer anfon plant i Ganada. Rhwng1882 a 1901 anfonodd 8,046 o blant. Ystyr hyn oedd bod un rhan o dair o un y cant o boblogaeth Canada wedi dod o un o gartrefi Barnado.

  21. Pan bu farw Thomas Barnardo ar 19 Medi, 1905, roedd bron 8,000 o blant yn ei gartrefi. Roedd mwy na 4,000 yn byw allan, ac roedd 18,000 wedi’u gyrru i Canada ac Awstralia.

More Related